Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Priodas—Ei Dechreuad a’i Phwrpas

Priodas—Ei Dechreuad a’i Phwrpas

“Dwedodd yr Arglwydd Dduw wedyn, ‘Dydy e ddim yn beth da i’r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i’n mynd i wneud cymar iddo i’w gynnal.’”—GEN. 2:18, beibl.net.

CANEUON: 36, 11

1, 2. (a) Sut dechreuodd priodas? (b) Beth gallai’r dyn a’r ddynes gyntaf fod wedi ei sylweddoli ynglŷn â phriodas? (Gweler y llun agoriadol.)

MAE priodas yn rhan bwysig o fywyd. Gall adolygu ei dechreuad a’i phwrpas ein helpu ni i feithrin yr agwedd gywir tuag at briodas a mwynhau’r bendithion sy’n dod o’r berthynas. Ar ôl i Dduw greu’r dyn cyntaf, Adda, daethpwyd yr anifeiliaid ato fel y gallai eu henwi nhw. Ond, yn achos y dyn, doedd dim “cymar iddo i’w gynnal.” Felly, achosodd Duw i Adda gysgu’n ddwfn er mwyn tynnu asen ohono. Wedyn, gan ddefnyddio’r asen, creodd Duw ddynes, a dod â hi at y dyn. (Darllen Genesis 2:20-24, beibl.net.) Felly, mae priodas yn tarddu o Dduw.

2 Cadarnhaodd Iesu mai Jehofa a ddywedodd: “Bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd.” (Math. 19:4, 5) Gallai’r ffaith fod Duw wedi llunio’r ddynes gyntaf o asen Adda fod wedi helpu’r cwpl i ddeall pa mor bwysig oedd agosrwydd eu partneriaeth. Nid oedd unrhyw drefn yn bodoli ar gyfer ysgaru, nac am gael mwy nag un cymar ar yr un pryd.

MAE PRIODAS YN CYFLAWNI PWRPAS JEHOFA

3. Beth oedd pwrpas pwysig priodas?

3 Roedd Adda wrth ei fodd â’i wraig dlos, ac yn ddiweddarach galwodd hi’n Efa. Oherwydd mai “cymar” iddo oedd Efa, roedd hi’n ei “gynnal,” ac roedd y ddau yn dod â hapusrwydd i’w gilydd yn ddyddiol drwy gyflawni eu cyfrifoldebau fel gŵr a gwraig. (Gen. 2:18, beibl.net) Pwrpas pwysig priodas oedd poblogi’r ddaear. (Gen. 1:28) Byddai meibion a merched yn gadael eu rhieni, er eu bod nhw’n eu caru, er mwyn priodi a dechrau teuluoedd newydd. Roedd yn rhaid i fodau dynol lenwi’r ddaear i’r raddfa briodol ac ehangu eu cartref nes iddo fod yn baradwys fyd-eang.

4. Beth ddigwyddodd i’r briodas gyntaf?

4 Aeth y briodas gyntaf i helbul oherwydd bod Adda ac Efa wedi dewis anufuddhau i Jehofa. Gwnaeth “yr hen sarff,” Satan, dwyllo Efa drwy wneud iddi gredu y byddai bwyta o bren “gwybodaeth da a drwg” yn rhoi gwybodaeth arbennig iddi ac yn ei galluogi hi i benderfynu drosti hi ei hun yr hyn oedd yn dda ac yn ddrwg. Ni ddangosodd Efa barch tuag at benteuluaeth ei gŵr oherwydd nad oedd hi wedi trafod y mater ag ef. Ac yn hytrach na bod yn ufudd i Dduw, gwnaeth Adda dderbyn y ffrwyth.—Dat. 12:9; Gen. 2:9, 16, 17; 3:1-6.

