Neidio i'r cynnwys

A Oes Angen Rheol Bob Amser?

A Oes Angen Rheol Bob Amser?

A Oes Angen Rheol Bob Amser?

PAN oeddet ti’n ifanc, mae’n debyg roeddet ti’n dilyn rheolau dy rieni. Wrth iti dyfu’n hŷn, gwnest ti sylweddoli eu bod nhw wedi gosod y rheolau gan eu bod nhw’n dy garu di. Ac fel oedolyn, mae’n debyg dy fod di’n dal yn dilyn y rheolau hynny er nad wyt ti o dan eu hawdurdod.

Mae ein Tad nefol Jehofa yn rhoi nifer o reolau penodol inni drwy ei Air, y Beibl. Er enghraifft, mae’n gwahardd eilunaddoliaeth, anfoesoldeb rhywiol, godinebu, a dwyn. (Exodus 20:1-17; Actau 15:28, 29) Wrth inni dyfu’n ysbrydol, rydyn ni’n dod i werthfawrogi bod Jehofa yn ein caru ni, a dydy ei orchmynion ddim yn rhy galed.—Effesiaid 4:15; Eseia 48:17, 18; 54:13.

Ond, dydy’r Beibl ddim yn dweud wrthon ni beth i wneud ym mhob achlysur. Felly, mae rhai yn teimlo eu bod nhw’n gallu gwneud beth bynnag maen nhw eisiau. Maen nhw’n dadlau petai Duw’n teimlo’n gryf am rywbeth y byddai wedi creu rheol amdano.

Yn aml, mae’r rhai sy’n meddwl y ffordd hon yn gwneud penderfyniadau drwg y maen nhw’n eu difaru yn nes ymlaen. Dydyn nhw ddim yn gallu gweld bod y Beibl nid yn unig yn cynnwys rheolau ond hefyd yn dangos teimladau Duw ynglŷn â phethau. Wrth inni astudio’r Beibl, rydyn ni’n dod i wybod beth sy’n dda ac yn ddrwg yng ngolwg Duw. Mae hyn yn hyfforddi ein cydwybod, ac yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau da. Pan ydyn ni’n gwneud hyn, rydyn ni’n plesio Duw a bydd ein penderfyniadau yn ein gwneud ni’n hapus.—Effesiaid 5:1.

Esiamplau Gwych o’r Beibl

Mae’r Beibl yn sôn am lawer o weision Jehofa yn gwneud penderfyniadau da a oedd yn ei blesio er nad oedd ganddyn nhw reol glir i’w dilyn. Ystyria esiampl Joseff. Pan geisiodd gwraig Potiffar gael rhyw gyda Joseff, doedd Jehofa ddim wedi rhoi cyfraith i ddweud bod hynny’n anghywir. Ond er nad oedd ganddo reol glir, roedd Joseff yn gwybod bod godinebu yn anghywir ac y byddai’n brifo Jehofa. (Genesis 39:9) Mae’n debyg roedd Joseff yn deall bod Jehofa wedi dweud wrth Adda ac Efa bod rhaid i gyplau priod fod yn ffyddlon i’w gilydd.—Genesis 2:24.

Ystyria esiampl arall. Yn Actau 16:3, rydyn ni’n dysgu bod Timotheus wedi cael ei enwaedu cyn iddo fynd ar deithiau cenhadol gyda Paul. Yn adnod 4, rydyn ni’n darllen bod Paul a Timotheus wedi teithio o un dref i’r llall, ac wedi “dweud beth oedd yr apostolion a’r arweinwyr eraill yn Jerwsalem wedi penderfynu ei ofyn gan gredinwyr o genhedloedd eraill.” Un o’r penderfyniadau hynny oedd na fyddai’n rhaid i Gristnogion gael eu henwaedu bellach! (Actau 15:5, 6, 28, 29) Pam roedd Paul yn teimlo bod rhaid i Timotheus gael ei enwaedu? Oherwydd roedd yr Iddewon yn yr ardaloedd hynny yn “gwybod fod tad Timotheus yn Roegwr.” Doedd Paul ddim eisiau baglu neb nac eisiau i “gydwybod pob un gerbron Duw” gael ei phechu gan ymddygiad y Cristnogion.—2 Corinthiaid 4:2, BCND; 1 Corinthiaid 9:19-23.

