Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Eden—Ai Hwn Oedd Cartref Gwreiddiol Dynolryw?

Eden—Ai Hwn Oedd Cartref Gwreiddiol Dynolryw?

Eden—Ai Hwn Oedd Cartref Gwreiddiol Dynolryw?

DYCHMYGWCH eich hun mewn gardd. Does ’na ddim byd i darfu ar yr heddwch, dim sŵn traffig na phrysurdeb y ddinas i’w glywed yn unman. Mae’r ardd hon yn enfawr, ac yn gwbl heddychlon. Ac yn well byth, does ’na ddim byd i boeni eich meddwl, mae’ch corff yn holliach, dim problemau alergedd na phoen. Mae’ch synhwyrau yn rhydd i gymryd mewn popeth o’ch cwmpas.

Mae lliwiau llachar y blodau yn wledd i’r llygaid. Rydych chi’n sylwi ar belydrau’r haul yn pefrio ar wyneb y nant. Yna gwelwch wyrddni dail y coed a glaswellt y maes, yn amrywio yng ngolau’r haul ac yn y cysgod. Rydych yn teimlo awel fwyn ar eich croen, mae persawr melys y blodau ar y gwynt. Rydych yn clywed siffrwd y dail, a sŵn y dŵr yn rhaeadru dros y creigiau, caneuon yr adar yn y coed, a si’r gwenyn wrth eu gwaith. Wrth ichi ddychmygu’r olygfa, onid ydych chi’n dyheu i fod yn y fath le?

O gwmpas y byd mae pobl yn credu mai mewn lle fel hyn y cafodd dynolryw ei ddechreuad. Ers canrifoedd, mae Iddewon, Cristnogion, a Mwslemiaid wedi dysgu am ardd Eden, lle rhoddodd Duw Adda ac Efa i fyw. Yn ôl y Beibl, roedd eu bywyd yn hapus a heddychlon. Roedden nhw’n byw mewn heddwch gyda’i gilydd, gyda’r anifeiliaid, a chyda Duw. Roedd ef, allan o’i gariad, wedi rhoi’r gobaith o fyw am byth yn y lle hyfryd hwnnw.—Genesis 2:15-24.

Mae gan Hindŵiaid hefyd eu syniadau eu hunain am baradwys yn yr amser a fu. Mae Bwdhyddion yn credu bod arweinwyr mawr ysbrydol, neu Bwdhas, yn codi yn y fath oesoedd euraidd pan fydd y ddaear fel paradwys. Ac mae llawer o grefyddau yn Affrica yn dysgu straeon sydd yn debyg iawn i hanes Adda ac Efa.

Y ffaith yw, mae’r syniad o baradwys gynnar yn bresennol mewn llawer o grefyddau a thraddodiadau dynolryw. Dywedodd un awdur: “Roedd sawl gwareiddiad yn credu bod ’na baradwys yn gynnar iawn mewn hanes y byd; un a oedd yn adnabyddus am berffeithrwydd, rhyddid, heddwch, hapusrwydd, digonedd, ac absenoldeb pob straen, tensiwn, a brwydro. . . . Achosodd y gred hon i bobl ddyheu am y baradwys a gollwyd a cheisio’n daer i gael ffordd o’i adennill.”

Ydy hi’n bosib fod yr holl hanesion a thraddodiadau wedi tarddu o’r un gwreiddyn? Ydy hi’n bosib fod cof dynoliaeth yn gyffredinol wedi cael ei ddylanwadu gan gof o rywbeth oedd yn bodoli go iawn? Ydy hi’n wir fod ’na ardd Eden wedi bod yn y gorffennol pell, a chwpl go iawn o’r enw Adda ac Efa?

Mae pobl sgeptig yn wfftio at y syniad. Yn yr oes wyddonol hon mae llawer yn cymryd bod y fath hanesion dim ond yn chwedlau. Er mawr syndod dydy pob sgeptig ddim yn ddigrefydd. Mae llawer o arweinwyr crefyddol yn hyrwyddo’r syniad nad oedd gardd Eden yn bod. Maen nhw’n dweud nad oedd erioed y fath le. Maen nhw’n dweud bod yr hanes yn cyfeirio at ryw wlad hud a lledrith, at ryw ystyr trosiadol, neu ei fod yn chwedl neu’n ddameg.

Wrth gwrs, mae ’na ddamhegion yn y Beibl. Mi wnaeth Iesu ei hun sôn am yr un mwyaf enwog ohonyn nhw. Ond y gwir plaen amdani yw fod y Beibl yn cyflwyno hanes Eden, nid fel dameg, ond fel hanes. Os nad oedd y Baradwys yn bodoli, sut gallwn ni drystio gweddill y Beibl? Gadewch inni ystyried pam mae rhai yn amau bodolaeth gardd Eden a gweld a ydy eu rhesymau yn ddilys? Wedyn gwnawn ni ystyried pam dylai pob un ohonon ni gymryd yr hanes o ddifri.