Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Gweld yr Angen i Hyfforddi Eraill?

Wyt Ti’n Gweld yr Angen i Hyfforddi Eraill?

“Yr wyf yn rhoi i chwi hyfforddiant da.”—DIAR. 4:2.

CANEUON: 93, 96

1, 2. Pam dylen ni hyfforddi eraill i ysgwyddo aseiniadau theocrataidd?

CYHOEDDI’R newyddion da oedd prif aseiniad Iesu. Fodd bynnag, treuliodd amser yn hyfforddi eraill i fod yn fugeiliaid ac yn athrawon. (Math. 10:5-7) Er bod Philip wedi bod yn brysur yn y gwaith efengylu, mae’n siŵr ei fod wedi helpu ei bedair merch i siarad am wirioneddau Ysgrythurol ag eraill yn effeithiol. (Act. 21:8, 9) Pa mor bwysig yw hyfforddiant o’r fath heddiw?

2 Yn fyd-eang, mae nifer y bobl sy’n derbyn y newyddion da yn cynyddu. Mae’n rhaid i rai newydd sydd heb eu bedyddio ddeall pwysigrwydd astudio’r Beibl yn bersonol. Hefyd, mae’n rhaid i rai newydd gael eu dysgu i bregethu’r newyddion da ac i gyflwyno’r gwirionedd i eraill. Yn ein cynulleidfaoedd, dylid annog ein brodyr i weithio’n galed er mwyn bod yn gymwys ar gyfer gwasanaethu fel gweision gweinidogaethol a henuriaid. Trwy gyfrwng “hyfforddiant da,” gall Cristnogion aeddfed helpu rhai newydd i gynyddu’n ysbrydol.—Diar. 4:2.

HELPU RHAI NEWYDD I GAEL NERTH A DOETHINEB O AIR DUW

3, 4. (a) Sut gwnaeth Paul gysylltu astudio’r Ysgrythurau â gweinidogaeth gynhyrchiol? (b) Cyn annog ein myfyrwyr i astudio’r Beibl yn bersonol, beth dylen ni fod yn ei wneud?

3 Pa mor bwysig yw astudio’n bersonol yr Ysgrythurau? Mae’r apostol Paul yn rhoi’r ateb i’w gyd-Gristnogion yn Colosae: “Ac felly dyn ni wedi bod yn dal ati i weddïo drosoch chi ers y diwrnod y clywon ni hynny. Dŷn ni’n gofyn i Dduw ddangos i chi yn union beth mae eisiau, a’ch gwneud chi’n ddoeth i allu deall pethau ysbrydol. Pwrpas hynny yn y pen draw ydy i chi fyw fel mae Duw am i chi fyw, a’i blesio fe ym mhob ffordd: trwy fyw bywydau sy’n llawn o weithredoedd da o bob math, a dod i nabod Duw yn well.” (Col. 1:9, 10, beibl.net) Trwy ddod i adnabod Duw yn dda, roedd Cristnogion Colosae yn gallu byw mewn ffordd a fyddai’n plesio Duw yn enwedig yn y gwaith o bregethu’r newyddion da. Er mwyn gwasanaethu Jehofa yn effeithiol, mae’n rhaid dilyn rhaglen o astudio’r Beibl. Peth doeth fyddai helpu myfyrwyr y Beibl i ddeall y ffaith honno.

4 Cyn helpu eraill i elwa ar astudiaeth bersonol o’r Beibl, mae’n bwysig ein bod ninnau wedi magu arferion astudio da yn y lle cyntaf, ac wedi gweld y lles o wneud hynny. Felly, gofynna i ti dy hun: ‘Pan fo’r deiliad yn mynegi barn sy’n mynd yn groes i’r Beibl neu’n gofyn cwestiynau anodd, a allaf roi ateb sy’n seiliedig ar y Beibl? Pan ydw i’n darllen am Iesu, Paul, ac eraill yn dal ati yn y weinidogaeth, ydy eu dyfalbarhad nhw yn dylanwadu ar fy ngwasanaeth innau i Jehofa?’ Mae angen gwybodaeth a chyngor o Air Duw ar bob un ohonon ni. Ac os ydyn ni’n dweud wrth eraill am sut rydyn ni wedi elwa ar astudio’r Beibl, gallwn ni eu hannog nhw i fod yn fyfyrwyr dyfal er mwyn cael manteision o’r fath.