5. Beth gallwn ni ei ddysgu o ymateb Adda ac Efa i Jehofa?

5 Pan gafodd Adda ei ddwyn i gyfrif gan Dduw, rhoddodd y bai ar ei wraig gan ddweud: “Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi o ffrwyth y pren, a bwyteais innau.” Beiodd Efa’r sarff oherwydd ei bod hi wedi cael ei thwyllo. (Gen. 3:12, 13) Esgusodion llipa oedd y rhain, heb unrhyw gyfiawnhad! Oherwydd eu bod nhw wedi gwrthryfela’n erbyn Duw, roedden nhw wedi eu condemnio ger ei fron. Am rybudd i ni! Er mwyn cael priodas lwyddiannus, mae angen i’r ddau gymar dderbyn eu cyfrifoldeb a bod yn ufudd i Jehofa.

6. Sut byddet ti’n esbonio Genesis 3:15?

6 Er gwaethaf yr hyn a wnaeth Satan yn Eden, rhoddodd Jehofa obaith i’r ddynoliaeth ym mhroffwydoliaeth gyntaf y Beibl. (Darllen Genesis 3:15.) Byddai Satan yn cael ei sathru gan “had” y “wraig.” Drwy ddweud hyn, rhoddodd Jehofa gipolwg ar y berthynas arbennig sy’n bodoli rhyngddo ef a’r myrddiynau o angylion cyfiawn sy’n ei wasanaethu yn y nefoedd. Yn ddiweddarach, datgelwyd yn yr Ysgrythurau y byddai Duw yn anfon, o’i gyfundrefn, neu ei “wraig,” rywun a fyddai’n sathru’r Diafol. Trwy’r un hwnnw y byddai pobl ufudd yn cael yr hyn a gollodd y cwpl cyntaf, sef bywyd tragwyddol ar y ddaear yn unol â bwriad gwreiddiol Duw.—Ioan 3:16.

7. (a) Beth sydd wedi digwydd i briodas ers y gwrthryfel yn Eden? (b) Beth yw cyngor y Beibl i wŷr a gwragedd?

7 Cafodd gwrthryfel Adda ac Efa effaith ddrwg ar eu priodas nhw ac ar bob priodas wedi hynny. Er enghraifft, byddai Efa a’i disgynyddion benywaidd yn dioddef poen ofnadwy wrth eni plant. Byddai gwragedd yn dyheu am eu gwŷr, ond byddai gwŷr yn arglwyddiaethu ar eu gwragedd, hyd yn oed mewn ffordd dreisgar, fel y gwelwn ni’n aml heddiw. (Gen. 3:16) Mae’r Beibl yn gofyn i wŷr fod yn bennau cariadus ar eu gwragedd, ac i wragedd ildio i benteuluaeth eu gwŷr. (Eff. 5:33) Oherwydd bod cyplau sy’n ofni Duw yn cydweithredu, mae sefyllfaoedd a all achosi tensiwn yn cael eu lleihau neu’n cael eu dileu yn gyfan gwbl.

PRIODAS O AMSER ADDA HYD AT Y DILYW

8. Beth yw hanes priodas o amser Adda hyd at y Dilyw?

8 Cyn i bechod ac amherffeithrwydd achosi i Adda ac Efa farw, cafodd y cwpl feibion a merched. (Gen. 5:4) Priododd eu mab cyntaf, Cain, un o’i berthnasau benywaidd. Lamech, un o ddisgynyddion Cain, oedd y cyntaf ar gofnod i briodi dwy wraig. (Gen. 4:17, 19) Yn y cenedlaethau a fu rhwng dyddiau Adda a’r Dilyw, dim ond nifer fach o unigolion sy’n cael eu hadnabod yn addolwyr i Jehofa. Ymhlith y rheini oedd Abel, Enoch, a Noa a’i deulu. Yn ystod amser Noa, “gwelodd meibion Duw fod y merched yn hardd, a chymerasant wragedd o’u plith yn ôl eu dewis.” Gwnaeth yr uniad annaturiol hwnnw, rhwng angylion a ddaeth i’r ddaear a merched, genhedlu dynion cymysgryw treisgar a elwir Neffilim. Yn ychwanegol i hynny, roedd “drygioni’r bobl yn fawr ar y ddaear,” ac roedd “holl ogwydd eu bwriadau bob amser yn ddrwg.”—Gen. 6:1-5.

9. Beth wnaeth Jehofa i’r bobl ddrwg yn nyddiau Noa, a pha wers dylen ni ei dysgu oddi wrth yr hyn a ddigwyddodd bryd hynny?

