Neidio i'r cynnwys

Atebion i Gwestiynau am y Beibl

Atebion i Gwestiynau am y Beibl

A all ein pechodau gael eu maddau?

Dydy hi ddim yn rhy anodd i blesio Duw

Yn ôl y Beibl, mae pob person yn bechadur. Mi wnaethon ni etifeddu’r tueddiad i bechu gan y dyn cyntaf, Adda. Felly, ar adegau byddwn ni’n gwneud pethau drwg ac yn difaru wedyn. Talodd Mab Duw, Iesu Grist, am ein pechodau drwy farw droston ni. Mi wnaeth ei aberth pridwerthol wneud maddeuant yn bosib. Mae’n rhodd gan Dduw.—Darllenwch Rhufeiniaid 3:23, 24.

Mae rhai pobl wedi pechu’n ddifrifol ac yn cwestiynu os yw Duw yn gallu maddau iddyn nhw. Yn ffodus, mae Gair Duw yn dweud: “Mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod.” (1 Ioan 1:7) Mae Jehofa yn barod i faddau hyd yn oed pechodau difrifol os bydd ein hagwedd yn wir edifeiriol.—Darllenwch Eseia 1:18.

Beth sydd rhaid inni wneud i gael ein maddau?

Os ydyn ni eisiau maddeuant gan Jehofa Dduw, mae’n rhaid inni ddysgu amdano—deall ei ffyrdd, ei gyngor, a’i ofynion. (Ioan 17:3) Mae Jehofa’n maddau yn hael y rhai sy’n edifarhau am eu camweddau ac yn ceisio newid.—Darllenwch Actau 3:19.

Dydy cael cymeradwyaeth Duw ddim yn rhy anodd inni. Mae Jehofa yn deall ein gwendidau. Mae ef yn faddeugar ac yn garedig. Onid ydy ei garedigrwydd yn gwneud ichi eisiau dysgu mwy am sut i’w blesio?—Darllen Salm 103:13, 14.