Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gweddïo—A Fydd Duw yn Gwrando ac yn Ateb?

Gweddïo—A Fydd Duw yn Gwrando ac yn Ateb?

MAE llawer o bobl â diddordeb yn y cwestiwn hwn. Mae’r Beibl yn dangos bod Jehofa yn gwrando ar weddïau heddiw. Ond i raddau helaeth, mae hynny’n dibynnu arnon ni.

Roedd Iesu yn galw’r arweinwyr crefyddol yn ei amser ef yn rhagrithwyr oherwydd eu bod nhw’n gweddïo er mwyn i bobl feddwl eu bod nhw’n dduwiol. Dywedodd Iesu mai “dyna’r unig wobr” y byddai’r dynion hynny’n ei chael. Hynny yw, bydden nhw’n ennill ffafr dynion ond ni fyddai Duw yn gwrando arnyn nhw. (Mathew 6:5) Yn yr un modd heddiw, mae llawer yn gweddïo am eu dymuniadau eu hunain, heb boeni ryw lawer am beth mae Duw yn ei ddymuno. Os ydy pobl yn anwybyddu’r egwyddorion yn y Beibl, fydd Duw ddim yn gwrando ar eu gweddïau.

Ond beth amdanoch chi? A fydd Duw yn gwrando ar eich gweddïau chi a’u hateb? Nid yw’n dibynnu ar eich hil, eich cenedl, neu eich statws cymdeithasol. Mae’r Beibl yn dweud bod “Duw ddim yn dangos ffafriaeth! Mae’n derbyn pobl o bob gwlad sy’n ei addoli ac yn gwneud beth sy’n iawn.” (Actau 10:34, 35) Ai dyna beth rydych chi yn ei wneud? I addoli Duw, mae’n rhaid inni ei barchu a cheisio ei blesio. Byddwn ni’n gwneud beth sy’n iawn yng ngolwg Duw, yn hytrach na gosod ein safonau ni’n hunain neu ddilyn safonau pobl eraill. Ydych chi’n dymuno i Dduw wrando ar eich gweddïau? Mae’r Beibl yn dangos sut y gallwch weddïo a chael gwrandawiad.

Wrth gwrs, mae llawer yn gobeithio y bydd Duw yn ateb eu gweddïau drwy wneud gwyrthiau. Ond hyd yn oed yn amser y Beibl, roedd gwyrthiau yn bethau gweddol brin. Weithiau, roedd canrifoedd yn mynd heibio rhwng un wyrth a’r nesaf. Mae’r Beibl hefyd yn dangos y byddai gwyrthiau yn dod i ben ar ôl amser yr apostolion. (1 Corinthiaid 13:8-10) Ydy hynny’n golygu nad yw Duw yn ateb gweddïau heddiw? Dim o gwbl! Ystyriwch rhai gweddïau y mae Duw yn eu hateb.

Mae Duw yn rhoi doethineb. Mae doethineb go iawn yn dod oddi wrth Jehofa. Mae’n ei roi yn hael i’r rhai sy’n gofyn amdano ac sydd eisiau ei roi ar waith yn eu bywydau.—Iago 1:5.

Mae Duw yn rhoi’r ysbryd glân a’i holl fendithion. Yr ysbryd glân yw grym gweithredol Duw, y grym cryfaf sy’n bod. Y mae’n rhoi nerth inni ymdopi â phroblemau. Mae’n rhoi tawelwch meddwl inni pan fyddwn ni o dan straen. Mae’n gallu ein helpu ni i feithrin rhinweddau hyfryd. (Galatiaid 5:22, 23) Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr fod Duw yn rhoi’r ysbryd glân yn hael.—Luc 11:13.

Mae Duw yn rhoi dealltwriaeth i’r rhai sy’n ei geisio. (Actau 17:26, 27) Ledled y byd, y mae pobl ddiffuant yn chwilio am y gwirionedd. Maen nhw eisiau gwybod am Dduw, am ei enw, am ei fwriad ar gyfer y ddaear a’r ddynolryw, ac am sut y gallen nhw glosio ato. (Iago 4:8) Mae Tystion Jehofa yn cwrdd â llawer o bobl sy’n teimlo fel hyn, ac maen nhw’n hapus iawn i rannu’r atebion yn y Beibl.

Ai dyna pam rydych chi’n darllen y cylchgrawn hwn? Ydych chi’n chwilio am Dduw? Efallai dyma’r ffordd y mae Duw yn ateb eich gweddïau.