Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Bydd y Newyddion Da am Deyrnasiad Duw yn Cael Ei Gyhoeddi”

“Bydd y Newyddion Da am Deyrnasiad Duw yn Cael Ei Gyhoeddi”

“Bydd y Newyddion Da am Deyrnasiad Duw yn Cael Ei Gyhoeddi”

“Bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.”—MATHEW 24:14.

Beth Mae’n Ei Olygu: Ysgrifennodd Luc yr Efengylwr fod “Iesu’n teithio o gwmpas y trefi a’r pentrefi yn cyhoeddi’r newyddion da am Dduw yn teyrnasu.” (Luc 8:1) Dywedodd Iesu ei hun: “Rhaid i mi gyhoeddi’r newyddion da am Dduw yn teyrnasu . . . Dyna pam dw i wedi cael fy anfon yma.” (Luc 4:43) Anfonodd ei ddisgyblion i bregethu’r newyddion da yn y trefi a’r pentrefi ac yn hwyrach ymlaen gorchmynnodd: “Byddwch yn dystion i mi . . . hyd eithaf y ddaear.”—Actau 1:8, BCND; Luc 10:1.

Sut Gwnaeth y Cristnogion Cynnar Ateb y Gofynion: Roedd disgyblion Iesu yn gyflym i roi ar waith yr hyn a orchmynnodd Iesu. “A phob dydd yn y Deml ac o dŷ i dŷ ni pheidient â dysgu a chyhoeddi’r efengyl am y Crist, Iesu.” (Actau 5:42, Cyfieithiad Newydd y Brifysgol) Roedd pawb yn y gynulleidfa yn pregethu, nid grŵp bach arbennig yn unig. Nododd yr hanesydd Neander fod “Celsus, yr ysgrifennwr cyntaf yn erbyn Cristnogaeth, wedi gwawdio’r ffaith mai gweithwyr gwlân, cobleriaid, gweithwyr lledr, y rhai mwyaf diaddysg a chyffredin ymhlith y ddynoliaeth, oedd y rhai oedd yn bregethwyr selog yr Efengyl.” Yn ei lyfr The Early Centuries of the Church, ysgrifennodd Jean Bernardi: “Roedd disgwyl i [Gristnogion] fynd allan i siarad ym mhobman ac i bawb. Ar y ffyrdd ac yn y dinasoedd, ar y sgwariau cyhoeddus, ac yn y cartrefi. Croeso neu beidio . . . roedd rhaid iddyn nhw bregethu hyd gyrion y ddaear.”

Pwy Sy’n Ffitio’r Patrwm Heddiw? Ysgrifennodd yr offeiriad Anglicanaidd David Watson, “Mae methiant yr eglwys i gymryd y gwaith pregethu o ddifri, yn un rheswm dros y diffyg diddordeb yng ngwasanaethu Duw heddiw.” Wrth ddisgrifio gweithgareddau Efengylwyr, Adfentyddion, ac eraill dywedodd José Luis Pérez Guadalupe yn ei lyfr Why Are the Catholics Leaving? “Dydyn nhw ddim yn mynd o dŷ i dŷ.” Ond ynglŷn â Thystion Jehofa ysgrifennodd: “Maen nhw’n mynd o dŷ i dŷ mewn ffordd drefnus.”

Cawn sylw diddorol a realistig gan Jonathan Turley yn Cato Supreme Court Review, 2001-2002: “Dywedwch yr enw Tystion Jehofa, a bydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl yn syth am bregethwyr yn ymweld â chartrefi ar adegau anghyfleus. I Dystion Jehofa, nid mater syml o hybu eu ffydd yw cenhadu o ddrws i ddrws, ond mae’n rhan hanfodol o’u ffydd.”

[Blwch]

Pwy Sy’n Arfer Gwir Gristnogaeth Heddiw?

Yn ôl y meini prawf Ysgrythurol a gafodd eu trafod yn y gyfres hon, pwy ydych chi’n meddwl sy’n arfer gwir Gristnogaeth heddiw? Er bod ’na ddegau o grwpiau ac enwadau sy’n honni bod yn Gristnogion, cofiwch beth ddywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr: “Fydd pawb sy’n fy ngalw i’n ‘Arglwydd’ ddim yn cael dod dan deyrnasiad yr Un nefol, dim ond y bobl hynny sy’n gwneud beth mae fy Nhad yn y nefoedd yn ei ofyn.” (Mathew 7:21) Mae adnabod y rhai sy’n gwneud ewyllys y Tad—sef y rhai sy’n arfer gwir Gristnogaeth—ac yn cymdeithasu efo nhw yn gallu arwain at fendithion tragwyddol o dan Deyrnas Dduw. Rydyn ni’n eich gwahodd i ofyn i Dystion Jehofa, am fwy o wybodaeth am Deyrnas Dduw a’r bendithion a ddaw o dan y Deyrnas honno.—Luc 4:43.