Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’n ei Olygu i Fod yn Berson Ysbrydol?

Beth Mae’n ei Olygu i Fod yn Berson Ysbrydol?

“Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu.”—PHILIPIAID 2:5.

CANEUON: 17, 13

1, 2. (a) Sut mae llawer o frodyr a chwiorydd yn teimlo am fod yn bobl ysbrydol? (b) Pa gwestiynau pwysig y byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon?

DYWEDODD chwaer o Ganada fod cadw’n ysbrydol gryf wedi ei gwneud hi’n berson hapusach ac wedi ei helpu hi i ymdopi â phroblemau bywyd. Mae brawd o Frasil, sydd wedi bod yn briod am 23 o flynyddoedd, yn dweud bod canolbwyntio ar bethau ysbrydol wedi helpu iddo ef a’i wraig gael priodas hapus. Mae bod yn berson ysbrydol wedi helpu brawd yn Ynysoedd y Philipinau i ddod ymlaen yn dda gyda brodyr a chwiorydd o gefndiroedd gwahanol.

2 Mae’n amlwg ein bod ni’n elwa ar fod yn bobl ysbrydol mewn llawer o wahanol ffyrdd. Beth allwn ni ei wneud i fod yn fwy ysbrydol a mwynhau’r buddion hynny? Yn gyntaf, mae’n rhaid inni ddeall beth mae’r Beibl yn ei ddweud am bobl ysbrydol, y rhai hynny sy’n cael eu harwain gan ysbryd glân Duw ac sy’n meddwl fel y mae Jehofa yn meddwl. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tri chwestiwn pwysig: (1) Beth mae’n ei olygu i fod yn berson ysbrydol? (2) Pa esiamplau fydd yn ein helpu ni i ddod yn fwy ysbrydol? (3) Sut bydd ein hymdrechion i “weld pethau o safbwynt” Crist yn ein helpu i fod yn bobl ysbrydol?

BETH YW PERSON YSBRYDOL?

3. Sut mae’r Beibl yn disgrifio’r gwahaniaeth rhwng person ysbrydol ac un corfforol?

3 Mae’r apostol Paul yn ein helpu ni i ddeall y gwahaniaeth rhwng pobl ysbrydol a rhai corfforol. (Darllen 1 Corinthiaid 2:14-16.) Dydy person corfforol “ddim yn derbyn beth mae Ysbryd Duw yn ei ddweud—maen nhw’n gweld y cwbl fel nonsens pur. Dydyn nhw ddim yn gallu deall am fod angen dirnadaeth ysbrydol i ddeall.” I’r gwrthwyneb, “mae’r cwbl yn gwneud sens” i berson ysbrydol oherwydd iddo “weld pethau o safbwynt y Meseia,” sy’n golygu ei fod yn ymdrechu i feddwl fel y mae Crist yn meddwl. Mae Paul yn ein hannog ni i fod yn bobl ysbrydol. Ym mha ffyrdd eraill y mae pobl ysbrydol yn wahanol i bobl gorfforol?

4, 5. Sut gallwn ni adnabod person corfforol?

4 Sut mae person corfforol yn meddwl? Mae person corfforol yn mabwysiadu agwedd y byd ac yn rhoi ei sylw ar ei chwantau hunanol ei hun. Mae Paul yn disgrifio’r agwedd hon fel “y pŵer ysbrydol sydd ar waith ym mywydau pawb sy’n anufudd i Dduw.” (Effesiaid 2:2) Mae’r agwedd hon yn dylanwadu ar y rhan fwyaf o bobl i efelychu’r rhai o’u cwmpas. Maen nhw’n gwneud yr hyn sy’n ymddangos yn iawn yn eu golwg nhw eu hunain yn unig, a hynny heb boeni am safonau Duw. Mae person corfforol, neu gnawdol, yn meddwl yn bennaf am bethau corfforol ac yn aml yn teimlo bod ei statws, ei arian, a’i hawliau personol yn fwy pwysig iddo na dim byd arall.

5 Mae person corfforol yn ildio i weithredoedd y cnawd neu i’w “natur bechadurus.” (Galatiaid 5:19-21) Yn ei lythyr cyntaf at y Corinthiaid, mae Paul yn sôn am bethau eraill y mae pobl gorfforol yn eu gwneud. Maen nhw’n cymryd ochr mewn dadleuon, yn ceisio gwahanu pobl, yn annog eraill i wrthryfela, yn mynd ag unigolion i’r llys, yn peidio â pharchu awdurdod, ac yn rhoi gormod o bwys ar fwyd a diod yn eu bywydau. Dydy person corfforol ddim yn gwrthsefyll temtasiynau. (Diarhebion 7:21, 22) Dywedodd Jwdas y gallai pobl gorfforol golli hyd yn oed ysbryd glân Jehofa.—Jwdas 18, 19.

