Arhoswch yn Fy Ngair
Arhoswch yn Fy Ngair
“Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych mewn gwirionedd yn ddisgyblion i mi. Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau.”—IOAN 8:31, 32, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.
Beth Mae’n Ei Olygu: Mae “gair” Iesu yn golygu ei ddysgeidiaethau a ddaeth o ffynhonnell uwch. “Y Tad sydd wedi fy anfon i sydd wedi dweud wrtho i beth i’w ddweud, a sut i’w ddweud,” meddai Iesu. (Ioan 12:49) Mewn gweddi i’w nefol Dad, Jehofa Dduw, dywedodd Iesu: “Dy air di yw’r gwirionedd.” Mi ddyfynnodd Air Duw yn aml i gefnogi ei neges. (Ioan 17:17, BCND; Mathew 4:4, 7, 10) Felly, mae gwir Gristnogion yn ‘aros yn ei air’—hynny yw, maen nhw’n derbyn Gair Duw, y Beibl, yn “wirionedd” a’r awdurdod uchaf ar gyfer eu daliadau a’u harferion.
Sut Gwnaeth y Cristnogion Cynnar Ateb y Gofynion: Yr awdur mwyaf toreithiog o’r Ysgrythurau Cristnogol oedd yr apostol Paul. Roedd ef yn rhannu’r un parch a oedd gan Iesu at Air Duw. Ysgrifennodd: “Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol.” (2 Timotheus 3:16, BCND) Roedd dynion a oedd wedi eu hapwyntio i ddysgu ei gyd-Gristnogion yn gorfod “dal yn dynn wrth y gair ffyddlon.” (Titus 1:7, 9, Cyfieithiad Newydd y Brifysgol) Cafodd Cristnogion cynnar ei siarsio i wrthod “syniadau sy’n ddim byd ond nonsens gwag—syniadau sy’n dilyn traddodiadau dynol a’r dylanwadau drwg sy’n rheoli’r byd yma, yn lle dibynnu ar y Meseia.”—Colosiaid 2:8.
Pwy Sy’n Ffitio’r Patrwm Heddiw?: Yn ôl Dogmatic Constitution on Divine Revelation y Fatican, sef y cyfansoddiad athrawiaethol ar ddatguddiad dwyfol, a dderbyniwyd ym 1965 ac a ddyfynnwyd yng nghatecism yr Eglwys Gatholig: “Nid o’r Ysgrythur Sanctaidd yn unig y mae’r Eglwys [Gatholig] yn sylfaenu ei sicrwydd ynglŷn â phopeth sydd wedi cael ei ddatgelu. Felly mae traddodiad sanctaidd a’r Ysgrythur Sanctaidd fel ei gilydd i’w derbyn a’u hanrhydeddu gyda’r un teyrngarwch a pharch.” Mae erthygl yng nghylchgrawn Maclean’s yn dyfynnu gweinidog yn Toronto, Canada, a ofynnodd: “Pam ydyn ni angen llais ‘chwyldroadol’ o ddwy fil o flynyddoedd yn ôl i’n harwain ni? Mae gynnon ni syniadau gwych ein hunain, sy’n cael eu gwanhau o hyd drwy orfod cysylltu nhw â Iesu a’r Ysgrythur.”
Wrth gyfeirio at Dystion Jehofa, mae’r New Catholic Encyclopedia yn dweud: “Maen nhw’n ystyried y Beibl fel eu hunig ffynhonnell o gred a rheol ymddygiad.” Yn ddiweddar, gwnaeth dyn yng Nghanada dorri ar draws un o Dystion Jehofa wrth iddi gyflwyno ei hun. “Dw i’n gwybod pwy ’dych chi,” meddai, gan bwyntio at ei Beibl, “oherwydd eich cerdyn adnabod.”