Neidio i'r cynnwys

Cadw Alcohol yn ei Le

Cadw Alcohol yn ei Le

Cadw Alcohol yn ei Le

ROEDD gan ddyn o’r enw Tony nifer o broblemau yn ei fywyd oherwydd nad oedd yn fodlon cyfaddef ei fod yn gaeth i alcohol. I bob golwg, roedd yn gallu yfed llawer heb unrhyw effeithiau amlwg, ac felly doedd Tony ddim yn meddwl bod ganddo broblem ag alcohol. Pam nad oedd yn gallu gweld pethau’n glir?

Y gwir oedd bod alcohol wedi dallu ei synhwyrau. Er nad oedd Tony wedi sylweddoli, roedd goryfed wedi cael effaith ar ei ymennydd ac roedd hynny yn ei gwneud hi’n anodd iddo feddwl yn glir am ei sefyllfa.

Rheswm arall dros feddylfryd Tony oedd ei awydd i ddal ati i oryfed. Roedd dyn o’r enw Allen hefyd yn gwrthod cyfaddef bod ganddo broblem ag alcohol. “Roeddwn i’n cuddio’r ffaith mod i’n yfed,” meddai, “a byddwn i’n gwneud esgusodion a cheisio gwneud yn fach o’r peth. Un bwriad oedd gen i​—a hynny oedd amddiffyn fy arfer.” Er bod eraill yn gallu gweld bod Tony ac Allen yn gaeth i alcohol, roedden nhw’n mynnu bod popeth yn iawn. Roedd yn rhaid i’r ddau gymryd y camau angenrheidiol i reoli eu harferion yfed. Ond pa gamau yw’r rhain?

Cymryd y Camau Angenrheidiol

Mae llawer sydd wedi stopio camddefnyddio alcohol wedi gwrando ar eiriau Iesu: “Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a’i thaflu i ffwrdd. Mae’n well i ti golli rhan fach o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.”​—Mathew 5:​29.

Wrth gwrs, doedd Iesu ddim yn awgrymu y dylen ni ein hanafu ein hunain. Roedd yn pwysleisio’r ffaith y dylen ni fod yn fodlon torri allan o’n bywydau unrhyw beth sy’n gallu ein niweidio’n ysbrydol. Gall hynny fod yn boenus iawn. Ond gall ein hamddiffyn ni rhag y meddyliau a’r sefyllfaoedd all arwain at gamddefnyddio alcohol. Felly os ydy eraill wedi dweud eu bod nhw’n poeni am faint rydych chi’n ei yfed, cymerwch gamau i’w rheoli. * Os yw’n amlwg nad ydych chi’n gallu rheoli faint rydych chi’n ei yfed, byddwch yn barod i stopio yfed yn gyfan gwbl. Er bod hynny yn boenus, mae’n llawer llai poenus na dinistrio eich bywyd.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n gaeth i alcohol, ydych chi’n tueddu i yfed gormod? Os felly, pa gamau ymarferol gallwch eu cymryd i gadw alcohol yn ei le?

Sut i Gael Help

1. Gweddïwch yn aml ac o’r galon. Mae’r Beibl yn cynnig y cyngor hwn i bawb sydd eisiau plesio Jehofa: “Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi​—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg​—yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.” (Philipiaid 4:​6, 7) Beth gallwch chi weddïo amdano er mwyn cael y tawelwch meddwl hwn?

Mae’n bwysig ichi gyfaddef yn onest bod gynnoch chi broblem ag alcohol, ac mai eich cyfrifoldeb chi yw gwneud y newidiadau angenrheidiol. Dywedwch wrth Jehofa beth hoffech chi ei wneud i oresgyn y broblem, ac fe fydd ef yn eich helpu. “Fydd y sawl sy’n cuddio’i feiau ddim yn llwyddo; yr un sy’n cyfaddef ac yn stopio gwneud pethau felly sy’n cael trugaredd.” (Diarhebion 28:13) Dywedodd Iesu y gallwn ni weddïo hefyd: “Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni’n cael ein profi, ac achub ni o afael y drwg.’” (Mathew 6:​13) Ond ar ôl ichi weddïo, beth ydy’r cam nesaf?

