Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Gweld yr Angen i Wneud Cynnydd Ysbrydol?

Wyt Ti’n Gweld yr Angen i Wneud Cynnydd Ysbrydol?

“Rhaid i ti ymroi i’r darlleniadau a’r pregethu a’r hyfforddi.”—1 TIM. 4:13.

CANEUON: 45, 70

1, 2. (a) Sut mae geiriau Eseia 60:22 wedi eu cyflawni yn amser y diwedd? (b) Pa anghenion sy’n bodoli heddiw yn y rhan ddaearol o gyfundrefn Jehofa?

“DAW’R lleiaf yn llwyth, a’r ychydig yn genedl gref.” (Esei. 60:22) Cyflawnir y geiriau proffwydol hynny yn y dyddiau diwethaf hyn. Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2015 roedd 8,220,105 o gyhoeddwyr y Deyrnas yn pregethu’n fyd-eang! Dylai’r rhan olaf o’r broffwydoliaeth honno effeithio ar bob Cristion, oherwydd dywedodd ein Tad nefol: “Myfi yw’r ARGLWYDD; brysiaf i wneud hyn yn ei amser.” Fel teithwyr mewn car sy’n cyflymu, rydyn ni’n ymwybodol fod y gwaith o wneud disgyblion yn rhuthro yn ei flaen. Sut rydyn ni’n ymateb yn bersonol i’r cyflymu hwnnw? Ydyn ni’n gwneud cymaint ag y medrwn ni i fod yn gyhoeddwyr selog? Mae llawer yn cynllunio ar gyfer arloesi’n llawn amser neu’n gynorthwyol. Onid ydyn ni’n teimlo’n llawen o weld cymaint yn ateb y galw i helpu lle mae angen mwy o gyhoeddwyr, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau theocrataidd eraill?

2 Ar yr un pryd, gwelwn fod yr angen am fwy o weithwyr ar gynnydd. Sefydlir tua 2,000 o gynulleidfaoedd newydd bob blwyddyn. Petai 5 henuriad yn gwasanaethu ym mhob cynulleidfa newydd, byddai angen i 10,000 o weision gweinidogaethol fod yn gymwys ar gyfer gwasanaethu fel henuriaid bob blwyddyn. Mae hynny’n golygu y byddai’n rhaid i filoedd o frodyr gwrdd â’r gofynion ysbrydol ar gyfer gwasanaethu fel gweision gweinidogaethol. Yn ychwanegol i hynny, boed yn frodyr neu’n chwiorydd, mae gennyn ni ddigon i wneud “yng ngwaith yr Arglwydd.”—1 Cor. 15:58.

BETH MAE CYNNYDD YSBRYDOL YN EI OLYGU?

3, 4. Beth mae gwneud cynnydd ysbrydol yn ei olygu i ti?

3 Darllen 1 Timotheus 3:1. Yn yr iaith Roeg, mae’r ymadrodd “sydd â’i fryd ar” yn un gair sy’n golygu ymestyn i gael gafael ar rywbeth—rhywbeth sydd y tu hwnt i’th gyrraedd arferol. Drwy ddefnyddio’r gair hwnnw, pwysleisiodd Paul fod cynnydd ysbrydol yn gofyn am ymdrech. Dychmyga frawd sy’n meddwl am ei ddyfodol yn y gynulleidfa. Efallai nad yw’n was gweinidogaethol eto, ond mae’n sylweddoli bod angen meithrin rhinweddau ysbrydol. Yn gyntaf, mae’n ceisio bod yn gymwys ar gyfer y cyfrifoldeb hwnnw, ac yna, mewn amser, ar gyfer gwasanaethu fel arolygwr. Ym mhob achos, mae’n ymdrechu i gwrdd â’r gofynion angenrheidiol ar gyfer derbyn mwy o gyfrifoldebau yn y gynulleidfa.

4 Mewn ffordd debyg, petai brodyr a chwiorydd eisiau arloesi, mynd i’r Bethel, neu helpu i adeiladu Neuaddau’r Deyrnas, peth da fyddai iddyn nhw ymdrechu i gyrraedd eu nod. Gad inni drafod sut mae Gair Duw yn annog pob un ohonon ni i wneud cynnydd ysbrydol.

