Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Efelychu Ffydd ac Ufudd-dod Noa, Daniel, a Job

Efelychu Ffydd ac Ufudd-dod Noa, Daniel, a Job

“Noa, Daniel a Job . . . fyddai eu daioni nhw yn achub neb ond nhw eu hunain.”—ESECIEL 14:14.

CANEUON: 89, 119

1, 2. (a) Pam y gall esiamplau Noa, Daniel, a Job ein calonogi? (b) O dan ba amgylchiadau ysgrifennodd Eseciel y geiriau yn Eseciel 14:14?

WYT ti’n mynd drwy gyfnod anodd oherwydd salwch, problemau ariannol, neu erledigaeth? Ydy hi weithiau’n anodd iti fod yn hapus yn dy wasanaeth i Jehofa? Os wyt ti’n teimlo felly, bydd ystyried esiamplau Noa, Daniel, a Job yn dy galonogi. Dynion amherffaith oedden nhw, ac roedden nhw’n wynebu yr un heriau â ni heddiw. Ar adegau, roedd eu bywydau yn y fantol hyd yn oed. Ond, arhoson nhw’n ffyddlon i Jehofa, ac roedd ef yn eu hystyried yn esiamplau o ffydd ac ufudd-dod.—Darllen Eseciel 14:12-14.

2 Ysgrifennodd Eseciel yr adnod sy’n thema i’r erthygl hon yn Babilonia yn y flwyddyn 612 cyn Crist. * (Gweler y troednodyn.) (Eseciel 1:1; 8:1) Roedd hynny ychydig cyn i Jerwsalem gael ei dinistrio yn y flwyddyn 607. Dim ond ychydig o bobl yn Jerwsalem oedd yn ffyddlon ac yn ufudd fel yr oedd Noa, Daniel, a Job, a gwnaethon nhw oroesi. (Eseciel 9:1-5) Yn eu plith roedd Barŵch, Ebed-melech, a’r Rechabiaid.

3. Beth fyddwn ni’n ei ddysgu yn yr erthygl hon?

3 Mewn ffordd debyg heddiw, dim ond pobl y mae Jehofa yn eu hystyried yn gyfiawn, pobl sy’n debyg i Noa, Daniel, a Job, fydd yn goroesi diwedd y byd drwg hwn. (Datguddiad 7:9, 14) Felly, gad inni ddysgu pam y gwnaeth Jehofa ddefnyddio’r tri dyn hyn fel esiamplau o bobl a wnaeth yr hyn sy’n iawn yng ngolwg Duw. Byddwn yn trafod (1) yr heriau a wynebon nhw a (2) sut gallwn ni efelychu eu ffydd a’u hufudd-dod.

NOA YN FFYDDLON AM DROS 900 MLYNEDD!

4, 5. Pa heriau a wynebodd Noa, a beth sy’n sefyll allan amdano?

4 Pa heriau a wynebodd Noa? Yn nyddiau hen daid Noa, Enoch, roedd pobl eisoes yn ddrwg iawn. Dywedon nhw “bethau sarhaus” am Jehofa. (Jwdas 14, 15) Wedyn, aeth y byd yn fwy ac yn fwy treisgar. Erbyn adeg Noa, “roedd trais a chreulondeb ym mhobman.” Daeth angylion drwg i’r ddaear, gwnaethon nhw gyrff dynol iddyn nhw eu hunain, a phriodi merched. Roedd eu meibion yn greulon ac yn dreisgar. (Genesis 6:2-4, 11, 12) Ond, roedd pawb yn gallu gweld bod Noa yn wahanol. Yn ôl y Beibl, “roedd Noa wedi plesio’r ARGLWYDD.” Yn wahanol i’r bobl o’i gwmpas, roedd yn gwneud yr hyn oedd yn iawn. “Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw.”—Genesis 6:8, 9.