2. Derbyniwch nerth o Air Duw. “Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth mae’n ei ddweud . . . Mae’n barnu beth dŷn ni’n ei feddwl ac yn ei fwriadu.” (Hebreaid 4:​12) Mae llawer o bobl a oedd yn arfer goryfed wedi cael eu helpu’n fawr iawn drwy ddarllen a myfyrio ar y Beibl bob dydd. Dywedodd un Salmydd:“Mae’r un sy’n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg wedi ei fendithio’n fawr . . . yr un sydd wrth ei fodd yn gwneud beth mae’r ARGLWYDD eisiau, ac yn myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu ddydd a nos . . . Beth bynnag mae’n ei wneud, bydd yn llwyddo.”​—Salm 1:​1-3.

Roedd astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa yn rhoi’r nerth i Allen dorri’n rhydd o’i ddibyniaeth ar alcohol. Dywed ef: “Yn bendant, mae’r Beibl a’r egwyddorion ynddo wedi fy helpu i stopio yfed ac wedi achub fy mywyd.”

3. Ceisiwch feithrin hunanreolaeth. Mae’r Beibl yn dweud bod rhai yn y gynulleidfa Gristnogol a oedd yn arfer goryfed wedi cael eu glanhau gan yr ysbryd glân. (1 Corinthiaid 6:​9-​11) Sut felly? Yn gyntaf, fe wnaeth ysbryd glân Jehofa eu helpu nhw i feithrin hunanreolaeth a stopio yfed gormod. “Peidiwch meddwi ar win​—dyna sut mae difetha’ch bywyd. Yn lle hynny, gadewch i’r Ysbryd Glân eich llenwi a’ch rheoli chi.” (Effesiaid 5:​18; Galatiaid 5:​21-​23) Addawodd Iesu: “Mae’r Tad nefol yn siŵr o roi’r Ysbryd Glân i’r rhai sy’n gofyn iddo!” Felly, “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael.”​—Luc 11:​9, 13.

Mae’r rhai sydd eisiau addoli Jehofa yn gallu meithrin hunanreolaeth drwy ddarllen ac astudio’r Beibl a thrwy weddïo’n aml o’r galon. Yn hytrach na chael eich llethu gan ddigalondid, gadewch i’r addewid hwn yn y Beibl eich calonogi: “Bydd y rhai sy’n byw i blesio’r Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o’r Ysbryd. Felly dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati daw’r amser pan fyddwn ni’n medi cynhaeaf o fendith.”​—Galatiaid 6:​8, 9.

4. Dewiswch ffrindiau doeth. “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.” (Diarhebion 13:20) Dywedwch wrth eich ffrindiau eich bod chi’n benderfynol o reoli faint rydych chi’n ei yfed. Ond pan fyddwch chi’n rhoi’r gorau i ‘feddwi a slotian yfed mewn partïon gwyllt,’ mae Gair Duw yn rhybuddio y bydd rhai o’ch hen ffrindiau yn “meddwl ei bod yn rhyfedd iawn” ac yn “eich rhegi a’ch enllibio chi.” (1 Pedr 4:​3, 4) Byddwch yn barod i dorri cysylltiad ag unrhyw un sy’n tanseilio eich penderfyniad i reoli eich yfed.

5. Gosodwch derfynau penodol. “O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi’n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna’r peth iawn i’w wneud.” (Rhufeiniaid 12:​2) Er mwyn penderfynu faint y byddwch chi’n ei yfed, meddyliwch am beth mae’r Beibl yn ei ddweud yn lle dilyn cyngor eich ffrindiau a “phobl sydd ddim yn credu.” Wedyn byddwch chi’n hapusach a byddwch chi’n plesio Jehofa. Ond sut gallwch chi benderfynu faint y dylech chi ei yfed.

Os ydych chi’n yfed cymaint fel nad yw eich meddwl yn glir, mae hynny yn ormod i chi. Felly os ydych chi’n dewis yfed, ddylech chi ddim gosod terfyn mor uchel nes eich bod chi bron yn meddwi. Byddwch yn onest wrth benderfynu faint y byddwch chi’n ei yfed. Gosodwch derfyn penodol a diogel ac yna, peidiwch ag yfed mwy na hynny.

6. Dysgwch sut i ddweud na. “Dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na.’” (Mathew 5:37) Dysgwch sut i wrthod alcohol yn gwrtais. “Byddwch yn serchog wrth siarad â nhw . . . A gwnewch eich gorau i ateb cwestiynau pawb yn y ffordd iawn.”​—Colosiaid 4:6.

