Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ydy trin genynnau dynol wedi datgelu’r gyfrinach i hir oes?

Yr Awydd i Fyw’n Hirach

Yr Awydd i Fyw’n Hirach

“Dw i wedi ystyried yr holl bethau mae Duw wedi’u rhoi i bobl eu gwneud: Mae Duw’n gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o’r tragwyddol.”Pregethwr 3:10, 11.

MAE geiriau’r Brenin Solomon uchod yn disgrifio’n union sut mae pobl yn teimlo am fywyd. Ers amser maith, mae pobl wedi dyheu am fywyd hirach ac wedi chwilio am ffyrdd o’i gael, efallai oherwydd bod bywyd mor fyr a marwolaeth yn anochel.

Ystyriwch Gilgamesh, a oedd yn frenin ar Swmer. Cafodd llawer o chwedlau eu hadrodd amdano. Dywed un o’r chwedlau yn Arwrgerdd Gilgamesh ei fod wedi mynd ar daith beryglus er mwyn dysgu sut i osgoi marwolaeth, ond nid oedd yn llwyddiannus.

Alcemydd canoloesol yn ei labordy

Yn y bedwaredd ganrif COG, credai alcemyddion o Tsieina y gallen nhw wneud elicsir a fyddai’n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw. Y canlyniad oedd diod a mymryn o fercwri ac arsenig ynddi. Credir mai’r ddiod hon oedd yn gyfrifol am farwolaeth nifer o ymerawdwyr Tsieina. Yn Ewrop y Canol Oesoedd, ymdrechodd rhai alcemyddion i wneud aur yr oedd yn bosib ei dreulio, oherwydd y credid y byddai ei natur gwrthgyrydol yn rhoi bywyd hirach iddyn nhw.

Heddiw, mae rhai biolegwyr a genetegwyr yn ceisio darganfod pam rydyn ni’n heneiddio. Yn union fel yr ymgais am “elicsir bywyd,” mae eu hymdrechion yn dangos bod pobl yn dal i obeithio y caiff henaint a marwolaeth eu trechu. Ond beth maen nhw wedi ei ddarganfod?

MAE DUW “WEDI GWNEUD POBL YN YMWYBODOL O’R TRAGWYDDOL.”—PREGETHWR 3:10, 11

YMCHWIL FODERN I ACHOS HENAINT

Mae gwyddonwyr sy’n astudio’r gell ddynol wedi cynnig dros 300 theori i esbonio pam rydyn ni’n heneiddio a marw. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae biolegwyr wedi llwyddo i arafu’r broses o heneiddio mewn anifeiliaid ac mewn celloedd dynol drwy drin genynnau a phroteinau. Mae cynnydd o’r fath wedi ysgogi rhai pobl gyfoethog i ariannu ymchwil ar y rheswm pam rydyn ni’n marw. Beth maen nhw wedi ei gyflawni?

Ceisio bywyd hirach. Creda rhai biolegwyr mai prif achos henaint yw’r telomerau, sef pennau’r cromosomau. Mae’r telomerau yn amddiffyn y wybodaeth genetig yn ein celloedd wrth iddyn nhw atgynhyrchu, ond bob tro mae’r celloedd yn rhannu, mae’r telomerau’n byrhau. Yn y pen draw, mae’r celloedd yn stopio rhannu ac mae henaint yn cychwyn.

Yn 2009, enillodd Elizabeth Blackburn Wobr Nobel am ei gwaith gwyddonol. Daeth hi a’i thîm o wyddonwyr o hyd i ensym sy’n gwneud i delomerau fyrhau’n arafach, ac o ganlyniad, yn gwneud i’r gell heneiddio’n arafach. Ond, roedd rhaid iddyn nhw gyfaddef yn eu hadroddiad nad yw telomerau yn caniatáu inni fyw’n hirach nag arfer.

Ailraglennu celloedd yw un ffordd arall o geisio atal henaint. Pan fydd ein celloedd yn rhy hen i atgynhyrchu, gallan nhw anfon signalau anghywir at y celloedd imiwn cyfagos, gan achosi llid a phoen cronig yn ogystal ag afiechydon. Yn ddiweddar, mae gwyddonwyr yn Ffrainc wedi ailraglennu celloedd a gymerwyd oddi ar bobl dros gant oed. Dywedodd arweinydd y tîm ymchwil, yr Athro Jean-Marc Lemaître, fod eu gwaith yn dangos “bod gwrthdroi henaint yn bosib” yn y celloedd.

A ALL GWYDDONIAETH ROI HIR OES?

Er bod rhai gwyddonwyr yn credu ei bod hi’n bosib byw’n hirach nag yr ydyn ni heddiw drwy drin henaint, mae eraill yn anghytuno. Mae’n wir fod pobl yn byw’n hirach nag oedden nhw yn y 19eg ganrif, ond y prif resymau dros hyn yw hylendid gwell, meddyginiaeth effeithiol, gwrthfiotigau, a brechiadau. Mae rhai genetegwyr yn credu bod y disgwyliad oes dynol mwy neu lai wedi cyrraedd ei derfyn naturiol.

Tua 3,500 o flynyddoedd yn ôl, dywedodd Moses, un o ysgrifenwyr y Beibl: “Dŷn ni’n byw am saith deg o flynyddoedd, wyth deg os cawn ni iechyd; ond mae’r gorau ohonyn nhw’n llawn trafferthion! Maen nhw’n mynd heibio mor sydyn! A dyna ni wedi mynd!” (Salm 90:10) Er gwaethaf ymdrechion dyn i gael bywyd hirach, mae geiriau Moses yn dal yn wir heddiw.

Ar y llaw arall, mae creaduriaid fel y môr-ddraenog coch ac un math o gragen fylchog yn gallu byw am dros 200 mlynedd, a gall coed fel y gochwydden gawraidd fyw am filoedd o flynyddoedd. Pan ydyn ni’n cymharu hir oes y rhain â’n bywydau byrion ni, onid ydyn ni’n gofyn, ‘Ai’r bywyd hwn o 70 neu 80 mlynedd yw’r cyfan sydd?’