Ydy’r Byd Hwn yn Mynd i Ddod i Ben?
Efallai eich bod chi’n gwybod bod y Beibl yn sôn am ddiwedd y byd. (1 Ioan 2:17) Ydy hynny’n sôn am ddiwedd i’r ddynoliaeth gyfan? Ac ydy hynny’n golygu y bydd y ddaear yn troi’n ddiffeithwch difywyd neu’n cael ei dinistrio’n llwyr?
NAC YDY YW ATEB Y BEIBL I’R DDAU GWESTIWN HYNNY!
Beth Fydd Ddim yn Dod i Ben?
Y DDYNOLIAETH
Mae’r Beibl yn dweud: Creodd Duw y ddaear “nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni.”—ESEIA 45:18.
Y DDAEAR
Mae’r Beibl yn dweud: “Y mae cenhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod, ond y mae’r ddaear yn aros am byth.”—PREGETHWR 1:4, Beibl Cymraeg Diwygiedig.
BETH MAE’N EI OLYGU: Yn ôl y Beibl, fydd y ddaear byth yn cael ei dinistrio, a bydd pobl wastad yn byw arni. Felly beth mae diwedd y byd yn ei olygu?
YSTYRIWCH: Mae’r Beibl yn cymharu diwedd y byd hwn â’r hyn a ddigwyddodd yn nyddiau Noa. Bryd hynny, roedd “trais a chreulondeb ym mhobman.” (Genesis 6:13) Ond, roedd Noa yn gyfiawn. Felly, achubodd Duw Noa a’i deulu, ond fe ddinistriodd y bobl ddrwg drwy ddilyw. Gan gyfeirio at beth ddigwyddodd adeg hynny, mae’r Beibl yn dweud: “Cafodd y byd yr adeg honno ei ddinistrio pan gafodd ei foddi dan ddŵr.” (2 Pedr 3:6) Roedd hynny’n ddiwedd ar fyd. Ond beth cafodd ei ddinistrio? Nid y ddaear, ond y bobl ddrwg oedd ar y ddaear. Felly, pan mae’r Beibl yn sôn am ddiwedd y byd, dydy hynny ddim yn cyfeirio at ddinistr y blaned. Yn hytrach, mae’n cyfeirio at ddiwedd y bobl ddrwg sydd ar y ddaear, a’r system maen nhw wedi ei chreu.
Beth Fydd yn Dod i Ben?
PROBLEMAU A DRYGIONI
Mae’r Beibl yn dweud: “Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig. Byddi’n edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd. Y rhai sy’n cael eu cam-drin fydd yn meddiannu’r tir, a byddan nhw’n mwynhau heddwch a llwyddiant.”—SALM 37:10, 11.
BETH MAE’N EI OLYGU: Wnaeth Dilyw adeg Noa ddim cael gwared ar ddrygioni unwaith ac am byth. Ar ôl y Dilyw, dechreuodd pobl ddrwg wneud bywyd yn anodd i bawb unwaith eto. Ond yn fuan, bydd Duw yn cael gwared ar ddrygioni. Fel dywedodd y salmydd: “Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman.” Bydd Duw yn gwneud hynny drwy ei Deyrnas, sef llywodraeth yn y nef a fydd yn rheoli dros bobl gyfiawn ar draws y byd.
YSTYRIWCH: A fydd arweinwyr y byd yn fodlon cefnogi Teyrnas Dduw? Mae’r Beibl yn dangos na fyddan nhw. Yn gwbl ffôl, byddan nhw’n gwneud safiad yn erbyn Teyrnas Dduw. (Salm 2:2) Beth fydd y canlyniad? Bydd Teyrnas Dduw yn disodli pob llywodraeth ddynol, a bydd hi’n “aros am byth.” (Daniel 2:44) Ond pam mae angen i reolaeth ddynol ddod i ben?
BETH SYDD EI ANGEN—Diwedd i Reolaeth Ddynol
Mae’r Beibl yn dweud: “Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy’n mynd i ddigwydd.”—JEREMEIA 10:23.
BETH MAE’N EI OLYGU: Chafodd pobl ddim eu creu i reoli eu hunain. Maen nhw’n gwneud jòb wael o lywodraethu dros bobl eraill a datrys eu problemau.
YSTYRIWCH: Mae’r Britannica Academic yn dweud bod llywodraethau unigol “yn methu datrys problemau byd-eang, fel tlodi, newyn, salwch, trychinebau naturiol, a rhyfel a thrais.” Mae’n mynd ymlaen i ddweud: “Mae rhai yn credu mai dim ond rhyw fath o lywodraeth fyd-eang all wneud cynnydd sylweddol tuag at ddatrys y problemau hynny.” Ond hyd yn oed petai pob llywodraeth ddynol yn gytûn, byddai’r byd yn dal yn cael ei reoli gan bobl amherffaith, sydd ddim yn gallu datrys y problemau uchod. Teyrnas Dduw yw’r unig lywodraeth sydd â’r pŵer i ddatrys problemau byd-eang unwaith ac am byth.
Felly, yn ôl y Beibl, dydy diwedd y byd—y system ddrygionus hon—ddim yn rhywbeth y dylai pobl dda ei ofni. Yn hytrach, mae’n rhywbeth i edrych ymlaen ato oherwydd bydd yr hen fyd hwn yn cael ei ddisodli gan fyd newydd hyfryd Duw!
Pryd bydd hyn i gyd yn digwydd? Bydd yr erthygl nesaf yn esbonio ateb y Beibl.