HANES BYWYD
Mae Cofio Fy Nghariad Cyntaf Wedi Fy Helpu i Ddyfalbarhau
ROEDD hi’n gynnar yn yr haf ym 1970. O’n i’n gorwedd mewn gwely yn Ysbyty Forge General, Phoenixville, Pennsylvania, yn yr Unol Daleithiau. Bob hanner awr roedd nyrs gwryw yn cymryd fy mhwysau gwaed. Milwr 20 mlwydd oed oeddwn i yn dioddef o salwch heintus difrifol. Roedd y nyrs ychydig o flynyddoedd yn hŷn na fi a golwg pryderus ar ei wyneb. Wrth i bwysau fy ngwaed ddisgyn ymhellach, dywedais: “Dwyt ti erioed wedi gweld rhywun yn marw o’r blaen, naddo?” Aeth ei wyneb yn welw, ac atebodd, “Naddo.”
Ar y foment honno, doedd y dyfodol ddim yn edrych yn obeithiol iawn imi. Ond sut wnes i landio yn yr ysbyty? Wel, gad imi ddweud wrthot ti rywfaint o fy hanes.
FY NGHYFLWYNIAD I RYFEL
Es i’n wael tra oeddwn i’n gwasanaethu fel technegydd mewn ystafell lawdriniaeth yn ystod y rhyfel yn Fietnam. O’n i’n mwynhau helpu’r rhai sâl a chlwyfedig ac roedd gen i nod o fod yn llawfeddyg. Cyrhaeddais Fietnam ym mis Gorffennaf 1969. Fel pob recríwt newydd, ces i wythnos i ffeindio nhraed er mwyn imi gael dod i arfer efo’r gwres tanbaid a’r gwahaniaeth yn yr amser.
Yn fuan ar ôl imi ddechrau fy shifft gyntaf mewn ysbyty llawfeddygol yn y Mekong Delta, yn Dong Tam, cyrhaeddodd nifer fawr o hofrenyddion yn llawn dynion wedi eu clwyfo. O’n i’n wladgarol iawn ac yn mwynhau fy ngwaith, felly o’n i eisiau dechrau yn syth bin. Roedd y cleifion yn cael eu paratoi a’u rhuthro i mewn i hen gynhwysydd cludo nwyddau oedd yn gwasanaethu fel ystafell llawdriniaeth gyda systemau awyru. Yno roedd ’na lawfeddyg, anesthetegydd, a dau nyrs arbenigol wedi eu gwasgu i’r lle bach hwn, ac yn gwneud eu gorau i achub bywydau. Sylwais fod ’na lwythi o fagiau mawr duon oedd heb gael eu dadlwytho oddi ar yr hofrenyddion. Ces i wybod bod y bagiau hynny yn llawn darnau o gyrff milwyr oedd wedi cael eu chwythu i fyny yn y frwydr. Dyna oedd fy nghyflwyniad i ryfel.
CHWILIO AM DDUW
Pan oeddwn i’n ifanc cefais i rywfaint o gysylltiad efo’r gwir sy’n cael ei ddysgu gan Dystion Jehofa. Buodd fy annwyl fam yn astudio’r Beibl gyda’r Tystion, ond aeth hi ddim mor bell â chael ei bedyddio. O’n i wrth fy modd yn ymuno ag astudiaethau fy mam. O gwmpas yr un pryd, es i heibio Neuadd y Deyrnas gyda fy llystad, a gofyn iddo, “Beth ydy hwnna?” Atebodd yntau, “Paid byth â mynd yn agos i’r bobl ’na!” Am fy mod i’n caru a thrystio fy llystad, wnes i wrando ar ei gyngor. Ac o ganlyniad, collais bob cysylltiad â Thystion Jehofa.
Ar ôl dychwelyd o Fietnam, ges i’r ysfa am Dduw yn fy mywyd. Roedd atgofion poenus wedi fy ngwneud yn ddideimlad yn emosiynol. O’n i’n teimlo bod neb yn gwir ddeall beth oedd yn mynd ymlaen yn Fietnam. Dw i’n cofio’r protestiadau lle oedd y dorf yn galw milwyr America yn lladdwyr babanod oherwydd yr adroddiadau am blant diniwed yn cael eu lladd yn y rhyfel.
