Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gwneud Priodas Gristnogol yn Llwyddiannus

Gwneud Priodas Gristnogol yn Llwyddiannus

“Ond yr ydych chwithau bob un i garu ei wraig fel ef ei hun; ac y mae’r wraig hithau i barchu ei gŵr.”—EFF. 5:33.

CANEUON: 87, 3

1. Er bod priodas fel arfer yn dechrau’n llawen, beth mae cyplau priod yn debygol o’i brofi? (Gweler y llun agoriadol.)

PAN fydd priodferch hardd yn ymddangos o flaen ei phriodfab golygus ar ddydd eu priodas, mae’n anodd disgrifio mewn geiriau eu llawenydd. Tra oedden nhw’n canlyn, roedd eu cariad wedi dyfnhau cymaint fel eu bod nhw’n barod i addunedu y byddan nhw’n ffyddlon i’w gilydd mewn priodas. Wrth gwrs, bydd gofyn am newidiadau wrth i ddau fywyd gael eu plethu’n un ac wrth i deulu newydd gael ei sefydlu. Ond mae Gair Duw yn rhoi cyngor doeth i bawb sy’n dewis priodi, oherwydd bod yr Un a sefydlodd briodas eisiau i bob cwpl fod yn llwyddiannus a hapus yn eu bywyd priodasol. (Diar. 18:22) Ond eto, mae’r Ysgrythurau’n dweud yn glir y bydd pobl amherffaith sy’n priodi yn cael “blinder yn y bywyd hwn.” (1 Cor. 7:28) Sut gall blinder o’r fath gael ei leihau? A beth fydd yn gwneud priodas Gristnogol yn llwyddiannus?

2. Pa wahanol fathau o gariad y dylai gŵr a gwraig eu dangos?

2 Mae’r Beibl yn pwysleisio pwysigrwydd cariad. Mae tynerwch (Groeg, philia) yn hanfodol mewn priodas. Mae cariad rhamantus (eros) yn dod â phleser, ac mae cariad tuag at y teulu (storge) yn dra phwysig pan ddaw plant. Fodd bynnag, cariad sy’n seiliedig ar egwyddor (agape) sy’n sicrhau llwyddiant yn y briodas. Ynglŷn â’r cariad hwn, ysgrifennodd yr apostol Paul: “Ond yr ydych chwithau bob un i garu ei wraig fel ef ei hun; ac y mae’r wraig hithau i barchu ei gŵr.”—Eff. 5:33.

BWRW GOLWG AR GYFRIFOLDEBAU’R GŴR A’R WRAIG

3. Pa mor gryf y dylai cariad mewn priodas fod?

3 Ysgrifennodd Paul: “Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau’r eglwys a’i roi ei hun drosti.” (Eff. 5:25) Mae efelychu esiampl Crist yn mynnu bod ei ddilynwyr yn caru ei gilydd yn union fel yr oedd ef yn eu caru nhw. (Darllen Ioan 13:34, 35; 15:12, 13.) Felly, dylai’r cariad priodasol a ddangosir gan Gristnogion fod mor gryf fel y byddai’r naill gymar a’r llall, petai angen, yn fodlon marw dros ei gilydd. Dyna efallai yw’r peth olaf y byddai rhywun yn fodlon ei wneud petai anghytundeb difrifol wedi codi. Serch hynny, mae cariad agape yn “goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.” Yn wir, “nid yw cariad yn darfod byth.” (1 Cor. 13:7, 8) Bydd cofio eu hadduned i garu ei gilydd ac i fod yn ffyddlon i’w gilydd yn helpu cyplau priod sy’n ofni Duw i gydweithio yn unol ag egwyddorion aruchel Jehofa er mwyn datrys problemau.

4, 5. (a) Beth yw cyfrifoldeb y gŵr fel penteulu? (b) Sut dylai’r wraig ystyried penteuluaeth? (c) Pa newidiadau roedd yn rhaid i un cwpl eu gwneud?

4 Wrth ganolbwyntio ar gyfrifoldebau personol y gŵr a’r wraig, ysgrifennodd Paul: “Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i’ch gwŷr fel i’r Arglwydd; oherwydd y gŵr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr eglwys.” (Eff. 5:22, 23) Nid yw’r drefn hon yn golygu bod y wraig yn is na’i gŵr. Mae’n helpu’r wraig i gyflawni’r rôl yr oedd gan Dduw ar ei chyfer pan ddywedodd: “Dydy e ddim yn beth da i’r dyn [Adda] fod ar ei ben ei hun. Dw i’n mynd i wneud cymar iddo i’w gynnal.” (Gen. 2:18, beibl.net) Yn union fel y mae Crist, sy’n ben ar y gynulleidfa, yn dangos cariad, mae gŵr Cristnogol yn gorfod bod yn benteulu cariadus. Pan fydd yn gwneud hynny, mae ei wraig yn teimlo’n ddiogel, ac yn cael pleser o fod yn barchus, cefnogol, ac ymostyngar.

