Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llawenydd—Rhinwedd Rydyn Ni’n ei Chael Gan Dduw

Llawenydd—Rhinwedd Rydyn Ni’n ei Chael Gan Dduw

MAE pobl eisiau bod yn hapus. Ond rydyn ni’n byw yn y dyddiau olaf, ac mae gan bawb broblemau sy’n “ofnadwy o anodd.” (2 Timotheus 3:1) Mae rhai pobl yn colli eu llawenydd oherwydd eu bod nhw’n cael eu trin yn annheg, yn mynd yn sâl, yn colli eu swyddi, neu brofedigaeth. Mae eraill yn colli eu llawenydd oherwydd bod rhywbeth arall yn digwydd sy’n achosi iddyn nhw boeni neu fod yn drist. Gall hyd yn oed Tystion Jehofa ddigalonni a cholli eu llawenydd. Os ydy hyn wedi digwydd i ti, sut gelli di fod yn llawen unwaith eto?

Er mwyn ateb y cwestiwn hwnnw, yn gyntaf, mae’n rhaid inni ddod i ddeall beth yn union ydy gwir lawenydd a sut mae eraill wedi gallu aros yn llawen yn wynebu anawsterau. Ar ôl hynny, byddwn yn gweld sut i aros yn llawen a bod yn fwy llawen.

BETH YW LLAWENYDD?

Dydy bod yn llawen ddim yr un fath â bod yn hwyliog. Meddylia am hyn: Mae’n debyg y bydd person sydd wedi meddwi yn chwerthin lot. Ond, ar ôl iddo sobri, nid yw’n chwerthin mwyach ac efallai y bydd yn sylweddoli nad yw ei broblemau wedi diflannu. Hwyl dros dro oedd ganddo, nid gwir lawenydd.—Diarhebion 14:13.

Ar y llaw arall, llawenydd yw’r teimlad cryf sydd gennyn ni yn ein calonnau pan ydyn ni’n cael neu’n disgwyl rhywbeth da. Mae bod yn llawen yn golygu bod yn hapus, beth bynnag yw ein hamgylchiadau. (1 Thesaloniaid 1:6) Mewn gwirionedd, gallwn ni fod yn llawen er bod rhywbeth yn ein digalonni ni. Er enghraifft, cafodd yr apostolion eu curo oherwydd eu bod nhw’n pregethu am Iesu. Ond, “roedd yr apostolion yn llawen wrth adael y Sanhedrin. Roedden nhw’n ei chyfri hi’n fraint eu bod wedi cael eu cam-drin am ddilyn Iesu.” (Actau 5:41) Doedden nhw ddim yn llawen oherwydd eu bod nhw wedi cael eu curo ond oherwydd eu bod nhw wedi gallu aros yn ffyddlon i Dduw.

Dydyn ni ddim wedi cael ein geni â llawenydd ac nid yw’n dod yn awtomatig. Pam? Oherwydd bod gwir lawenydd yn rhan o ffrwyth yr ysbryd. Mae ysbryd Duw yn ein helpu i ddatblygu “natur o fath newydd” sy’n cynnwys llawenydd. (Effesiaid 4:24; Galatiaid 5:22) A phan fydd gennyn ni lawenydd, bydd yn haws inni ddelio â phroblemau.

ESIAMPLAU I’W HEFELYCHU

Mae Jehofa eisiau i bethau da ddigwydd ar y ddaear, nid y pethau drwg a welir heddiw. Ond er bod pobl yn gwneud pethau drwg, dydy Jehofa ddim yn colli ei lawenydd. Dywed y Beibl: “Mae cryfder a llawenydd yn ei bresenoldeb.” (1 Cronicl 16:27) Hefyd, mae’r pethau da mae gweision Jehofa yn eu gwneud yn ei wneud yn llawen.—Diarhebion 27:11.

Rydyn ni’n efelychu Jehofa drwy beidio â cholli ein llawenydd os dydy pethau ddim yn mynd fel roedden ni’n gobeithio. Yn lle poeni, gallwn ni ganolbwyntio ar y pethau da sydd gennyn ni gan ddisgwyl yn amyneddgar am bethau gwell yn y dyfodol. *—Gweler y troednodyn.

