Neidio i'r cynnwys

A Wyt Ti’n “Estyn Allan”?

A Wyt Ti’n “Estyn Allan”?

ROEDD Fernando a ar bigau’r drain. Roedd dau henuriaid wedi gofyn iddo am sgwrs breifat. Ar ôl nifer o ymweliadau gan arolygwr y gylchdaith, roedd yr henuriaid wedi esbonio iddo beth roedd angen iddo ei wneud er mwyn bod yn gymwys i wasanaethu fel henuriad. Wrth i amser fynd heibio, roedd Fernando’n dechrau meddwl na fyddai byth yn cael ei benodi’n henuriad. Nawr, roedd arolygwr y gylchdaith wedi bod eto. Beth fyddai’r henuriaid yn ei ddweud y tro hwn?

Gwrandawodd Fernando wrth i’r henuriaid siarad am 1 Timotheus 3:1, a dweud bod henuriaid y gynulleidfa wedi derbyn llythyr yn dweud bod Fernando wedi cael ei benodi’n henuriad. Roedd Fernando wedi synnu a gofynnodd, “Beth ddywedoch chi?” Dyma’r brawd yn ail-adrodd ei eiriau a gwnaeth Fernando ddechrau gwenu. Pan glywodd y gynulleidfa’r cyhoeddiad, roedd pawb yn wên o glust i glust.

Ai peth drwg yw dymuno bod yn henuriad? Dim o gwbl. Yn ôl 1 Timotheus 3:1, “os ydy dyn yn estyn allan i fod yn arolygwr, mae ef yn awyddus i wneud gwaith da.” Mae’r adnod hon yn annog dynion i weithio’n galed er mwyn bod yn gymwys i fod yn henuriad. O ganlyniad y mae degau o filoedd o henuriaid a gweision yn y cynulleidfaoedd, ac mae hynny’n fendith i bobl Dduw. Ond oherwydd bod nifer y cynulleidfaoedd yn tyfu o hyd, mae angen i fwy o frodyr estyn allan. Sut gallan nhw wneud hynny? Ac a ddylai’r rhai sydd eisiau bod yn henuriaid boeni, fel Fernando, am pa bryd bydd hynny’n digwydd?

BETH YDY YSTYR “ESTYN ALLAN”?

Mae’r ymadrodd “estyn allan” yn 1 Timotheus 3:1 yn cyfieithu berf Roeg sydd yn golygu bod yn awyddus iawn i gael gafael yn rhywbeth. Efallai byddi di’n meddwl am rywun ym ymestyn at ddarn o ffrwyth ar goeden. Ond dydy hyn ddim yn golygu bod y rhai sydd â’u bryd ar “fod yn arolygwr” yn gwneud hyn er mwyn bod yn bwysig. Pam felly? Oherwydd dylai’r rhai sydd yn estyn allan wneud hyn am eu bod nhw’n awyddus “i wneud gwaith da.”

Yn 1 Timotheus 3:2-7 a Titus 1:5-9 gwelwn restr o’r pethau mae angen i frawd eu gwneud er mwyn bod yn henuriad. Wrth sôn am yr adnodau hyn, mae henuriad profiadol o’r enw Raymond yn dweud: “I mi, y peth pwysicaf yw’r math o berson ydyn ni. Mae siarad a dysgu yn bwysig, ond mae’n bwysicach byth inni fod heb fai ar ein cymeriad, i ymddwyn mewn ffordd gytbwys, i fod yn synhwyrol, yn drefnus, yn lletygar, ac yn rhesymol.”

‘Estynnwch allan’ drwy helpu’r gynulleidfa mewn gwahanol ffyrdd

Mae brawd sydd yn wir eisiau gwasanaethu eu brodyr yn gorfod bod yn ddyn heb fai ar ei gymeriad. Mae’n ymddwyn yn onest, ac yn cadw draw rhag unrhyw beth anfoesol. Mae’n gytbwys, yn synhwyrol, yn drefnus ac yn rhesymol. Felly mae ei gyd-addolwyr yn ei drystio i gymryd y blaen a’u helpu gyda’u problemau. Drwy fod yn lletygar, mae’n calonogi’r rhai ifanc a’r rhai sydd newydd ddysgu’r gwir. Mae’n cysuro ac yn helpu’r rhai sydd yn hŷn neu’n sâl. Mae’n gwneud y pethau hyn i gyd, nid er mwyn cael ei benodi’n henuriaid, ond oherwydd ei fod yn caru daioni. b

