Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Ydy Tystion Jehofa yn derbyn ffracsiynau gwaed?

Yr ateb syml yw nad yw Tystion Jehofa yn derbyn gwaed. Rydyn ni’n credu nad yw gorchymyn Duw ynglŷn â gwaed yn newid. Sut bynnag, mae cwestiynau yn dal i godi oherwydd erbyn hyn mae gwaed yn cael ei brosesu yn bedwar prif gyfansoddyn, ac yn ffracsiynau o’r cyfansoddion hynny. Wrth i Gristion benderfynu a fydd yn derbyn y ffracsiynau hyn, mae angen iddo ystyried mwy na’r manteision a pheryglon meddygol. Y peth pwysicaf yw ystyried beth mae’r Beibl yn ei ddweud a sut bydd y penderfyniad yn effeithio ar ei berthynas â Duw.

Mae’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud yn glir. Dewch inni ystyried beth gall ein helpu ni i benderfynu.

Dywedodd Jehofa wrth Noa fod yn rhaid trin gwaed mewn ffordd arbennig. (Genesis 9:3, 4) Yn ddiweddarach, roedd cyfraith Duw i genedl Israel yn dangos bod gwaed yn sanctaidd: “Bydda i yn troi yn erbyn unrhyw un sy’n bwyta cig sydd â’r gwaed yn dal ynddo​—un o bobl Israel neu unrhyw un arall sy’n byw gyda nhw.” Byddai Israeliad a oedd yn gwrthod derbyn cyfraith Duw yn cael effaith ddrwg ar eraill, felly ychwanegodd Duw: “Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.” (Lefiticus 17:10) Yn nes ymlaen, mewn cyfarfod yn Jerwsalem, penderfynodd yr apostolion a’r henuriaid bod angen i Gristnogion ‘ymgadw rhag gwaed.’ Mae hyn yr un mor bwysig ag ymgadw rhag anfoesoldeb rhywiol neu eilunaddoliaeth.​—Actau 15:28, 29, BCND.

Beth oedd ‘ymgadw’ yn ei olygu i Gristnogion y ganrif gyntaf? Nid oedden nhw’n bwyta neu’n yfed gwaed, nac yn bwyta cig heb ei waedu. Roedd hyn yn cynnwys bwydydd â gwaed yn un o’i gynhwysion, fel pwdin gwaed. Byddai cymryd gwaed mewn unrhyw un o’r ffyrdd hyn yn mynd yn groes i gyfraith Duw.—1 Samuel 14:32, 33.

Ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl adeg hynny wedi gweld unrhyw beth o’i le ar fwyta neu yfed gwaed, fel y gwelwn o ysgrifau Tertwlian (ail a thrydedd ganrif OG). Wrth amddiffyn Cristnogion yn erbyn y cyhuddiad o yfed gwaed, y mae’n cyfeirio at y ffaith bod rhai pobl yn Rhufain yn arfer cadarnhau cytundebau drwy yfed gwaed. Dywed hefyd fod rhai yn yfed gwaed pobl a laddwyd yn yr amffitheatr yn Rhufain er mwyn trin epilepsi.

Er bod rhai Rhufeiniaid yn gwneud pethau felly er mwyn gwella eu hiechyd, roedd hynny’n hollol annerbyniol i Gristnogion. Ysgrifennodd Tertwlian: “Ni fyddwn ni hyd yn oed yn bwyta gwaed anifeiliaid.” Roedd y Rhufeiniaid yn cynnig bwyd â gwaed ynddo i bobl er mwyn gweld a oedden nhw’n wir Gristnogion. Ychwanegodd Tertwlian nad oedd y Cristnogion yn bwyta gwaed anifeiliaid, felly nad oedd unrhyw reswm i gredu y bydden nhw’n yfed gwaed dynol.

Heddiw, ychydig iawn o bobl a fyddai’n meddwl bod derbyn trallwysiadau gwaed yn mynd yn groes i gyfraith Duw. Yn sicr, mae Tystion Jehofa eisiau byw, ond maen nhw’n benderfynol o ufuddhau i gyfraith Duw ynglŷn â gwaed. Felly, o ystyried y triniaethau meddygol sydd ar gael heddiw, sut gall Cristion wneud hynny?