5 Beth mae’r geiriau hynny yn ei ddysgu inni am Noa? Yn gyntaf, meddylia am faint o amser roedd Noa wedi gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon yn y byd drwg hwnnw cyn i’r Dilyw ddod. Nid am 70 neu 80 o flynyddoedd yn unig, ond am 600 o flynyddoedd bron! (Genesis 7:11) Yn ail, nid oedd ganddo gynulleidfa i’w helpu a’i galonogi fel sydd gennyn ni heddiw. Mae’n ymddangos nad oedd ei frodyr a’i chwiorydd yn ei gefnogi hyd yn oed. *—Gweler y troednodyn.

6. Sut dangosodd Noa ei fod yn ddewr iawn?

6 Nid oedd Noa yn meddwl ei bod hi’n ddigon i fod yn berson da yn unig. Roedd Noa yn dweud wrth eraill am ei ffydd yn Jehofa heb ofn. Dywed y Beibl mai “Noa oedd yr unig un oedd yn galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw.” (2 Pedr 2:5) Dywedodd yr apostol Paul am Noa: “Wrth gredu roedd e’n condemnio gweddill y ddynoliaeth.” (Hebreaid 11:7) Roedd pobl yn gwneud hwyl am ei ben ac yn ceisio ei stopio. Efallai yr oedden nhw wedi bygwth ei frifo hyd yn oed. Ond, doedd Noa ddim yn ofni pobl. (Diarhebion 29:25) Yn hytrach, roedd ganddo ffydd, felly rhoddodd Jehofa ddewrder iddo. Hefyd, mae’n rhoi’r un dewrder i’w weision ffyddlon heddiw.

7. Pa heriau wynebodd Noa tra oedd yn adeiladu’r arch?

7 Roedd Noa eisoes wedi bod yn ffyddlon i Jehofa am dros 500 mlynedd pan ddywedodd Jehofa wrtho am adeiladu’r arch. Fe fyddai’r arch yn cael ei defnyddio i achub rhai pobl ac anifeiliaid rhag y Dilyw. (Genesis 5:32; 6:14) Mae’n debyg fod adeiladu arch mor fawr wedi bod yn anodd i Noa. A byddai wedi disgwyl i bobl wneud hwyl am ei ben yn fwy byth a gwneud bywyd yn anodd iddo. Ond, roedd gan Noa ffydd ac roedd yn ufudd i Jehofa. “A dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.”—Genesis 6:22.

8. Sut gwnaeth Noa ymddiried yn Jehofa i ofalu am ei deulu?

8 Wynebodd Noa her arall. Roedd rhaid iddo ddarparu ar gyfer ei wraig a’i blant. Cyn y Dilyw, roedd pobl yn gorfod gweithio’n galetach fyth i dyfu bwyd. Roedd hynny’n wir am Noa hefyd. (Genesis 5:28, 29) Ond, nid oedd yn poeni am anghenion ei deulu yn fwy na phopeth arall. Gwasanaethu Jehofa oedd y peth pwysicaf yn ei fywyd drwy’r amser. Er bod Noa’n brysur yn adeiladu’r arch am tua 40 neu 50 mlynedd, roedd yn canolbwyntio ar Jehofa. Ac fe wnaeth Noa hynny am 350 o flynyddoedd ychwanegol ar ôl y Dilyw. (Genesis 9:28) Gosododd Noa esiampl wych o ffydd ac ufudd-dod!

9, 10. (a) Sut gallwn ni efelychu ffydd ac ufudd-dod Noa? (b) Os wyt ti’n benderfynol o ufuddhau i gyfreithiau Duw, beth elli di fod yn sicr ohono?

