AR Y CLAWR | Y BEIBL—HANES GOROESIAD
Gwnaeth y Beibl Oroesi Ymdrechion i Newid ei Neges
Y PERYG: Mae’r Beibl wedi goroesi pydredd a gwrthwynebiad. Ond eto, mae rhai copïwyr a chyfieithwyr wedi ceisio newid neges y Beibl. Ar adegau, maen nhw wedi ceisio newid y Beibl i gytuno â’u dysgeidiaethau yn hytrach na newid eu dysgeidiaethau i gytuno â’r Beibl. Ystyriwch rai enghreifftiau:
Man addoli: Rhwng y bedwaredd a’r ail ganrif COG, ychwanegodd ysgrifenwyr Pumllyfr y Samariaid y geiriau canlynol ar ôl Exodus 20:17, “ym Mynydd Gerisim. Ac yno byddwch yn adeiladu allor.” Gwnaethon nhw hyn yn y gobaith y byddai’r Ysgrythurau yn cefnogi eu cynllun i adeiladu teml ar Fynydd Gerisim.
Dysgeidiaeth y Drindod: Lai na 300 mlynedd ar ôl i’r Beibl gael ei orffen, ychwanegodd un Trindodwr y geiriau canlynol at 1 Ioan 5:7, “yn y nef; y Tad, y Gair, a’r Ysbryd Glân: a’r tri hyn un ydynt.” Doedd y geiriau hynny ddim yn y testun gwreiddiol. “O’r chweched ganrif ymlaen,” meddai ysgolhaig y Beibl Bruce Metzger, roedd y geiriau hynny “yn ymddangos yn fwy ac yn fwy aml yn llawysgrifau’r Hen Ladin a’r Fwlgat [Lladin].”
Yr enw dwyfol: Gan gyfeirio at draddodiad ofergoelus yr Iddewon fel eu hawdurdod, gwnaeth llawer o gyfieithwyr y Beibl benderfynu tynnu’r enw dwyfol o’r Ysgrythurau. Gwnaethon nhw roi teitlau fel “Duw” neu “Arglwydd” yn lle’r enw hwnnw, teitlau sy’n cael eu defnyddio yn y Beibl, nid yn unig ar gyfer y Creawdwr, ond hefyd ar gyfer dynion, eilunod, a hyd yn oed y Diafol.—Ioan 10:34, 35; 1 Corinthiaid 8:5, 6; 2 Corinthiaid 4:4. a
SUT GWNAETH Y BEIBL OROESI? Yn gyntaf, er bod rhai copïwyr y Beibl wedi bod yn esgeulus neu hyd yn oed yn dwyllodrus, roedd llawer eraill yn hynod o fedrus ac yn fanwl gywir. Rhwng y chweched a’r degfed ganrif OG, copïodd y Masoretiaid yr Ysgrythurau Hebraeg a chynhyrchu’r Testun Masoretaidd. Dywedir eu bod nhw wedi cyfri’r geiriau a’r llythrennau i sicrhau nad oedd unrhyw gamgymeriadau wedi sleifio i mewn. Lle roedden nhw’n tybio bod ’na gamgymeriad yn y prif destun roedden nhw’n copïo ohono, bydden nhw’n nodi’r rheini ar ymyl y dudalen. Roedd y Masoretiaid yn gwrthod ymyrryd â thestun y Beibl. “Byddai ymyrryd yn bwrpasol â’r testun wedi bod yn drosedd enfawr yn eu golwg nhw,” meddai’r Athro Moshe Goshen-Gottstein.
Yn ail, gan fod ’na gymaint o lawysgrifau heddiw gall ysgolheigion y Beibl gael hyd i gamgymeriadau’n haws. Er enghraifft, dysgodd arweinwyr crefyddol am ganrifoedd mai eu cyfieithiadau Lladin nhw o’r Beibl oedd yn cynnwys y testun gwreiddiol. Ond eto, yn 1 Ioan 5:7, roedden nhw wedi ychwanegu’r geiriau a soniwyd amdanyn nhw gynt yn yr erthygl hon. Gwnaeth y camgymeriad hyd yn oed sleifio i mewn i’r Beibl Cysegr-lân! Ond pan ddaeth llawysgrifau eraill i’r golwg, beth wnaethon nhw ei ddatgelu? Ysgrifennodd Bruce Metzger: “Dydy’r rhan honno o’r adnod [yn 1 Ioan 5:7] ddim yn ymddangos yn unrhyw un o’r llawysgrifau hynafol (Syrieg, Copteg, Armeneg, Ethiopeg, Arabeg, Slafoneg), heblaw am y fersiwn Lladin.” O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o gyfieithiadau modern o’r Beibl i’r Gymraeg wedi hepgor y geiriau annilys.
A yw llawysgrifau hŷn yn profi nad yw neges y Beibl wedi ei newid? Pan gafodd Sgroliau’r Môr Marw eu darganfod ym 1947, roedd ysgolheigion yn gallu cymharu’r testun Masoretaidd Hebraeg â’r hyn oedd yn ymddangos mewn sgroliau Beiblaidd a oedd wedi cael eu hysgrifennu dros fil o flynyddoedd ynghynt. Daeth un arbenigwr i’r casgliad fod un sgrôl yn rhoi tystiolaeth gadarn fod y Masoretiaid wedi bod yn hynod o ofalus ac yn fanwl wrth gopïo testun y Beibl dros gyfnod o fil o flynyddoedd.
Mae gan Lyfrgell Chester Beatty yn Nulyn, Iwerddon, gasgliad o bapyri sy’n cynrychioli bron pob llyfr yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, gan gynnwys llawysgrifau o’r ail ganrif OG—dim ond rhyw 100 mlynedd ar ôl i’r Beibl gael ei orffen. “Er bod y Papyri yn rhoi cyfoeth o wybodaeth newydd ar fanylion y testun,” meddai’r Anchor Bible Dictionary, “maen nhw hefyd yn dangos cysondeb rhyfeddol yn hanes trosglwyddo’r testun beiblaidd.”
“Gallwn ni ddweud â sicrwydd nad oes yr un gwaith hynafol arall wedi cael ei drosglwyddo mor gywir”
Y CANLYNIAD: Mae’r ffaith fod gynnon ni gymaint o lawysgrifau mor hen wedi amddiffyn y Beibl rhag cael ei newid. “Does ’na’r un llyfr hynafol arall wedi cael ei gopïo gymaint o weithiau,” meddai Syr Frederic Kenyon am yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, “ac eto fyddai’r un ysgolhaig diduedd yn gwadu fod y testun rydyn ni’n ei ddarllen wedi aros yr un fath.” Ac ynglŷn â’r Ysgrythurau Hebraeg, dywedodd yr ysgolhaig William Henry Green: “Gallwn ni ddweud â sicrwydd nad oes yr un gwaith hynafol arall wedi cael ei drosglwyddo mor gywir.”