Neidio i'r cynnwys

Wragedd, Pam Ymostwng i’ch Gwŷr Fel Pen y Teulu?

Wragedd, Pam Ymostwng i’ch Gwŷr Fel Pen y Teulu?

Wragedd, Pam Ymostwng i’ch Gwŷr Fel Pen y Teulu?

“Pen y ddynes ydy’r dyn; pen Crist ydy Duw.”—1 COR. 11:3.

1, 2. (a) Beth ysgrifennodd yr apostol Paul ynglŷn â threfn Duw ar gyfer pen y teulu? (b) Pa gwestiynau fydd yn cael eu hateb yn yr erthygl hon?

 YSGRIFENNODD yr apostol Paul: “Pen pob dyn ydy Crist,” gan ychwanegu, “pen Crist ydy Duw.” (1 Cor. 11:3) Yma mae’n disgrifio trefn sydd wedi ei sefydlu gan Jehofa. Roedd Iesu yn hapus i ymostwng i’r un sydd yn ben arno ef, Jehofa. Mae Iesu ei hun yn ben ar ddynion Cristnogol. Roedd Iesu yn dyner, yn garedig, ac yn anhunanol yn y ffordd roedd yn trin pobl eraill. Mae’n rhaid i ddynion yn y gynulleidfa efelychu Crist yn y ffordd maen nhw’n trin eraill, yn enwedig eu gwragedd.

2 Ond beth am wragedd? Pwy sydd yn ben arnyn nhw? “Pen y ddynes ydy’r dyn,” meddai Paul. Sut dylai gwragedd deimlo am hyn? Ydy’r egwyddor yn dal yn berthnasol i briodas lle nad ydy’r gŵr yn addoli Jehofa? Ydy ymostwng i’w gŵr yn golygu nad oes gan y wraig hawl i fynegi ei barn neu esbonio ei theimladau pan fydd rhaid gwneud penderfyniadau? Sut gall gwraig ennyn parch ei gŵr?

“Dw i’n Mynd i Wneud Cymar Iddo”

3, 4. Pam mae trefn Jehofa ar gyfer y teulu yn beth da?

3 Jehofa sydd wedi penderfynu ar y drefn yn y teulu. Ar ôl iddo greu Adda, dywedodd Jehofa: “Dydy e ddim yn beth da i’r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i’n mynd i wneud cymar iddo i’w gynnal.” Ar ôl i Efa gael ei chreu, roedd Adda wrth ei fodd a dywedodd: “O’r diwedd! Un sydd yr un fath â fi! Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd.” (Genesis 2:18-24) Roedd gan Adda ac Efa gyfle i ddod yn fam ac yn dad ar ddynoliaeth berffaith a fyddai’n mwynhau byw am byth mewn paradwys ar y ddaear.

4 Roedd ein rhieni cyntaf yn anufudd i Dduw ac felly collon nhw’r cyfle i fyw am byth. (Darllen Rhufeiniaid 5:12.) Ond doedd trefniadau Jehofa ar gyfer y teulu ddim wedi newid. Pan fydd gŵr a gwraig yn parchu trefn Jehofa, bydd yr holl deulu’n hapusach. Byddan nhw’n teimlo’r un ffordd â Iesu am ymostwng i Jehofa. Cyn iddo ddod i’r ddaear, roedd Iesu “yn ymlawenhau [gerbron Jehofa] bob amser.” (Diar. 8:30, Beibl Cysegr-lân) Wrth gwrs, nid yw dyn amherffaith yn gallu bod yn benteulu perffaith, ac ni all gwraig amherffaith ymostwng yn berffaith i’w gŵr. Ond pan fydd gŵr a gwraig yn gwneud eu gorau, fe allan nhw fod yn hapus.