6. Sut gallwn ni adnabod person ysbrydol?

6 Yn wahanol i berson corfforol, mae person ysbrydol yn trysori ei berthynas â Jehofa. Mae’n caniatáu iddo ef ei hun gael ei arwain gan ysbryd glân Duw ac mae’n ymdrechu i efelychu Jehofa. (Effesiaid 5:1) Mae’n gweithio’n galed i ddysgu am sut mae Jehofa yn meddwl ac i weld pethau fel mae Jehofa yn eu gweld. Mae Duw yn real iddo. Yn groes i berson corfforol, mae person ysbrydol yn parchu safonau Jehofa ym mhob agwedd ar ei fywyd. (Salm 119:33; 143:10) Dydy person ysbrydol ddim yn ildio i’r “natur bechadurus” ond yn ceisio meithrin ffrwyth yr ysbryd. (Galatiaid 5:22, 23) Er mwyn deall yn well beth mae bod yn berson ysbrydol yn ei feddwl, meddylia am y gymhariaeth hon: Mae rhywun sy’n llwyddo yn y byd busnes yn cael ei alw’n ddyn busnes da, ac mae rhywun sy’n meddwl o ddifri am y ffordd y mae’n addoli Duw yn cael ei alw’n berson ysbrydol da.

7. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am bobl sydd â meddylfryd ysbrydol?

7 Dywedodd Iesu fod pobl sydd â meddylfryd ysbrydol yn hapus. Yn Mathew 5:3, rydyn ni’n darllen: “Gwyn eu byd y rhai sy’n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.” (BCND) Mae Rhufeiniaid 8:6 yn esbonio bod ein bywydau yn dibynnu ar feddwl fel mae Jehofa yn meddwl: “Os mai’r hunan sy’n eich rheoli chi, byddwch chi’n marw. Ond os ydy’r Ysbryd Glân yn eich rheoli chi, mae gynnoch chi fywyd a heddwch perffaith gyda Duw.” Felly, os ydyn ni’n bobl ysbrydol, gallwn ni gael heddwch â Duw, heddwch mewnol, a gobaith am fywyd tragwyddol.

8. Pam y gellir dweud ei bod hi’n anodd dod yn berson ysbrydol ac aros felly?

8 Fodd bynnag, rydyn ni’n byw mewn byd peryglus. Oherwydd ein bod ni’n byw yng nghanol pobl sydd ddim yn meddwl fel y mae Jehofa yn meddwl, mae’n gofyn am ymdrech lew i warchod ein meddwl. Os nad ydyn ni’n llenwi ein pennau â meddyliau Jehofa, bydd y byd yn llenwi ein meddwl ag agweddau cnawdol. Beth allwn ni ei wneud i osgoi hynny? Sut gallwn ni dyfu’n ysbrydol?

DYSGU O ESIAMPLAU DA

9. (a) Beth all ein dysgu ni i fod yn bobl ysbrydol? (b) Pa esiamplau y byddwn ni’n rhoi sylw iddyn nhw?

9 Yn union fel y mae angen i blentyn ddysgu oddi wrth ei rieni ac efelychu eu hesiampl dda, mae angen inni ddysgu oddi wrth y rhai sydd â pherthynas agos â Jehofa a’u hefelychu. Bydd hyn yn ein dysgu sut i ddod yn bobl ysbrydol. Ar y llaw arall, rydyn ni’n dysgu beth na ddylen ni ei wneud drwy edrych ar ymddygiad pobl sydd â meddylfryd corfforol. (1 Corinthiaid 3:1-4) Mae’r Beibl yn cynnwys esiamplau da a drwg fel ei gilydd. Gad inni edrych ar rai esiamplau da er mwyn dysgu gwersi oddi wrth Jacob, Mair, a Iesu.

Beth allwn ni ei ddysgu o esiamplau Jacob? (Gweler paragraff 10)

10. Sut dangosodd Jacob ei fod yn berson ysbrydol?

10 Fel yn achos llawer ohonon ni heddiw, ni chafodd Jacob fywyd hawdd. Roedd ei frawd ei hun, Esau, eisiau ei ladd. Roedd ei dad-yng-nghyfraith yn ceisio ei dwyllo. Ond, gwnaeth ffydd Jacob yn addewid Jehofa i Abraham aros yn gryf. Roedd Jacob yn gwybod y byddai ei deulu yn cael rhan yng nghyflawni’r broffwydoliaeth ryfeddol hon, ac felly fe wnaeth ofalu amdanyn nhw. (Genesis 28:10-15) Ni wnaeth Jacob adael i agweddau cnawdol y bobl o’i gwmpas wneud iddo anghofio am addewidion Jehofa. Er enghraifft, pan oedd Jacob yn meddwl ei fod mewn perygl oherwydd ei frawd, erfyniodd ar Jehofa i’w achub. Gweddiodd: “Rwyt ti wedi dweud, ‘Bydda i’n dda i ti. Bydd dy ddisgynyddion di fel tywod y môr—yn gwbl amhosib i’w cyfri!’” (Genesis 32:6-12) Roedd gan Jacob ffydd gref yn addewidion Jehofa a dangosodd hynny yn y ffordd roedd yn byw ei fywyd.