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, daeth trallwysiadau gwaed yn fwy cyffredin, ond gwelodd Tystion Jehofa fod hyn yn mynd yn erbyn cyfraith Duw, ac rydyn ni’n dal i gredu hynny. Eto i gyd, mae triniaethau meddygol wedi newid ers hynny. Heddiw mae’n fwy cyffredin i glaf dderbyn trallwysiad, nid o waed cyfan, ond o un o brif gyfansoddion gwaed, sef (1) celloedd coch, (2) celloedd gwyn, (3) platennau, neu (4) plasma, y rhan hylif. Gan ddibynnu ar gyflwr y claf, efallai bydd meddyg yn argymell trallwysiad o gelloedd coch, celloedd gwyn, platennau neu blasma. O rannu’r gwaed fel hyn, bydd un uned o waed yn cael ei defnyddio i drin nifer o gleifion. Mae Tystion Jehofa yn credu bod derbyn trallwysiadau o waed cyfan, neu o un o’r pedwar prif gyfansoddyn hyn, yn mynd yn erbyn cyfraith Duw. Mae’n werth nodi bod hyn wedi eu hamddiffyn rhag nifer o heintiau, gan gynnwys hepatitis ac HIV/AIDS, sy’n cael eu trosglwyddo mewn gwaed.

Sut bynnag, gall prif gyfansoddion gwaed gael eu defnyddio i gynhyrchu ffracsiynau. Sut mae defnyddio’r ffracsiynau hyn, a beth dylai’r Cristion ei ystyried wrth benderfynu a fydd yn eu derbyn neu beidio?

Mae gwaed yn gymhleth. Mae 90 y cant o’r plasma yn ddŵr, ac mae’n cario nifer fawr o hormonau, halwynau anorganig, ensymau, a maetholion, gan gynnwys mwynau a siwgr. Mae’r plasma hefyd yn cario proteinau fel albwmin, cyfryngau ceulo, a gwrthgyrff sy’n ymladd afiechydon. Gall meddygon dynnu nifer o broteinau penodol o blasma i’w defnyddio. Er enghraifft, mae cyfrwng ceulo o’r enw Ffactor VIII yn cael ei roi i bobl sy’n gwaedu’n hawdd oherwydd haemoffilia. Yn achos rhai afiechydon, bydd meddygon yn cynnig pigiadau gama globwlin, sy’n dod o blasma pobl sydd eisoes ag imiwnedd. Mae meddygon yn defnyddio proteinau eraill o blasma hefyd, ond mae’r enghreifftiau uchod yn dangos sut mae’n bosib cymryd ffracsiynau o blasma. *

Yn union fel y mae modd tynnu ffracsiynau o blasma, mae modd gwneud yr un fath gyda chelloedd coch, celloedd gwyn, a phlatennau. Er enghraifft, gall celloedd gwyn fod yn ffynhonnell interfferonau ac interliwcinau sy’n cael eu defnyddio i drin rhai heintiau firaol, a mathau o ganser. Gall ffracsiynau sy’n dod o blatennau gael eu defnyddio i drin clwyfau. Ac mae meddyginiaethau eraill yn cael eu datblygu drwy ddefnyddio ffracsiynau gwaed. Nid trallwysiadau gwaed yw’r rhain, ond maen nhw’n dod o ffracsiynau o brif gyfansoddion gwaed. A ddylai Cristnogion dderbyn y ffracsiynau hyn fel rhan o’u triniaeth feddygol? Gan nad yw’r Beibl yn trafod hyn yn benodol, mae’n rhaid i bob unigolyn benderfynu ar sail ei gydwybod o flaen Duw.

Bydd rhai Cristnogion yn gwrthod unrhyw driniaethau sy’n dod o waed (hyd yn oed y rhai sy’n helpu i ymladd yn erbyn heintiau). Dyna sut maen nhw’n deall gorchymyn Duw i ‘ymgadw rhag gwaed.’ Maen nhw’n rhesymu bod cyfraith Duw i Israel gynt yn gofyn i waed gael “ei dywallt ar lawr.” (Deuteronomium 12:22-24) Pam mae hynny yn berthnasol? Er mwyn paratoi gama globwlin, cyfryngau ceulo sy’n dod o waed, ac ati, mae’n rhaid i waed gael ei gasglu a’i brosesu. Felly mae rhai Cristnogion yn gwrthod y triniaethau hyn fel y bydden nhw’n gwrthod trallwysiadau o waed cyfan neu un o’i bedwar prif gyfansoddyn. Dylid parchu eu penderfyniad.

Bydd rhai Cristnogion yn gwneud penderfyniad gwahanol. Byddan nhw hefyd yn gwrthod trallwysiadau o waed cyfan, celloedd coch, celloedd gwyn, platennau neu blasma. Ond efallai byddan nhw’n derbyn triniaethau sy’n cynnwys ffracsiynau gwaed. Ond eto bydd Cristnogion gwahanol yn gwneud penderfyniadau gwahanol. Efallai bydd un Cristion yn derbyn pigiad gama globwlin ond yn gwrthod un sy’n cynnwys ffracsiynau sy’n dod o gelloedd coch neu gelloedd gwyn, tra bydd Cristion arall yn fodlon derbyn y ddau.. Felly, pam bydd rhai Cristnogion yn fodlon derbyn ffracsiynau gwaed?