Mae’r henuriaid yn hapus i roi cyngor ac anogaeth i frawd sy’n estyn allan, ond arno ef mae’r prif gyfrifoldeb i gwrdd â’r gofynion mae’r Beibl yn eu rhestru. Mae henuriad profiadol o’r enw Henry yn dweud: “Os wyt ti eisiau bod yn henuriad, gweithia’n galed i ddangos dy fod ti’n barod.” Wrth gyfeirio at Pregethwr 9:10, mae’n esbonio: “‘Gwna dy orau glas beth bynnag wyt ti’n ei wneud.’ Gwna dy orau ym mha bynnag aseiniad mae’r henuriaid yn ei roi iti. Bydda’n hapus yn dy waith yn y gynulleidfa, gan gynnwys sgubo’r llawr. Ymhen amser bydd eraill yn sylwi ar dy waith caled.” Os wyt ti’n dymuno bod yn henuriaid ryw ddydd, bydda’n ddibynadwy a gweithia’n galed ym mhob rhan o dy fywyd fel Cristion. Bydd eraill yn gallu gweld dy fod ti’n ddyn ostyngedig, nid rhywun uchelgeisiol.—Matthew 23:8-12.

GWRTHOD AGWEDDAU AC YMDDYGIAD ANGHYWIR

Efallai bydd rhai brodyr yn ceisio dylanwadu ar gorff yr henuriaid er mwyn cael eu penodi. Bydd eraill yn digio pan fydd yr henuriaid yn rhoi cyngor iddyn nhw. Dylai brodyr o’r fath ofyn iddyn nhw eu hunain. ‘Ydw i’n ceisio bod yn geffyl blaen, neu ydw i eisiau gofalu am ddefaid Jehofa mewn ffordd ostyngedig?’

Dylai’r rhai sy’n dymuno bod yn henuriaid gofio bod rhaid iddyn nhw fod “yn esiamplau i’r praidd.” (1 Pedr 5:1-3) Ni fydd brawd sydd yn esiampl i’r gynulleidfa yn twyllo eraill. Yn hytrach fe fydd yn amyneddgar, ac yn gwneud beth sy’n iawn, ni waeth a yw’n henuriad neu beidio. Nid yw cael ei benodi’n henuriad yn cael gwared ar ffaeleddau. (Num. 12:3; Salm 106:32, 33) Efallai na fydd brawd ‘yn ymwybodol o unrhyw beth yn ei erbyn,’ ond efallai bydd gan eraill ryw reswm i feddwl yn negyddol amdano. (1 Cor. 4:4) Felly os bydd yr henuriaid yn rhoi cyngor o’r Beibl iti, gwranda arnyn nhw heb fod yn bigog. Yna gweithia’n galed i roi’r cyngor ar waith.

BETH OS WYT TI’N AROS AM AMSER HIR?

Mae nifer o frodyr yn teimlo eu bod nhw wedi bod yn aros am amser hir cyn cael eu penodi. Os wyt ti wedi bod yn “estyn allan i fod yn arolygwr” am nifer o flynyddoedd, wyt ti weithiau’n teimlo’n rhwystredig? Os felly, sylwa ar y geiriau hyn: “Mae gobaith sy’n cael ei ohirio yn torri’r galon, ond mae dymuniad sy’n dod yn wir fel pren sy’n rhoi bywyd.”—Diar. 13:12.

Gall rhywun deimlo’n ddigalon pan fydd nod i’w weld yn amhosib ei gyrraedd. Roedd Abraham yn teimlo fel hyn. Roedd Jehofa wedi addo mab iddo, ond aeth y blynyddoedd heibio heb iddo gael plant gyda Sara. (Gen. 12:1-3, 7) Yn ei henaint, dywedodd Abraham wrth Jehofa: “O Feistr, ARGLWYDD, beth ydy’r pwynt os bydda i’n marw heb gael mab? . . . Dwyt ti ddim wedi rhoi plant i mi.” Fe wnaeth Jehofa ei gysuro a dweud eto y byddai ei addewid yn cael ei wireddu. Ond aeth o leiaf 14 blwyddyn heibio cyn i hynny ddigwydd.—Gen. 15:2-4; 16:16; 21:5.