5. Sut gelli di helpu rhai newydd i ddilyn rhaglen bersonol o astudio’r Beibl?

5 Gofynna i ti dy hun: ‘Sut galla’ i hyfforddi’r myfyriwr i astudio’r Beibl yn rheolaidd?’ Cychwyn da fyddai dangos iddo sut i baratoi ar gyfer ei astudiaeth. Gelli di hefyd awgrymu iddo ddarllen rhannau o’r atodiadau yn y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? a darllen yr adnodau y cyfeirir atyn nhw yno. Helpa iddo baratoi ar gyfer y cyfarfodydd ac ar gyfer rhoi ateb. Anoga ef i ddarllen pob rhifyn o’r Tŵr Gwylio a’r Awake! Os ydy’r Watchtower Library neu LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio ar gael yn ei iaith, gelli di ddangos iddo sut i’w defnyddio i ateb cwestiynau am y Beibl. Yn fwy na thebyg bydd dy fyfyriwr yn cael pleser mawr o astudio Gair Duw yn bersonol.

6. (a) Sut gelli di helpu myfyrwyr i feithrin cariad tuag at y Beibl? (b) Beth mae myfyriwr yn debygol o’i wneud petai’n meithrin cariad dwfn tuag at yr Ysgrythurau?

6 Wrth gwrs, ni ddylen ni roi pwysau ar bobl i ddarllen neu astudio’r Beibl. Yn hytrach, gad inni ddefnyddio’r adnoddau y mae cyfundrefn Jehofa wedi eu darparu ar gyfer helpu’r myfyriwr i ddyfnhau ei gariad tuag at y Beibl. Mewn amser, efallai bydd y myfyriwr yn mynegi’r un teimladau â’r salmydd, a ganodd: “Ond da i mi yw bod yn agos at Dduw; yr wyf wedi gwneud yr ARGLWYDD Dduw yn gysgod i mi.” (Salm 73:28) Bydd ysbryd Jehofa yn gweithredu ar fyfyrwyr cydwybodol a diolchgar.

HYFFORDDI RHAI NEWYDD I BREGETHU A DYSGU ERAILL

7. Sut gwnaeth Iesu hyfforddi rhai i gyhoeddi’r newyddion da? (Gweler y llun agoriadol.)

7 Yn Mathew pennod 10, mae Iesu’n rhoi cyfarwyddiadau i’w 12 apostol. Yn hytrach na siarad yn gyffredinol, mae’n trafod pethau penodol. [1] Roedd yr apostolion yn gwrando tra oedd Iesu yn eu dysgu i bregethu’n effeithiol. Yna, aeth y grŵp allan i’r maes. Ar ôl gwylio dulliau Iesu, daethon nhw hefyd yn athrawon a oedd yn dysgu gwirioneddau’r Ysgrythurau’n effeithiol. (Math. 11:1) Gallwn hyfforddi ein myfyrwyr i gyhoeddi’r newyddion da mewn ffordd effeithiol. Gad inni nawr ystyried dwy ffordd o wneud hynny.

8, 9. (a) Sut roedd Iesu’n cychwyn sgwrs â phobl yn ei weinidogaeth? (b) Sut gallwn ni helpu cyhoeddwyr newydd i sgwrsio â phobl fel yr oedd Iesu yn ei wneud?

8 Sgwrsio â phobl. Roedd Iesu’n aml yn siarad ag unigolion am y Deyrnas. Er enghraifft, cafodd sgwrs fywiog ac effeithiol â dynes ger ffynnon Jacob, wrth ymyl dinas Sychar. (Ioan 4:5-30) Siaradodd hefyd â chasglwr trethi o’r enw Mathew Lefi. Nid yw’r Efengylau yn cynnwys llawer o’r sgwrs honno, ond derbyniodd Mathew wahoddiad Iesu i fod yn ddilynwr iddo. Gwrandawodd Mathew ac eraill ar Iesu yn siarad am gryn amser yn ystod gwledd yng nghartref Mathew.—Math. 9:9; Luc 5:27-39.

9 Ar achlysur arall, siaradodd Iesu yn gyfeillgar â Nathanael, a oedd yn edrych i lawr ar bobl o Nasareth. Fodd bynnag, newidiodd ei feddwl. Penderfynodd ddysgu mwy am yr hyn roedd Iesu, dyn o Nasareth, yn ei ddysgu. (Ioan 1:46-51) Felly, mae rhesymau da dros hyfforddi cyhoeddwyr newydd i siarad yn gyfeillgar ag eraill. [2] Mae’n debyg y bydd ein myfyrwyr yn hapus o weld pobl yn ymateb yn ffafriol i’w geiriau caredig a’u diddordeb personol.

10-12. (a) Sut gwnaeth Iesu feithrin y diddordeb roedd pobl yn ei ddangos yn y newyddion da? (b) Sut gallwn ni helpu cyhoeddwyr newydd i wella eu sgiliau fel athrawon y Beibl?