GWNA FWY O GYNNYDD YSBRYDOL

5. Sut gall pobl ifanc ddefnyddio eu nerth yng ngwasanaeth y Deyrnas?

5 Mae gan bobl ifanc y nerth i gyflawni llawer yng ngwasanaeth Jehofa. (Darllen Diarhebion 20:29.) Mae rhai brodyr ifanc ym Methel yn helpu i argraffu a rhwymo Beiblau a llenyddiaeth. Mae llawer o frodyr a chwiorydd ifanc yn cael rhan yn y gwaith o adeiladu a chynnal Neuaddau’r Deyrnas. Pan fo trychinebau naturiol yn taro, mae pobl ifanc yn helpu Tystion profiadol i ddarparu cymorth. Ac mae llawer o arloeswyr ifanc yn pregethu i gymunedau sy’n siarad ieithoedd brodorol ac estron.

6-8. (a) Sut gwnaeth un dyn ifanc newid ei agwedd tuag at wasanaethu Duw, a beth oedd y canlyniad? (b) Sut gallwn ni brofi a gweld mai da yw Jehofa?

6 Mae’n debyg dy fod ti’n deall pwysigrwydd gwasanaethu Duw yn selog. Ond beth os wyt ti’n teimlo fel yr oedd Aaron ar un adeg? Er iddo gael ei fagu mewn teulu Cristnogol, mae’n cyfaddef: “I mi, roedd y cyfarfodydd a’r weinidogaeth yn ddiflas.” Roedd eisiau gwasanaethu Duw yn llawen, ond roedd yn pendroni ynglŷn â pham nad oedd yn hapus. Felly, beth wnaeth Aaron?

7 Dilynodd Aaron raglen ysbrydol o ddarllen y Beibl, paratoi ar gyfer y cyfarfodydd, a chymryd rhan ynddyn nhw. Gwnaeth ymdrech arbennig i weddïo’n rheolaidd. Wrth iddo glosio at Jehofa, cynyddodd yn ysbrydol. Ers hynny, mae Aaron wedi mwynhau arloesi, cydweithio ag eraill i ddarparu cymorth ar ôl trychinebau, a phregethu dramor. Bellach, mae Aaron yn henuriad ym Methel. Sut mae’n teimlo erbyn hyn? “Dw i wedi profi a gweld bod Jehofa yn dda. Oherwydd ei fendith ef, dw i’n teimlo’n ddyledus iddo ac mae hynny’n fy ysgogi i wneud mwy yn ei wasanaeth, ac mae hynny’n dod â mwy o fendithion.”

8 Canodd y salmydd: “Nid yw’r rhai sy’n ceisio’r ARGLWYDD yn brin o ddim da.” (Darllen Salm 34:8-10.) Yn wir, nid yw Jehofa byth yn siomi’r rhai sy’n ei wasanaethu’n selog. Rydyn ninnau hefyd yn profi ac yn gweld bod Jehofa yn dda wrth inni ei wasanaethu â’n holl galon, a theimlo hapusrwydd heb ei ail.

DAL ATI HEB GOLLI AMYNEDD

9, 10. Pam mae’n bwysig i ddisgwyl yn amyneddgar?

9 Wrth ymdrechu i gyrraedd dy amcanion, mae’n bwysig disgwyl yn amyneddgar. (Mich. 7:7) Mae Jehofa’n wastad yn cefnogi ei weision ffyddlon, er efallai y bydd yn gadael iddyn nhw ddisgwyl am freintiau neu i’w hamgylchiadau newid er gwell. Addawodd Duw fab i Abraham, ond roedd rhaid iddo ddangos ffydd ac amynedd. (Heb. 6:12-15) Er iddo ddisgwyl am flynyddoedd cyn i Isaac gael ei eni, ni wnaeth Abraham ddigalonni, ac ni wnaeth Jehofa ei siomi.—Gen. 15:3, 4; 21:5.

10 Dydy gorfod disgwyl ddim yn hawdd. (Diar. 13:12) Os oedden ni’n hel meddyliau ynghylch siomedigaethau, byddai hynny’n torri ein calonnau. Yn hytrach, peth doeth fyddai defnyddio ein hamser i gynyddu’n ysbrydol. Dyma dair ffordd o wneud hynny.

11. Pa rinweddau ysbrydol y gallwn ni eu datblygu, a pham maen nhw’n bwysig?

11 Datblyga rinweddau ysbrydol. Drwy ddarllen Gair Duw a myfyrio arno, gallwn feithrin doethineb, dirnadaeth, cydbwysedd, gwybodaeth, synnwyr, a disgyblaeth. Mae rhinweddau fel hyn yn angenrheidiol i’r rhai sy’n arwain yn y gynulleidfa. (Diar. 1:1-4; Titus 1:7-9) Ac wrth ddarllen ein cyhoeddiadau, rydyn ni’n dod i ddeall sut mae Duw yn teimlo am wahanol bethau. Bob dydd, rydyn ni’n wynebu dewisiadau ynglŷn ag adloniant, ein pryd a’n gwedd, rheoli arian, a’n perthynas ag eraill. Drwy roi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen yn y Beibl, gallwn wneud penderfyniadau sy’n plesio Jehofa.