5. Pam mae’r cyngor yn Rhufeiniaid 12:10 yn bwysig i gyplau priod?

5 Mae’r Beibl yn dweud wrth bob Cristion: “Dangoswch gariad brawdol a thosturi diffuant tuag at eich gilydd. Byddwch yn awyddus i anrhydeddu eich gilydd.” (Rhuf. 12:10) Mae’r cyngor hwn yn arbennig o bwysig i gyplau priod. Hefyd dylai gwŷr a gwragedd weithio’n galed i fod “yn garedig wrth [ei] gilydd, yn dosturiol iawn, heb ddal yn ôl rhag maddau [i’w] gilydd.”—Eff. 4:32.

Pan Nad Yw’r Cymar yn Addoli Jehofa

6, 7. Beth all ddigwydd pan fydd gwraig yn ymostwng i’w gŵr er nad yw ef yn addoli Jehofa?

6 Beth os nad yw dy gymar yn addoli Jehofa? Yn aml, y gŵr yw’r un sydd ddim yn Gristion. Yn yr achos hwn, sut dylai gwraig drin ei gŵr? Mae’r Beibl yn ateb: “Chi wragedd, dylech chi ymostwng i’ch gwŷr, fel bod unrhyw un sydd ddim yn ufudd i’r gair yn gallu cael ei berswadio heb air drwy ymddygiad ei wraig, oherwydd iddo fod yn llygad-dyst i’ch ymddygiad pur ynghyd â’ch parch dwfn.”​—1 Pedr 3:1, 2.

7 Mae Gair Duw yn dweud y dylai gwraig ddal i ymostwng i’w gŵr, hyd yn oed os nad yw’n addoli Jehofa. Gall ei hymddygiad da wneud iddo eisiau dysgu mwy, ac efallai dechrau astudio’r Beibl a derbyn y gwir yn y pen draw.

8, 9. Beth gall gwraig ei wneud os nad yw ei gŵr yn ymateb yn ffafriol i’w hymddygiad da?

8 Ond beth os nad yw’r gŵr yn newid? Mae’r Beibl yn annog y wraig i ddangos rhinweddau Cristnogol bob amser, hyd yn oed pan fydd hynny yn anodd. Er enghraifft, mae 1 Corinthiaid 13:4 yn dweud: “Mae cariad yn amyneddgar.” Dylai’r wraig barhau i ddangos cariad at ei gŵr, gan ymddwyn “gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, gydag amynedd.” (Eff. 4:2) Gyda help ysbryd glân Duw, mae’n bosib dangos rhinweddau Cristnogol hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd.

9 Ysgrifennodd Paul: “Mae gen i’r grym i wynebu pob peth drwy’r un sy’n rhoi nerth imi.” (Phil. 4:13) Mae ysbryd glân Duw yn rhoi’r nerth i Gristnogion wneud pethau a fyddai’n amhosib fel arall. Er enghraifft, gall cael dy drin yn wael gan dy gymar wneud iti eisiau talu’r pwyth yn ôl. Ond mae’r Beibl yn dweud wrth bob Cristion: “Pan fydd pobl eraill yn gwneud pethau drwg ichi, peidiwch â gwneud pethau drwg yn ôl iddyn nhw. . . . Mae’r Ysgrythurau’n dweud: ’Fi sy’n dial; fe fydda i’n talu yn ôl,’ meddai Jehofa.’” (Rhuf. 12:17-19) Mae 1 Thesaloniaid 5:15 yn rhoi cyngor tebyg: “Gwyliwch na fydd neb yn talu drwg am ddrwg i unrhyw un, ond ceisiwch bob amser yr hyn sy’n dda tuag at eich gilydd a thuag at bawb arall.” Gyda chefnogaeth ysbryd glân Jehofa, mae’n bosib inni wneud pethau a fyddai’n amhosib yn ein nerth ein hunain. Dyna pam mae angen ysbryd glân Duw i’n helpu.