5 Gan gyfaddef bod priodi yn gofyn am newidiadau, dywedodd Cathy: [1] “Tra oeddwn i’n chwaer sengl, roeddwn i’n annibynnol ac yn gofalu amdanaf fi fy hun. Roedd priodi yn newid mawr imi wrth imi ddysgu dibynnu ar fy ngŵr. Dydy hi ddim bob amser wedi bod yn hawdd, ond rydyn ni wedi closio at ein gilydd gymaint drwy wneud pethau ffordd Jehofa.” Dywedodd Fred, ei gŵr: “Doedd gwneud penderfyniadau byth yn hawdd imi. Mewn priodas, mae gorfod meddwl am ddau unigolyn yn ychwanegu at yr her. Ond, drwy geisio arweiniad Jehofa mewn gweddi a gwrando’n astud ar fy ngwraig, mae’n dod yn haws bob dydd. Rydw i’n teimlo ein bod ni’n gweithio fel tîm go iawn!”

6. Sut mae cariad yn gweithredu fel “rhwymyn perffeithrwydd” pan fo problemau yn codi yn y briodas?

6 Mae priodas gadarn yn cynnwys dau berson sy’n maddau amherffeithrwydd ei gilydd. Hefyd, maen nhw’n parhau i oddef ei gilydd. Yn wir, bydd y ddau gymar yn gwneud camgymeriadau. Pan fydd hynny’n digwydd, fodd bynnag, bydd cyfle i ddysgu o’r camgymeriadau hyn, i fod yn faddeugar, ac i ddangos cariad sy’n seiliedig ar egwyddorion y Beibl ac sydd hefyd yn “rhwymyn perffeithrwydd.” (Col. 3:13, 14) Ar ben hynny, “mae cariad yn amyneddgar; . . . nid yw’n cadw cyfrif o gam.” (1 Cor. 13:4, 5) Dylid datrys anghytundebau cyn gynted ag y bo modd. Felly, dylai cyplau Cristnogol dorri unrhyw ddadl cyn diwedd y dydd. (Eff. 4:26, 27) Mae dweud yn ddiffuant “mae’n ddrwg gen i am dy frifo di” yn gofyn am ostyngeiddrwydd a dewrder, ond mae’n mynd yn bell iawn i ddatrys unrhyw anghydfod, gan ddod â’r gŵr a’r wraig yn agosach at ei gilydd.

ANGEN ARBENNIG AM DYNERWCH

7, 8. (a) Pa gyngor y mae’r Beibl yn ei roi ynglŷn â chyfathrach rywiol mewn priodas? (b) Pam dylai gŵr a gwraig fod yn dyner?

7 Mae’r Beibl yn rhoi cyngor da sy’n gallu helpu cyplau i edrych ar eu perthynas rywiol mewn ffordd gytbwys. (Darllen 1 Corinthiaid 7:3-5.) Mae ystyried yn gariadus deimladau ac anghenion ei gilydd yn hanfodol. Os nad yw’r wraig yn cael ei thrin yn dyner, gall fod yn anodd iddi fwynhau’r agwedd hon ar briodas. Mae’n rhaid i wŷr fod yn “ystyriol” wrth ddelio gyda’u gwragedd. (1 Pedr 3:7) Ni ddylid byth orfodi na mynnu cyfathrach rywiol, ond fe ddylai ddod yn naturiol. Yn aml, gall y dyn ymateb yn fwy cyflym na’r wraig, ond dylai’r amser fod yn iawn yn emosiynol ar gyfer y ddau ohonyn nhw.

8 Er nad yw’r Beibl yn rhoi rheolau penodol nac yn gosod ffiniau ynglŷn â’r chwarae cariadus sy’n gysylltiedig ag agosrwydd rhywiol naturiol, y mae’n sôn am fod yn dyner. (Caniad Sol. 1:2; 2:6) Dylai gŵr a gwraig Gristnogol drin ei gilydd â thynerwch.

