Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rhagfynegi’r Dyfodol

Rhagfynegi’r Dyfodol

A ydych chi erioed wedi meddwl pa fath o ddyfodol sydd i chi a’ch teulu? A fyddwch chi ar eich ennill neu ar eich colled? A fydd y dyfodol yn dod â chariad neu unigrwydd? A fyddwch chi’n byw’n hir, neu a fydd eich bywyd yn cael ei dorri’n fyr? Mae pobl wedi bod yn gofyn cwestiynau o’r fath am filoedd o flynyddoedd.

Heddiw, mae arbenigwyr yn astudio tueddiadau byd-eang er mwyn dyfalu beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Er bod llawer o’u rhagolygon wedi dod yn wir, mae rhai wedi methu’n llwyr. Er enghraifft, ym 1912, gwnaeth Guglielmo Marconi, dyfeisiwr y telegraff di-wifr, ragfynegi y byddai’r “oes ddi-wifr yn ei gwneud hi’n amhosib i bobl ryfela.” Ac roedd asiant o’r cwmni recordiau Decca, a wrthododd arwyddo’r Beatles ym 1962, yn credu nad oedd yna ddyfodol o gwbl i grwpiau gitâr.

Mae llawer yn troi at y goruwchnaturiol i gael cliwiau am y dyfodol. Mae rhai yn ymgynghori ag astrolegwyr, ac yn darllen yr horosgop sydd i’w gael mewn cymaint o gylchgronau a phapurau newydd. Mae eraill yn mynd i weld seicic neu rywun sy’n dweud ffortiwn, unigolion sy’n honni eu bod nhw’n gallu “darllen” y dyfodol drwy ddehongli patrymau mewn cardiau tarot, rhifau, neu yn llinellau eich llaw.

Mewn ymdrech i ddyfalu’r dyfodol, roedd rhai yn y byd hynafol yn gofyn barn oraclau—offeiriaid neu offeiriadesau a oedd yn pasio gwybodaeth o’r duw roedden nhw’n honni eu bod nhw’n ei gynrychioli. Er enghraifft, dywedwyd bod y Brenin Croesus o Lydia wedi anfon anrhegion drudfawr at yr oracl yn Delphi, Gwlad Groeg, er mwyn ceisio gwybod ymlaen llaw beth fyddai’n digwydd petai’n brwydro yn erbyn Cyrus, brenin Persia. Dywedodd yr oracl y byddai Croesus yn dinistrio “ymerodraeth fawr” petai’n mynd yn erbyn Cyrus. Yn hollol hyderus y byddai’n ennill y fuddugoliaeth, aeth Croesus allan i ryfela ond yr ymerodraeth a ddinistriwyd oedd un ef ei hun!

Roedd rhagolwg amwys yr oracl yn dda i ddim; byddai wedi ymddangos yn wir ni waeth pa ochr a enillodd y rhyfel. Talodd Croesus bris uchel am wybodaeth anghywir a wnaeth arwain, yn y pen draw, at drychineb. A ydy’r rhai sydd heddiw yn troi at ddulliau poblogaidd o ragfynegi’r dyfodol wedi cael canlyniadau gwell?