Mae ’na lawer o enghreifftiau yn y Beibl o bobl a arhosodd yn llawen yn wyneb problemau. Arhosodd Abraham yn llawen pan oedd ei fywyd mewn perygl a phan achosodd eraill broblemau iddo. (Genesis 12:10-20; 14:8-16; 16:4, 5; 20:1-18; 21:8, 9) Sut gwnaeth Abraham hynny? Trwy feddwl am ei obaith o fyw yn y byd newydd o dan reolaeth y Meseia. (Genesis 22:15-18; Hebreaid 11:10) Dywedodd Iesu: “Roedd Abraham, eich tad, yn gorfoleddu wrth feddwl y câi weld yr amser pan fyddwn i’n dod.” (Ioan 8:56) Rydyn ni’n efelychu Abraham drwy barhau i feddwl am y llawenydd byddwn ni’n ei brofi yn y dyfodol.—Rhufeiniaid 8:21.

Roedd gan Paul a Silas ffydd gref a gwnaethon nhw ddal ati i aros yn llawen er gwaethaf nifer o anawsterau. Er enghraifft, ar ôl iddyn nhw gael eu curo’n frwnt a’u taflu i’r carchar, dyma nhw’n “gweddïo ac yn canu emynau o fawl.” (Actau 16:23-25) Roedden nhw’n gallu dyfalbarhau oherwydd y gwnaethon nhw barhau i feddwl am addewidion Duw ar gyfer y dyfodol. Ac roedden nhw’n llawen gan eu bod nhw’n gwybod mai’r rheswm dros eu dioddefaint oedd oherwydd iddyn nhw ddilyn Crist. Rydyn ni’n efelychu Paul a Silas pan ydyn ni’n cofio’r canlyniadau da sy’n dod o wasanaethu Jehofa’n ffyddlon.—Philipiaid 1:12-14.

Hefyd, mae ’na lawer o esiamplau heddiw o frodyr a chwiorydd sy’n parhau i aros yn llawen er gwaethaf wynebu anawsterau. Er enghraifft, ym mis Tachwedd 2013, dinistriodd Teiffŵn Haiyan gartrefi dros 1,000 o deuluoedd o Dystion Jehofa yn Ynysoedd y Philipinau. Dywedodd George, un o’r rhai a welodd ei gartref yn ninas Tacloban yn cael ei ddinistrio’n llwyr: “Er gwaethaf yr hyn a ddigwyddodd, roedd y brodyr yn hapus. Mae’n anodd imi fynegi’r llawenydd rydyn ni’n ei deimlo.” Os ydyn ni’n meddwl am y pethau y mae Jehofa wedi eu gwneud ar ein cyfer ac yn aros yn ddiolchgar iddo, byddwn yn aros yn llawen yn wyneb anawsterau. Pa bethau eraill mae Jehofa yn eu rhoi inni sy’n ein helpu ni i aros yn llawen?

RHESYMAU DROS FOD YN LLAWEN

Y rheswm mwyaf sydd gennyn ni dros fod yn llawen yw ein perthynas â Jehofa. Rydyn ni’n adnabod Brenin y bydysawd. Ef yw ein Tad, ein Duw, a’n Ffrind!—Salm 71:17, 18.

Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar fod Jehofa’n rhoi bywyd inni a’r gallu i’w fwynhau. (Pregethwr 3:12, 13) Gan ei fod wedi ein denu tuag ato, gallwn ni ddeall ei ewyllys ar ein cyfer ac rydyn ni’n gwybod sut i fyw ein bywydau. (Colosiaid 1:9, 10) Ond, dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim yn deall beth yw pwrpas bywyd. Er mwyn pwysleisio’r gwahaniaeth hwn, ysgrifennodd Paul: “‘Welodd yr un llygad, chlywodd yr un glust; wnaeth neb ddychmygu beth mae Duw wedi ei baratoi i’r rhai sy’n ei garu.’ Ond dyn ni wedi deall, am fod Ysbryd Duw wedi ei esbonio i ni.” (1 Corinthiaid 2:9, 10) Mae deall ewyllys a phwrpas Jehofa yn dod â llawenydd inni.

Mae Jehofa wedi gwneud llawer mwy inni. Y mae wedi ei gwneud hi’n bosib i’n pechodau gael eu maddau. (1 Ioan 2:12) Mae’n rhoi’r gobaith inni o fywyd yn y byd newydd, a fydd yma cyn bo hir. (Rhufeiniaid 12:12) Hyd yn oed heddiw, mae Jehofa’n rhoi llawer o ffrindiau inni er mwyn inni allu ei addoli gyda’n gilydd. (Salm 133:1) Mae hefyd yn ein hamddiffyn rhag Satan a’i gythreuliaid. (Salm 91:11) Os ydyn ni’n parhau i feddwl am y pethau rhyfeddol y mae Jehofa wedi eu rhoi inni, bydd gennyn ni fwy o lawenydd.—Philipiaid 4:4.