9. Pam mae dangos diddordeb rhywiol mewn unrhyw un nad yw’n briod â ni yn annerbyniol?

9 Ni fydd cariad dwfn tuag at Dduw a thuag at gymydog yn caniatáu i unrhyw un neu i unrhyw beth ymyrryd â’r rhwymyn priodasol. Mae rhai priodasau wedi eu gosod dan straen neu wedi eu difetha oherwydd bod un cymar wedi bod yn gaeth i bornograffi. Dylid gwrthod yn bendant unrhyw dueddiad o’r fath neu unrhyw ddiddordebau rhywiol y tu allan i’r briodas. Mae hyd yn oed rhoi’r argraff o fflyrtio â rhywun nad yw’n briod â ni yn anghariadus ac yn rhywbeth y dylen ni ei osgoi. Bydd cofio bod Duw yn ymwybodol o’n holl feddyliau a’n holl weithredoedd yn ein gwneud ni’n benderfynol o’i blesio ac aros yn bur.—Darllen Mathew 5:27, 28; Hebreaid 4:13.

PAN FO PRIODAS O DAN BWYSAU

10, 11. (a) Pa mor gyffredin yw ysgaru? (b) Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am wahanu? (c) Beth fydd yn helpu cymar i beidio â gwahanu’n gyflym?

10 Gall problemau difrifol sy’n parhau mewn priodas achosi i un cymar neu’r ddau ohonyn nhw ystyried gwahanu neu ysgaru. Mewn rhai gwledydd, mae mwy na hanner o briodasau yn darfod mewn ysgariad. Nid yw’r duedd hon mor gyffredin yn y gynulleidfa Gristnogol, ond mae problemau priodasol ar gynnydd ymhlith pobl Dduw ac mae hyn yn achos pryder.

11 Mae’r Beibl yn dweud “nad yw’r wraig i ymadael â’i gŵr; ond os bydd iddi ymadael, dylai aros yn ddibriod, neu gymodi â’i gŵr. A pheidied y gŵr ag ysgaru ei wraig.” (1 Cor. 7:10, 11) Mae gwahanu â chymar priodasol yn fater difrifol. Er bod gwahanu yn ymddangos fel ateb pan fo problemau dybryd yn codi, mae’n aml yn achosi mwy o broblemau. Ar ôl ailadrodd yr hyn a ddywedodd Duw ynglŷn â dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn glynu wrth ei wraig, dywedodd Iesu: “Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai neb ei wahanu.” (Math. 19:3-6; Gen. 2:24) Mae hyn hefyd yn golygu na ddylai’r gŵr na’r wraig wahanu’r hyn y mae Duw wedi ei gysylltu. I Jehofa, rhwymyn yw priodas sy’n para tra bo’r ddau yn fyw. (1 Cor. 7:39) Dylai cofio ein bod ni i gyd yn atebol i Dduw ein hannog ni i wneud pob ymdrech i ddatrys problemau yn gyflym fel nad ydyn nhw’n dod yn fwy difrifol.

12. Beth all achosi cymar i ystyried gwahanu?

12 Gall disgwyliadau afrealistig fod wrth wraidd problemau priodasol. Pan nad yw breuddwydion am fywyd priodasol hapus yn cael eu gwireddu, gall person deimlo’n anfodlon, siomedig, a hyd yn oed yn chwerw. Gall gwahaniaethau yn ein natur emosiynol a’n cefndir achosi problemau, neu anghytundebau ynglŷn ag arian, y teulu yng nghyfraith, a magu plant. Fodd bynnag, canmoladwy yw bod y rhan fwyaf o gyplau priod Cristnogol yn canfod atebion i broblemau o’r fath, atebion sy’n plesio’r ddwy ochr, oherwydd eu bod nhw’n gadael i Dduw eu harwain.

13. Pa bethau sy’n rhesymau dilys dros wahanu?

13 Ar adegau, gellir cyfiawnhau gwahanu. Mae gwrthod cynnal y teulu, cam-drin cymar yn gorfforol ddifrifol, a pheryglu bywyd ysbrydol cymar i gyd yn sefyllfaoedd eithriadol a ystyriwyd gan rai yn rhesymau dros wahanu. Dylai cyplau priod Cristnogol sy’n wynebu problemau dybryd ofyn i’r henuriaid am help. Gall y brodyr profiadol hyn helpu’r rhai sydd wedi priodi i roi cyngor Gair Duw ar waith. Wrth ddatrys problemau priodasol, dylen ni weddïo am ysbryd Jehofa a’i help i gymhwyso egwyddorion y Beibl a dangos ffrwythau’r ysbryd.—Gal. 5:22, 23. [2]

14. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud wrth Gristion sydd wedi priodi cymar nad yw’n addoli Jehofa?

