Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

O dan lywodraeth Duw, roedd yr holl greadigaeth yn byw mewn undod a heddwch

Pam Mae Angen Teyrnas Dduw?

Pam Mae Angen Teyrnas Dduw?

Ar ddechrau hanes dynol, y Creawdwr, Jehofa, oedd yr unig Reolwr. Roedd ei lywodraeth yn un gariadus. Creodd gartref hyfryd i’r ddynolryw yng ngardd Eden. Rhoddodd ddigonedd o fwyd iddyn nhw, a gwaith ystyrlon. (Genesis 1:28, 29; 2:8, 15) Pe bai’r ddynolryw wedi aros o dan lywodraeth gariadus Duw, fe fydden nhw wedi cael bywydau heddychlon.

Gwrthododd y bodau dynol cyntaf dderbyn Duw yn Frenin

Mae’r Beibl yn datgelu bod angel gwrthryfelgar, a ddaeth yn Satan y Diafol, wedi herio hawl Duw i lywodraethu. Awgrymodd y byddai bodau dynol yn hapusach heb arweiniad a llywodraeth Duw. Yn anffodus, dilyn esiampl Satan a wnaeth ein rhieni cyntaf, Adda ac Efa, gan wrthryfela yn erbyn Duw.—Genesis 3:1-6; Datguddiad 12:9.

Oherwydd bod Adda ac Efa wedi gwrthod byw dan lywodraeth Duw, collon nhw’r Baradwys ac unrhyw obaith o fyw yn berffaith iach am byth. (Genesis 3:17-19) Cafodd eu penderfyniad effaith ar eu plant yn nes ymlaen. Mae’r Beibl yn esbonio canlyniadau pechod Adda: “Daeth pechod i’r byd drwy un dyn, a daeth marwolaeth drwy bechod.” (Rhufeiniaid 5:12) Bu canlyniad trist arall i bechod: “Mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.” (Pregethwr 8:9) Mewn geiriau eraill, pan fydd bodau dynol yn llywodraethu drostyn nhw eu hunain, mae problemau yn anochel.

DECHRAU LLYWODRAETH DDYNOL

Gwrthryfelodd Nimrod yn erbyn Jehofa

Y rheolwr dynol cyntaf y mae sôn amdano yn y Beibl oedd Nimrod. Gwrthryfelodd ef yn erbyn llywodraeth Jehofa. Byth ers adeg Nimrod, mae dynion pwerus wedi camddefnyddio eu hawdurdod. Ryw 3,000 o flynyddoedd yn ôl, ysgrifennodd y Brenin Solomon: “Gwelais ddagrau y rhai sy’n cael eu gorthrymu, ond doedd neb yn eu cysuro nhw. Doedd neb i’w hachub nhw o afael y gorthrymwyr.”—Pregethwr 4:1.

Nid yw pethau wedi newid. Yn 2009, dywedodd un o gyhoeddiadau’r Cenhedloedd Unedig: “Mae llywodraeth ddrwg yn cael ei gweld fwyfwy fel un o achosion sylfaenol y drygioni yn ein cymdeithas.”

AMSER I WEITHREDU!

Mae angen llywodraethwyr gwell ar y byd a ffordd well o lywodraethu. A dyna mae’r Creawdwr wedi ei addo!

Mae hyd yn oed y llywodraethau dynol gorau wedi methu datrys problemau dyrys y ddynoliaeth

Mae Duw wedi sefydlu Teyrnas, neu lywodraeth, a fydd yn disodli pob llywodraeth ddynol, ac “yn aros am byth.” (Daniel 2:44) Dyma’r Deyrnas y mae miliynau wedi gweddïo amdani. (Mathew 6:9, 10) Ond ni fydd Duw yn teyrnasu ar y llywodraeth hon ei hun. Yn lle hynny, y mae wedi penodi rhywun yn Frenin arni a fu unwaith yn ddyn ar y ddaear. Pwy yw hwnnw?