Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dim yn Perthyn i’r Byd

Dim yn Perthyn i’r Byd

Dim yn Perthyn i’r Byd

“Mae’r byd wedi eu casáu nhw, am eu bod nhw ddim yn perthyn i’r byd.”—IOAN 17:14.

Beth Mae’n Ei Olygu: Gan nad oedd yn rhan o’r byd, roedd Iesu yn niwtral mewn materion cymdeithasol a gwleidyddol y dydd. Fe ddywedodd, “Dydy nheyrnas i ddim yn dod o’r byd yma. Petai hi, byddai fy ngweision wedi ymladd yn galed i’m cadw i rhag cael fy arestio gan yr awdurdodau Iddewig. Mae fy nheyrnas i yn dod o rywle arall.” (Ioan 18:36) Hefyd, anogodd ei ddilynwyr i wrthod agweddau, iaith, ac ymddygiad oedd yn cael eu condemnio yng Ngair Duw.—Mathew 20:25-27.

Sut Gwnaeth y Cristnogion Cynnar Ateb y Gofynion: Yn ôl yr awdur llyfrau crefyddol Jonathan Dymond, roedd y Cristnogion cynnar yn “gwrthod cymryd rhan mewn [rhyfel]; ni waeth beth oedd y canlyniadau, p’un ai sarhad, neu garchar, neu farwolaeth.” Eu dewis oedd dioddef yn hytrach na chyfaddawdu eu safiad niwtral. Roedd eu safonau moesol yn eu gosod ar wahân i eraill. Dywedwyd wrth Gristnogion: “Maen nhw bellach yn meddwl ei bod yn rhyfedd iawn eich bod chi ddim yn dal i ymuno gyda nhw nac yn cael eich cario gyda’r llif i’r math yna o fywyd ofer. Felly maen nhw’n eich rhegi a’ch enllibio chi.” (1 Pedr 4:4) Ysgrifennodd yr hanesydd Will Durant fod Cristnogion “yn poeni’r plesergarwyr paganaidd gyda’u duwioldeb a’u hymddygiad parchus.”

Pwy Sydd yn Ffitio’r Patrwm Heddiw? Wrth gyfeirio at niwtraliaeth Gristnogol, mae’r New Catholic Encyclopedia yn dweud: “Mae gwrthwynebiad cydwybodol yn safiad moesol na ellir ei amddiffyn.” Yn ôl erthygl y Reformierte Presse ar adroddiad y mudiad hawliau dynol, African Rights, am yr hil-laddiad yn Rwanda ym 1994, roedd pob eglwys wedi cymryd rhan, “ac eithrio Tystion Jehofa.”

Wrth drafod yr Holocost Natsïaidd, mynegodd athro ysgol uwchradd ei siom nad oedd “unrhyw grŵp na chyfundrefn o bobl gyffredin wedi codi eu lleisiau yn erbyn y llwyth o gelwyddau, y creulondeb, a’r erchyllterau a ddaeth yn y pen draw.” Ar ôl gysylltu â’r United States Holocaust Memorial Museum, ysgrifennodd: “Nawr roedd gen i’r ateb.” Dysgodd fod Tystion Jehofa wedi sefyll yn gadarn yn eu ffydd er gwaethaf cael eu trin yn greulon.

Beth am eu safonau moesol? Yn ôl y cylchgrawn U.S. Catholic “Mae’r mwyafrif o Gatholigion ifanc yn anghytuno â dysgeidiaethau’r eglwys ar faterion fel byw gyda’ch gilydd [a] rhyw cyn priodi.” Mae’r cylchgrawn yn dyfynnu un o ddiaconiaid yr eglwys, a dywedodd: “Mae canran mawr o’r rhai sy’n dod ataf i briodi—llawer mwy na hanner byddwn i’n dweud—yn byw gyda’i gilydd yn barod.” Mae’r New Encyclopædia Britannica yn gwneud y sylw fod Tystion Jehofa “yn mynnu safon uchel o foesau yn eu hymddygiad personol.”