SUT I FOD YN FWY LLAWEN

A all Cristion sydd eisoes yn llawen gael mwy o lawenydd? Dywedodd Iesu: “Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i’m llawenydd i fod ynoch, ac i’ch llawenydd chwi fod yn gyflawn.” (Ioan 15:11, BCND) Mae hyn yn dangos mae’n bosib inni fod yn fwy llawen. Gallwn gymharu ein llawenydd â thân. Os ydyn ni eisiau i dân fynd yn fwy poeth, rhaid inni ychwanegu mwy o bren iddo. Cofia: Mae’r ysbryd glân yn ein helpu i fod yn llawen. Felly, os ydyn ni eisiau mwy o lawenydd, mae’n rhaid inni barhau i weddïo ar Dduw am ei ysbryd glân. Mae’n rhaid inni hefyd barhau i fyfyrio ar y Beibl, a gafodd ei ysbrydoli gan yr ysbryd glân.—Salm 1:1, 2; Luc 11:13.

Un peth arall fydd yn ein helpu i gael mwy o lawenydd ydy cadw’n brysur trwy wneud y pethau sy’n gwneud Jehofa’n hapus. (Salm 35:27; 112:1) Pam? Dywed y Beibl: “Addola Dduw a gwna beth mae e’n ddweud! Dyna beth ddylai pawb ei wneud.” (Pregethwr 12:13) Rydyn ni wedi cael ein dylunio i wneud ewyllys Duw. Felly, pan ydyn ni’n addoli Jehofa, bydd gennyn ni gymaint o lawenydd yn ein bywydau. *—Gweler y troednodyn.

BUDDION O FOD YN LLAWEN

Wrth inni gael mwy o lawenydd, byddwn ni’n cael mwy o fuddion. Er enghraifft, byddwn ni’n plesio Jehofa’n fwy wrth inni barhau i’w addoli’n llawen hyd yn oed yn wyneb problemau. (Deuteronomium 16:15; 1 Thesaloniaid 5:16-18) Hefyd, oherwydd bod gennyn ni wir lawenydd, ni fyddwn ni’n meddwl mai cael pethau materol yw’r peth pwysicaf mewn bywyd. Yn hytrach, byddwn ni’n trio ein gorau i wneud mwy o aberthau ar gyfer Teyrnas Dduw. (Mathew 13:44) A phan fyddwn ni’n gweld y da sy’n dod o wneud mwy i Jehofa, byddwn ni’n fwy llawen, yn teimlo’n well amdanon ni ein hunain, ac yn gwneud i eraill deimlo’n hapusach.—Actau 20:35; Philipiaid 1:3-5.

Hefyd, y mwyaf llawen y byddwn ni, y mwyaf iach y byddwn ni yn eithaf tebyg. Dywed y Beibl: “Mae llawenydd yn iechyd i’r corff.” (Diarhebion 17:22) Gwnaeth ymchwilydd a oedd wedi astudio iechyd ym Mhrifysgol Nebraska yn yr Unol Daleithiau ddatganiad sy’n cytuno â’r Beibl. Mae’n dweud: “Os wyt ti’n hapus ac yn fodlon gyda dy fywyd nawr, rwyt ti’n fwy tebygol o fod yn iach yn y dyfodol.”

Felly, er ein bod ni’n byw mewn amseroedd caled, gallwn ni gael gwir lawenydd pan ydyn ni’n derbyn yr ysbryd glân drwy weddïo, astudio, a myfyrio ar Air Duw. Byddwn ni hefyd yn cael mwy o lawenydd os ydyn ni’n meddwl am yr holl bethau da mae Jehofa yn eu rhoi inni nawr, yn efelychu ffydd eraill, ac yn trio ein gorau i wneud ewyllys Duw. Yna, gallwn ni brofi’r hyn sy’n cael ei ddisgrifio yn Salm 64:10, sy’n dweud: “Bydd y rhai sy’n byw’n gywir yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD; ac yn dod o hyd i le saff ynddo fe.”

^ Par. 10 Byddwn yn trafod amynedd mewn erthygl arall yn y gyfres hon am y “ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu.”

^ Par. 20 Am fwy o ffyrdd i fod yn fwy llawen, gweler y blwch “ Ffyrdd Eraill o Gael Mwy o Lawenydd.”