Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gwneud y Gorau o’ch Bywyd Nawr

Gwneud y Gorau o’ch Bywyd Nawr

UN DIWRNOD bydd salwch, henaint, a marwolaeth wedi mynd. Gallwch chithau hefyd gael bywyd o’r fath! Ond, mae bywyd nawr yn dal yn llawn problemau ac anawsterau. Beth all eich helpu chi i wneud y gorau o’ch bywyd heddiw? Mae’r Beibl yn rhoi arweiniad ar sut gallwch chi fod yn hapus ac yn fodlon nawr. Ystyriwch rai o’r anawsterau y gallwch chi eu hwynebu, a sut gall y Beibl eich helpu.

SUT I FOD YN FODLON

Cyngor y Beibl: “Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi!—byddwch yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi.”Hebreaid 13:5.

Heddiw, mae’r byd yn ceisio ein perswadio ni i brynu llu o gynhyrchion a gwasanaethau. Ond, mae’r Beibl yn dweud y gallwch chi fod yn “fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi.” Sut?

Osgowch “gariad at arian.” Mae rhai pobl yn diystyru eu hiechyd, eu teulu, eu ffrindiau, eu moesau, a hyd yn oed eu hurddas oherwydd “ariangarwch.” (1 Timotheus 6:10) Dyna drueni! Yn y pen draw, fydd “rhywun sydd ag obsesiwn am arian byth yn fodlon.”—Pregethwr 5:10.

Carwch bobl, nid pethau. Wrth gwrs, mae gan bethau materol eu lle. Ond ni all pethau ein caru na’n gwerthfawrogi; pobl yn unig sy’n gallu gwneud hynny. Bydd ffrind go iawn yn ein helpu i fod yn fodlon ein byd.—Diarhebion 17:17.

GALLWN NI WNEUD Y GORAU O’N BYWYD NAWR DRWY DDILYN CYNGOR Y BEIBL

SUT I YMDOPI Â SALWCH

Cyngor y Beibl: “Mae llawenydd yn iechyd i’r corff.”Diarhebion 17:22.

Yn debyg i feddyginiaeth dda, gall llawenydd ein helpu i ymdopi â salwch. Ond sut gallwn ni fod yn llawen wrth ddioddef iechyd gwael?

Byddwch yn ddiolchgar. Os ydyn ni’n canolbwyntio ar ein problemau, byddwn ni’n teimlo ein bod ni’n “cael bywyd caled.” (Diarhebion 15:15) Yn hytrach, “byddwch yn ddiolchgar,” meddai’r Beibl. (Colosiaid 3:15) Gwerthfawrogwch hyd yn oed y pethau bychain. Gall machlud haul prydferth, awel ysgafn, neu weld anwylyn yn gwenu arnoch gyfoethogi eich bywyd.

Helpwch bobl eraill. Hyd yn oed os oes gennyn ni iechyd gwael, “mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.” (Actau 20:35) Pan fydd eraill yn gwerthfawrogi ein hymdrechion, byddwn ni’n hapusach ac yn pryderu llai am ein problemau ein hunain. Gallwn ni wella ein bywyd drwy helpu eraill i gael bywydau gwell.

SUT I GRYFHAU PRIODAS

Cyngor y Beibl: “Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.”Philipiaid 1:10.

Gall cyplau bellhau oddi wrth ei gilydd os nad ydyn nhw’n treulio digon o amser gyda’i gilydd. Dylai gŵr a gwraig flaenoriaethu eu priodas gan ei bod yn un o’r pethau pwysicaf yn eu bywyd.

Gwnewch bethau gyda’ch gilydd. Yn hytrach na dilyn eich diddordebau ar wahân, beth am gynllunio i wneud pethau gyda’ch gilydd? “Mae dau gyda’i gilydd yn well nag un,” meddai’r Beibl. (Pregethwr 4:9) Gallwch wneud ymarfer corff, coginio, mynd am dro, neu ddysgu gwneud rhywbeth newydd gyda’ch gilydd.

Dangoswch eich cariad. Mae’r Beibl yn annog gwŷr a gwragedd i garu a pharchu ei gilydd. (Effesiaid 5:28, 33) Gall gwên gyfeillgar, cwtsh, neu anrheg fechan helpu i gryfhau priodas. Wrth gwrs, ni ddylai gŵr na gwraig ddangos diddordeb rhywiol mewn unrhyw un ar wahân i’w priod.—Hebreaid 13:4.