I ddiwallu fy awydd am fwyd ysbrydol, wnes i ddechrau fynd i wasanaethau mewn gwahanol eglwysi. Ymhen amser, es i i Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa yn Delray Beach, Fflorida. Ar ryw ddydd Sul yn Chwefror 1971 oedd hynny.
Pan gerddais i mewn, roedd yr anerchiad cyhoeddus ar fin gorffen, felly wnes i aros am yr astudiaeth o’r Tŵr Gwylio oedd yn dilyn. Dw i ddim yn cofio’r pwnc dan sylw, ond hyd heddiw dw i yn cofio’r plant bach yn troi tudalennau eu Beiblau i ddod o hyd i’r ysgrythurau. Mi wnaeth hynny argraff fawr arna i! Y cwbl wnes i oedd gwrando a gwylio’n dawel. Wrth imi adael y Neuadd, daeth brawd annwyl tua 80 oed ata i. Ei enw oedd Jim Gardner. Roedd ganddo lyfr yn ei law â’r teitl The Truth That Leads to Eternal Life a gofynnodd, “A wnei di dderbyn hwn plîs?” Wnaethon ni drefnu cael ein hastudiaeth Feiblaidd gyntaf ar y bore dydd Iau canlynol.
Y noson honno roedd rhaid imi weithio. Roedd gen i swydd mewn ysbyty preifat yn Boca Raton, Fflorida, yn gweithio yn yr ystafell argyfwng. Roedd fy shifft o 11 y nos tan 7 y bore. Gan ei bod yn noson dawel, o’n i’n gallu darllen y llyfr Truth. Daeth uwch nyrs ata i, cipio’r llyfr o’m dwylo, edrych ar y clawr a gweiddi, “Dwyt ti ddim am ddod yn un o’r rheini, wyt ti?” Wnes i fachu fy llyfr yn ôl a dweud, “Dim ond hanner ffordd drwyddo fo ydw i, ond mae’n edrych felly!” Gadawodd hi lonydd imi, a gorffennais ddarllen y llyfr y noson honno.
Dechreuais fy astudiaeth Feiblaidd gyntaf gyda’r Brawd Gardner drwy ofyn, “Felly, beth ‘dyn ni’n mynd i astudio?” Atebodd yntau, “Y llyfr wnes i roi iti.” “Dw i wedi ei ddarllen o yn barod,” meddai finnau. Atebodd y Brawd Gardner yn garedig, “Wel, beth am inni ystyried y bennod gyntaf.” Oeddwn i wedi synnu cymaint o’n i wedi methu. Mi wnaeth o ofyn imi edrych ar lawer o adnodau yn fy nghopi o Feibl y Brenin Iago. O’r diwedd oeddwn i’n dysgu am y gwir Dduw, Jehofa. Gwnaeth y Brawd Gardner, oeddwn i’n ei alw’n Jim, astudio tair pennod o’r llyfr Truth efo fi y bore hwnnw. Bob bore dydd Iau o hynny ymlaen, wnaethon ni astudio tair pennod. Oeddwn i wrth fy modd gyda’r astudiaethau hynny. Dyna fraint oedd cael fy nysgu gan y brawd eneiniog hwnnw oedd wedi adnabod Charles T Russell yn bersonol!
Ar ôl ychydig wythnosau, ces i fy nghymeradwyo i fod yn gyhoeddwr y newyddion da. Ces i gymorth gan Jim i leddfu fy mhryderon, gan gynnwys yr her o bregethu o ddrws i ddrws. (Act. 20:20) Wrth i Jim weithio wrth fy ochr, des i i fwynhau’r gwaith pregethu. Dw i’n dal i ystyried y weinidogaeth fel fy mraint bennaf. Mae’n hyfryd o beth i fod yn gyd-weithiwr efo Duw!—1 Cor. 3:9.
