Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Carwch Eich Gilydd”

“Carwch Eich Gilydd”

“Carwch Eich Gilydd”

“Dw i’n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu’ch gilydd yn union fel dw i wedi’ch caru chi. Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.”—IOAN 13:34, 35.

Beth Mae’n Ei Olygu: Rhoddodd Crist orchymyn i’w ddilynwyr i garu ei gilydd yn yr un modd ag yr oedd ef wedi eu caru nhw. Sut roedd Iesu yn eu caru? Roedd ei gariad y tu hwnt i ragfarn yn erbyn hiliau eraill ac yn erbyn menywod, a oedd yn gyffredin ar y pryd. (Ioan 4:7-10) Cariad a ysgogodd Iesu i aberthu ei amser a’i egni er mwyn helpu eraill. (Marc 6:30-34) Yn y pen draw, dangosodd Iesu ei gariad yn y ffordd fwyaf posib. “Fi ydy’r bugail da,” meddai. “Mae’r bugail da yn fodlon marw dros y defaid.”—Ioan 10:11.

Sut Gwnaeth Cristnogion Cynnar Ateb y Gofynion: Yn y ganrif gyntaf, roedd Cristnogion yn cyfeirio at ei gilydd fel “brawd” neu “chwaer.” (Philemon 1, 2) Cafodd pobl o bob cenedl eu croesawu i’r gynulleidfa Gristnogol, am eu bod yn credu nad oedd “dim gwahaniaeth rhwng Iddewon a Groegiaid. Yr un Arglwydd sydd i bawb” (Rhufeiniaid 10:11, 12, BCND) Ar ôl Pentecost 33 OG, roedd y disgyblion yn Jerwsalem yn “gwerthu eu heiddo er mwyn gallu helpu pwy bynnag oedd mewn angen.” (Actau 2:41-45) Beth oedd yn eu cymell nhw i wneud hynny? Lai na 200 mlynedd ar ôl marwolaeth yr apostolion, dyfynnodd Tertwlian yr hyn ddywedodd eraill am y Cristnogion: “Gymaint maen nhw’n caru ei gilydd . . . A chymaint maen nhw’n barod hyd yn oed i farw dros ei gilydd.”

Pwy Sy’n Ffitio’r Patrwm Heddiw? Yn ôl y llyfr The History of the Decline and Fall of the Roman Empire (1837) mae’r rhai sydd wedi proffesu Cristnogaeth dros y canrifoedd “wedi achosi mwy o greulondeb ar ei gilydd, nag y wnaethon nhw ddioddef drwy sêl anghredinwyr.” Gwnaeth astudiaeth ddiweddar yn yr Unol Daleithiau gael hyd i gysylltiad cryf rhwng pobl grefyddol—Cristnogion rhan fwyaf—a rhagfarn hiliol. Yn aml does gan y rhai sy’n mynd i’r eglwys mewn un wlad ddim byd i wneud â’r rhai o’r un enwad mewn gwlad arall ac felly maen nhw’n methu helpu, neu’n llai tueddol o helpu, eu cyd-gredinwyr pan fydd yr angen yn codi.

Yn 2004, ar ôl i Fflorida gael ei tharo gan bedwar corwynt mewn dau fis, penderfynodd cadeirydd Pwyllgor Rheoli Argyfwng Fflorida fynd o gwmpas i wneud yn siŵr fod eu nwyddau yn cael eu defnyddio yn y ffordd iawn. Dywedodd nad oedd unrhyw grŵp arall mor drefnus â Thystion Jehofa, ac mi gynigiodd roi unrhyw nwyddau oedd y Tystion eu hangen. Yn gynt, ym 1997, teithiodd un o dimau cymorth trychineb y Tystion i Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo, gyda meddyginiaeth, bwyd, a dillad i helpu eu brodyr Cristnogol ac eraill mewn angen. Roedd eu brodyr, Tystion yn Ewrop, wedi cyfrannu nwyddau gwerth dros £700,000.