Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Proffwydoliaeth 1. Daeargrynfeydd

Proffwydoliaeth 1. Daeargrynfeydd

Proffwydoliaeth 1. Daeargrynfeydd

“Bydd daeargrynfeydd mawr.”—LUC 21:11.

● Mae Winnie, sy’n 16 mis oed, yn cael ei thynnu o’r rwbel yn Haiti. Roedd criw teledu, a oedd yn rhoi adroddiad ar y trychineb, wedi clywed ei chri gwan. Mae hi wedi goroesi’r daeargryn, ond dydy ei rhieni ddim.

BETH MAE’R FFEITHIAU YN EI DDANGOS? Pan darodd daeargryn maint 7.0 Haiti ym mis Ionawr 2010, cafodd mwy na 300,000 o bobl eu lladd. Cafodd 1.3 miliwn ychwanegol eu gwneud yn ddigartref mewn eiliad. Er ei fod yn ddifrifol ofnadwy, nid oedd daeargryn Haiti yn unigryw. Digwyddodd o leiaf 18 daeargryn mawr ledled y byd rhwng Ebrill 2009 ac Ebrill 2010.

BETH MAE RHAI POBL YN EI DDWEUD? Dydy daeargrynfeydd ddim yn digwydd yn amlach; oherwydd technoleg fodern, rydyn ni’n fwy ymwybodol ohonyn nhw nawr nag oedd pobl yn y gorffennol.

YDY HYNNY’N WIR? Ystyriwch hyn: Dydy’r Beibl ddim yn dweud faint o ddaeargrynfeydd byddai’n digwydd yn ystod y dyddiau diwethaf. Y cwbl mae’n dweud yw y bydd “daeargrynfeydd mawr” yn digwydd “mewn gwahanol leoedd.” Mae hyn yn ei gwneud hi’n hollol amlwg ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf.—Marc 13:8; Luc 21:11.

BETH RYDYCH CHI’N EI FEDDWL? Ydyn ni’n gweld daeargrynfeydd mawr yn union fel rhagfynegodd y Beibl?

Efallai nad ydy daeargrynfeydd yn unig yn ddigon o dystiolaeth ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf. Ond eto, dim ond un broffwydoliaeth sy’n cael ei chyflawni yw hon. Gadewch inni weld ail un.

[Broliant]

Mae daeargrynfeydd mawr wedi achosi dioddefaint ofnadwy.

[Llinell Gydnabod Llun]

© William Daniels/Panos Pictures