FY NGHARIAD CYNTAF TUAG AT JEHOFA
Gad imi sôn wrthot ti am fater personol iawn—fy nghariad cyntaf tuag at Jehofa. (Dat. 2:4) Mae’r cariad hwnnw tuag at Jehofa wedi fy helpu i ymdopi ag atgofion poenus am y rhyfel a llawer o dreialon eraill.—Esei. 65:17.
Mae fy nghariad tuag at Jehofa wedi fy helpu i ddelio ag atgofion poenus o’r rhyfel a llawer o dreialon eraill
Mae diwrnod arbennig yng ngwanwyn 1971 yn dod i gof. Roeddwn i newydd gael fy hel allan o’r fflat lle oedd fy rhieni wedi gadael imi fyw. Doedd fy llystad ddim yn mynd i gael un o Dystion Jehofa yn byw yn ei eiddo! Doedd gen i ddim llawer o arian pryd hynny. Roedd yr ysbyty lle o’n i’n gweithio yn talu fy nghyflog bob pythefnos, ac oeddwn i newydd wario’r rhan fwyaf o fy siec ar ddillad smart er mwyn imi gynrychioli Jehofa yn iawn yn y weinidogaeth. Roedd gen i rywfaint o arian wrth gefn, ond roedd o mewn cyfrif banc ym Michigan, y dalaith lle ces i fy magu. Felly roedd rhaid imi fyw yn fy nghar am ychydig o ddyddiau. Byddwn i’n siafio ac ymolchi yng nghyfleusterau gorsafoedd petrol.
Un diwrnod tra oeddwn i’n byw yn fy nghar, cyrhaeddais Neuadd y Deyrnas gwpl o oriau cyn i’r grŵp gyfarfod ar gyfer y weinidogaeth. Roeddwn i newydd orffen fy shifft yn yr ysbyty. Wrth imi eistedd tu ôl i’r Neuadd allan o olwg pawb, dechreuodd atgofion Fietnam fy llethu. Daeth arogl cnawd dynol yn llosgi i’m ffroenau a golygfa o waed a darnau o gyrff i lygad fy meddwl. Mewn fflach, o’n i’n gallu clywed a gweld yn glir dynion ifanc yn crefu arna i, “Ydw i’n mynd i fyw? Ydw i’n mynd i fyw?” O’n i’n gwybod eu bod nhw ar fin marw, ond mi wnes i drio eu cysuro y gorau fedrwn i heb adael i fy wyneb ddatgelu’r gwir. Wrth imi eistedd yno daeth ton o emosiwn drosto i.
Dw i wedi gwneud fy ngorau, yn enwedig wrth fynd trwy dreialon ac anawsterau, i beidio byth â cholli fy nghariad cyntaf tuag at Jehofa
Gweddïais wrth i ddagrau llifeirio lawr fy ngruddiau. (Salm 56:8) Dechreuais feddwl o ddifri am obaith yr atgyfodiad. Yna wnaeth hi fy nharo i: Drwy gyfrwng yr atgyfodiad, bydd Jehofa Dduw yn dad-wneud pob cyflafan o’n i wedi ei weld, a’r holl boen emosiynol oeddwn i ac eraill wedi ei brofi. Bydd Duw yn dod â’r dynion ifanc hynny yn ôl o angau i fywyd, a byddan nhw’n cael y cyfle i ddysgu’r gwir amdano. (Act. 24:15) Y foment honno, roedd fy nghalon yn gorlifo â chariad tuag at Jehofa am ei fod wedi cyffwrdd â rhan ddyfnaf fy enaid. Hyd heddiw mae’r diwrnod hwnnw yn aros yn fy nghof. Ers hynny, dw i wedi gwneud fy ngorau, yn enwedig wrth fynd trwy dreialon ac anawsterau, i beidio byth â cholli fy nghariad cyntaf tuag at Jehofa.
