Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Proffwydoliaeth 4. Diffyg Cariad Naturiol

Proffwydoliaeth 4. Diffyg Cariad Naturiol

Proffwydoliaeth 4. Diffyg Cariad Naturiol

“Bydd pobl . . . yn ddiserch.”—2 TIMOTHEUS 3:1-3.

● Mae Chris yn gweithio i grŵp cymorth trais yn y cartref yng Ngogledd Cymru. “Dw i’n cofio un ddynes yn dod i mewn a oedd wedi cael ei churo mor ddrwg doeddwn i ddim yn ei hadnabod hi ers y tro diwethaf imi ei gweld hi,” meddai Chris. “Mae merched eraill wedi eu chwalu gymaint yn emosiynol, dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gallu edrych arnat ti.”

BETH MAE’R FFEITHIAU YN EI DDANGOS? Mewn un wlad yn Affrica, mae tua 1 o bob 3 dynes wedi cael ei cham-drin yn rhywiol pan oedd hi’n blentyn. Yn ôl un arolwg yn y wlad honno, roedd mwy na thraean o’r dynion yn teimlo ei bod yn dderbyniol i guro eu gwragedd. Ond, nid merched yw’r unig rai sy’n dioddef trais yn y cartref. Er enghraifft, yng Nghanada, mae bron 3 o bob 10 o ddynion wedi cael eu curo neu’u cam-drin gan eu partneriaid.

BETH MAE POBL YN EI DDWEUD? Mae trais yn y cartref wastad wedi digwydd. Ond mae’n cael mwy o sylw heddiw nag yr oedd yn y gorffennol.

YDY HYNNY’N WIR? Mae ymwybyddiaeth o drais yn y cartref wedi cynyddu dros y degawdau diwethaf. Ond ydy gwell ymwybyddiaeth o’r broblem wedi lleihau nifer yr achosion o drais yn y cartref? Nac ydy, dydy hynny ddim wedi digwydd. Mae diffyg cariad naturiol yn fwy cyffredin nag erioed.

BETH RYDYCH CHI’N EI FEDDWL? Ydy 2 Timotheus 3:1-3 yn cael ei chyflawni? Ydy llawer yn brin o’r cariad tuag at eu teuluoedd a ddylai dod yn naturiol?

Mae’r bumed broffwydoliaeth sy’n cael ei chyflawni nawr yn ymwneud â’n cartref, y ddaear. Ystyriwch yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am y pwnc.

[Broliant]

“Yn bur anaml bydd pobl yn dweud wrth yr heddlu eu bod nhw’n cael eu cam-drin. Ar gyfartaledd, bydd dynes yn cael ei cham-drin 35 o weithiau gan ei phartner cyn cysylltu â’r heddlu.”—LLEFARYDDES AR GYFER LLINELL GYMORTH CAM-DRIN DOMESTIG CYMRU.