9 Achosodd Jehofa y Dilyw yn nyddiau Noa er mwyn dinistrio’r drygionus. Ar y pryd, roedd y bobl yn canolbwyntio cymaint ar eu bywyd bob dydd, gan gynnwys priodi, fel nad oedden nhw’n cymryd o ddifrif rybuddion Noa ynglŷn â’r dinistr a oedd ar fin dod. (2 Pedr 2:5) Cymharodd Iesu amgylchiadau’r cyfnod hwnnw â’r hyn rydyn ni’n ei weld heddiw. (Darllen Mathew 24:37-39.) Heddiw, mae’r mwyafrif o bobl yn gwrthod gwrando ar newydd da’r Deyrnas sy’n cael ei gyhoeddi yn fyd eang i’r holl genhedloedd cyn i’r hen fyd drwg hwn gael ei ddinistrio. Gad inni gofio na ddylai unrhyw beth, gan gynnwys priodi a magu plant, achosi inni golli’r teimlad o frys sy’n rhaid inni ei gael tuag at ddydd mawr Jehofa.

PRIODAS O AMSER Y DILYW HYD AT DDYDDIAU IESU

10. (a) Mewn llawer o ddiwylliannau, pa arferion rhywiol a ddaeth yn ffordd o fyw? (b) Sut gwnaeth Abraham a Sara osod esiampl dda yn eu priodas?

10 Er bod gan Noa a’i dri mab un wraig yr un, roedd amlwreiciaeth yn gyffredin yn nyddiau’r patriarchiaid. Mewn llawer o ddiwylliannau, daeth anfoesoldeb rhywiol yn ffordd o fyw ac yn rhan o ddefodau crefyddol. Pan ufuddhaodd Abraham a Sara i Dduw a symud i Ganaan, roedd y wlad yn llawn arferion a oedd yn diraddio priodas. Felly, dyfarnodd Jehofa y byddai Sodom a Gomorra yn cael eu dinistrio oherwydd bod anfoesoldeb rhywiol difrifol yn rhemp. Roedd Abraham yn benteulu da, a gosododd Sara esiampl dda drwy ymostwng iddo. (Darllen 1 Pedr 3:3-6.) Sicrhaodd Abraham fod ei fab Isaac yn priodi rhywun a oedd yn addoli Jehofa. Roedd yr agwedd honno tuag at wir addoliad hefyd yn bwysig i Jacob, mab Isaac, a ddaeth yn gyndad i 12 llwyth Israel.

11. Sut roedd Cyfraith Moses yn amddiffyn yr Israeliaid?

11 Yn nes ymlaen, gwnaeth Jehofa gyfamod â disgynyddion Jacob (Israel). Bellach, daeth arferion priodasol sylfaenol y patriarchiaid, gan gynnwys amlwreiciaeth, o dan Gyfraith Moses. Roedd y Gyfraith yn amddiffyn yr Israeliaid yn ysbrydol drwy eu gwahardd nhw rhag priodi gau addolwyr. (Darllen Deuteronomium 7:3, 4.) Pan fyddai problemau difrifol priodasol yn codi, roedd yr henuriaid yn rhoi cymorth. Roedd anffyddlondeb, cenfigen, a drwg-dybion yn cael eu trin mewn ffordd briodol. Caniatawyd ysgariad, ond fe’i rheolwyd. Gallai dyn ysgaru ei wraig am rywbeth “anweddus.” (Deut. 24:1) Nid yw’r gair “anweddus” yn cael ei ddiffinio, ond rhesymol yw credu nad oedd hynny’n cynnwys materion dibwys.—Lef. 19:18.

PAID BYTH Â BRADYCHU DY GYMAR

12, 13. (a) Sut roedd rhai dynion yn trin eu gwragedd yn nyddiau Malachi? (b) Heddiw, petai Cristion yn cysgu â chymar rhywun arall, beth fyddai’r canlyniadau?