Tra ei fod yn aros, a wnaeth Abraham golli ei lawenydd wrth wasanaethu Jehofa? Naddo. Ni wnaeth amau addewid Duw am eiliad. Daliodd ati i edrych ymlaen at gyflawniad yr addewid. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Ar ôl i Abraham ddangos amynedd, fe gafodd yr hyn roedd Duw wedi ei addo.” (Heb. 6:15) Yn y pen draw, cafodd Abraham lawer mwy o fendithion nag yr oedd yn eu disgwyl. Beth gelli di ei ddysgu oddi wrth Abraham?

Os hoffet ti wasanaethu fel henuriad ond rwyt ti wedi bod yn aros am nifer o flynyddoedd i hynny ddigwydd, dal ati i ymddiried yn Jehofa. Paid â cholli dy lawenydd. Mae Warren, sydd wedi helpu nifer o frodyr i wneud cynnydd ysbrydol, yn dweud: “Mae’n cymryd amser i frawd fod yn gymwys i fod yn henuriad. Dros amser mae ei sgiliau a’i agweddau’n dod i’r amlwg yn y ffordd mae’n ymddwyn ac yn gofalu am ei aseiniadau. Mae rhai’n teimlo eu bod nhw wedi methu os nad ydyn nhw’n cael eu penodi. Ond nid yw hynny yn wir, a gall meddwl fel hyn droi’n obsesiwn.Os wyt ti’n gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon, lle bynnag wyt ti a pha bynnag aseiniad sydd gen ti, rwyt ti’n llwyddiannus.”

Roedd un brawd wedi aros am fwy na degawd cyn cael ei benodi’n henuriad. Soniodd am wers bwysig a ddysgodd o Eseciel pennod 1: “Jehofa sy’n arwain ei gyfundrefn ac yn pa mor gyflym bydd pethau’n digwydd. Ef sy’n gwybod pryd dw i’n barod i wasanaethu fel henuriad, nid fi. Nid beth dw i eisiau ydy’r peth pwysig. Mae Jehofa yn gwybod beth sydd orau imi.”

Os wyt ti’n gobeithio bod yn henuriad ryw ddydd, ceisia helpu eraill yn y gynulleidfa. Os wyt ti’n teimlo dy fod ti wedi bod yn aros ers amser hir, paid â digalonni. Mae Raymond a ddyfynnwyd ynghynt yn dweud: “Os wyt ti’n ceisio bod yn geffyl blaen, fyddi di byth yn hapus. Mae’r rhai sy’n poeni o hyd am y ffaith nad ydyn nhw’n henuriaid yn colli eu llawenydd yng ngwasanaeth Jehofa.” Ceisia feithrin ffrwyth yr ysbryd glân, yn enwedig amynedd. Cryfha dy berthynas â Jehofa drwy astudio’r Beibl. Gwna fwy yn y gwaith pregethu, a chynnal astudiaethau gyda’r rhai sydd â diddordeb. Bydda’n esiampl dda i dy deulu wrth bregethu, mynd i’r cyfarfodydd ac astudio. Mwynha gwmni dy frodyr a chwiorydd. Yna wrth iti weithio tuag at dy nod, mi fyddi di’n mwynhau’r siwrnai.

Mae Jehofa eisiau i frodyr fod yn gymwys i wasanaethu fel henuriaid. Ond nid yw ef na’i gyfundrefn eisiau iti ddigalonni wrth weithio tuag at y nod hwnnw. Bydd Duw yn cefnogi ac yn bendithio pawb sy’n ei wasanaethu o bur galon. Yn wir, “bendith yr ARGLWYDD sy’n rhoi cyfoeth, ac nid yw’n ychwanegu gofid gyda hi.”—Diar. 10:22, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Hyd yn oed os wyt ti wedi bod yn estyn allan ers llawer o flynyddoedd, gelli di ddal wneud cynnydd ysbrydol. Wrth iti weithio’n galed i feithrin rhinweddau ysbrydol, i helpu eraill yn y gynulleidfa ac i edrych ar ôl dy deulu, gelli di fod yn sicr na fydd Jehofa’n anghofio hynny. Beth bynnag mae Jehofa yn gofyn iti ei wneud, bydda’n hapus yn dy aseiniad.

a Newidiwyd yr enwau yn yr erthygl hon.

b Mae’r egwyddorion yn yr erthygl hon hefyd yn berthnasol i’r rhai sydd yn dymuno bod yn weision y gynulleidfa. Gweler 1 Timotheus 3:8-10, 12, 13, ar gyfer y cymwysterau sydd eu hangen ar weision.