Gwnaeth Paul a Timotheus lawer o benderfyniadau fel hyn. Pan ydyn ni’n darllen adnodau fel Rhufeiniaid 14:15, 20, 21 a 1 Corinthiaid 8:9-13; 10:23-33, rydyn ni’n gweld roedd Paul yn meddwl am gyflwr ysbrydol pobl eraill, ac yn fodlon stopio gwneud pethau doedd ddim yn anghywir er mwyn osgoi eu baglu nhw. Ysgrifennodd Paul am Timotheus: “Does gen i neb tebyg i Timotheus. Mae’n teimlo’n union fel dw i’n teimlo​—mae ganddo’r fath gonsýrn drosoch chi. Poeni amdanyn nhw eu hunain mae pawb arall, dim am beth sy’n bwysig i Iesu Grist. Ond mae Timotheus yn wahanol, mae wedi profi ei hun yn wahanol. Mae wedi gweithio gyda mi dros y newyddion da, fel mab yn helpu ei dad.” (Philipiaid 2:20-22) Gwnaeth Paul a Timotheus osod esiampl wych i Gristnogion heddiw! Pan nad oedd yna reol benodol, doedden nhw ddim yn gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau, ond gwnaethon nhw benderfyniadau a fyddai wedi helpu eraill i addoli Jehofa.

Rhoddodd Iesu Grist yr esiampl orau inni. Yn ei Bregeth ar y Mynydd, esboniodd fod rhaid gwneud mwy nag ufuddhau i gyfreithiau Duw yn unig, mae’n rhaid inni ddeall y rhesymau y tu ôl iddyn nhw. Yna, byddwn ni’n gallu gwneud penderfyniadau da. (Mathew 5:21, 22, 27, 28) Doedd Iesu, Paul, Timotheus, a Joseff ddim yn rhesymu eu bod nhw’n gallu gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau pan nad oedd yna reol benodol. Drwy eu penderfyniadau, dangoson nhw eu bod nhw’n ufuddhau i’r ddau orchymyn pwysicaf, sef i garu Duw ac i garu dy gymydog.—Mathew 22:36-40.

Sut Gallwn Ni Wneud Penderfyniadau Da?

Dydy’r Beibl ddim yr un fath â dogfen gyfreithiol sy’n cynnwys cyfarwyddiadau manwl iawn. Mae Jehofa yn hapus pan ydyn ni’n ceisio ufuddhau iddo hyd yn oed pan nad oes rheol benodol. Felly, yn hytrach na Duw yn dweud wrthon ni beth i’w wneud bob tro, gallwn ni “ddeall bob amser” beth yw ei ewyllys. (Effesiaid 5:17; Rhufeiniaid 12:2) Drwy wneud hyn, rydyn ni’n dangos ein bod ni eisiau plesio Jehofa yn fwy na phlesio ni’n hunain. Hefyd, oherwydd ein bod ni’n gwerthfawrogi ei gariad, rydyn ni eisiau dangos yr un cariad at eraill. (Diarhebion 23:15; 27:11) Yn ogystal, pan ydyn ni’n gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar y Beibl, bydd ein perthynas â Jehofa yn well ac yn aml bydd ein hiechyd yn gwella hefyd.

Nesaf, byddwn ni’n gweld sut gallwn ni roi’r egwyddor hon ar waith yn ein bywydau personol.

Dewis Adloniant

Ystyria fachgen ifanc sydd eisiau gwrando ar albwm newydd, ond mae’n poeni achos mae’r gerddoriaeth yn cynnwys pethau anfoesol ac mae tôn y gerddoriaeth yn grac ac yn annog trais. Oherwydd ei fod yn caru Duw, mae’r bachgen ifanc eisiau gwybod sut mae Jehofa’n teimlo am hyn. Sut gallai’r bachgen ddeall beth mae Jehofa eisiau iddo ei wneud?

Yn ei lythyr at y Galatiaid, gwnaeth yr apostol Paul restru gweithredoedd y cnawd a ffrwyth ysbryd glân Duw. Mae’n debyg dy fod di’n gyfarwydd â ffrwyth yr ysbryd: cariad, llawenydd, heddwch, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffydd, addfwynder, a hunanreolaeth. Ond beth sy’n cael ei gynnwys yng ngweithredoedd y cnawd? Mae Paul yn ysgrifennu: “Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a phenrhyddid llwyr; hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i’n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o’r blaen, fydd pobl sy’n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw.”—Galatiaid 5:19-23.

Sylwa ar y peth olaf yn y rhestr​—‘pechodau tebyg.’ Ni wnaeth Paul restru pob gweithred y cnawd. Felly, fyddai person ddim yn gallu rhesymu, ‘Mae gen i’r hawl i wneud unrhyw beth sydd ddim ar restr Paul o weithredoedd y cnawd.’ Yn hytrach, byddai’n rhaid i’r person feddwl pa fath o bethau sy’n ‘bechodau tebyg.’ Os ydy person yn cyflawni ‘pechodau tebyg’ yn fwriadol ac yn ddiedifar, ni fydd yn etifeddu bendithion Teyrnas Dduw.

