Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pan Deimlwch Nad Yw Bywyd yn Werth ei Fyw

Pan Deimlwch Nad Yw Bywyd yn Werth ei Fyw

“Doedd ’na ddim diwedd ar y teimladau hyn,” meddai Adriana, o Frasil. “Felly des i’r casgliad y byddai’n well imi ladd fy hun.”

YDYCH chi erioed wedi teimlo mor isel nad oeddech chi bellach eisiau byw? Yna mae’n debyg y byddwch yn deall sut roedd Adriana’n teimlo. Byddai hi’n cael pyliau o orbryder dwys a theimladau o dristwch ac anobaith, ac yna cafodd wybod fod ganddi iselder clinigol.

Ystyriwch brofiad dyn o Japan o’r enw Kaoru, a oedd yn gofalu am ei rieni a nhwthau wedi heneiddio a mynd yn sâl. “Ar y pryd, o’n i’n cael fy llethu gan bwysau mawr yn y gwaith. Collais yr awydd i fwyta, a ches i drafferth ofnadwy i gysgu. Dechreuais feddwl y byddai’n dipyn o ollyngdod imi farw.”

Dywedodd Ojebode, dyn o Nigeria, “Oeddwn i wastad yn teimlo’n drist ac yn ddagreuol, felly edrychais am ffordd o roi diwedd ar fy mywyd.” Yn ffodus, ni chymerodd Ojebode, Kaoru, nac Adriana eu bywydau. Ond dyna beth mae cannoedd o filoedd yn ei wneud bob blwyddyn.

LLE I GAEL HELP

O blith y rhai sy’n cyflawni hunanladdiad, dynion yw’r mwyafrif, gan fod gormod o gywilydd ar lawer ohonyn nhw i ofyn am help. Dywedodd Iesu fod pobl sâl angen meddyg. (Luc 5:31) Felly os ydych chi’n teimlo fel hyn, peidiwch â gadael i gywilydd eich rhwystro rhag gofyn am help. Mae llawer sy’n dioddef o iselder wedi profi bod triniaeth feddygol yn gallu eu helpu i ymdopi. Cafodd Ojebode, Kaoru, ac Adriana help proffesiynol ac maen nhw bellach yn ymdopi’n llawer gwell.

Gall meddygon ddefnyddio meddyginiaeth neu therapi siarad i drin iselder. Mae’r rhai sy’n dioddef hefyd angen cydymdeimlad a chefnogaeth amyneddgar eu teulu a’u ffrindiau cariadus. Y ffrind gorau gall rhywun ei gael yw Jehofa Dduw, sy’n rhoi help gwych yn ei Air, y Beibl.

OES ’NA ATEB PARHAOL?

Yn aml bydd dioddefwyr iselder yn gorfod cael triniaeth hirdymor a dysgu sut i ymdopi drwy addasu eu ffordd o fyw. Ond os ydych chi’n brwydro yn erbyn iselder, gallwch edrych ymlaen at ddyfodol hapus, fel y mae Ojebode. Dywedodd yntau, “Dw i’n edrych ymlaen at gyflawniad Eseia 33:24, sy’n proffwydo amser pan fydd neb ar y ddaear yn dweud ‘Dw i’n sâl.’” Fel Ojebode, cymerwch gysur yn addewid Duw am ‘ddaear newydd,’ lle na fydd “poen” mwyach. (Datguddiad 21:1, 4) Mae’r addewid honno yn golygu diwedd poen feddyliol ac emosiynol. Fe fydd eich teimladau poenus wedi mynd am byth, ac “wedi eu hanghofio,” fyddan nhw ddim hyd yn oed yn “croesi’r meddwl.”—Eseia 65:17.