MAE JEHOFA WEDI BOD YN HAEL IMI
Mewn rhyfeloedd, mae pobl yn gwneud pethau erchyll. Doeddwn i ddim yn eithriad. Ond dw i wedi cael fy helpu drwy fyfyrio ar ddwy o’m hoff adnodau. Y cyntaf yw Datguddiad 12:10, 11, sy’n dweud bod y Diafol wedi ei orchfygu nid yn unig drwy air ein tystiolaeth ond hefyd drwy waed yr Oen. Yr ail yw Galatiaid 2:20. O’r adnod honno, dw i’n gwybod bod Crist Iesu wedi marw “trosof fi.” Mae Jehofa yn edrych arna i trwy waed Iesu, ac mae ef wedi maddau imi am yr hyn dw i wedi ei wneud. Mae gwybod hyn wedi fy ngalluogi i gael cydwybod lân ac wedi fy nghymell i wneud popeth a alla i i helpu eraill ddod i adnabod y gwir am ein Duw trugarog, Jehofa!—Heb. 9:14.
Wrth imi edrych yn ôl ar fy mywyd, dw i’n gwerthfawrogi yn fawr fod Jehofa wastad wedi edrych ar fy ôl i. Er enghraifft, y diwrnod wnaeth Jim darganfod fy mod i’n byw yn fy nghar, wnaeth o roi manylion chwaer oedd yn berchennog gwesty imi. Dw i wir yn credu bod Jehofa wedi defnyddio Jim a’r chwaer annwyl honno i roi lle braf imi aros. Mae Jehofa mor ffeind! Mae o’n gofalu am ei addolwyr ffyddlon.
DYSGU BOD RHAID I SÊL A THACT FYND LAW YN LLAW
Ym mis Mai 1971, roedd rhaid imi fynd i Michigan i ofalu am ryw fater. Cyn gadael Cynulleidfa Delray Beach yn Fflorida, llenwais gist y car â llenyddiaeth, ac i ffwrdd â fi i’r gogledd ar Draffordd 75. Roedd y gist yn wag cyn imi adael Georgia, y dalaith nesaf. Pregethais newyddion da’r Deyrnas yn selog ym mhob math o lefydd; mewn carchardai a hyd yn oed efo dynion oedd newydd ddefnyddio’r cyfleusterau yn y gwasanaethau ar hyd y draffordd. Hyd heddiw, mi fydda i’n meddwl: ‘Tybed wnaeth unrhyw un o’r hadau wnes i blannu egino?’—1 Cor. 3:6, 7.
Ond, mae rhaid imi gyfaddef, pan ddysgais y gwir gyntaf, doedd gen i ddim llawer o dact, yn enwedig pan oeddwn i’n siarad efo fy nheulu. Oherwydd bod fy nghariad cyntaf tuag at Jehofa yn llosgi mor gryf yn fy nghalon, es i ati’n ddewr i bregethu iddyn nhw ond o’n i braidd yn ddiflewyn-ar-dafod. Dw i’n meddwl y byd o’m brodyr John a Ron, a wnes i hwrjio’r gwir arnyn nhw. Hwyrach ymlaen roedd rhaid imi ymddiheuro am fy ffordd ansensitif o gyflwyno’r neges. Ond, dw i ddim yn stopio gweddïo y byddan nhw’n derbyn y gwir ryw ddydd. Ers hynny, mae Jehofa wedi fy addysgu, a dw i nawr yn defnyddio mwy o dact wrth bregethu a dysgu.—Col. 4:6.