10 Meithrin diddordeb. Nid oedd gan Iesu lawer o amser i gyflawni ei weinidogaeth. Serch hynny, treuliodd amser yn meithrin y diddordeb a ddangosodd pobl yn y newyddion da. Er enghraifft, siaradodd Iesu â thorf o bobl drwy ddefnyddio cwch fel llwyfan. Ar yr adeg honno, cyflawnodd wyrth drwy roi llwyth o bysgod i Pedr, gan ddweud wrtho: “O hyn allan dal dynion y byddi di.” Pa effaith a gafodd eiriau a gweithredoedd Iesu? Daeth Pedr a’i gyd-weithwyr “â’r cychod yn ôl i’r lan, a gadael popeth, a’i ganlyn ef [Iesu].”—Luc 5:1-11.

11 Dechreuodd Nicodemus, aelod o’r Sanhedrin, ddangos diddordeb yn nysgeidiaeth Iesu. Roedd eisiau gwybod mwy ond roedd yn ofni’r hyn y byddai eraill yn ei ddweud petai’n siarad â Iesu yn gyhoeddus. Roedd Iesu’n hyblyg ac yn hael ei amser, a dyma’n cwrdd â Nicodemus liw nos ac yn bell o olwg y tyrfaoedd. (Ioan 3:1, 2) Beth yw’r wers i ni felly? Roedd Iesu yn rhoi amser o’r neilltu ar gyfer cryfhau ffydd pobl. Oni ddylen ninnau hefyd fod yn ddiwyd wrth alw yn ôl ar bobl ac wrth astudio’r Beibl gyda’r rhai sy’n dangos diddordeb?

12 Os ydyn ni’n cydweithio â chyhoeddwyr newydd yn y weinidogaeth, maen nhw’n debygol o wella fel athrawon. Gallwn ni eu helpu nhw i gadw mewn cof y rhai sy’n dangos hyd yn oed y diddordeb lleiaf. Gallwn wahodd cyhoeddwyr newydd i ddod gyda ni ar ail alwadau ac astudiaethau Beiblaidd. Gyda hyfforddiant ac anogaeth o’r fath, gall cyhoeddwyr llai profiadol feithrin diddordeb a chynnal astudiaethau ar eu pennau eu hunain. Byddan nhw hefyd yn dysgu i beidio â rhoi’r gorau iddi ond i fod yn amyneddgar ac i ddal ati yn y weinidogaeth.—Gal. 5:22; gweler y blwch “ Mae Dyfalbarhad yn Hanfodol.”

HYFFORDDI RHAI NEWYDD I WASANAETHU CYD-ADDOLWYR

13, 14. (a) Beth rwyt ti’n ei feddwl am y rhai yn y Beibl a aberthodd lawer er lles eraill? (b) Sut gelli di hyfforddi cyhoeddwyr newydd a rhai ifanc i ddangos cariad tuag at eu brodyr a’u chwiorydd?

13 Mae’r Beibl yn tanlinellu’r fraint sydd gennyn ni i ddangos “brawdgarwch” a gwasanaethu ein gilydd. (Darllen 1 Pedr 1:22; Luc 22:24-27.) Rhoddodd Mab Duw bopeth yr oedd ganddo, gan gynnwys ei fywyd, i wasanaethu eraill. (Math. 20:28) Roedd Dorcas “yn llawn o weithredoedd da ac o elusennau.” (Act. 9:36, 39) Roedd Mair, chwaer yn Rhufain, yn “gweithio’n galed” er lles eraill yn y gynulleidfa. (Rhuf. 16:6, beibl.net) Sut gallwn ni dynnu sylw rhai newydd at bwysigrwydd helpu eu brodyr a’u chwiorydd?

Hyffordda rai newydd i ddangos cariad tuag at eu cyd-addolwyr (Gweler paragraffau 13, 14)

14 Gall Tystion aeddfed wahodd rhai newydd i fynd gyda nhw i weld y rhai sy’n sâl ac yn oedrannus. Os yw’n briodol, gall plant fynd gyda’u rhieni ar ymweliadau o’r fath. Gall henuriaid weithio ag eraill i sicrhau bod gan yr oedrannus fwyd maethlon a bod eu cartrefi yn cael eu cynnal a’u cadw. Oherwydd hyn, mae rhai ifanc a rhai newydd yn dysgu sut i fod yn garedig. Wrth bregethu mewn ardal wledig, roedd un henuriad yn ymweld â’r Tystion lleol i weld sut roedden nhw’n ymdopi. Yn aml, roedd brawd ifanc yn mynd gydag ef ac felly’n dysgu bod rhaid i bawb yn y gynulleidfa deimlo eu bod nhw’n cael eu caru.—Rhuf. 12:10.