Beth allwn ni ei ddysgu o esiamplau Mair? (Gweler paragraff 11)

11. Sut rydyn ni’n gwybod bod Mair yn berson ysbrydol?

11 Meddylia am esiampl Mair. Gwnaeth Jehofa ei dewis hi i fod yn fam i Iesu oherwydd ei bod hi’n berson ysbrydol. Darllena’r hyn a ddywedodd Mair pan aeth hi i weld ei pherthnasau Sechareia ac Elisabeth. (Darllen Luc 1:46-55.) Mae’n amlwg fod gan Mair gariad mawr tuag at Air Duw a’i bod hi’n gyfarwydd iawn â’r Ysgrythurau Hebraeg. (Genesis 30:13; 1 Samuel 2:1-10; Malachi 3:12) A hyd yn oed ar ôl i Mair a Joseff briodi, gwnaethon nhw ddisgwyl i Iesu gael ei eni cyn iddyn nhw gael cyfathrach rywiol. Roedd eu haseiniad gan Dduw yn fwy pwysig iddyn nhw na’u chwantau eu hunain. (Mathew 1:25) Hefyd, roedd Mair yn “cofio pob manylyn o beth ddigwyddodd” i Iesu wrth iddo dyfu i fyny a gwrandawodd ar y hyn a ddysgodd. (Luc 2:51) Mae’n amlwg fod ganddi ddiddordeb mawr yn addewidion Duw am y Meseia. A allwn ninnau efelychu Mair a cheisio bob amser i wneud beth mae Duw eisiau inni ei wneud?

12. (a) Sut gwnaeth Iesu efelychu ei Dad nefol? (b) Sut gallwn ni efelychu Iesu? (Gweler y llun agoriadol.)

12 O bawb sydd wedi byw, Iesu yw’r esiampl orau o berson ysbrydol. Yn ystod ei fywyd a’i weinidogaeth ar y ddaear, dangosodd ei fod eisiau efelychu ei Dad nefol. Roedd Iesu yn meddwl, yn teimlo, ac yn gweithredu yr un fath â Jehofa. Roedd yn gwneud ewyllys Duw ac yn parchu ei safonau. (Ioan 8:29; 14:9; 15:10) Er enghraifft, cymhara’r ffordd y gwnaeth Eseia ddisgrifio tosturi Jehofa â’r ffordd y gwnaeth Marc ddisgrifio teimladau Iesu. (Darllen Eseia 63:9; Marc 6:34.) A ydyn ni’n efelychu Iesu drwy fod yn wastad yn barod i ddangos tosturi tuag at y rhai sydd angen help? Yn debyg i Iesu, a ydyn ni’n canolbwyntio ar bregethu a dysgu’r newyddion da? (Luc 4:43) Mae pobl ysbrydol yn llawn tosturi ac yn ceisio helpu eraill.

13, 14. (a) Beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth bobl ysbrydol heddiw? (b) Rho esiampl.

13 Heddiw, mae ’na lawer o frodyr a chwiorydd ysbrydol sy’n ymdrechu i efelychu Crist. Efallai dy fod ti wedi sylwi eu bod nhw’n selog yn y weinidogaeth, yn lletygar, ac yn drugarog. Er nad ydyn nhw’n berffaith, maen nhw’n gweithio’n galed i feithrin rhinweddau da ac i wneud beth mae Jehofa eisiau iddyn nhw ei wneud. Mae Rachel, chwaer o Frasil, yn dweud: “Roeddwn i wrth fy modd yn dilyn ffasiynau’r byd. O ganlyniad, doeddwn i ddim yn gwisgo’n wylaidd iawn. Ond, gwnaeth dysgu’r gwirionedd fy ysgogi i wneud yr ymdrech sydd ei angen i fod yn berson ysbrydol. Doedd gwneud y newidiadau ddim yn hawdd, ond roeddwn i’n fwy hapus ac wedi dod o hyd i bwrpas mewn bywyd.”

