Daethon Nhw o Hyd i Rywbeth Gwell
Daethon Nhw o Hyd i Rywbeth Gwell
MAE miliynau o Gristnogion yn dewis peidio â dathlu’r Nadolig. Sut maen nhw’n teimlo am eu penderfyniad? Ydyn nhw’n teimlo bod rhywbeth ar goll yn eu bywydau? Sut mae eu plant yn teimlo? Ystyriwch sylwadau Tystion Jehofa ar draws y byd.
● Cofio Iesu Grist: “Cyn imi ddod yn un o Dystion Jehofa, bur anaml o’n i’n mynd i’r eglwys, dim ond i ddathlu’r Nadolig a’r Pasg. Ond nid oeddwn i’n meddwl am Iesu Grist o gwbl. Bellach, dydw i ddim yn dathlu’r Nadolig ond dw i’n mynd i gyfarfodydd Cristnogol dwywaith yr wythnos a hyd yn oed yn dysgu eraill am Iesu!”—EVE, AWSTRALIA.
● Y llawenydd sy’n dod o roi: “Dw i’n hapus iawn pan fydda i’n derbyn anrheg gan rywun yn annisgwyl. Dw i wrth fy modd yn cael syrpréis! Dw i hefyd yn hoff iawn o greu cardiau a pheintio lluniau i bobl oherwydd mae’n codi eu calonnau ac yn gwneud i mi deimlo’n hapus hefyd.”—REUBEN, GOGLEDD IWERDDON.
● Helpu’r rhai mewn angen: “Rydyn ni’n mwynhau paratoi bwyd i bobl sy’n sâl. Weithiau bydden ni’n mynd â blodau, cacen, neu anrheg fach iddyn nhw er mwyn codi eu calonnau. Rydyn ni’n mwynhau hyn oherwydd gallwn ni fynd i weld y bobl yma unrhyw adeg o’r flwyddyn.”—EMILY, AWSTRALIA.
● Dod â’r teulu at ei gilydd: “Pan fydd ein teulu yn dod at ei gilydd, mae ein plant yn gallu dod i adnabod eu perthnasau yn well wrth ymlacio. Oherwydd dydyn ni ddim yn gorfod gwneud hyn ar ddyddiadau penodol, dydyn ni ddim yn teimlo o dan bwysau, ac mae ein teulu yn gwybod ein bod ni’n ymweld â nhw oherwydd rydyn ni’n eu caru.—WENDY, YNYSOEDD CAIMAN.
● Heddwch: “Yn ystod y Nadolig, mae pobl mor brysur fel nad oes ganddyn nhw amser i feddwl am heddwch. Mae gwybod beth mae’r Beibl yn ei addo ar gyfer y ddynoliaeth yn rhoi heddwch meddwl imi. Dw i’n gwybod bod dyfodol hapus yn bosib i fy mhlant.”—SANDRA, SBAEN.