Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pam roedd golchi dwylo yn bwnc dadl i elynion Iesu?

Roedd hwn yn un o nifer o bynciau yr oedd gelynion Iesu yn dadlau ag ef a’i ddisgyblion amdano. Roedd Cyfraith Moses yn cynnwys nifer o ddeddfau ynglŷn â phurdeb seremonïol, megis rhedlif corfforol, y gwahanglwyf, a chyffwrdd â chyrff anifeiliaid neu bobl a oedd wedi marw. Roedd hefyd yn rhoi arweiniad ar sut y byddai rhywun yn gallu cael ei buro. Gellid gwneud hyn drwy aberthu, golchi, a thaenellu.—Lef., pen. 11-15; Num., pen. 19.

Roedd y rabïaid Iddewig yn traethu ar bob un manylyn o’r deddfau hyn. Dywed un hanesydd y byddai pob achos o aflendid “yn cael ei gwestiynu ynglŷn â’r hyn a achosodd yr haint, i ba raddau y gall pobl eraill gael eu heintio, yr offer neu’r gwrthrychau a ellir dod yn aflan a’r rhai na ellir, ac, yn olaf, y defodau angenrheidiol ar gyfer y puro.”

Gofynnodd gwrthwynebwyr Iesu iddo: “Pam nad yw dy ddisgyblion di’n dilyn traddodiad yr hynafiaid, ond yn bwyta’u bwyd â dwylo halogedig?” (Marc 7:5) Nid oedd gelynion crefyddol Iesu yn cyfeirio yma at hylendid personol, hynny yw, golchi dwylo cyn bwyta. Yn ddefodol, roedd hi’n ofynnol i’r rabïaid dywallt dŵr dros eu dwylo cyn bwyta. Mae’r hanesydd a ddyfynnwyd uchod hefyd yn dweud: “Testun dadl arall oedd pa lestri y dylid eu defnyddio i dywallt y dŵr, pa fath o ddŵr oedd yn briodol, pwy a ddylai ei dywallt, ac i ba raddau y dylid golchi’r dwylo.”

Roedd ymateb Iesu i’r holl ddefodau dynol hyn yn syml. Fe ddywedodd wrth arweinwyr crefyddol Iddewig y ganrif gyntaf: “Da y proffwydodd Eseia amdanoch chwi ragrithwyr, fel y mae’n ysgrifenedig: ‘Y mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu â’u gwefusau, ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf [Jehofa]; yn ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.’ Yr ydych yn anwybyddu gorchymyn Duw ac yn glynu wrth draddodiad dynol.”—Marc 7:6-8.