15. Pam ei bod hi’n bwysig i henuriaid helpu’r dynion yn y gynulleidfa i wneud cynnydd?

15 Gan fod Jehofa yn defnyddio dynion i fod yn athrawon yn y gynulleidfa, pwysig iawn yw bod y brodyr yn hogi eu sgiliau traddodi. Os wyt ti’n henuriad, a elli di wrando ar was gweinidogaethol yn ymarfer ei anerchiad? Drwy wneud hyn, byddi di’n ei helpu i roi min ar ei sgiliau dysgu.—Neh. 8:8. [3]

16, 17. (a) Sut roedd Paul yn cadw llygad ar gynnydd Timotheus? (b) Sut gall henuriaid hyfforddi mewn ffordd effeithiol fugeiliaid sy’n mynd i ofalu am y gynulleidfa yn y dyfodol?

16 Mae’r angen am fugeiliaid yn y gynulleidfa Gristnogol yn enfawr, ac mae angen i’r rhai a fydd yn gwneud y gwaith hwn yn y dyfodol gael eu hyfforddi yn barhaol. Esboniodd Paul yn fras sut i gyflawni’r math hwn o hyfforddi pan ddywedodd wrth Timotheus: “Ymnertha di, fy mab, yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. Cymer y geiriau a glywaist gennyf fi yng nghwmni tystion lawer, a throsglwydda hwy i ofal pobl ffyddlon a fydd yn abl i hyfforddi eraill hefyd.” (2 Tim. 2:1, 2) Roedd Timotheus yn dysgu wrth weithio ochr yn ochr â’r apostol, a oedd yn ddyn mwy profiadol. Roedd Timotheus wedyn yn rhoi ar waith ddulliau Paul yn ei weinidogaeth ei hun ac yn ei wasanaeth cysegredig yn gyffredinol.—2 Tim. 3:10-12.

17 Ni wnaeth Paul esgeuluso’r gwaith o hyfforddi Timotheus. Sicrhaodd fod y dyn ifanc yn teithio gydag ef. (Act. 16:1-5) Gall henuriaid ddilyn esiampl Paul drwy fynd â gweision gweinidogaethol cymwys gyda nhw ar alwadau bugeiliol pan fo hynny’n briodol. Mae’r henuriaid yn rhoi’r cyfle i’r brodyr hyn wylio â’u llygaid eu hunain y dysgu, y ffydd, yr amynedd, a’r cariad sy’n angenrheidiol ar gyfer bod yn arolygwr Cristnogol. Mae’r drefn hon yn cyfrannu at hyfforddi bugeiliaid a fydd yn gofalu am “braidd Duw” yn y dyfodol.—1 Pedr 5:2.

PWYSIGRWYDD HYFFORDDI ERAILL

18. Pam dylai hyfforddi eraill yng ngwasanaeth Jehofa fod yn bwysig inni?

18 Mae hyfforddi eraill yn hanfodol bwysig oherwydd bod yr anghenion a’r cyfleoedd i wasanaethu Jehofa yn cynyddu. Mae’r esiampl a osododd Iesu a Paul ynglŷn â hyfforddi eraill yn ddilys o hyd. Dymuniad Jehofa yw bod ei weision heddiw wedi eu hyfforddi’n dda ar gyfer eu haseiniadau theocrataidd. Mae Duw yn rhoi’r fraint inni helpu’r rhai sy’n llai profiadol i ddatblygu eu gallu i wneud gwaith pwysig yn y gynulleidfa. Wrth i bethau yn y byd fynd o ddrwg i waeth, ac i gyfleoedd newydd i bregethu gynyddu, mae hyfforddi yn fater o frys.

19. Pam y dylet ti fod yn gwbl sicr y bydd dy ymdrechion i hyfforddi eraill yng ngwasanaeth Jehofa yn dwyn ffrwyth?

19 Wrth gwrs, mae hyfforddi eraill yn gofyn am amser ac ymdrech. Ond bydd Jehofa a’i Fab yn ein cefnogi ac yn rhoi’r doethineb angenrheidiol inni. Byddwn ni’n llawenhau o weld y rhai rydyn ni’n eu helpu “yn llafurio ac yn ymdrechu” yn eu tro. (1 Tim. 4:10) A gad i bob un ohonon ni barhau i gynyddu’n ysbrydol wrth inni wasanaethu Jehofa.

^ [1] (paragraff 7) O’r hyn a drafodwyd gan Iesu, dyma rai pwyntiau penodol: (1) Pregethu’r neges gywir. (2) Bod yn fodlon ar ddarpariaethau Duw. (3) Osgoi dadlau â’r deiliad. (4) Ymddiried yn Nuw wrth ddelio â gwrthwynebwyr. (5) Peidio ag ildio i ofn.

^ [2] (paragraff 9) Mae gan y llyfr Benefit From Theocratic Ministry School Education awgrymiadau da ar tt. 62-64 ynglŷn â sut i sgwrsio â phobl yn y weinidogaeth.

^ [3] (paragraff 15) Mae’r llyfr Benefit From Theocratic Ministry School Education, tt. 52-61, yn tynnu sylw at y math o rinweddau sy’n bwysig ar gyfer siarad yn gyhoeddus.