9 Sut gallwn ni efelychu ffydd ac ufudd-dod Noa? Rydyn ni’n gwneud hynny pan ydyn ni’n amddiffyn safbwynt Jehofa ynglŷn â’r hyn sy’n iawn, pan ydyn ni’n gwrthod bod yn rhan o fyd Satan, a phan ydyn ni’n rhoi Jehofa yn gyntaf yn ein bywydau. (Mathew 6:33; Ioan 15:19) Wrth gwrs, am y rhesymau hynny, dydy’r byd ddim yn hoff ohonon ni. Er enghraifft, oherwydd ein bod ni’n benderfynol o ddilyn safonau Duw ynglŷn â rhyw a phriodas, efallai bydd pobl yn dweud pethau negyddol amdanon ni yn y cyfryngau. (Darllen Malachi 3:17, 18.) Fel Noa, dydyn ni ddim yn ofni pobl. Rydyn ni’n ofni Jehofa, hynny yw, mae gennyn ni barch mawr tuag ato a dydyn ni ddim eisiau ei siomi. Rydyn ni’n gwybod mai ef ydy’r unig un sy’n gallu rhoi bywyd tragwyddol inni.—Luc 12:4, 5.

10 Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n mynd i barhau i wneud beth sy’n iawn yng ngolwg Duw, hyd yn oed os bydd eraill yn gwneud hwyl am fy mhen neu’n fy meirniadu? Ydw i’n ymddiried yn Jehofa i ofalu am fy nheulu, hyd yn oed os bydd hi’n anodd imi ennill bywoliaeth?’ Os wyt ti’n ymddiried yn Jehofa ac yn ufudd iddo fel roedd Noa, gelli di fod yn sicr y bydd Jehofa yn gofalu amdanat ti.—Philipiaid 4:6, 7.

DANIEL YN FFYDDLON MEWN DINAS DDRWG

11. Pa heriau wynebodd Daniel a’i dri ffrind ym Mabilon? (Gweler y llun agoriadol.)

11 Pa heriau wynebodd Daniel? Roedd yn rhaid i Daniel fyw ym Mabilon, dinas estron a oedd yn llawn gau dduwiau ac ysbrydegaeth. Roedd pobl yno yn casáu’r Iddewon ac yn dilorni eu Duw, Jehofa. (Salm 137:1, 3) Mae’n rhaid fod hyn wedi brifo Daniel a’r Iddewon eraill a oedd yn caru Jehofa i’r byw! Hefyd, roedd llawer o bobl yn cadw llygad ar Daniel a’i dri ffrind, Hananeia, Mishael, ac Asareia oherwydd eu bod nhw’n cael eu hyfforddi i weithio i frenin Babilon. Roedd disgwyl iddyn nhw fwyta bwyd y brenin, a oedd yn cynnwys pethau nad oedd Jehofa eisiau i’w weision eu bwyta. Ond, “dyma Daniel yn penderfynu nad oedd e am wneud ei hun yn aflan drwy fwyta’r bwyd a’r gwin oedd y brenin am ei roi iddo.”—Daniel 1:5-8, 14-17.

12. (a) Pa fath o berson oedd Daniel? (b) Sut roedd Jehofa yn teimlo am Daniel?

12 Wynebodd Daniel her arall, un nad oedd ar yr olwg gyntaf yn ymddangos yn anodd. Roedd yn alluog iawn, ac oherwydd hynny, rhoddodd y brenin freintiau arbennig iddo. (Daniel 1:19, 20) Ond eto, ni wnaeth Daniel droi’n falch na meddwl bod ei farn yn wastad yn gywir. Arhosodd yn ostyngedig ac yn wylaidd. Rhoddodd y clod i Jehofa bob tro. (Daniel 2:30) Meddylia: soniodd Jehofa am Daniel, Noa, a Job fel esiamplau da i’w dilyn. Ar yr adeg honno, roedd Noa a Job eisoes wedi gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon trwy gydol eu bywydau, ond roedd Daniel yn dal yn ddyn ifanc. Yn bendant, roedd gan Jehofa hyder yn Daniel! Ac roedd hynny’n briodol, oherwydd arhosodd Daniel yn ffyddlon ac yn ufudd i Dduw ar hyd ei oes. Pan oedd Daniel yn 100 oed bron, dyma angel Duw yn dweud wrtho: “‘Daniel,’ meddai, ‘rwyt ti’n sbesial iawn yng ngolwg Duw.’”—Daniel 10:11.