12. Sut gall aelodau o’r gynulleidfa ddangos eu bod nhw’n ddibynadwy?

12 Dangosa dy fod ti’n ddibynadwy. Boed yn frodyr neu’n chwiorydd, gwnawn ein gorau i ofalu am unrhyw aseiniad rydyn ni’n ei dderbyn. Roedd rhaid i Nehemeia ddewis dynion o blith pobl Dduw i gyflawni swyddi cyfrifol. Pwy a benodwyd ganddo? Defnyddiodd rai a oedd yn ofni Duw, yn onest, ac yn ddibynadwy. (Neh. 7:2; 13:12, 13) Heddiw hefyd, “mae disgwyl i rywun sydd wedi derbyn cyfrifoldeb brofi ei fod yn ffyddlon.” (1 Cor. 4:2, beibl.net) Ni ellir cuddio gweithredoedd da.—Darllen 1 Timotheus 5:25.

13. Sut gelli di ddilyn esiampl Joseff pan fo pobl yn dy drin yn annheg?

13 Gad i Jehofa dy goethi di. Beth gallet ti ei wneud petai eraill yn dy drin yn annheg? Datrys y sefyllfa’n gyflym efallai. Ond, weithiau, drwy dy amddiffyn dy hun yn chwyrn, rwyt ti’n gwneud y broblem yn waeth. Cafodd Joseff ei gam-drin gan ei frodyr, ond nid oedd yn dal dig. Yn ddiweddarach, cafodd Joseff ei gyhuddo a’i garcharu ar gam. Er hynny, gwnaeth Joseff adael i Jehofa ei arwain drwy adegau anodd. Beth oedd y canlyniad? Cafodd ei goethi gan Jehofa. (Salm 66:10) Ar ôl y treialon hynny, roedd Joseff wedi ei brofi ei hun yn gymwys ar gyfer aseiniad arbennig. (Gen. 41:37-44; 45:4-8) Wrth ddelio â phroblemau pigog, gweddïa am ddoethineb, ceisia siarad ac ymddwyn yn addfwyn, gan ddibynnu ar Dduw am nerth. Bydd Jehofa yn dy helpu.—Darllen 1 Pedr 5:10.

GWNA GYNNYDD YN Y WEINIDOGAETH

14, 15. (a) Pam mae’n rhaid inni gadw llygad ar y ffordd rydyn ni’n pregethu? (b) Sut gelli di addasu i amgylchiadau sy’n newid? (Gweler y llun agoriadol a’r blwch “ Wyt Ti’n Fodlon Defnyddio Gwahanol Ddulliau?”)

14 Dywedodd Paul wrth Timotheus: “Rhaid i ti ymroi i’r darlleniadau a’r pregethu a’r hyfforddi. Cadw lygad arnat ti dy hun ac ar yr hyfforddiant a roddi.” (1 Tim. 4:13, 16) Roedd Timotheus eisoes yn bregethwr profiadol. Ond, byddai ei weinidogaeth yn effeithiol dim ond petai’n cadw llygad ar ei ffordd o ddysgu. Nid oedd yn cymryd yn ganiataol y byddai pobl yn ymateb i’w ddulliau arferol o ddysgu. Er mwyn parhau i gyrraedd y galon, roedd yn rhaid iddo addasu ei ddulliau i gwrdd ag anghenion y bobl. Mae’n rhaid i ninnau wneud yr un peth.

15 Yn aml, nid yw pobl gartref wrth inni fynd o ddrws i ddrws. Mewn rhai ardaloedd, nid yw’n bosibl cael mynediad i fflatiau a chymunedau sydd wedi eu gwarchod. Os yw hynny’n wir yn dy diriogaeth di, beth am ystyried ffyrdd eraill o bregethu?

16. Sut gall pregethu’n gyhoeddus fod yn effeithiol?

16 Dull ardderchog o ledaenu’r newyddion da yw pregethu’n gyhoeddus. Mae llawer o Dystion yn cael rhan effeithiol a boddhaol yn y math hwn o bregethu. Maen nhw’n rhoi amser o’r neilltu ar gyfer pregethu mewn gorsafoedd trenau a bysiau, yn y farchnad a’r parc, a llefydd cyhoeddus eraill. Wrth fod yn ddoeth, gall Tyst gychwyn sgwrs â rhywun drwy sôn am y newyddion, canmol ei blant, neu holi am ei waith. Wrth i’r sgwrs barhau, mae’r cyhoeddwr yn codi pwynt Ysgrythurol i ennyn ymateb. Yn aml, mae sylwadau’r person yn arwain at sgwrs bellach am y Beibl.