7. Ceisiwch help. Gofynnwch am help gan ffrindiau da a all gryfhau eich penderfyniad a rhoi help ysbrydol ichi. “‘Mae dau gyda’i gilydd yn well nag un.’ Wrth weithio gyda’i gilydd mae’r ddau berson ar eu hennill. Os bydd un yn syrthio, bydd y llall yn gallu ei helpu i godi.” (Pregethwr 4:​9, 10; Iago 5:​14, 16) Mae’r National Institute on Alcohol Abuse and Alcoholism yn yr Unol Daleithiau hefyd yn dweud: “Mae yfed llai yn gallu bod yn anodd. Gofynnwch i’ch teulu a’ch ffrindiau am gefnogaeth er mwyn ichi gyrraedd eich nod.”

8. Safwch yn gadarn. “Gwnewch beth mae Duw’n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo’ch hunain ydy peth felly! Ond mae’r un sy’n dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw sy’n ein gollwng ni’n rhydd yn wahanol. Dydy’r sawl sy’n gwneud hynny ddim yn anghofio beth mae wedi ei glywed; mae’n gwneud beth sydd ei angen. A bydd Duw yn bendithio popeth mae’n ei wneud!”​—Iago 1:​22, 25.

Torri’n Rhydd o Afael Alcohol

Nid yw pawb sy’n yfed alcohol yn troi’n alcoholigion. Ond mae rhai’n yfed cymaint, neu’n yfed mor aml, nes eu bod nhw’n dechrau dibynnu arno. Gall rhywun sydd yn gaeth i alcohol gael problemau iechyd os ydyn nhw’n stopio yfed alcohol yn syth. Felly, efallai bydd angen help meddyg arnyn nhw. “Pan oeddwn i’n ceisio rhoi’r gorau i alcohol,” meddai Allen, “roeddwn i’n cael poenau corfforol ofnadwy. Dyna pryd sylweddolais fod angen imi fynd at y meddyg yn ogystal ag astudio’r Beibl.”

Mae llawer o bobl sydd yn ceisio rhoi’r gorau i alcohol er mwyn plesio Jehofa hefyd angen cymorth meddygol. * Mae rhai angen meddyginiaeth neu driniaeth mewn ysbyty er mwyn ymdopi â’r symptomau diddyfnu, lleihau’r awydd am alcohol, a pheidio â llithro yn ôl. Dywedodd Iesu: “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy’n sâl.”​—Marc 2:​17.

Y Bendithion Sy’n Dod o Ufuddhau i Dduw

Mae cyngor y Beibl ar alcohol yn dod oddi wrth y gwir Dduw sydd eisiau inni fod yn hapus, heddiw ac am byth. Rhoddodd Allen y gorau i yfed 24 blynedd yn ôl, ac mae’n cofio: “Teimlad braf iawn oedd gwybod mod i’n gallu newid fy mywyd, a bod Jehofa eisiau fy helpu.” Mae’n stopio am funud ac yn ceisio dal ei ddagrau yn ôl wrth iddo gofio. “Mae’n anhygoel gwybod bod Jehofa yn fy neall i, yn gofalu amdana i, ac eisiau rhoi’r help dw i ei angen.”

Felly os ydych chi’n gaeth i alcohol, peidiwch â rhoi’r gorau i’r frwydr na cholli gobaith. Mae Allen a llawer o bobl eraill wedi bod yn yr un sefyllfa â chi, ac un ai wedi lleihau eu defnydd o alcohol neu roi’r gorau iddo yn gyfan gwbl. Nid ydyn nhw’n difaru dim, ac ni fyddwch chi chwaith.

P’un a ydych chi’n penderfynu yfed alcohol yn gymedrol neu ddim o gwbl, dyma anogaeth gariadus Duw: “O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion! Byddai dy heddwch yn llifo fel afon, a dy gyfiawnder fel tonnau’r môr.”​—Eseia 48:18.

[Troednodiadau]

^ Gweler y blwch “ Ydy Alcohol yn Cymryd Drosodd?

^ Mae nifer o ganolfannau ac ysbytai yn cynnig triniaeth sydd yn gallu helpu. Nid yw’r Tŵr Gwylio yn cymeradwyo unrhyw driniaeth benodol. Dylai pob unigolyn ystyried yr opsiynau sydd ar gael a gwneud penderfyniad personol yn unol â’r egwyddorion sydd yn y Beibl.

