Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pam Rydyn Ni’n Heneiddio a Marw?

Pam Rydyn Ni’n Heneiddio a Marw?

NI WNAETH Duw greu bodau dynol i farw. Cafodd Adda ac Efa, ein rhieni cyntaf, eu creu â meddwl a chorff perffaith; gallen nhw fod wedi byw hyd heddiw. Mae hynny’n amlwg o’r hyn a ddywedodd Jehofa wrth Adda ynglŷn ag un goeden benodol yng ngardd Eden.

Dywedodd Duw wrth Adda y byddai’n “siŵr o farw” petai’n bwyta o’r goeden. (Genesis 2:17) Petai Duw wedi creu Adda i heneiddio a marw, ni fyddai’r gorchymyn hwnnw wedi gwneud unrhyw synnwyr. Gwyddai Adda na fyddai’n marw cyn belled â’i fod yn osgoi bwyta o’r goeden honno.

NI WNAETH DUW GREU BODAU DYNOL I FARW

Doedd bywyd Adda ac Efa ddim yn dibynnu ar ffrwyth y goeden honno—roedd nifer o goed ffrwythau eraill yn yr ardd. (Genesis 2:9) Drwy beidio â bwyta o’r goeden, byddai’r cwpl cyntaf wedi dangos eu bod yn ufudd i’r Un a roddodd fywyd iddyn nhw. Bydden nhw hefyd wedi dangos eu bod yn cydnabod hawl Duw i reoli drostyn nhw.

PAM Y BU FARW ADDA AC EFA?

Er mwyn deall pam y bu farw Adda ac Efa, mae’n rhaid inni ystyried sgwrs sydd wedi effeithio arnon ni i gyd. Dywedodd Satan y Diafol gelwydd maleisus drwy enau sarff. Dywed y Beibl: “Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall roedd yr ARGLWYDD Dduw wedi eu creu. A dyma’r neidr yn dweud wrth y wraig, ‘Ydy Duw wir wedi dweud, “Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd”?’”—Genesis 3:1.

Atebodd Efa: “Dŷn ni’n cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd. Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, ‘Peidi wch bwyta ei ffrwyth hi a pheidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.’” Yna, dywedodd y sarff wrthi: “Na! Fyddwch chi ddim yn marw. Mae Duw yn gwybod y byddwch chi’n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta ohoni. Byddwch chi’n gwybod am bopeth—da a drwg—fel Duw ei hun.” Felly, honnodd Satan fod Jehofa wedi dweud celwydd, a’i fod yn dal yn ôl rhag rhoi rhywbeth da i Adda ac Efa.—Genesis 3:2-5.

Credodd Efa’r celwydd. Syllodd hi ar y goeden a oedd yn edrych mor ddymunol, mor brydferth! Felly cymerodd hi beth o’r ffrwyth, a dechrau ei fwyta. Dywed y Beibl: “Yna, rhoddodd beth i’w gŵr oedd gyda hi, a dyma fe’n bwyta hefyd.”—Genesis 3:6.

Dywedodd Duw wrth Adda: “Pan wnei di hynny byddi’n siŵr o farw.”—GENESIS 2:17

Dychmygwch gymaint a gafodd Duw ei frifo o weld ei blant annwyl yn anufuddhau iddo yn fwriadol! Sut gwnaeth Jehofa ymateb? Dywedodd wrth Adda: “Bydd rhaid i ti . . . farw a mynd yn ôl i’r pridd. Dyna o lle y daethost ti. Pridd wyt ti, a byddi’n mynd yn ôl i’r pridd.” (Genesis 3:17-19) Ac yn y pen draw, “roedd Adda yn 930 oed yn marw.” (Genesis 5:5) Aeth Adda ddim i’r nef nac i ryw fyd anweledig arall. Nid oedd yn bodoli cyn i Jehofa ei greu o’r llwch. Felly pan fuodd farw, daeth mor ddifywyd â’r llwch y cafodd ei greu ohono. Nid oedd yn bodoli mwyach. Am drist!

PAM NAD YDYN NI’N BERFFAITH?

Oherwydd eu hanufudd-dod bwriadol, collodd Adda ac Efa eu cyflwr perffaith a’u cyfle i fyw am byth. Cafodd eu cyflwr corfforol ei newid i un pechadurus ac amherffaith. Ond nid nhw yn unig a ddioddefodd oherwydd eu hanufudd-dod. Etifeddodd eu holl blant eu pechod. Dywed Rhufeiniaid 5:12: “Daeth pechod i’r byd drwy un dyn [Adda], a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu.”

Mae’r Beibl yn disgrifio pechod a marwolaeth fel y “llen sy’n gorchuddio wynebau’r bobloedd, a’r gorchudd sy’n bwrw cysgod dros y cenhedloedd i gyd.” (Eseia 25:7) Mae’r llen hon yn gorchuddio dynolryw fel niwl gwenwynig sy’n amhosib dianc rhagddo. Yn wir, “Mae pawb yn marw am eu bod nhw’n perthyn i Adda.” (1 Corinthiaid 15:22) Felly, mae’r un cwestiwn a ofynnodd yr apostol Paul yn codi: “Pwy a’m gwared i o’r corff hwn a’i farwolaeth?” A all unrhyw un?—Rhufeiniaid 7:24, BCND.