Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Roeddet ti’n fy ngweld i cyn bod siâp arna i!”—SALM 139:16

A Ydy Duw yn Eich Deall Chi?

A Ydy Duw yn Eich Deall Chi?

BETH MAE’R GREADIGAETH YN EIN DYSGU?

Rhowch sylw i fath arbennig iawn o berthynas—y berthynas rhwng gefeilliaid unfath. Mae ganddyn nhw berthynas hynod o agos. Mae rhai gefeilliaid hyd yn oed yn “gwybod sut fath o deimlad ydy dweud rhywbeth wrth rywun sy’n deall yn union beth maen nhw’n ei feddwl heb orfod esbonio,” meddai Nancy Segal, cyfarwyddwraig Canolfan Astudiaethau Gefeilliaid, sydd hefyd yn efeilles. Dyma sut gwnaeth un ddynes ddisgrifio’r berthynas rhyngddi hi a’i gefell unfath: “Rydyn ni jest yn gwybod pob dim am ein gilydd.”

Beth sy’n gyfrifol am y ddealltwriaeth unigryw hon? Er bod amgylchedd a magwraeth yn ffactorau, mae astudiaethau yn awgrymu bod y genynnau tebyg sydd gan efeilliaid yn chwarae rôl bwysig iawn.

YSTYRIWCH: Mae’n rhaid bod yr Un sydd wedi creu’r holl ddefnydd genetig hwn yn ein deall ni yn well nag unrhyw un arall. Yn wir, mae’r salmydd Dafydd yn datgan: “Ti greodd fy meddwl a’m teimladau; a’m plethu i yng nghroth fy mam. Roeddet ti’n gweld fy ffrâm i pan oeddwn i’n cael fy siapio yn y dirgel. . . . Roeddet ti’n fy ngweld i cyn bod siâp arna i!” (Salm 139:13, 15, 16) Dim ond Duw sy’n wir yn deall nid yn unig ein geneteg ond hefyd yr holl ddigwyddiadau yn ein bywydau sydd wedi siapio ein personoliaeth. Mae gwybodaeth unigryw Duw amdanon ninnau a’n strwythur genetig yn rhoi’r sicrwydd inni ei fod yn deall popeth amdanon ni a hynny i’r manylyn lleiaf.

BETH MAE’R BEIBL YN EI DDYSGU INNI AM DDEALLTWRIAETH DUW?

Gweddïodd Dafydd: “O ARGLWYDD, rwyt ti’n fy archwilio i, ac yn gwybod popeth amdana i. Ti’n gwybod pryd dw i’n eistedd ac yn codi; ti’n gwybod beth sydd ar fy meddwl i o bell. Ti’n gwybod beth dw i’n mynd i’w ddweud cyn i mi agor fy ngheg, ARGLWYDD.” (Salm 139:1, 2, 4) Ar ben hynny, mae Jehofa yn ymwybodol o’n teimladau mwyaf dwfn ac mae’n “gwybod beth sy’n mynd trwy feddwl pawb.” (1 Cronicl 28:9; 1 Samuel 16:6, 7) Beth mae’r adnodau hyn yn ei ddatgelu am Dduw?

Er nad ydyn ni’n mynegi ein holl deimladau a meddyliau wrth weddïo, mae ein Creawdwr nid yn unig yn sylwi ar beth rydyn ni’n ei wneud ond mae hefyd yn deall pam rydyn ni’n ei wneud. Yn ogystal, mae’n deall pa ddaioni y bydden ni’n hoffi ei wneud, hyd yn oed os ydy ein ffaeleddau yn ein rhwystro ni rhag cyflawni dymuniadau ein calon. Yn wir, oherwydd bod Duw wedi rhoi cariad yn ein calonnau, mae’n fodlon ac yn awyddus hyd yn oed i sylwi ar ein meddyliau a’n cymhellion cariadus a’u deall.—1 Ioan 4:7-10.

Mae Duw yn sylwi ar bopeth. Mae hyd yn oed yn ymwybodol o’n dioddefaint pan na fydd eraill yn ymwybodol o’n problemau nac ychwaith yn eu deall yn iawn

Mae’r Ysgrythurau yn ein sicrhau

  • “Mae’r Arglwydd yn gofalu am y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn ac yn gwrando’n astud ar eu gweddïau nhw.”—1 PEDR 3:12.

  • Mae Duw’n addo: “Gadewch i mi ddangos y ffordd i chi, a’ch helpu chi i wybod sut i fyw. Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb.”—SALM 32:8.

DUW CYSURLON

A ydy gwybod bod Duw yn deall ein sefyllfa a’n teimladau yn ein helpu i wynebu problemau? Meddyliwch am beth ddigwyddodd i Anna, sy’n dod o Nigeria. “Roeddwn i’n cwestiynu a oedd bywyd yn werth ei fyw oherwydd fy sefyllfa druenus,” meddai. “Roeddwn i’n wraig weddw ac yn gofalu am fy merch, a oedd yn yr ysbyty yn dioddef o hydroceffalws (gormod o hylif ar yr ymennydd), pan ges i wybod bod canser y fron arnaf a bod angen imi gael llawdriniaeth, cemotherapi, a radiotherapi. Roedd hi’n anodd iawn imi ddelio gyda bod yn yr ysbyty tra oedd fy merch yno hefyd yn sâl.”

Beth wnaeth helpu Anna i ymdopi? “Roeddwn i’n myfyrio ar adnodau fel Philipiaid 4:6, 7, sy’n dweud y ‘byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg—yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau.’ Bob tro y daeth yr adnod hon i gof, roeddwn i’n teimlo’n agos iawn at Jehofa, ac yn gwybod ei fod yn fy neall yn well nag yr ydw innau’n fy neall fy hun. Hefyd, cefais lawer o anogaeth gan fy mrodyr a chwiorydd annwyl yn y gynulleidfa Gristnogol.

“Er fy mod i’n stryffaglu oherwydd fy iechyd, mae sefyllfa’r ddwy ohonon ni wedi gwella. Oherwydd bod gennyn ni Jehofa ar ein hochr ni, rydyn ni wedi dysgu i beidio â meddwl yn negyddol pan fyddwn ni’n wynebu anawsterau. Mae Iago 5:11 yn ein sicrhau ni: ‘Fel dych chi’n gwybod, y rhai wnaeth ddal ati gafodd eu bendithio. Mae Job yn enghraifft dda o ddyn wnaeth ddal ati drwy’r cwbl, a chofiwch beth wnaeth yr Arglwydd iddo yn y diwedd. Mae tosturi a thrugaredd yr Arglwydd mor fawr!’” Roedd Jehofa yn deall sefyllfa Job yn berffaith, a gallwn fod yn gwbl sicr ei fod hefyd yn deall unrhyw anawsterau yr ydyn ni’n gorfod eu hwynebu.