17, 18. (a) Sut gelli di fod yn fwy hyderus wrth bregethu’n gyhoeddus? (b) Sut mae agwedd Dafydd tuag at glodfori Jehofa yn dy helpu di yn y weinidogaeth?

17 Os yw pregethu’n gyhoeddus yn her iti, paid â rhoi’r gorau iddi. Roedd Eddie, arloeswr yn Ninas Efrog Newydd, yn teimlo’n amheus am siarad â phobl yn gyhoeddus. Ond, mewn amser, daeth yn fwy hyderus. Beth a’i helpodd? Mae’n dweud: “Yn ystod ein haddoliad teuluol, gwnaeth fy ngwraig a finnau ymchwil er mwyn medru rhoi ateb i’r hyn mae pobl yn ei ddweud. Rydyn ni hefyd yn holi Tystion eraill am eu hawgrymiadau.” Nawr, mae Eddie yn edrych ymlaen at bregethu’n gyhoeddus.

18 Wrth iti fagu hyder a dod yn fwy medrus yn y gwaith pregethu, bydd dy gynnydd ysbrydol yn dod yn amlwg. (Darllen 1 Timotheus 4:15.) Ar ben hynny, byddi di’n sicr o glodfori ein Tad fel y gwnaeth Dafydd, a ganodd: “Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser; bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau. Yn yr ARGLWYDD yr ymhyfrydaf; bydded i’r gostyngedig glywed a llawenychu.” (Salm 34:1, 2) O ganlyniad i’th weinidogaeth, mae’n ddigon posibl y bydd rhai gostyngedig yn dod i addoli Jehofa hefyd.

CLODFORA DDUW DRWY WNEUD CYNNYDD YSBRYDOL

19. Pam dylai gweision ffyddlon Jehofa fod yn hapus, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu gwneud yr hyn yr hoffen nhw ei wneud?

19 Hefyd, canodd Dafydd: “Y mae dy holl waith yn dy foli, ARGLWYDD, a’th saint yn dy fendithio. Dywedant am ogoniant dy deyrnas, a sôn am dy nerth, er mwyn dangos i bobl dy weithredoedd nerthol ac ysblander gogoneddus dy deyrnas.” (Salm 145:10-12) Mae’r geiriau hynny yn adlewyrchu teimladau Tystion ffyddlon Jehofa. Ond beth os ydy ein hoed neu’n hiechyd yn cyfyngu ar ein gweinidogaeth? Cofia, bob tro rwyt ti’n rhannu’r gwirionedd â gofalwyr ac eraill, mae dy wasanaeth sanctaidd yn clodfori ein Duw rhyfeddol. Os wyt ti mewn carchar oherwydd dy ffydd, mae’n debyg dy fod ti’n siarad am y gwir pan fydd hynny’n bosibl, ac mae hyn yn gwneud i Jehofa lawenhau. (Diar. 27:11) Mae hynny’n wir hyd yn oed os nad yw’r teulu cyfan yn addoli Jehofa, oherwydd dy fod ti’n cadw at raglen ysbrydol. (1 Pedr 3:1-4) Hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd, gelli di glodfori Jehofa a chynyddu’n ysbrydol.

20, 21. Os wyt ti’n derbyn mwy o waith yng nghyfundrefn Jehofa, sut gelli di fod yn fendith i eraill?

20 Mae Jehofa yn sicr o’th fendithio os wyt ti’n dal ati i wneud cynnydd ysbrydol. Efallai drwy wneud newidiadau yn dy fywyd, byddai’n bosibl iti wneud mwy yn y gwaith o rannu’r newyddion da â phobl sydd angen gobaith. Yn ychwanegol i hynny, gall dy gynnydd ysbrydol a’th ysbryd hunanaberthol ddod â bendithion gwerthfawr i’th gyd-addolwyr. Ac oherwydd dy ymdrechion gostyngedig yn y gynulleidfa, bydd dy frodyr yn dy garu di, yn dy werthfawrogi di, ac yn dy gefnogi di.

21 P’un a ydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd maith neu am ychydig o fisoedd yn unig, gall pob un ohonon ni wneud cynnydd wrth addoli ein Duw. Ond sut gall Cristnogion aeddfed helpu’r rhai newydd i gynyddu’n ysbrydol? Byddwn ni’n trafod y pwnc hwnnw yn yr erthygl nesaf.