13. Beth efallai oedd un rheswm i Jehofa helpu Daniel i ennill swydd bwysig?

13 Oherwydd cefnogaeth Jehofa, daeth Daniel yn swyddog pwysig iawn, yn Ymerodraeth Babilon yn gyntaf ac yna yn Ymerodraeth Medo-Persia. (Daniel 1:21; 6:1, 2) Efallai gwnaeth Jehofa sicrhau bod Daniel wedi cael y swydd uchel honno er mwyn helpu ei bobl, fel yn achos Joseff yn yr Aifft ac Esther a Mordecai ym Mhersia. * (Gweler y troednodyn.) (Daniel 2:48) A elli di ddychmygu sut roedd Eseciel a’r alltudion Iddewig eraill yn teimlo wrth iddyn nhw weld sut roedd Jehofa yn defnyddio Daniel i’w helpu? Mae’n rhaid fod hynny wedi codi eu calonnau!

Rydyn ni’n sbesial iawn i Jehofa pan ydyn ni’n aros yn ffyddlon iddo (Gweler paragraffau 14, 15)

14, 15. (a) Sut mae ein sefyllfa ni yn debyg i sefyllfa Daniel? (b) Beth all rhieni heddiw ei ddysgu oddi wrth rieni Daniel?

14 Sut gallwn ni efelychu ffydd ac ufudd-dod Daniel? Mae’r byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw yn llawn anfoesoldeb a gau grefydd. Mae pobl wedi cael eu dylanwadu gan Fabilon Fawr, ymerodraeth fyd-eang gau grefydd, sy’n cael ei galw’n “gartref i gythreuliaid” yn y Beibl. (Datguddiad 18:2) Ond estroniaid ydyn ninnau yn y byd hwn. O ganlyniad, mae pobl yn gallu gweld ein bod ni’n wahanol iawn, ac maen nhw’n gwneud hwyl am ein pennau. (Marc 13:13) Gad i ninnau, fel Daniel, agosáu at ein Duw, Jehofa. Pan fyddwn ni’n ostyngedig, yn ymddiried yn Jehofa, ac yn ufudd iddo, byddwn ni’n sbesial iawn yn ei olwg ef.—Haggai 2:7.

15 Gall rhieni ddysgu gwersi pwysig oddi wrth rieni Daniel. Pan oedd Daniel yn fachgen bach yn Jwda, roedd y rhan fwyaf o bobl o’i gwmpas yn ddrwg iawn. Ond, tyfodd Daniel i fyny yn caru Jehofa. A wnaeth hynny ddigwydd ar hap? Naddo. Mae’n rhaid fod ei rieni wedi dysgu iddo am Jehofa. (Diarhebion 22:6) Mae hyd yn oed enw Daniel, sy’n golygu “Duw ydy fy Marnwr,” yn dangos bod ei rieni wedi caru Jehofa. (Daniel 1:6, 7, troednodyn, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Felly, rieni, byddwch yn amyneddgar wrth ddysgu eich plant am Jehofa. Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to. (Effesiaid 6:4) Gweddïwch gyda nhw. Gweddïwch drostyn nhw. Gwnewch eich gorau glas i’w dysgu nhw i garu’r hyn sy’n iawn yng ngolwg Jehofa, a bydd Jehofa yn eich bendithio’n fawr.—Salm 37:5.

ROEDD JOB YN FFYDDLON AC YN UFUDD

16, 17. Pa heriau wynebodd Job ar wahanol adegau?