14 Mewn rhai achosion, mae Cristion yn briod i rywun nad yw eto’n addoli Jehofa. O dan amgylchiadau o’r fath, mae’r Beibl yn rhoi rhesymau da dros aros gyda’i gilydd. (Darllen 1 Corinthiaid 7:12-14.) P’un a yw’r cymar anghrediniol yn sylweddoli neu beidio, y mae “wedi ei gysegru,” oherwydd iddo ef neu hi fod yn briod ag un sy’n addoli Jehofa. Mae unrhyw blant a aned iddyn nhw yn “sanctaidd,” ac yn meddu ar enw da gyda Duw. Mae Paul yn rhesymu: “Oherwydd sut y gwyddost, wraig, nad achubi di dy ŵr? Neu sut y gwyddost, ŵr, nad achubi di dy wraig?” (1 Cor. 7:16) Mae gan bob cynulleidfa bron gyplau priod lle mae’r Cristion wedi cael rhan holl bwysig yn achub ei gymar.

15, 16. (a) Pa gyngor y mae’r Beibl yn ei roi i wragedd Cristnogol pan nad yw eu gwŷr yn addoli Duw? (b) Beth dylai Cristion ei wneud “os yw’r anghredadun am ymadael”?

15 Mae’r apostol Pedr yn cynghori gwragedd Cristnogol i ymostwng i’w gwŷr: “Yna, os oes rhai sy’n anufudd i’r gair, fe’u henillir hwy trwy ymarweddiad eu gwragedd, heb i chwi ddweud yr un gair, wedi iddynt weld eich ymarweddiad pur a duwiolfrydig.” Drwy ymddygiad sy’n adlewyrchu “ysbryd addfwyn a thawel . . . sy’n werthfawr yng ngolwg Duw,” gall gwraig wneud llawer mwy i achub ei gŵr nag y byddai’n gallu ei wneud drwy fod yn rhy hy wrth siarad am ei daliadau Cristnogol.—1 Pedr 3:1-4.

16 Beth petai’r cymar nad yw’n credu yn dewis gwahanu? Dywed y Beibl: “Os yw’r anghredadun am ymadael, gadewch i hwnnw neu honno fynd. Nid yw’r gŵr na’r wraig o Gristion, mewn achos felly, yn gaeth; i heddwch y mae Duw wedi eich galw.” (1 Cor. 7:15) Nid yw hyn yn golygu bod Cristion yn rhydd yn Ysgrythurol i ailbriodi, ond nid oes dim rheidrwydd arno i orfodi ei gymar anghrediniol i aros. Gall gwahanu ddod â rhywfaint o heddwch. A gall Cristion obeithio y bydd y cymar sy’n gadael yn dychwelyd, yn barod i gydweithio er lles y briodas a dod yn gyd-addolwr.

PRIODAS A’N BLAENORIAETH GYNTAF

Mae blaenoriaethu materion ysbrydol yn gallu gwneud dy briodas yn hapusach (Gweler paragraff 17)

17. Beth ddylai fod yn flaenoriaeth gyntaf i gyplau priod?

17 Oherwydd ein bod ni’n byw yn “y dyddiau diwethaf,” rydyn ni’n wynebu “amserau enbyd.” (2 Tim. 3:1-5) Ond eto, bydd aros yn gryf yn ysbrydol yn lleddfu dylanwad negyddol y byd. “Mae’r amser wedi mynd yn brin,” meddai Paul. “Bydded i’r rhai sydd â gwragedd ganddynt fod fel pe baent heb wragedd, . . . a’r rhai sy’n ymwneud â’r byd fel pe na baent yn ymwneud ag ef.” (1 Cor. 7:29-31) Doedd Paul ddim yn dweud wrth gyplau priod i esgeuluso eu cyfrifoldebau priodasol. Ond oherwydd bod yr amser wedi mynd yn brin, roedd yn rhaid iddyn nhw flaenoriaethu materion ysbrydol.—Math. 6:33.

18. Pam mae hi’n bosibl i Gristnogion gael priodasau hapus a llwyddiannus?

18 Er ein bod ni’n byw mewn amseroedd anodd ac yn gweld priodasau yn methu ar bob ochr, mae hi’n bosibl inni wneud ein priodasau yn hapus ac yn llwyddiannus. Yn wir, mae Cristnogion priod sy’n glynu wrth bobl Jehofa, sy’n rhoi cyngor Ysgrythurol ar waith, ac sy’n derbyn arweiniad ysbryd glân Jehofa yn gallu gwarchod “yr hyn a gysylltodd Duw.”—Marc 10:9.

^ [1] (paragraff 5) Newidiwyd yr enwau.

^ [2] (paragraff 13) Gweler y llyfr “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw,” a’r atodiad “Agwedd y Beibl Tuag at Ysgaru a Gwahanu,” tt. 219-221.