AR Y CLAWR | CELWYDDAU SYʼN GWNEUD HIʼN ANODD CARU DUW
Y Celwydd Sy’n Gwneud Duw yn Greulon
CRED GYFFREDIN
“Yn syth ar ôl marw, mae eneidiau’r sawl sy’n marw mewn pechod marwol yn disgyn i uffern lle maent yn cael eu cosbi mewn ‘tân tragwyddol.’” (Catecism yr Eglwys Gatholig) Yn ôl rhai arweinwyr crefyddol, mae’r rhai sydd yn uffern wedi eu gwahanu’n llwyr oddi wrth Dduw.
Y GWIR YN Y BEIBL
“Yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.” (Eseciel 18:4, BC) “Dydy’r meirw’n gwybod dim byd!” (Pregethwr 9:5) Os ydy’r enaid yn marw ac yn gwybod dim, sut byddai’n bosib iddo ddioddef mewn “tân tragwyddol” neu deimlo’r boen o gael ei wahanu oddi wrth Dduw?
Yn y Beibl, mae’r geiriau Hebraeg a Groeg, sheʼôlʹ a haiʹdes, weithiau wedi cael eu cyfieithu yn “uffern.” Ond mae’r geiriau hyn yn cyfeirio at fedd dynolryw yn gyffredinol yn hytrach na lle y mae pobl yn cael eu cosbi. Er enghraifft mae’r Beibl yn cyfeirio at broffwydoliaeth ynglŷn â Iesu sy’n dweud: “[Ni] fyddi di’n fy ngadael i gyda’r meirw [“yn uffern,” BC].” (Actau 2:27) Yn amlwg, nid oedd Iesu yn cael ei gosbi na’i wahanu oddi wrth Dduw. Roedd Iesu yn y bedd.
PAM MAE’N BWYSIG
Ni all neb garu Duw sy’n greulon. “Roeddwn i wedi cael fy nysgu am uffern ers i mi fod yn blentyn bach,” meddai Rocío, sy’n byw ym Mecsico. “Roedd y syniad yn codi cymaint o ofn arna i. Doeddwn i ddim yn gallu dychmygu bod unrhyw ddaioni yn Nuw. I mi, roedd yn ddig ac yn annheg.”
Mae’r esboniadau eglur yn y Beibl am agwedd Duw ac am gyflwr y meirw wedi newid y ffordd mae Rocío yn gweld Duw. “Sôn am ryddhad—roedd baich emosiynol anferth wedi cael ei godi oddi arna i,” meddai. “Roeddwn i’n dechrau sylweddoli bod Duw eisiau beth sydd orau i ni, a’i fod yn ein caru ni, a mod i yn gallu ei garu ef. Mae fel tad sy’n gafael yn nwylo ei blant ac eisiau sicrhau’r gorau iddyn nhw.”—Eseia 41:13, BCND.
Mae rhai wedi ceisio bod yn dduwiol oherwydd eu bod nhw’n ofni mynd i uffern, ond nid yw Duw yn dymuno i bobl ei addoli oherwydd bod ofn arnyn nhw. Yn hytrach, dywedodd Iesu: “Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw” (Marc 12:29, 30) Pan welwn ni fod Duw bob amser yn deg, gallwn ni fod yn hyderus y bydd yn ein barnu yn deg yn y dyfodol. Gallwn ni fod yr un mor hyderus ag Elihw, ffrind Job, a ddywedodd: “Fyddai Duw byth yn gwneud drwg; a’r Un sy’n rheoli popeth yn gwneud dim o’i le!”—Job 34:10.