10. Sut roedd Iesu’n ymateb pan oedd eraill yn ei drin yn gas?

10 Gosododd Iesu esiampl ragorol inni wrth ddelio â’r rhai oedd yn ei drin yn gas. Mae 1 Pedr 2:23 yn dweud: “Pan oedd yn cael ei sarhau, ni wnaeth ef sarhau yn ôl. Pan oedd yn dioddef, ni wnaeth ef fygwth, ond fe wnaeth ei roi ei hun yn nwylo’r Un sy’n barnu’n gyfiawn.” Rydyn ni’n cael ein hannog i efelychu ei esiampl. Paid â gadael i ymddygiad pobl eraill fynd o dan dy groen. Dylai pob Cristion ddangos “tosturi tyner, a gostyngeiddrwydd,” a pheidio â “thalu yn ôl ddrwg am ddrwg na sarhad am sarhad.”—1 Pedr 3:8, 9.

Ai Cymar Heb Lais Ydy’r Wraig?

11. Pa fraint arbennig fydd gan rai menywod Cristnogol?

11 Ydy ymostwng i’w gŵr fel pen y teulu yn golygu nad oes gan wraig lais yn y briodas? Dim o gwbl. Mae dynion a menywod yn cael llawer o freintiau gan Jehofa. Meddylia am y fraint sydd gan y 144,000 o bobl a fydd yn frenhinoedd ac offeiriaid yn y nef gyda Iesu. Mae’r grŵp hwnnw yn cynnwys llawer o fenywod. (Gal. 3:​26-​29) Mae’n amlwg bod Jehofa yn anrhydeddu menywod drwy roi gwaith pwysig iddyn nhw.

12, 13. Rho enghraifft sy’n dangos bod menywod yn proffwydo.

12 Yn amser y Beibl, er enghraifft, roedd menywod yn proffwydo. Rhagfynegodd Joel 2:​28, 29: “Bydda i’n tywallt fy Ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo; . . . Bydda i hyd yn oed yn tywallt fy Ysbryd ar y gweision a’r morynion.”

13 Roedd dynion a menywod ymhlith y 120 o ddisgyblion Iesu yn yr uwch ystafell yn Jerwsalem ar ddiwrnod Pentecost 33 OG. Gan fod pawb yn y grŵp wedi derbyn yr ysbryd glân, roedd Pedr yn gallu dyfynnu geiriau’r proffwyd Joel ac esbonio eu bod nhw’n berthnasol i ddynion a menywod fel ei gilydd. Dywedodd Pedr: “Dyma beth gafodd ei ddweud drwy’r proffwyd Joel: ‘Ac yn y dyddiau olaf,’ meddai Duw, ‘y bydda i’n tywallt rhywfaint o fy ysbryd ar bob math o gnawd, a bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo . . . a hyd yn oed ar fy nghaethweision a fy nghaethferched y bydda i’n tywallt rhywfaint o fy ysbryd yn y dyddiau hynny, ac fe fyddan nhw’n proffwydo.’”—Act. 2:16-18.

14. Beth roedd menywod yn ei wneud i ledaenu’r newyddion da yn y ganrif gyntaf?

14 Yn y ganrif gyntaf, roedd menywod yn gweithio’n galed i ledaenu’r neges am Grist ac i gefnogi’r gwaith pregethu mewn ffyrdd ymarferol eraill. (Luc 8:1-3) Er enghraifft, soniodd yr apostol Paul am wraig o’r enw Phebe a oedd yn “weinidog yn y gynulleidfa yn Cenchreae.” Ac wrth iddo gofio at ei gyd-weithwyr, soniodd Paul am nifer o fenywod ffyddlon, gan gynnwys “Tryffena a Tryffosa, merched sy’n gweithio’n galed i’r Arglwydd,” yn ogystal â “Persis, sy’n annwyl inni, oherwydd ei bod hi wedi gweithio’n galed i’r Arglwydd.”—Rhuf. 16:1, 12.

