Pan Fo Trychineb yn Taro
OS YDYCH chi erioed wedi goroesi trychineb, efallai y byddwch yn deall beth mae goroeswyr eraill wedi ei brofi: y sioc, y gwadu, y dryswch, y pryder, a’r hunllefau. Wedi eu llethu gan faich blinder ac anobaith, does gan lawer o oroeswyr mo’r awydd i ddod at eu hunain.
Os yw’ch bywyd chi wedi cael ei ddifetha gan drychineb, gallwch chithau hefyd deimlo eich bod chi wedi dod i ben eich tennyn. Mae’n bosib eich bod yn teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw. Ond, mae’r Beibl yn egluro bod eich bywyd yn werth ei fyw a bod ’na sail gadarn dros gredu mewn dyfodol gwell.
MAE GWYBOD GWIRIONEDD Y BEIBL YN GWNEUD BYWYD YN WERTH EI FYW
Yn ôl Pregethwr 7:8: “Mae gorffen rhywbeth yn well na’i ddechrau.” Ar y cychwyn pan ydych chi’n dechrau dod atoch eich hun, gall bywyd ymddangos yn anobeithiol. Ond wrth ichi ddal ati yn amyneddgar i gael eich traed danoch, gall pethau wella.
Mae’r Beibl yn proffwydo amser pan “fydd sŵn crio a sgrechian ddim i’w glywed . . . byth eto.” (Eseia 65:19) Fe ddaw hyn yn wir pan gaiff y ddaear ei throi’n baradwys o dan Deyrnas Dduw. (Salm 37:11, 29) Bydd trychinebau yn y gorffennol pell. Bydd unrhyw loes calon neu atgofion poenus sy’n llechu yn cael eu dileu am byth, am fod Duw yn addo: “Bydd pethau’r gorffennol wedi eu hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl.”—Eseia 65:17.
Ystyriwch hyn: Mae’r Creawdwr wedi trefnu “dyfodol llawn gobaith i chi”—bywyd heddychlon o dan deyrnasiad perffaith Duw. (Jeremeia 29:11) A fydd gwybod y gwirionedd hwn yn gwneud eich bywyd yn werth ei fyw? Dywedodd Sally, a ddyfynnwyd ar ddechrau’r erthygl, “Mae atgoffa eich hun o’r pethau hyfryd y bydd Teyrnas Dduw yn eu gwneud droson ni yn y dyfodol yn gallu eich helpu i anghofio poen y gorffennol a chanolbwyntio ar ymdopi heddiw.”
Beth am ddysgu mwy am beth fydd Teyrnas Dduw yn ei wneud cyn bo hir dros ddynolryw? Gall gwneud hyn eich sicrhau chi fod bywyd yn werth ei fyw nawr er gwaethaf yr hyn rydych chi wedi ei ddioddef. Wrth edrych ymlaen yn frwd at ddyfodol heb unrhyw drychineb, gall y cyngor ymarferol sydd yn y Beibl eich helpu chi i ymdopi â chanlyniadau trychineb. Ystyriwch ychydig o enghreifftiau.