Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AR Y CLAWR | Y BEIBL—HANES GOROESIAD

Pam Mae’r Beibl Wedi Goroesi

Pam Mae’r Beibl Wedi Goroesi

Mae’r Beibl wedi goroesi. O ganlyniad, mae hi’n bosib ichi gael gafael ar gopi a’i ddarllen heddiw. A phan fyddwch chi’n dewis cyfieithiad da o’r Ysgrythurau, gallwch chi fod yn sicr eich bod chi’n darllen copi dibynadwy o’r ysgrifau gwreiddiol. a Ond pam mae’r Beibl wedi goroesi er gwaethaf pydredd naturiol, gwrthwynebiad ffyrnig, ac ymyrraeth fwriadol â’i neges, yn aml mewn ffyrdd rhyfeddol? Beth sydd mor arbennig am y llyfr hwnnw?

“Dw i’n hollol sicr bellach fod y Beibl sydd gen i yn anrheg gan Dduw”

Mae llawer o fyfyrwyr y Beibl wedi dod i’r un casgliad â’r apostol Paul, a ysgrifennodd: “Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd.” (2 Timotheus 3:16) Maen nhw’n credu bod y Beibl wedi goroesi oherwydd mai Gair unigryw Duw yw’r llyfr hwnnw, ac oherwydd bod Duw wedi ei amddiffyn hyd heddiw. Yn y pen draw, gwnaeth Faizal, a soniwyd amdano yn erthygl agoriadol y gyfres hon, benderfynu ymchwilio’r honiadau hynny drosto’i hun drwy astudio’r Beibl. Cafodd ei synnu gan yr hyn y daeth o hyd iddo. Ymhen dim, dysgodd nad ydy llawer o brif ddysgeidiaethau’r Byd Cred yn y Beibl. Ar ben hynny, gwnaeth pwrpas Duw ar gyfer y ddaear, fel sy’n cael ei ddatgelu yn Ei Air, gyffwrdd a’i galon.

“Dw i’n hollol sicr bellach fod y Beibl sydd gen i yn anrheg gan Dduw,” meddai. “Wedi’r cwbl, os gall Duw greu’r bydysawd, onid oes ganddo’r pŵer i roi llyfr inni a’i amddiffyn? Byddai dweud fel arall yn cyfyngu ar ei bŵer. A phwy ydw i i gyfyngu ar bŵer yr Hollalluog?”—Eseia 40:8.

a Gweler yr erthygl How Can You Choose a Good Bible Translation? yn rhifyn Mai 1, 2008, y Tŵr Gwylio Cyhoeddus Saesneg.