CARIAD AT ERAILL YN FY MYWYD
Tra bydda i bendant yn cofio fy nghariad tuag at Jehofa, fydda i ddim yn anghofio fy nghariad tuag at eraill yn fy mywyd. Fy nghariad nesaf yw fy ngwraig annwyl, Susan. O’n i’n awyddus i gael partner a fyddai’n fy helpu i gyflawni gwaith y Deyrnas. Mae Susan yn ddynes ysbrydol gref. Dw i’n cofio’n glir mynd i’w gweld hi un diwrnod pan oedden ni’n canlyn. Roedd Susan yn eistedd o flaen cartref ei rhieni yn Cranston, Rhode Island. Roedd hi’n darllen y Tŵr Gwylio ynghyd â’i Beibl. Yr hyn a greodd argraff arna i oedd bod hi’n darllen un o’r erthyglau atodol ac yn edrych i fyny’r adnodau. ‘Dyma ddynes ysbrydol!’ meddai fi wrth fy hun. Priodon ni yn Rhagfyr 1971, a dw i’n ddiolchgar ei bod hi wastad wedi bod wrth fy ochr yn fy nghefnogi. Yr hyn dw i’n gwerthfawrogi amdani yw tra bod hi’n fy ngharu i, mae hi’n caru Jehofa yn fwy.
Cafodd Susan a minnau ein bendithio â dau fab, Jesse a Paul. Wrth iddyn nhw dyfu i fyny roedd Jehofa gyda nhw. (1 Sam. 3:19) Am eu bod nhw wedi cymryd y gwir i’w calonnau, maen nhw’n dod ag anrhydedd i Susan a minnau. Maen nhw wedi parhau i wasanaethu Jehofa am eu bod nhw wedi cofio eu cariad cyntaf tuag ato. Mae’r ddau ohonyn nhw wedi bod mewn gwasanaeth llawn amser ers dros 20 mlynedd. Hefyd, dw i’n falch o’m dwy ferch yng nghyfraith, Stephanie a Racquel, maen nhw fel fy merched fy hun imi. Mae fy meibion wedi priodi merched ysbrydol sy’n caru Jehofa Dduw â’u holl galon ac enaid.—Eff. 6:6.
Ar ôl fy medydd, wnes i wasanaethu am 16 mlynedd yn Rhode Island, lle wnes i ffrindiau da. Mae gen i lawer o atgofion melys o weithio gyda henuriaid rhagorol. Yn ogystal â hynny, dw i’n ddiolchgar am arolygwyr teithiol sydd wedi bod yn ddylanwad da arna i, rhestr o ddynion sydd rhy niferus i’w henwi. Am fraint cael gweithio efo dynion sydd wedi cadw eu cariad cyntaf tuag at Jehofa! Ym 1987 symudon ni i Ogledd Carolina i wasanaethu lle oedd mwy o angen, ac yno wnaethon ni ffrindiau mynwesol hefyd. *
Yn Awst 2002, derbyniodd Susan a minnau wahoddiad i fod yn rhan o deulu Bethel Patterson yn yr Unol Daleithiau. Gweithiais i yn yr Adran Wasanaeth, a Susan yn y tŷ golchi. Roedd hi wrth ei bodd yn gweithio yno! Yna, yn Awst 2005, mi ges i’r fraint o wasanaethu fel aelod o’r Corff Llywodraethol. O’n i’n teimlo mor fach i gymharu â mawredd yr aseiniad. Roedd y syniad o’r cyfrifoldeb, y gwaith, a’r holl deithio jest yn ormod i fy ngwraig annwyl feddwl amdano ar y cychwyn. Dydy Susan erioed wedi teimlo’n gyfforddus am hedfan, ond ’dyn ni’n gwneud llawer o hedfan! Mae Susan yn dweud bod sylwadau caredig gwragedd aelodau eraill o’r Corff Llywodraethol wedi ei helpu hi fod yn benderfynol o fy nghefnogi i gymaint ag sy’n bosib. Mae hi’n bendant wedi gwneud hynny, a dw i’n ei charu hi am hynny.
O’m cwmpas i yn fy swyddfa mae ’na lawer o luniau sy’n golygu gymaint imi! Maen nhw’n fy atgoffa i o’r bywyd gwych dw i wedi ei fwynhau. Dw i wedi cael llawer o fendithion yn barod am wneud fy ngorau i gofio fy nghariad cyntaf tuag at Jehofa!
^ Par. 31 Mae manylion am wasanaeth llawn amser y Brawd Morris i’w cael ar dudalen 26 o rifyn Saesneg y Tŵr Gwylio Mawrth 15, 2006.