Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pa Obaith Sydd i’r Meirw?

Pa Obaith Sydd i’r Meirw?

Mae marwolaeth yn effeithio ar bob un ohonon ni. Ond ai dyna ddiwedd y cyfan? Ydy’r meirw wedi eu hanghofio am byth? A oes unrhyw obaith i’r meirw?

YSTYRIWCH YR HYN MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD:

DYDY’R MEIRW DDIM WEDI EU HANGHOFIO

Bydd “pawb sy’n eu beddau . . . yn dod allan.”—Ioan 5:28, 29.

Mae Duw yn cofio’r meirw; caiff y rhai sydd yn ei gof eu hatgyfodi.

BYDD ATGYFODIAD AR Y DDAEAR

Mae “Duw yn mynd i ddod â phobl sy’n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg yn ôl yn fyw.”—Actau 24:15.

Bydd biliynau yn cael eu hatgyfodi, a bydd ganddyn nhw obaith o fyw mewn heddwch am byth.

MAE GOBAITH YR ATGYFODIAD YN GREDADWY

“Mae [Duw] wedi cyfri’r sêr i gyd, a rhoi enw i bob un ohonyn nhw.”—Salm 147:4.

Ac yntau yn gallu enwi pob seren, mae hi’n hawdd i Dduw gofio’r bobl y bydd yn eu hatgyfodi.