16 Pa heriau wynebodd Job? Gwelodd Job newidiadau mawr yn ei fywyd. Ar y cychwyn, roedd Job yn “fwy cyfoethog nag unrhyw un arall o bobl y dwyrain i gyd.” (Job 1:3) Roedd yn gyfoethog iawn, ac roedd llawer yn ei adnabod ac yn ei barchu. (Job 29:7-16) Er gwaethaf hynny, nid oedd Job yn meddwl ei fod yn well na phobl eraill nac yn teimlo ei fod yn well allan heb Dduw. Rydyn ni’n gwybod am hyn oherwydd i Jehofa ei alw’n “fy ngwas” a dywedodd amdano: “Mae’n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae’n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg.”—Job 1:8.

17 Ond, yn sydyn, aeth bywyd Job ar chwâl. Collodd bopeth, a theimlodd mor ddigalon nes iddo fod eisiau marw. Heddiw, rydyn ni’n gwybod bod Satan y tu ôl i broblemau Job. Honiad Satan oedd bod Job yn gwasanaethu Jehofa dim ond am resymau hunanol. (Darllen Job 1:9, 10.) Cymerodd Jehofa y cyhuddiad milain hwnnw o ddifri. Beth fyddai Jehofa’n ei wneud i ddangos bod Satan yn gelwyddgi? Rhoddodd i Job y cyfle i brofi ei ffyddlondeb i Dduw ac i ddangos ei fod yn gwasanaethu Jehofa oherwydd ei gariad.

18. (a) Beth wyt ti’n ei edmygu am Job? (b) Beth ydyn ni’n ei ddysgu am Jehofa o’r ffordd yr oedd yn trin Job?

18 Ymosododd Satan yn gas ar Job dro ar ôl tro, a gwneud iddo feddwl mai Duw oedd ar fai. (Job 1:13-21) Wedyn, gwnaeth tri dyn a oedd yn honni bod yn ffrindiau i Job ddweud pethau creulon wrtho. Dywedon nhw fod Job yn berson drwg a bod Duw yn ei gosbi. (Job 2:11; 22:1, 5-10) Er gwaethaf hyn oll, arhosodd Job yn ffyddlon i Jehofa. Mae’n wir fod Job weithiau wedi dweud pethau gwirion. (Job 6:1-3) Ond, roedd Jehofa’n deall bod Job wedi gwneud hynny dim ond oherwydd ei fod wedi cael ei frifo ac yn isel ei ysbryd. Gwelodd Jehofa nad oedd Job byth wedi cefnu arno, er bod Satan, fel bwli creulon, wedi ymosod ar Job drosodd a throsodd. Ar ôl i’r sefyllfa druenus honno ddod i ben, rhoddodd Jehofa i Job ddwywaith yr hyn a oedd ganddo o’r blaen ac ychwanegodd 140 o flynyddoedd at ei fywyd. (Iago 5:11) Yn ystod yr adeg honno, parhaodd Job i wasanaethu Duw â’i holl galon. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Oherwydd y cafodd Eseciel 14:14, sef yr adnod sy’n thema i’r erthygl hon, ei hysgrifennu gant o flynyddoedd ar ôl i Job farw.

19, 20. (a) Sut gallwn ni efelychu ffydd ac ufudd-dod Job? (b) Sut gallwn ni ddangos trugaredd wrth bobl eraill fel mae Jehofa yn ei wneud?

19 Sut gallwn ni efelychu ffydd ac ufudd-dod Job? Beth bynnag ydy ein hamgylchiadau, rydyn ni eisiau sicrhau mai Jehofa ydy’r Person pwysicaf yn ein bywyd. Rydyn ni eisiau ymddiried ynddo yn llwyr ac ufuddhau iddo â’n holl galon. Mewn gwirionedd, mae gennyn ni fwy o reswm i wneud hynny nag oedd gan Job. Meddylia am yr hyn rydyn ni’n ei wybod heddiw. Rydyn ni’n gwybod llawer am Satan a’i ddulliau. (2 Corinthiaid 2:11) Oherwydd y Beibl, yn enwedig llyfr Job, rydyn ni’n gwybod pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint. O ddarllen proffwydoliaeth Daniel, rydyn ni’n gwybod bod Teyrnas Dduw yn llywodraeth go iawn sy’n cael ei rheoli gan Iesu Grist. (Daniel 7:13, 14) Ac rydyn ni’n gwybod y bydd y Deyrnas hon yn rheoli dros yr holl ddaear ac yn dod â dioddefaint i ben cyn bo hir.

