Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y Gwir am Farwolaeth

Y Gwir am Farwolaeth

DYCHMYGWCH eich hun yn gwylio ffilm am wraig enwog, efallai cerddores rydych chi’n ei hedmygu. Mae’r ffilm yn cychwyn drwy ei dangos hi fel plentyn yn dysgu canu’r piano a’i ymarfer drosodd a throsodd. Wedyn, rydych chi’n ei gweld yn perfformio mewn cyngerdd, yn teithio’r byd, ac yn ennill enwogrwydd rhyngwladol. Mewn dim o dro, mae hi’n heneiddio, ac wrth i’r ffilm orffen, mae hi’n marw.

Stori go iawn ydy hon sy’n rhoi cipolwg ar fywyd sydd wedi dod i ben. Petai’r ffilm am gerddor, gwyddonydd, athletwr, neu rywun sy’n enwog am reswm arall, byddai’r stori fwy neu lai yr un fath. Cyflawnodd y person lawer, ond dychmygwch gymaint mwy fyddai ei lwyddiant oni bai am henaint a marwolaeth.

Er bod hyn yn drist, dyna beth sydd o flaen pob un ohonon ni. (Pregethwr 9:5) Er gwaethaf ein holl ymdrechion, rydyn ni wedi methu trechu henaint a marwolaeth. Hefyd, gallwn ni golli ein bywyd yn ddirybudd oherwydd salwch neu ddamwain. Dywed y Beibl ein bod ni’n debyg i darth y bore sy’n “ymddangos am ryw ychydig, ac yna’n diflannu!”—Iago 4:14.

Gan fod bywyd yn gallu ymddangos yn ansicr ac yn ddibwrpas, mae llawer yn mabwysiadu’r agwedd: “Gadewch i ni gael parti ac yfed; falle byddwn ni’n marw fory!” (1 Corinthiaid 15:32) Onid yw hyn yn dangos eu bod nhw wedi colli gobaith am y dyfodol? Yn hwyr neu’n hwyrach, ac yn enwedig wrth wynebu profiad poenus, byddwch chi’n gofyn, ‘Ai’r bywyd hwn yw’r cyfan sydd?’ Ble gallwch chi gael hyd i’r ateb?

Mae llawer yn troi at wyddoniaeth. Mae gwyddonwyr a meddygon wedi ein helpu i fyw’n hirach, ac mae rhai yn ceisio gwneud inni fyw’n hirach fyth. Beth bynnag fydd canlyniadau eu gwaith, bydd y cwestiynau canlynol yn dal i fodoli: Pam rydyn ni’n heneiddio ac yn marw? A gaiff ein gelyn, marwolaeth, ei threchu? Bydd yr erthyglau canlynol yn trafod hyn ac yn ateb y cwestiwn: Ai’r bywyd hwn yw’r cyfan sydd?