12 Yn nyddiau’r proffwyd Malachi, roedd llawer o wŷr Iddewig yn bradychu eu gwragedd drwy eu hysgaru nhw, gan ddefnyddio pob math o esgusodion. Roedd dynion o’r fath yn cael gwared ar wragedd eu hieuenctid, efallai i briodi merched iau neu hyd yn oed merched paganaidd. Roedd dynion Iddewig yn dal yn defnyddio “unrhyw reswm” i ysgaru yn nyddiau Iesu. (Math. 19:3) Mae Jehofa yn casáu ysgariad o’r fath.—Darllen Malachi 2:13-16.

13 Heddiw, ni chaniateir brad priodasol ymhlith pobl Jehofa. Ond dychmyga fod dyn neu ddynes briod fedyddiedig yn cysgu â chymar rhywun arall, ac yna’n priodi’r person hwnnw ar ôl ysgaru. Os nad yw’n edifar, byddai’r drwgweithredwr yn cael ei ddiarddel er mwyn cadw purdeb ysbrydol y gynulleidfa. (1 Cor. 5:11-13) Byddai’n gorfod dangos ei fod yn dwyn “ffrwythau” sy’n deilwng o’i edifeirwch cyn iddo gael ei dderbyn yn ôl i’r gynulleidfa. (Luc 3:8; 2 Cor. 2:5-10) Er nad oes rhaid i gyfnod penodol fynd heibio cyn i rywun gael ei adfer, ni ellir anwybyddu brad o’r fath, sy’n anghyffredin ymhlith y rhai sy’n gysylltiedig â phobl Dduw. Gall pechadur gymryd cryn dipyn o amser—flwyddyn neu fwy efallai—i brofi ei fod yn wir edifar. Hyd yn oed os yw’r person yn cael ei adfer, mae’n dal yn gorfod “sefyll o flaen llys barn Duw.”—Rhuf. 14:10-12, beibl.net; gweler y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Tachwedd 1979, tt. 31-32.

PRIODAS YMHLITH CRISTNOGION

14. Beth oedd pwrpas y Gyfraith?

14 Roedd Cyfraith Moses yn rheoli bywydau’r Israeliaid am 1,500 o flynyddoedd a mwy. Roedd yn helpu pobl Dduw i ddefnyddio egwyddorion cyfiawn wrth ymdrin â materion teuluol a phethau eraill. A hefyd, roedd y Gyfraith yn warchodwr a oedd yn arwain at y Meseia. (Gal. 3:23, 24) Ar ôl i’r Gyfraith gael ei dileu pan fu farw Iesu, rhoddodd Duw gychwyn ar drefn newydd. (Heb. 8:6) Wedi hynny, nid oedd rhai consesiynau a oedd ar gael o dan y Gyfraith yn cael eu caniatáu.

15. (a) Yn y gynulleidfa Gristnogol, beth yw’r safon ar gyfer priodas? (b) Pa ffactorau y dylai Cristion eu hystyried wrth feddwl am ysgaru?

15 Wrth ymateb i gwestiwn a ofynnodd rhai o’r Phariseaid, dywedodd Iesu nad oedd y consesiwn a ganiataodd Moses o ran ysgariad wedi bodoli “o’r dechreuad.” (Math. 19:6-8) Felly, roedd Iesu’n dangos y byddai’r safon dduwiol ynglŷn â phriodas, a sefydlwyd yn Eden, yn bodoli yn y gynulleidfa Gristnogol. (1 Tim. 3:2, 12) Roedd cyplau i fod yn “un cnawd,” wedi eu glynu wrth ei gilydd, yn caniatáu i’w cariad tuag at Dduw a thuag at ei gilydd dynhau cwlwm eu priodas. Ni fyddai ysgariad cyfreithlon nad oedd yn seiliedig ar anfoesoldeb rhywiol yn rhyddhau rhywun i ailbriodi. (Math. 19:9) Wrth gwrs, efallai byddai rhywun yn dewis maddau i’w gymar godinebus ond edifar, fel y mae’n debyg y maddeuodd y proffwyd Hosea i’w wraig anfoesol, Gomer. Mewn modd tebyg, trugarhaodd Jehofa wrth y genedl Israel edifar ar ôl iddi odinebu mewn ffordd ysbrydol. (Hos. 3:1-5) Sut bynnag, petai gŵr neu wraig yn gwybod bod y llall wedi godinebu, ac yn dewis cael cyfathrach rywiol â’r cymar euog, byddai gweithred o’r fath yn dangos bod ef neu hi wedi maddau i’r cymar ac yn dileu’r sail Ysgrythurol ar gyfer ysgariad.

