SGWRS Â CHYMYDOG
Pam Mae Duw yn Gadael Inni Ddioddef?
Dyma esiampl o’r math o sgwrs sy’n digwydd weithiau pan fydd Tystion Jehofa yn mynd o dŷ i dŷ. Dychmygwch fod Tyst o’r enw Megan wedi mynd i weld merch o’r enw Sioned.
SUT MAE DUW YN TEIMLO PAN FYDDWN NI’N DIODDEF?
Megan: Shwmae Sioned. Dw i’n falch fod ti adref.
Sioned: O, helo.
Megan: Y tro diwethaf imi alw, wnaethon ni drafod sut mae Duw yn teimlo pan fyddwn ni’n dioddef. Dw i’n cofio ti’n dweud dy fod ti wedi meddwl am hynny, yn enwedig ar ôl i dy fam gael y ddamwain yn y car. Sut mae dy fam erbyn hyn?
Sioned: Mae rhai dyddiau’n well na’i gilydd. Mae heddiw yn ddiwrnod da.
Megan: Dw i’n falch o glywed hynny. Ond rhaid bod hi’n anodd weithiau.
Sioned: Ydy, mae hi. Dw i’n meddwl weithiau, pa mor hir bydd hi’n gorfod dioddef.
Megan: Mae hynny’n naturiol. Wyt ti’n cofio’r tro diwethaf imi ddod, wnes i godi’r cwestiwn: Pam mae Duw yn gadael inni ddioddef os oes ganddo’r gallu i newid pethau?
Sioned: Ydw, dw i’n cofio.
Megan: Cyn inni drafod ateb y Beibl, byddai’n dda inni gofio beth ddywedon ni tro diwethaf.
Sioned: O, iawn.
Megan: Un peth ddysgon ni oedd bod dyn ffyddlon yn amser y Beibl yn gofyn pam mae Duw yn gadael inni ddioddef. Ond doedd Duw ddim yn dweud y drefn wrtho am ofyn y cwestiwn, nac yn dweud bod angen mwy o ffydd arno.
Sioned: Do’n i ddim yn gwybod hynny o’r blaen.
Megan: Dysgon ni hefyd fod Jehofa Dduw yn casáu ein gweld ni’n dioddef. Er enghraifft, pan oedd pobl Dduw yn dioddef, mae’r Beibl yn dweud bod “e’n diodde hefyd.” * Mae gwybod bod Duw yn teimlo droston ni yn gysur mawr.
Sioned: Ydy.
Megan: Yn olaf, o ystyried faint o rym sydd gan y Creawdwr, mae’n amlwg fyddai dod â dioddefaint i ben ddim yn broblem iddo.
Sioned: Dyna beth dw i’n methu deall. Os oes gan Dduw’r gallu i newid pethau, pam mae’n gadael i’r holl bethau drwg ’ma ddigwydd?
PWY OEDD YN DWEUD Y GWIR?
Megan: I gael yr ateb i dy gwestiwn, beth am inni fynd i lyfr cyntaf y Beibl, Genesis? Wyt ti’n cofio hanes Adda ac Efa a’r ffrwyth?
Sioned: Ydw, dwi’n cofio dysgu am hynny yn yr ysgol Sul. Roedd Duw wedi dweud wrthyn nhw am beidio â bwyta ffrwyth y goeden ond wnaethon nhw ddim gwrando.
Megan: Ie, ’na fe. Ond beth ddigwyddodd cyn i Adda ac Efa bechu? Bydd gwybod hynny yn helpu ni i ddeall pam rydyn ni’n dioddef. Wyt ti’n hapus i ddarllen Genesis pennod 3, adnodau 1 i 5?
Sioned: Ydw. “Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall roedd yr ARGLWYDD Dduw wedi’u creu. A dyma’r neidr yn dweud wrth y wraig, ‘Ydy Duw wir wedi dweud, “Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd”?’ ‘Na,’ meddai’r wraig, ‘dŷn ni’n cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd. Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, “Peidiwch bwyta ei ffrwyth hi a pheidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.”’ Ond dyma’r neidr yn dweud wrth y wraig, ‘Na! Fyddwch chi ddim yn marw. Mae Duw yn gwybod y byddwch chi’n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta ohoni. Byddwch chi’n gwybod am bopeth—da a drwg—fel Duw ei hun.’”
Megan: Diolch. Meddylia am yr adnodau hyn am funud. Yn gyntaf, mae’n dweud bod sarff, neu neidr, wedi siarad ag Efa. Mae llyfr arall yn y Beibl yn dangos mai Satan y Diafol oedd yn defnyddio’r sarff i siarad â hi. * Gofynnodd Satan i Efa am beth roedd Duw wedi ei ddweud am y goeden. Welaist ti beth fyddai’n digwydd i Adda ac Efa petaen nhw’n bwyta o’r goeden?
Sioned: Bydden nhw’n marw.
Megan: Yn union. Yna, yn ei eiriau nesaf, wnaeth Satan gyhuddo Duw o rywbeth difrifol. Wyt ti’n gweld beth ddywedodd Satan? “Fyddwch chi ddim yn marw.” Felly, roedd Satan yn cyhuddo Duw o ddweud celwydd!
Sioned: Dw i ddim yn cofio’r darn yna, a dweud y gwir.
Megan: Byddai’n cymryd amser i ateb cyhuddiad Satan. Wyt ti’n gweld pam?
Sioned: Hmm. Dw i ddim yn siŵr.
Megan: Wel, dyma esiampl sy’n gallu ein helpu ni i ddeall. Dychmyga mod i’n dod atat ti a dweud fy mod i’n gryfach ’na ti. Sut gallet ti brofi mod i’n anghywir?
