Ceisia Rywbeth Llawer Gwell Nag Aur
Wyt ti erioed wedi dod o hyd i ddarn o aur? Prin yw’r rhai sydd wedi. Ond, mae miliynau o bobl wedi darganfod rhywbeth llawer gwell. Hynny yw, doethineb dwyfol, a “does dim modd ei brynu gyda bar o aur.”—Job 28:12, 15, beibl.net.
MEWN ffordd, mae myfyrwyr y Beibl yn debyg i rai sy’n chwilio am aur. Mae’r myfyrwyr hynny yn gorfod gweithio’n galed a dal ati i chwilio’r Ysgrythurau am ddoethineb amhrisiadwy. Beth gallwn ni ei ddysgu drwy ystyried tair ffordd o ddarganfod aur?
DARGANFOD DARN O AUR!
Dychmyga dy fod ti’n cerdded ar hyd glan afon ac yn gweld rhywbeth sy’n debyg i garreg fechan yn adlewyrchu golau’r haul. O weld dy fod ti wedi darganfod darn o aur, rwyt ti wrth dy fodd. Mae’n llai na phen matsien ac yn fwy prin na diemwnt o’r ansawdd gorau. Wrth gwrs, rwyt ti’n edrych o gwmpas i weld a oes yna ddarnau eraill o aur.
Yn yr un modd, ar ddiwrnod bythgofiadwy, efallai daeth un o Dystion Jehofa at dy ddrws i drafod y neges o obaith sydd i’w chael yn y Beibl. Efallai rwyt ti’n cofio’n glir pan wnest ti ddarganfod dy ddarn gyntaf o aur ysbrydol. Efallai y digwyddodd hynny pan welaist am y tro cyntaf enw Duw, Jehofa, yn y Beibl. (Salm 83:18, Cysegr-lân) Neu, efallai, pan wnest ti ddysgu dy fod ti’n gallu bod yn ffrind i Jehofa. (Iago 2:23) Roeddet ti’n gwybod yn syth dy fod ti wedi darganfod rhywbeth gwell nag aur! Ac efallai roeddet ti’n awyddus i ddarganfod mwy o aur ysbrydol.
DARGANFOD MWY!
Weithiau mae darnau bach o aur yn casglu mewn nentydd ac afonydd. Aur llifwaddodol yw’r term am hyn. Mewn un tymor, gall rhai sy’n chwilio am aur ddod o hyd i sawl pwys ohono, sy’n werth degau o filoedd o ddoleri, yn y llifwaddodion hyn.
Wrth iti ddechrau astudio’r Beibl, efallai roeddet ti’n teimlo’n debyg i un o’r rhai sy’n panio am aur ac yn darganfod llifwaddod sy’n llawn ohono. Mae’n debyg fod myfyrio ar un adnod ar ôl y llall wedi ychwanegu i’th gronfa o wybodaeth, rhywbeth a wnaeth dy gyfoethogi di’n ysbrydol. Wrth iti gasglu’r gwirioneddau gwerthfawr hyn o’r Beibl, roeddet ti’n dysgu sut i agosáu at Jehofa a sut i’th gadw dy hun yn ei gariad gyda bywyd tragwyddol mewn golwg.—Iago 4:8; Jwd. 20, 21.
Fel y mae rhywun yn chwilio am aur llifwaddodol gwerthfawr, rwyt ti efallai wedi bod yn chwilio’n Math. 28:19, 20.
drylwyr am gyfoeth ysbrydol. Ar ôl iti ddysgu gwirioneddau sylfaenol y Beibl, mae’n debyg y cest ti dy ysgogi i gymryd y camau sy’n arwain at ymgysegriad a bedydd.—DAL ATI I CHWILIO!
Efallai y bydd chwiliwr yn darganfod darnau bychain o aur mewn creigiau igneaidd. Mewn rhai creigiau o’r fath, mae yna ddigon o aur fel ei bod hi’n bosibl cloddio’r mwyn a’i falu er mwyn tynnu’r aur allan. Ar yr olwg gyntaf, ni ellir gweld yr aur yn y mwyn. Pam ddim? Oherwydd bod mwyn o’r ansawdd gorau yn cynnwys dim ond 10g o aur ym mhob tunnell o graig! Ond, i’r un sy’n chwilio, mae’n werth yr ymdrech i’w fwyngloddio.
Hefyd, mae angen ymdrech ar rywun i “ymadael â’r athrawiaeth elfennol am Grist.” (Heb. 6:1, 2) Mae’n rhaid iti weithio’n galed i ddarganfod pwyntiau newydd a gwersi ymarferol o’th astudiaeth o’r Beibl. Felly, beth gelli di ei wneud i sicrhau bod dy astudiaeth bersonol o’r Beibl yn parhau i fod yn fuddiol, er dy fod ti efallai wedi bod yn astudio’r Ysgrythurau am flynyddoedd?
Bydda o hyd yn awyddus i ddysgu. Rho sylw i’r manylion. Dal ati i wneud ymdrech, ac fe fyddi di’n darganfod darnau gwerthfawr o ddoethineb a chyngor dwyfol. (Rhuf. 11:33) Er mwyn ehangu dy wybodaeth am yr Ysgrythurau, defnyddia’r adnoddau ymchwil sydd ar gael yn dy iaith di. Bydda’n amyneddgar wrth chwilio am yr arweiniad sydd ei angen arnat ac am atebion i’th gwestiynau am y Beibl. Gofynna i eraill am ba ysgrythurau ac erthyglau sydd wedi bod yn enwedig o ddefnyddiol ac adeiladol iddyn nhw. Siarada am bwyntiau diddorol rwyt ti wedi eu darganfod wrth iti astudio Gair Duw.
Wrth gwrs, nid dysgu mwy o ffeithiau yw’r nod. Rhybuddiodd yr apostol Paul fod “‘gwybodaeth’ yn peri i rywun ymchwyddo.” (1 Cor. 8:1) Felly, gweithia’n galed i aros yn ostyngedig ac i feithrin ffydd gref. Bydd addoliad teuluol ac astudio personol cyson yn dy helpu i fyw’n unol â safonau Jehofa ac yn dy ysgogi i helpu eraill. Yn fwy na dim, byddi di’n llawenhau oherwydd dy fod ti wedi darganfod rhywbeth llawer gwell nag aur.—Diar. 3:13, 14.