16. Beth ddywedodd Iesu am aros yn sengl?

16 Ar ôl dangos nad oes, ymhlith gwir Gristnogion, unrhyw sail i ysgariad heblaw am anfoesoldeb rhywiol, soniodd Iesu am y rhai sydd â’r ddawn i aros yn sengl. Fe ychwanegodd: “Boed i’r sawl sy’n gallu derbyn hyn ei dderbyn.” (Math. 19:10-12) Mae llawer wedi dewis aros yn sengl er mwyn canolbwyntio’n llwyr ar eu gwasanaeth i Jehofa. Am eu bod nhw wedi gwneud hynny, maen nhw’n haeddu canmoliaeth.

17. Beth all helpu Cristion i benderfynu a ddylai briodi neu beidio?

17 Er mwyn gwybod a ddylai person briodi neu beidio, dylai’r unigolyn benderfynu yn ei galon a yw’n gallu meithrin y ddawn o aros yn sengl. Roedd yr apostol Paul yn argymell aros yn sengl; ond eto, fe ddywedodd: “Oherwydd yr anfoesoldeb rhywiol sy’n bod, bydded gan bob dyn ei wraig ei hun, a chan bob gwraig ei gŵr ei hun.” Ychwanegodd Paul: “Ond os na allant ymatal, dylent briodi, oherwydd gwell priodi nag ymlosgi.” Gall priodi helpu rhywun i beidio â gadael i nwydau achosi iddo arfer mastyrbio neu i fod yn anfoesol yn rhywiol. Aeth Paul yn ei flaen i ddweud: “Os oes unrhyw un yn teimlo ei fod yn ymddwyn yn anweddaidd tuag at ei ddyweddi, os yw ei nwydau’n rhy gryf ac felly bod y peth yn anorfod, gwnaed yn ôl ei ddymuniad a bydded iddynt briodi; nid oes pechod yn hynny.” (1 Cor. 7:2, 9, 36; 1 Tim. 4:1-3) Er hynny, ni ddylai person briodi oherwydd nwydau, sef teimladau rhywiol cryf iawn, a all godi yn ystod ieuenctid. Efallai nad yw’r unigolyn yn ddigon aeddfed i ysgwyddo cyfrifoldebau bywyd priodasol.

18, 19. (a) Sut dylai priodas Gristnogol ddechrau? (b) Beth bydd yr erthygl ganlynol yn ei thrafod?

18 Dylai priodas Gristnogol ddechrau gyda dyn a dynes sydd wedi eu hymgysegru i Jehofa ac sy’n ei garu â’u holl galonnau. Dylen nhw hefyd fod wedi dod i garu ei gilydd gymaint nes eu bod nhw eisiau uno eu bywydau mewn priodas. Wrth gwrs, byddan nhw’n cael eu bendithio am ddilyn y cyngor i briodi “yn yr Arglwydd” yn unig. (1 Cor. 7:39) Unwaith maen nhw wedi priodi, byddan nhw’n dibynnu ar y Beibl i roi’r cyngor gorau iddyn nhw er mwyn llwyddo yn eu priodas.

19 Bydd yr erthygl ganlynol yn trafod pwyntiau Ysgrythurol a all helpu Cristnogion priod i wynebu’r her o fyw yn “y dyddiau diwethaf” pan fo cymaint o ddynion a merched â thueddiadau sy’n gwneud priodas lwyddiannus yn anodd. (2 Tim. 3:1-5) Yn ei Air gwerthfawr, mae Jehofa wedi rhoi’r hyn rydyn ni’n ei angen er mwyn inni fod yn llwyddiannus ac yn hapus yn ein priodasau, a hynny wrth inni gerdded gyda’i bobl ar hyd y ffordd sy’n arwain at fywyd tragwyddol.—Math. 7:13, 14.