[Blwch/Llun]

 Ydy Alcohol yn Cymryd Drosodd?

Gallwch ofyn:

• Ydw i’n yfed mwy o alcohol nag o’r blaen?

• Ydw i’n yfed yn fwy aml nag o’r blaen?

• Ydw i’n yfed diodydd cryfach nag o’r blaen?

• Ydw i’n defnyddio alcohol er mwyn delio â straen neu i osgoi fy mhroblemau?

• Ydy ffrind neu aelod o’r teulu wedi dweud ei fod yn poeni am faint dw i’n ei yfed?

• Ydy yfed wedi achosi problemau imi yn y cartref, yn y gwaith, neu wrth deithio?

• Ydy hi’n anodd imi adael wythnos i fynd heibio heb yfed alcohol?

• Ydw i’n teimlo’n annifyr pan fydd eraill yn dewis peidio ag yfed?

• Ydw i’n cuddio faint o alcohol dw i’n ei yfed?

Os ydych chi wedi rhoi ateb cadarnhaol i un neu fwy o’r cwestiynau uchod, efallai bydd yn rhaid ichi gymryd camau i reoli eich arferion yfed.

[Blwch/Llun]

Gwneud Penderfyniadau Doeth Ynglŷn ag Alcohol

Cyn ichi yfed alcohol, ystyriwch:

Ydy’n ddoeth imi yfed alcohol?

Awgrym: Dylai rhywun sy’n cael hi’n anodd stopio yfed alcohol ar ôl dechrau peidio ag yfed o gwbl.

Faint dylwn i ei yfed?

Awgrym: Penderfynwch faint i’w yfed cyn i alcohol ddechrau effeithio ar eich meddwl.

Pryd bydda i’n yfed?

Awgrym: Peidiwch ag yfed cyn gyrru, gwneud pethau sy’n gofyn ichi ganolbwyntio, neu cyn ichi gymryd rhan mewn gweithgareddau crefyddol. Neu os ydych chi’n feichiog neu’n cymryd meddyginiaethau penodol.

Lle bydda i’n yfed?

Awgrym: Mewn awyrgylch addas. Nid yn gudd neu o flaen pobl a fydd yn cael eu baglu o ganlyniad i alcohol.

Yng nghwmni pwy y dylwn i yfed?

Awgrym: Yng nghwmni ffrindiau a theulu sy’n ddylanwad da arnoch chi; nid yng nghwmni’r rhai sydd â phroblem ag alcohol.

[Blwch/Llun]

Gair Duw yn Helpu Cyn-feddwyn

Roedd Supot, sy’n byw yng Ngwlad Thai, yn goryfed yn aml. I ddechrau, roedd yn yfed gyda’r nos, ond wedyn dechreuodd yfed yn y bore ac yna yn ystod amser cinio. Yn aml, roedd yn yfed jyst er mwyn meddwi. Ond yna, dechreuodd astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa a dysgodd fod Jehofa yn erbyn meddwi. Felly, stopiodd yfed. Ond ar ôl sbel, aeth yn ôl i’w hen arfer. Roedd ei deulu yn torri eu calonnau.

Serch hynny, roedd Supot yn dal i garu Jehofa ac eisiau ei addoli yn y ffordd gywir. Roedd ei ffrindiau yn dymuno ei helpu a chefnogi ei deulu i dreulio mwy o amser gydag ef a pheidio â throi eu cefnau arno. Bryd hynny, gwelodd Supot pa mor ddifrifol oedd ei sefyllfa ar ôl darllen 1 Corinthiaid 6:​9, 10 sy’n dweud nad oes lle i feddwon yn Nheyrnas Dduw. Sylweddolodd bod angen iddo newid.

Y tro hwn, roedd Supot yn benderfynol o stopio yfed yn gyfan gwbl. Yn y pen draw, gyda help ysbryd glân Duw, cyngor Gair Duw, a help gan ei deulu a’i gynulleidfa, cafodd y nerth i ddod dros ei awydd am alcohol. Roedd ei deulu wrth eu boddau pan gafodd ei fedyddio yn un o Dystion Jehofa. Nawr, mae gan Supot berthynas agos â Duw, rhywbeth a oedd wedi dyheu amdano, ac mae’n defnyddio ei amser i helpu eraill mewn ffordd ysbrydol.