Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Johannes Rauthe yn y weinidogaeth, yn eithaf tebyg yn y 1920au

O’R ARCHIF

“Rwy’n Dwyn Ffrwyth er Clod i Jehofa”

“Rwy’n Dwyn Ffrwyth er Clod i Jehofa”

“NID yw holl ryfeloedd y gorffennol o unrhyw arwyddocâd o’u cymharu â’r rhyfel mawr sy’n lledaenu heddiw drwy Ewrop.” Dyna sut roedd Tŵr Gwylio Saesneg 1 Medi 1915 yn disgrifio’r Rhyfel Byd Cyntaf, a oedd yn cynnwys tua 30 o wledydd. Oherwydd y brwydro, dywedodd y Tŵr Gwylio: “Mae gwasanaeth [y Deyrnas] wedi ei rwystro i ryw raddau, yn enwedig yn yr Almaen ac yn Ffrainc.”

Yn wyneb rhyfela ar raddfa fyd-eang, nid oedd Myfyrwyr y Beibl yn deall yn iawn yr egwyddor ynglŷn â niwtraliaeth Gristnogol. Er hynny, roedden nhw’n benderfynol o gyhoeddi’r newyddion da. Roedd Wilhelm Hildebrandt yn awyddus i wneud ei ran yng ngwasanaeth y Deyrnas, felly dyma’n archebu copïau o’r cylchgrawn The Bible Students Monthly yn y Ffrangeg. Nid oedd ef yn Ffrainc i bregethu’n llawn amser ond, yn hytrach, i fod yn filwr Almaenig. Roedd y “gelyn” hwn, wedi ei wisgo mewn dillad milwrol, yn rhoi neges o heddwch i Ffrancwyr syfrdan a oedd yn cerdded heibio.

Mae llythyrau a gafodd eu hargraffu yn y Tŵr Gwylio yn dangos bod nifer o Fyfyrwyr y Beibl yn yr Almaen wedi eu cymell i rannu newyddion da’r Deyrnas tra oedden nhw yn y fyddin. Gwnaeth y Brawd Lemke, a oedd yn y llynges, ddarganfod bod gan bump o’i gyd-weithwyr ddiddordeb yn y gwirionedd. Ysgrifennodd ef: “Hyd yn oed ar y llong yma, rwy’n dwyn ffrwyth er clod i Jehofa.”

Aeth Georg Kayser i faes y gad yn filwr ac fe ddaeth adref yn was i’r gwir Dduw. Sut felly? Rywsut neu’i gilydd, cafodd hyd i un o gyhoeddiadau Myfyrwyr y Beibl, derbyniodd wirionedd y Deyrnas yn frwdfrydig, a stopiodd ddefnyddio ei arfau. Wedyn derbyniodd waith nad oedd yn gofyn iddo ymladd. Ar ôl y rhyfel, gwasanaethodd yn selog fel arloeswr am lawer o flynyddoedd.

Er nad oedd Myfyrwyr y Beibl yn deall y cwbl ynglŷn â niwtraliaeth, roedd eu hagwedd a’u hymddygiad yn hollol wahanol i agweddau a gweithredoedd y bobl a oedd wedi croesawu’r rhyfel. Tra oedd gwleidyddion ac arweinwyr yr eglwysi yn chwifio eu baneri cenedlaethol, fel petai, roedd Myfyrwyr y Beibl yn dilyn y “Tywysog heddychlon.” (Esei. 9:6) Er nad oedd pawb yn cadw’n hollol niwtral, roedden nhw’n dal yn cytuno’n llwyr â sylwadau Konrad Mörtter, un o Fyfyrwyr y Beibl: “Roedd yn hollol eglur imi o ddarllen Gair Duw na ddylai Cristnogion ladd.”—Ex. 20:13. *

Hans Hölterhoff yn defnyddio trol i hysbysebu’r Golden Age

Yn yr Almaen, lle nad oedd y gyfraith yn caniatáu i unigolyn beidio ag ymladd ar sail cydwybod, gwnaeth 20 o Fyfyrwyr y Beibl wrthod cymryd unrhyw ran yng ngwaith y fyddin. Cafodd rhai eu cyfri’n sâl yn feddyliol, fel y digwyddodd i Gustav Kujath, a gafodd ei anfon i sefydliad iechyd meddwl lle rhoddwyd cyffuriau iddo. Aeth Hans Hölterhoff i’r carchar oherwydd iddo wrthod yr alwad i fynd i’r fyddin, ac yno fe wrthododd unrhyw waith a oedd yn gysylltiedig â’r rhyfel. Fe’i clymwyd mewn siaced gaeth gan y gardiau nes i’w freichiau a’i goesau fynd yn ddideimlad. Pan na wnaeth hynny dorri ei ysbryd, gwnaethon nhw gogio ei fod yn cael ei ddienyddio. Ond, arhosodd Hans yn ddiysgog drwy gydol y rhyfel.

Gwrthododd brodyr eraill a gafodd eu consgriptio fynd i’r rhyfel, gan ofyn am waith nad oedd yn golygu gorfod brwydro. * Dyna a wnaeth Johannes Rauthe, a anfonwyd i weithio ar y rheilffyrdd. Aseiniwyd Konrad Mörtter i fod yn gynorthwyydd meddygol, ac roedd Reinhold Weber yn gweithio fel nyrs. Roedd August Krafzig yn ddiolchgar nad oedd ei ddyletswyddau wedi ei roi ar faes y gad. Roedd y Myfyrwyr hyn, ac eraill, yn benderfynol o wasanaethu Jehofa oherwydd eu bod nhw’n deall pwysigrwydd cariad a ffyddlondeb.

Oherwydd eu hymddygiad yn ystod y rhyfel, daeth Myfyrwyr y Beibl i sylw swyddogion y wladwriaeth. Yn ystod y blynyddoedd dilynol, roedd rhaid i Fyfyrwyr y Beibl yn yr Almaen wynebu miloedd o achosion llys oherwydd eu gwaith pregethu. Er mwyn eu helpu nhw, sefydlodd swyddfa gangen yr Almaen adran gyfreithiol yn y Bethel ym Magdeburg.

Yn raddol, fe wnaeth Tystion Jehofa goethi eu dealltwriaeth ynglŷn â niwtraliaeth Gristnogol. Pan gychwynnodd yr Ail Ryfel Byd, arhoson nhw’n hollol niwtral drwy wrthod bod yn rhan o’r lluoedd arfog. Oherwydd hynny, cawson nhw eu hystyried yn elynion i lywodraeth yr Almaen a’u herlid yn chwyrn. Ond, pennod arall yw honno a fydd yn ymddangos yn y dyfodol mewn erthygl arall yn y gyfres “O’r Archif.”—O’r archif yng Nghanolbarth Ewrop.

^ Par. 7 Gweler hanes Myfyrwyr y Beibl Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn yr erthygl “From Our Archives—They Stood Firm in an ‘Hour of Test’” yn rhifyn 15 Mai 2013 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Par. 9 Awgrymwyd y math hwn o weithredu yng Nghyfrol VI o’r gyfres Millennial Dawn (1904) a hefyd yn y fersiwn Almaeneg o Zion’s Watch Tower Awst 1906. Gwnaeth y Tŵr Gwylio Saesneg, Medi 1915 goethi ein dealltwriaeth ac awgrymu y dylai Myfyrwyr y Beibl osgoi ymuno â’r fyddin. Ond, ni chafodd yr erthygl honno ei chynnwys yn y fersiwn Almaeneg.