14 Roedd gan Reylene, chwaer yn Ynysoedd y Philipinau, broblem wahanol. Er ei bod hi yn y gwirionedd, addysg uwch a chael swydd dda oedd yn mynd â’i bryd hi. Mewn amser, daeth ceisio pethau ysbrydol yn llai pwysig iddi. Mae hi’n dweud: “Dechreuais sylweddoli bod rhywbeth ar goll yn fy mywyd i, rhywbeth llawer iawn pwysicach na fy swydd.” Newidiodd Reylene ei ffordd o feddwl a rhoi ei gwasanaeth i Jehofa yn gyntaf yn ei bywyd. Erbyn hyn mae hi’n ymddiried yn addewid Jehofa yn Mathew 6:33, 34 ac mae hi’n dweud: “Rydw i’n hollol sicr y bydd Jehofa yn gofalu amdana’ i!” Efallai dy fod ti’n adnabod brodyr a chwiorydd yn dy gynulleidfa sydd â’r un agwedd. Pan fyddwn ni’n gweld sut maen nhw’n efelychu Crist, rydyn ni eisiau dilyn eu hesiampl.—1 Corinthiaid 11:1; 2 Thesaloniaid 3:7.

GWELD PETHAU O SAFBWYNT CRIST

15, 16. (a) Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn bod fel Crist? (b) Sut gallwn ni adael i feddylfryd Iesu effeithio arnon ni?

15 Sut gallwn ni efelychu Crist? Mae Cyntaf Corinthiaid 2:16 yn esbonio bod rhaid inni “weld pethau o safbwynt y Meseia.” Mae Philipiaid 2:5 yn dweud y dylai ein hagwedd “fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu.” I fod fel Crist, mae’n rhaid inni ddysgu sut roedd Iesu’n meddwl, yn teimlo, ac yn gweithredu. Roedd ei berthynas â Duw yn fwy pwysig i Iesu nag unrhyw beth arall. Felly, mae bod fel Iesu yn ein gwneud ni’n fwy fel Jehofa. Dyna pam y mae hi’n hynod o bwysig inni ddysgu meddwl fel yr oedd Iesu.

16 Sut gallwn ni ddysgu meddwl fel Iesu? Gwnaeth disgyblion Iesu ei wylio yn gwneud gwyrthiau, gwrando arno’n dysgu tyrfaoedd enfawr o bobl, gweld sut roedd yn trin pob math o bobl, a sylwi ar sut roedd meddwl Jehofa yn ei arwain. Dywedon nhw: “Dŷn ni’n llygad-dystion i’r cwbl!” (Actau 10:39) Heddiw, dydyn ni ddim yn gallu gweld Iesu. Ond, mae gennyn ni’r Efengylau, sy’n ein helpu i ddod i’w adnabod yn dda. Pan ydyn ni’n darllen llyfrau Mathew, Marc, Luc, a Ioan ac yn myfyrio arnyn nhw, rydyn ni’n dysgu mwy am sut mae Iesu yn meddwl. Mae hyn yn ein helpu i ddilyn ei esiampl fel ein bod ni’n meithrin yr un agwedd meddwl ag ef.—1 Pedr 2:21; 4:1.

17. Sut bydd meddwl fel Crist yn ein helpu?

17 Pa fuddion a gawn ni o feddwl fel Crist? Yn union fel y mae bwyta bwyd iachus yn ein gwneud ni’n gryf, mae bwydo ar feddyliau Crist yn mynd i’n cadw ni yn ysbrydol gryf. Fesul tipyn, rydyn ni’n dod i ddeall beth fyddai ef yn ei wneud mewn unrhyw sefyllfa. Wedyn, gallwn ninnau wneud penderfyniadau doeth sy’n plesio Duw ac sy’n rhoi cydwybod lân inni. Wyt ti’n cytuno bod y rhain yn rhesymau da i adael i Iesu Grist “fod fel gwisg” amdanon ni?—Rhufeiniaid 13:14.

18. Beth wyt ti wedi ei ddysgu am fod yn berson ysbrydol?

18 Mae’r erthygl hon wedi ein helpu i ddeall beth mae’n ei olygu i fod yn berson ysbrydol. Rydyn ni wedi dysgu o esiamplau pobl a oedd yn cael eu harwain gan yr ysbryd glân. Rydyn ni hefyd wedi dysgu bod gweld pethau o safbwynt Iesu yn ein helpu i feddwl fel y mae Jehofa’n meddwl a meithrin perthynas agos ag ef. Ond, mae ’na fwy y gallwn ni ei ddysgu. Er enghraifft: Sut gallwn ni wybod os ydyn ni’n gryf yn ysbrydol? Sut gallwn ni ein cryfhau ein hunain yn ysbrydol? Sut mae bod yn ysbrydol yn effeithio ar ein bywyd? Gad inni weld yn yr erthygl nesaf.