Dywedodd yr erthygl “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, Mehefin 1, 1990, fod proteinau (ffracsiynau) plasma yn symud o waed y fam i waed y plentyn yn y groth. Felly mae’r fam yn trosglwyddo imiwnoglobwlinau i’r plentyn sy’n rhoi imiwnedd iddo. Yng nghorff y ffetws, wrth i gelloedd coch y plentyn ddod i ddiwedd eu hoes, mae’r elfen sy’n cario ocsigen yn cael ei phrosesu. Mae rhywfaint ohoni’n troi’n bilirwbin, sydd wedyn yn croesi’r brych i waed y fam ac mae ei chorff hi yn cael gwared arno. Gan fod modd i ffracsiynau gwaed gael eu trosglwyddo’n naturiol o un person i’r llall, mae rhai Cristnogion yn fodlon derbyn ffracsiynau sy’n dod o blasma neu gelloedd gwaed.

Gan nad yw pob Cristion yn gwneud yr un penderfyniad ynglŷn â ffracsiynau gwaed, a yw hyn yn golygu mai mater dibwys ydy hwn? Dim o gwbl. Er ei fod yn benderfyniad pwysig, yn y bôn mae’r cwestiwn yn glir. Mae’r wybodaeth uchod yn dangos bod Tystion Jehofa yn gwrthod trallwysiadau o waed cyfan ac o’i brif gyfansoddion. Mae’r Beibl yn gorchymyn i Gristnogion “ymgadw rhag bwyta yr hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, neu waed, . . . a rhag anfoesoldeb rhywiol.” (Actau 15:29) Mae’n rhaid i bob Cristion ystyried yn ofalus a gweddïo ar Jehofa cyn penderfynu a fydd yn derbyn ffracsiynau gwaed neu beidio.

Mae llawer o bobl yn fodlon derbyn unrhyw driniaeth sy’n ymddangos fel petai’n cynnig manteision yn syth, hyd yn oed rhai sydd â risg iddyn nhw, fel sy’n wir yn achos trallwysiadau gwaed. Ond mae’r Cristion diffuant yn cymryd golwg ehangach sy’n cynnwys mwy na’r ochr corfforol yn unig. Mae Tystion Jehofa yn awyddus i gael triniaeth feddygol o ansawdd da, ac maen nhw’n pwyso a mesur peryglon a manteision pob triniaeth. Ond yn achos meddyginiaethau sy’n dod o waed, maen nhw’n ystyried yn ofalus beth mae Duw yn ei ddweud, a sut bydd eu penderfyniadau yn effeithio ar eu perthynas â’r Creawdwr.—Salm 36:9.

Mae gynnon ni’r un hyder â’r Salmydd a ysgrifennodd: “Mae’r ARGLWYDD Dduw yn haul ac yn darian i’n hamddiffyn ni! Mae’r ARGLWYDD yn garedig ac yn rhannu ei ysblander gyda ni. Mae e’n rhoi popeth da i’r rhai sy’n byw yn onest. O ARGLWYDD holl-bwerus, y fath fendith sydd i rywun sy’n dy drystio di!”—Salm 84:11, 12.

[Troednodyn]

^ Mae rhai cwmnïau fferyllol wedi creu meddyginiaethau synthetig sydd heb ddod o waed ac sydd wedi disodli rhai o’r ffracsiynau gwaed oedd yn cael eu defnyddio yn y gorffennol.

[Blwch]

CWESTIYNAU AR GYFER EICH MEDDYG

Os ydych chi’n wynebu triniaeth neu lawdriniaeth a allai ddefnyddio cynnyrch gwaed, gofynnwch:

Ydy pob un o’r staff meddygol a fydd yn fy nhrin yn gwybod na fyddaf, fel un o Dystion Jehofa, yn caniatáu unrhyw drallwysiad gwaed (sef gwaed cyfan, celloedd coch, celloedd gwyn, platennau neu blasma gwaed), ni waeth beth yw’r amgylchiadau?

Os yw’r feddyginiaeth sy’n cael ei chynnig wedi ei gwneud o blasma, celloedd coch, celloedd gwyn neu blatennau, gofynnwch:

A yw’r feddyginiaeth wedi ei gwneud o un o’r pedwar prif gyfansoddyn gwaed? Os felly, a fyddech chi’n esbonio beth sydd ynddi?

Faint o’r feddyginiaeth a fydd yn cael ei defnyddio, ac ym mha ffordd?

Os yw fy nghydwybod yn caniatáu imi dderbyn y ffracsiwn hwn, beth fydd y peryglon meddygol? Oes triniaethau eraill ar gael?

Os yw fy nghydwybod yn gwneud imi wrthod y ffracsiwn hwn, pa driniaethau eraill sydd ar gael?

Ar ôl imi ystyried y mater a phenderfynu, pryd byddai’n gyfleus imi roi gwybod ichi?