Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gallwch Fyw am Byth ar y Ddaear

Gallwch Fyw am Byth ar y Ddaear

AM DDYFODOL DISGLAIR! Mae ein Creawdwr wedi addo rhoi bywyd tragwyddol inni, yma ar y ddaear hon. Fodd bynnag, mae llawer yn ei chael hi’n anodd credu yn hynny. ‘Mae’n rhaid i bawb farw ryw dro,’ medden nhw. ‘Mae’n rhan naturiol o gylch bywyd a marwolaeth.’ Mae eraill yn teimlo bod byw am byth yn bosib, ond nid yma ar y ddaear. Maen nhw’n dweud eich bod chi’n cael byw am byth dim ond ar ôl ichi farw a mynd i’r nefoedd. Beth ydych chi’n ei feddwl?

Cyn ichi ateb y cwestiwn hwnnw, rhowch sylw i’r atebion y mae’r Beibl yn eu rhoi i’r tri chwestiwn canlynol: Beth mae’r ffordd y cafodd dyn ei greu yn ei ddangos am ba mor hir y dylai fyw? Beth oedd pwrpas gwreiddiol Duw ar gyfer y ddaear a dynolryw? Beth wnaeth achosi i’r teulu dynol ddechrau marw?

NATUR UNIGRYW DYN

O bob dim y mae Duw wedi ei greu ar y ddaear, mae bodau dynol yn gwbl unigryw. Sut felly? Dywed y Beibl mai bodau dynol yn unig a gafodd eu creu ar ddelw Duw ac i fod yn debyg iddo. (Genesis 1:26, 27) Beth mae hynny’n ei olygu? Mae hyn yn golygu bod gan ddynolryw briodoleddau a rhinweddau sy’n adlewyrchu rhai Duw, fel cariad a chyfiawnder.

Ar ben hynny, mae gan fodau dynol y gallu i feddwl a rhesymu, ynghyd â galluoedd moesol ac ysbrydol. Dyna pam rydyn ni’n gallu gwerthfawrogi mawredd y bydysawd a rhyfeddodau natur, yn ogystal â chelf, cerddoriaeth, a barddoniaeth. Yn fwy na dim, mae gan ddynolryw y gallu unigryw i addoli’r Creawdwr. Mae rhinweddau o’r fath yn creu bwlch enfawr rhwng bodau dynol a’r holl greaduriaid byw eraill ar y ddaear.

Felly, a fyddai Duw wedi rhoi rhinweddau unigryw o’r fath i fodau dynol, ynghyd â’r potensial di-ben-draw i ddatblygu a chyfoethogi’r rhinweddau hynny, petai ond wedi bwriadu inni fyw am ychydig o flynyddoedd yn unig? Y gwir yw bod Duw wedi rhoi’r rhinweddau a’r galluoedd unigryw hyn i fodau dynol er mwyn inni allu mwynhau bywyd yma ar y ddaear am byth.

PWRPAS GWREIDDIOL DUW

Fodd bynnag, mae rhai yn dweud nad oedd Duw byth wedi bwriadu i fodau dynol fyw am byth ar y ddaear. Maen nhw’n honni bod y ddaear wedi ei chreu i fod yn gartref dros dro, rhywle i brofi aelodau o’r teulu dynol i weld a ydyn nhw’n haeddu cael mynd i’r nefoedd a chael byw am byth gyda Duw. Ond petai hynny’n wir, oni fyddai Duw felly yn gyfrifol am yr holl ddrygioni sy’n llenwi’r ddaear? Byddai hynny’n hollol groes i wir natur Duw. Dyma beth mae’r Beibl yn ei ddweud am Dduw: “Mae bob amser yn gwneud beth sy’n iawn. Bob amser yn deg ac yn onest—yn Dduw ffyddlon sydd byth yn anghyfiawn.”—Deuteronomium 32:4.

Mae’r Beibl yn datgelu pwrpas gwreiddiol Duw ar gyfer y ddaear yn glir iawn drwy ddefnyddio’r geiriau hyn: “Yr ARGLWYDD sydd piau’r nefoedd, ond mae wedi rhoi’r ddaear yng ngofal y ddynoliaeth.” (Salm 115:16) Do, mae Duw wedi creu’r ddaear i fod yn gartref hardd, parhaol i ddynolryw, ac mae wedi ei llenwi â phopeth sydd ei angen arnon ni i fwynhau bywyd ystyrlon a thragwyddol.—Genesis 2:8, 9.