20 Hefyd, mae profiad Job yn ein dysgu i ddangos trugaredd pan fydd ein brodyr yn dioddef. Fel Job, efallai byddan nhw’n dweud pethau gwirion. (Pregethwr 7:7) Ond, ni ddylen ni edrych i lawr arnyn nhw na’u cyhuddo o wneud rhywbeth drwg. Yn hytrach, dylen ni geisio deall eu sefyllfa. Os gwnawn ni hynny, byddwn ni fel ein Tad nefol, Jehofa, sy’n gariadus a thrugarog.—Salm 103:8.

BYDD JEHOFA YN DY GRYFHAU

21. Sut mae’r geiriau yn 1 Pedr 5:10 yn ein hatgoffa o brofiadau Noa, Daniel, a Job?

21 Roedd Noa, Daniel, a Job yn byw ar adegau gwahanol ac roedd eu hamgylchiadau’n wahanol iawn. Ond eto, gwnaethon nhw i gyd ddyfalbarhau er gwaethaf eu heriau. Mae eu profiadau yn ein hatgoffa o’r hyn a ddywedodd yr apostol Pedr: “Ond does ond rhaid i chi ddioddef am ychydig. Mae Duw, sydd mor anhygoel o hael, yn eich . . . adfer chi, a’ch cryfhau chi, a’ch gwneud chi’n gadarn a sefydlog.”—1 Pedr 5:10.

22. Beth fyddwn ni’n ei ddysgu yn yr erthygl nesaf?

22 Mae’r geiriau yn 1 Pedr 5:10 yn wir hefyd am bobl Dduw heddiw. Mae Jehofa yn ein sicrhau ni y bydd yn gwneud ei weision yn gadarn ac yn gryf. Rydyn ni i gyd eisiau i Jehofa ein gwneud ni’n gryf, ac rydyn ni eisiau aros yn gadarn ac yn ffyddlon iddo. Dyna pam rydyn ni eisiau efelychu ffydd ac ufudd-dod Noa, Daniel, a Job. Yn yr erthygl nesaf, byddwn yn dysgu bod y dynion hyn wedi gallu aros yn ffyddlon i Jehofa oherwydd eu bod nhw’n ei adnabod yn dda. Yn wir, roedden nhw’n gallu “deall y cyfan,” sef yr hyn roedd Jehofa eisiau iddyn nhw ei wneud. (Diarhebion 28:5) A gallwn ninnau wneud yr un peth.

^ Par. 2 Cafodd Eseciel ei gaethgludo i Fabilon yn y flwyddyn 617 cyn Crist. Ysgrifennodd ef y geiriau yn Eseciel 8:1–19:14 “chwe blynedd” ar ôl iddo gael ei gymryd yno, hynny yw, yn y flwyddyn 612.

^ Par. 5 Roedd gan dad Noa, Lamech, ffydd yn Nuw ond bu farw tua phum mlynedd cyn y Dilyw. Os oedd mam Noa a’i frodyr a’i chwiorydd yn dal yn fyw pan ddaeth y Dilyw, ni wnaethon nhw oroesi.

^ Par. 13 Mae’n bosib fod Jehofa wedi gwneud yr un peth yn achos Hananeia, Mishael, ac Asareia er mwyn iddyn nhw allu helpu’r Iddewon hefyd.—Daniel 2:49.