15. Beth mae menywod yn ei wneud heddiw i ledaenu’r newyddion da?

15 Heddiw, menywod yw llawer o’r rhai sy’n pregethu newyddion da’r Deyrnas. (Math. 24:14) Mae llawer yn arloeswyr, yn genhadon neu’n aelodau o deuluoedd Bethel. Dywedodd y Salmydd Dafydd: “Mae’r ARGLWYDD yn dweud y gair, ac mae tyrfa o ferched yn cyhoeddi’r newyddion da:” (Salm 68:11) Mae hynny mor wir! Mae Jehofa yn gwerthfawrogi popeth maen nhw’n ei wneud i ledaenu’r newyddion da a gwneud ei ewyllys. Mae Jehofa yn gofyn i wragedd fod yn ymostyngar ond dydy hynny ddim yn golygu bod rhaid iddyn nhw aros yn ddistaw.

Dwy Wraig Nad Oedd Ganddyn Nhw’n Ofn Siarad

16, 17. Sut mae esiampl Sara yn dangos bod gan wragedd lais mewn priodas?

16 Os ydy Jehofa yn gwerthfawrogi’r gwaith mae menywod yn ei wneud, oni ddylai gwŷr wneud yr un fath a thrafod penderfyniadau pwysig gyda’u gwragedd? Mae’r Beibl yn sôn am nifer o wragedd a oedd yn siarad neu’n gweithredu hyd yn oed pan nad oedd eu gwŷr wedi gofyn am eu barn. Ystyriwch ddwy esiampl.

17 Roedd Sara, wedi dweud sawl gwaith wrth ei gŵr Abraham am anfon ei ail wraig Hagar a’i mab i ffwrdd oherwydd ei diffyg parch. “Doedd Abraham ddim yn hapus o gwbl am y peth,” ond nid dyna oedd y ffordd roedd Duw yn gweld y sefyllfa. Dywedodd Jehofa wrth Abraham: “Gwna bopeth mae Sara’n ei ddweud wrthyt.” (Gen. 21:8-12) Fe wnaeth Abraham ufuddhau i Jehofa, gwrando ar Sara, a gwneud beth roedd hi’n ei ofyn.

18. Beth penderfynodd Abigail ei wneud?

18 Meddylia hefyd am Abigail, gwraig Nabal. Pan oedd Dafydd yn ffoi rhag y Brenin Saul, roedd yn gwersylla mewn ardal lle roedd Nabal yn cadw ei ddefaid. Yn lle dwyn defaid Nabal, roedd Dafydd a’i ddynion yn gwarchod ei eiddo. Ond roedd Nabal “yn ddyn blin ac annifyr.” Pan ofynnodd dynion Dafydd am fwyd, gwrthododd Nabal yn gas, gan ‘weiddi a rhegi arnyn nhw.’ Beth oedd ymateb Abigail pan glywodd hi am beth oedd wedi digwydd? Heb ddweud wrth Nabal, “dyma Abigail yn brysio i gasglu bwyd a’i roi ar gefn asynnod: dau gan torth o fara, dwy botel groen o win, pum dafad wedi eu paratoi, pum sachaid o rawn wedi ei grasu, can swp o rhesins a dau gant o fariau ffigys,” a’u rhoi i Dafydd a’i ddynion. Oedd Abigail yn iawn i wneud hynny? Oedd, oherwydd trawodd Jehofa Nabal a bu farw. Yn nes ymlaen, priododd Dafydd ag Abigail.—1 Sam. 25:3, 14-19, 23-25, 38-42.

Gwraig Sy’n Haeddu Ei Chanmol

19, 20. Pa fath o wraig sy’n haeddu ei chanmol?

19 Mae’r Beibl yn canmol gwragedd sy’n gwneud pethau ffordd Jehofa. Mae llyfr Diarhebion yn canmol gwraig dda, gan ddweud “Mae hi’n fwy gwerthfawr na gemau. Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi’n llwyr, ac ar ei ennill bob amser. Mae hi’n dda iddo bob amser, a byth yn gwneud drwg. Mae hi’n siarad yn ddoeth bob amser, ac yn garedig wrth ddysgu eraill. Mae hi’n gofalu am y teulu i gyd, a dydy hi byth yn segur. Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni; ac mae ei gŵr yn ei chanmol i’r cymylau.”—Diar. 31:10-12, 26-28.