Sioned: Gallen ni drefnu rhyw fath o gystadleuaeth.
Megan: Ie, ’na ti. Efallai gallwn ni gael cystadleuaeth codi pwysau. A dweud y gwir, fyddai profi pwy yw’r cryfaf ddim yn anodd.
Sioned: A, dw i’n gweld hynny.
Megan: Ond, yn lle dweud mod i’n gryfach ’na ti, dychmyga mod i’n dweud fy mod i’n fwy gonest ’na ti. A fyddai hynny’n wahanol?
Sioned: Byddai, mae’n debyg.
Megan: Mae’n ddigon hawdd profi pwy yw’r cryfaf, ond does ’na ddim ffordd gloi i brofi gonestrwydd.
Sioned: Nac oes, dw i’n gweld hynny.
Megan: Mewn gwirionedd, yr unig ffordd i ateb y cwestiwn yw gadael i amser fynd heibio. Wedyn byddai pobl yn gallu gwylio ni’n dwy a phenderfynu pwy yw’r un mwyaf gonest.
Sioned: Mae hynny’n gwneud synnwyr.
Megan: Nawr, edrycha eto ar yr hanes yn Genesis. A oedd Satan yn honni ei fod yn gryfach na Duw?
Sioned: Nac oedd.
Megan: Gallai Duw fod wedi profi hynny yn hawdd. Ond, honnodd Satan ei fod yn fwy gonest na Dduw. Mewn ffordd, roedd yn dweud wrth Efa, ‘Duw sy’n dweud celwydd wrthot ti, ond fi sy’n dweud y gwir.’
Sioned: A, diddorol.
Megan: Roedd Duw yn gwybod mai’r ffordd orau o ateb y cwestiwn oedd gadael i amser fynd heibio. Yn y pen draw, mi fyddai’n amlwg pwy oedd yn dweud y gwir a phwy oedd yn dweud celwydd.
CWESTIWN PWYSIG
Sioned: Ond, pan fu farw Efa, oni fyddai hynny’n profi bod Duw yn dweud y gwir?
Megan: Mae hynny’n wir i ryw raddau. Ond roedd mwy i honiad Satan. Edrycha’n ôl at adnod 5. Wyt ti’n gweld beth arall ddywedodd Satan wrth Efa?
Sioned: Dywedodd pe bai hi’n bwyta’r ffrwyth, byddai hi’n gweld popeth yn glir.
Megan: Ie, a byddai hi’n “gwybod am bopeth—da a drwg—fel Duw ei hun.” Felly, honnodd Satan fod Duw yn dal rhywbeth da yn ôl oddi wrth fodau dynol.
Sioned: Dw i’n gweld.
Megan: Ac roedd hynny’n gyhuddiad difrifol arall.
Sioned: Beth wyt ti’n feddwl?
Megan: Mewn gwirionedd, roedd Satan yn dweud byddai Efa—a phob un arall, o ran hynny—yn well eu byd heb lywodraeth Duw. Eto, roedd Jehofa’n gwybod mai’r ffordd orau o ateb yr her oedd gadael i Satan brofi ei bwynt. Felly, mae Duw wedi gadael i Satan reoli’r byd am gyfnod. Mae hynny’n esbonio pam bod cymaint o ddioddefaint yn y byd—Satan, nid Duw, sy’n rheoli’r byd. * Ond mae ’na newyddion da.
Sioned: Oes wir?
Megan: Mae’r Beibl yn dysgu dau peth arbennig am Dduw. Yn gyntaf, mae Jehofa yn barod i’n helpu ni pan rydyn ni’n dioddef. Er enghraifft, ystyria beth ddywedodd y Brenin Dafydd yn Salm 31:7. Roedd Dafydd yn dioddef llawer yn ystod ei fywyd ond sylwa ar beth ddywedodd yn y weddi hon. Wnei di ddarllen yr adnod?
Sioned: Gwnaf. Mae’n dweud: “Bydda i’n dathlu’n llawen am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon. Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna i ac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo.”
Megan: Er bod Dafydd wedi dioddef, roedd gwybod bod Jehofa wedi gweld popeth yn gysur iddo. Ydy hi’n rhoi cysur i ti i feddwl bod Jehofa yn gweld popeth, hyd yn oed ein teimladau poenus a dwys nad ydy pobl eraill yn eu deall?
Sioned: Ydy, mae hynny’n gysur.
Megan: Yr ail beth hyfryd yw, na fydd Duw yn gadael i bobl ddioddef am byth. Yn fuan iawn, yn ôl y Beibl, bydd Duw yn dod â rheolaeth ddrwg Satan i ben. Ac fe fydd yn dileu effeithiau’r holl bethau drwg sydd wedi digwydd, gan gynnwys y pethau rwyt ti a dy fam wedi dioddef. Os wyt ti o gwmpas wythnos nesaf, ga i ddangos i ti pam gallwn ni fod yn sicr y bydd Duw yn dod â’r holl ddioddefaint yn y byd i ben?
Sioned: Cei siŵr.
A oes gynnoch chi gwestiynau am ryw bwnc penodol yn y Beibl? Hoffech chi wybod mwy am ddaliadau neu arferion Tystion Jehofa? Os felly, croeso ichi ofyn i un o Dystion Jehofa ac fe fydd ef neu hi’n hapus i drafod y pwnc gyda chi.
^ Par. 17 Gweler Eseia 63:9.
^ Par. 26 Gweler Datguddiad 12:9.
^ Par. 55 Gweler Ioan 12:31; 1 Ioan 5:19.