1 | Gweddi—‘Bwrw Eich Holl Bryder Arno Ef’
MAE’R BEIBL YN DWEUD: ‘Bwriwch eich holl bryder ar Dduw, oherwydd ei fod yn gofalu amdanoch chi.’—1 PEDR 5:7.
Beth Mae Hynny’n ei Olygu?
Mae Jehofa eisiau inni siarad ag ef am unrhyw beth sy’n pwyso’n drwm ar ein meddyliau. (Salm 55:22) Does ’na ddim problem sy’n rhy fawr neu’n rhy fach i weddïo amdano. Os yw’n bwysig i ni, mae’n bwysig i Jehofa. Mae gweddïo yn gam pwysig tuag at gael heddwch meddwl.—Philipiaid 4:6, 7.
Sut Gall Hyn Helpu?
Mae iechyd meddwl gwael yn gallu gwneud inni deimlo’n unig iawn. Dydy pobl eraill ddim wastad yn deall sut rydyn ni’n teimlo. (Diarhebion 14:10) Ond pan ydyn ni’n gweddïo ar Dduw ac yn dweud wrtho yn union sut rydyn ni’n teimlo, gallwn fod yn sicr nid yn unig y bydd yn gwrando ond hefyd y bydd yn deall. Mae Jehofa yn ein gweld ni, mae’n gwybod beth sy’n ein brifo a beth rydyn ni’n brwydro yn ei erbyn, ac mae eisiau inni weddïo arno am unrhyw beth sy’n ein poeni.—2 Cronicl 6:29, 30.
Mae siarad â Jehofa mewn gweddi yn ein gwneud ni’n fwy sicr byth ei fod yn gofalu amdanon ni. Byddwn ni’n teimlo fel y salmydd pan ddywedodd: “Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna i ac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo.” (Salm 31:7) Mae hyd yn oed gwybod bod Jehofa yn sylwi ar ein sefyllfa yn gallu ein helpu ni i ddal ati yn ystod cyfnodau anodd. Ond yn fwy na hynny, mae’n deall yn union beth rydyn ni’n mynd trwyddo, ac yn ein helpu ni i ffeindio cysur ac anogaeth yn y Beibl.