20 Pa fath o wraig sy’n haeddu ei chanmol? Mae Diarhebion 31:30 yn dweud: “Mae prydferthwch yn gallu twyllo, a harddwch yn arwynebol. Gwraig sy’n parchu’r ARGLWYDD sydd yn haeddu cael ei chanmol.” Bydd gwraig sy’n parchu Jehofa yn hapus i ufuddhau iddo ac ymostwng i’w gŵr fel pen y teulu. “Pen y ddynes ydy’r dyn,” yn union fel mae “pen pob dyn ydy Crist,” ac wrth gwrs, “pen Crist ydy Duw.”—1 Cor. 11:3.

Byddwch yn Ddiolchgar am Rodd Duw

21, 22. (a) Pam mae Cristnogion priod yn ddiolchgar i Jehofa am rodd priodas? (b) Pam dylen ni barchu trefn Jehofa ynglŷn ag awdurdod a chyfrifoldeb yn y teulu? (Gweler y blwch)

21 Mae gan Gristnogion priod lawer o resymau dros fod yn ddiolchgar i Dduw. Gallan nhw gael bywyd hapus gyda’i gilydd a defnyddio eu bywydau i wasanaethu Duw. (Ruth 1:9; Mich. 6:8, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Jehofa yw’r un a greodd briodas yn y lle cyntaf, ac felly mae’n gwybod yn union beth sydd ei angen ar gyfer priodas hapus. Os wyt ti’n gwneud pethau yn ei ffordd ef, byddi di’n gallu bod “yn llawen yn yr ARGLWYDD,” er gwaethaf yr holl broblemau yn y byd.—Neh. 8:10.

22 Bydd gŵr sy’n caru ei wraig fel y mae’n caru ei hun yn ceisio bod yn dyner ac yn garedig fel penteulu. Bydd yn hawdd iddo garu ei wraig gan y bydd hi’n caru Jehofa ac yn cefnogi ac yn parchu ei gŵr. Yn bwysicaf oll, bydd eu priodas yn esiampl dda sy’n dod â chlod i Jehofa.

A Wyt Ti’n Cofio?

• Beth ydy trefn Jehofa o ran awdurdod ac ymostwng i’r rhai sydd yn ben arnon ni?

• Pam dylai cyplau priod barchu ei gilydd?

• Sut dylai gwraig sy’n Gristion drin gŵr sydd ddim yn addoli Jehofa?

• Pam dylai gwŷr siarad â’u gwragedd cyn gwneud penderfyniadau pwysig?

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Blwch]

Pam Dylen Ni Barchu Awdurdod?

Jehofa sydd wedi penderfynu pwy sy’n cael awdurdod a sut dylen nhw ei ddefnyddio. Mae hyn o les i angylion a phobl fel ei gilydd. Mae’n rhoi cyfle i bawb ddewis gwasanaethu Duw mewn ffordd heddychlon ac unedig.—Salm 133:1, BCND.

Mae Cristnogion eneiniog yn parchu awdurdod Iesu Grist. (Eff. 1:22, 23) Ac am fod Iesu yn parchu awdurdod Jehofa, yn y pen draw, “bydd y Mab hefyd yn ei ddarostwng ei hun i’r Un sydd wedi darostwng pob peth iddo ef, er mwyn i Dduw fod yn bob peth i bawb.” (1 Cor. 15:27, 28) Dylai pawb sy’n addoli Jehofa barchu’r awdurdod mae Jehofa wedi ei roi i rai yn y teulu ac yn y gynulleidfa. (1 Cor. 11:3; Heb. 13:17) Pan fyddwn ni’n gwneud hynny, bydd Jehofa yn ein bendithio.—Esei. 48:17.

[Llun]

Gall gwraig weddïo ar Jehofa am help i ddangos rhinweddau Cristnogol

[Llun]

Mae Jehofa yn gwerthfawrogi popeth mae menywod yn ei wneud ar gyfer y Deyrnas