“Yr ARGLWYDD sydd piau’r nefoedd, ond mae wedi rhoi’r ddaear yng ngofal y ddynoliaeth.”—Salm 115:16

Mae’r Beibl hefyd yn glir pan fydd yn sôn am bwrpas Duw ar gyfer dynolryw. Dyma’r comisiwn a roddodd i’r cwpl dynol cyntaf: “Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am . . . [yr] holl greaduriaid sy’n byw ar y ddaear.” (Genesis 1:28) Am fraint oedd cael gofalu am y Baradwys a’i lledu ar draws y byd! Yn wir, nid gwobr yn y nef oedd yn disgwyl Adda ac Efa, a’u plant, ond bywyd tragwyddol ar y ddaear.

PAM RYDYN NI’N MARW?

Pam, felly, rydyn ni’n marw? Mae’r Beibl yn dangos bod un o greaduriaid ysbrydol Duw, a gafodd ei adnabod yn nes ymlaen fel y gwrthryfelwr hwnnw Satan y Diafol, wedi ceisio difetha bwriadau Duw yn Eden. Ym mha ffordd?

Gwnaeth Satan berswadio ein rhieni cyntaf, Adda ac Efa, i ymuno ag ef mewn gwrthryfel yn erbyn Duw. Pan wnaeth Satan honni bod Duw yn cuddio rhywbeth da rhagddyn nhw—yr hawl i benderfynu drostyn nhw eu hunain beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg—dyma nhw’n ochri â Satan a chefnu ar Dduw. Y canlyniad? Ymhen amser, gwnaethon nhw farw, yn union fel roedd Duw wedi ei rybuddio. Collon nhw’r gobaith o fywyd tragwyddol ym Mharadwys ar y ddaear.—Genesis 2:17; 3:1-6; 5:5.

Mae gwrthryfel Adda ac Efa wedi effeithio ar yr holl ddynoliaeth hyd y dydd hwn. Dywed Gair Duw: “Daeth pechod i’r byd drwy un dyn [Adda], a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu.” (Rhufeiniaid 5:12) Rydyn ni’n marw oherwydd ein bod ni wedi etifeddu pechod a marwolaeth oddi wrth ein rhieni cyntaf, nid o ganlyniad i ryw ‘gynllun’ aneglur a oedd wedi ei ragordeinio gan Dduw.

GALLWCH FYW AM BYTH AR Y DDAEAR

Ni wnaeth y gwrthryfel yn Eden rwystro bwriad gwreiddiol Duw ar gyfer dynolryw a’r ddaear. Oherwydd ei gariad a’i gyfiawnder perffaith, gwnaeth Duw drefnu inni gael ein rhyddhau o afael pechod a marwolaeth etifeddol. Esboniodd yr apostol Paul:“Marwolaeth ydy’r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.” (Rhufeiniaid 6:23) Oherwydd ei gariad, gwnaeth Duw “roi ei unig Fab [Iesu Grist], er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16) Oherwydd iddo fod yn fodlon ei roi ei hun yn aberth pridwerthol, gwnaeth Iesu adennill yr hyn a gollwyd gan Adda. *

Yn fuan, bydd addewid Duw ynglŷn â pharadwys ddaearol yn dod yn wir. Gall y dyfodol disglair hwn fod yn ddyfodol i chi os ydych chi’n fodlon ystyried o ddifri anogaeth Iesu: “Ewch i mewn drwy’r fynedfa gul. Oherwydd mae’r fynedfa i’r ffordd sy’n arwain i ddinistr yn llydan. Mae’n ddigon hawdd dilyn y ffordd honno, ac mae llawer o bobl yn mynd arni. Ond mae’r fynedfa sy’n arwain i fywyd yn gul, a’r llwybr yn galed. Does ond ychydig o bobl yn dod o hyd iddi.” (Mathew 7:13, 14) Heb os nac oni bai, mae eich dyfodol yn eich dwylo chi. Beth wnewch chi?

^ Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r hyn y gall y pridwerth ei wneud i chi, gweler gwers 27 y llyfr Mwynhewch fywyd am Byth! a gyhoeddir gan Dystion Jehofa ac sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar www.pr418.com/cy.