Felly, rydyn ni angen meddwl am ba bethau dydy Jehofa ddim yn eu hoffi. Ydy hynny’n anodd? Dychmyga fod dy ddoctor yn dy annog i fwyta mwy o lysiau a ffrwythau a llai o bethau fel pei a hufen iâ. A fyddai’n anodd gwybod ar ba restr mae cacen yn perthyn? Nawr edrycha eto ar ffrwyth ysbryd Duw a gweithredoedd y cnawd. Ydy’r gerddoriaeth y mae’r brawd ifanc eisiau gwrando arni yn dda neu’n ddrwg? Yn bendant, dydy’r gerddoriaeth ddim yn cyd-fynd â rhinweddau fel cariad, daioni, neu hunanreolaeth. Fyddai’r brawd ddim angen rheol benodol i wybod bod y fath gerddoriaeth ddim yn plesio Jehofa. Mae’r egwyddor yn wir am ddeunydd darllen, ffilmiau, rhaglenni teledu, gemau fideo, pethau ar y we, ac yn y blaen.

Sut Gallwn Ni Benderfynu Beth i’w Wisgo?

Mae’r Beibl hefyd yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau ynglŷn â dillad, colur, a steiliau gwallt er mwyn inni allu gwisgo’n addas fel Cristion. Drwy wneud hyn, rydyn ni’n dod â llawenydd i Jehofa. Er nad ydy Jehofa yn rhoi cyfarwyddiadau penodol ynglŷn â beth i’w wisgo, mae’n dal yn bwysig iddo. Mae steiliau yn wahanol o un lle i’r llall ac mae ffasiwn yn newid dros amser, ond mae egwyddorion Duw yn berthnasol i bawb ym mhob oes.

Er enghraifft, mae 1 Timotheus 2:9, 10 yn dweud: “A’r gwragedd yr un fath. Dylen nhw beidio gwisgo dillad i dynnu sylw atyn nhw eu hunain, dim ond dillad sy’n weddus, yn synhwyrol ac yn bwrpasol. Dim steil gwallt a thlysau aur a pherlau a dillad costus sy’n bwysig, ond gwneud daioni. Dyna sy’n gwneud gwragedd sy’n proffesu eu bod yn addoli Duw yn ddeniadol.” Felly, dylai brodyr a chwiorydd feddwl yn ofalus am ba fath o ddillad sy’n cael eu hystyried yn addas yn eu hardal. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae’n gallu effeithio ar y ffordd mae eraill yn teimlo am y Beibl. (2 Corinthiaid 6:3) Rydyn ni eisiau gosod esiampl dda, felly dydyn ni ddim yn dewis gwisgo rhywbeth rydyn ni’n ei hoffi ond a allai tynnu sylw neu faglu rhywun arall.—Mathew 18:6; Philipiaid 1:10.

Os ydy ein ffordd o wisgo yn gwneud i eraill deimlo’n anghyfforddus, dylen ni efelychu Paul a gwneud newidiadau i helpu eraill i wasanaethu Jehofa. Dywedodd Paul: “Dilynwch fy esiampl i, fel dw i’n dilyn esiampl y Meseia.” (1 Corinthiaid 11:1) A dywedodd Paul am Iesu: “Dim ei blesio ei hun wnaeth y Meseia.” Mae pwynt Paul yn glir inni i gyd: “Dylen ni sy’n credu’n gryf ein bod ni’n gwybod beth sy’n iawn feddwl bob amser am y rhai sy’n ansicr. Yn lle bwrw ymlaen i blesio’n hunain, gadewch i ni ystyried pobl eraill, a cheisio eu helpu nhw a’u gwneud nhw’n gryf.”—Rhufeiniaid 15:1-3.

Sut i Wneud Penderfyniadau Gwell

Sut gallwn ni wneud penderfyniadau da sy’n plesio Jehofa heb reol benodol? Drwy ddarllen Gair Duw bob dydd, ei astudio, a myfyrio arno. Yn debyg i blentyn yn tyfu, dydy tyfiant ysbrydol ddim o hyd yn amlwg ac mae’n digwydd yn raddol. Felly, rydyn ni angen amynedd os nad ydy pethau yn gwella dros nos. Ar y llaw arall, dydy cynnydd ddim yn dod yn awtomatig wrth inni dyfu’n hŷn. Mae’n rhaid inni astudio Gair Duw yn rheolaidd a gwneud ein gorau i’w blesio.—Hebreaid 5:14.

Pan ydyn ni’n dilyn cyfreithiau Jehofa, rydyn ni’n dangos ein bod ni eisiau bod yn ufudd iddo. Ond pan nad oes yna reol benodol ac rydyn ni’n gwneud penderfyniadau sy’n ei blesio, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ei garu. Wrth inni dyfu’n ysbrydol, byddwn ni eisiau efelychu Jehofa ac Iesu yn fwy. Byddwn ni eisiau defnyddio’r Beibl i’n helpu ni i wneud penderfyniadau sy’n plesio Duw. Wrth inni wneud ein Tad nefol yn hapus, bydd ein llawenydd yn cynyddu hefyd.

[Lluniau]

Mae steiliau dillad yn amrywio mewn gwahanol lefydd, ond dylen ni ddefnyddio’r Beibl i wneud penderfyniadau da