Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

A ddaeth Jacob yn hynafiad i’r Meseia oherwydd ei fod wedi prynu hawliau Esau fel mab cyntaf-anedig oddi wrtho?

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Yn Israel gynt, a oedd rhaid i ddyn fod yn fab cyntaf-anedig er mwyn bod yn hynafiad i’r Meseia?

Yn y gorffennol, dyma beth roedden ni’n ei feddwl oherwydd yr hyn y mae Hebreaid 12:16 yn ei ddweud. Yno, mae’n dweud bod Esau yn “halogedig” a rhoddodd i Jacob “ei freintiau fel etifedd am bryd o fwyd.” Felly, pan dderbyniodd Jacob “ei freintiau fel etifedd,” roedden ni’n meddwl bod hynny’n cynnwys y fraint o fod yn un o hynafiaid y Meseia.—Mathew 1:2, 16; Luc 3:23, 34.

Ond, o astudio’n fanwl hanesion eraill yn y Beibl, fe welwn nad oes rhaid i ddyn fod yn gyntaf-anedig er mwyn bod yn un o hynafiaid y Meseia. Gad inni ystyried rhai o’r hanesion hyn:

Mab cyntaf-anedig Jacob a Lea oedd Reuben. Ei fab cyntaf gyda Rachel oedd Joseff. Pan wnaeth Reuben ymddwyn yn anfoesol, fe gollodd ei hawliau fel mab cyntaf-anedig a throsglwyddwyd y rhain i Joseff. (Genesis 29:31-35; 30:22-25; 35:22-26; 49:22-26; 1 Cronicl 5:1, 2) Ond eto, ni ddaeth y Meseia drwy linach Reuben na Joseff. Fe ddaeth drwy Jwda, sef pedwerydd mab Jacob a Lea.—Genesis 49:10.

Mae Luc 3:32 yn rhestru pump o hynafiaid eraill y Meseia, ac mae’n ymddangos bod pob un ohonyn nhw’n gyntaf-anedig. Er enghraifft, Boas oedd tad Obed, ac Obed oedd tad Jesse.—Ruth 4:17, 20-22; 1 Cronicl 2:10-12.

Doedd mab Jesse, Dafydd, ddim yn gyntaf-anedig. Dafydd oedd yr ieuengaf o wyth mab. Ond, daeth y Meseia drwy Dafydd. (1 Samuel 16:10, 11; 17:12; Mathew 1:5, 6) Yn yr un modd, Solomon oedd hynafiad nesaf y Meseia, er nad ef oedd mab cyntaf-anedig Dafydd.—2 Samuel 3:2-5.

Dydy hyn ddim yn golygu nad oedd bod yn gyntaf-anedig yn bwysig. Roedd y cyntaf-anedig yn derbyn breintiau nad oedd gweddill y meibion yn eu cael. Yn aml, ef fyddai’r penteulu nesaf, a byddai’n derbyn dwbl yr etifeddiaeth.—Genesis 43:33; Deuteronomium 21:17; Josua 17:1.

Ond, gallai breintiau’r cyntaf-anedig gael eu trosglwyddo o un mab i un arall. Pan wnaeth Abraham anfon Ismael i ffwrdd, cafodd ei freintiau fel mab cyntaf-anedig eu trosglwyddo i Isaac. (Genesis 21:14-21; 22:2) Ac, fel rydyn ni eisoes wedi ei drafod, trosglwyddwyd breintiau Reuben i Joseff.

Felly, pa bwynt roedd Paul yn ceisio ei wneud yn Hebreaid 12:16? Darllenwn yno: “Na foed yn eich plith unrhyw un sy’n anfoesol, neu’n halogedig fel Esau, a werthodd ei freintiau fel etifedd am bryd o fwyd.” (BCND)

Doedd Paul ddim yn trafod hynafiaid y Meseia yn yr adnod hon. Yn hytrach, roedd yn rhoi rhybudd i Gristnogion. Dywedodd wrthyn nhw: “Cerddwch yn syth yn eich blaenau” fel nad oes “neb ohonoch chi’n colli gafael ar haelioni rhyfeddol Duw.” Yn anffodus, gallai hynny ddigwydd os oedden nhw’n cyflawni anfoesoldeb rhywiol. (Hebreaid 12:12-16) Yn yr achos hwnnw, bydden nhw’n debyg i Esau, a oedd yn “halogedig” ac yn ceisio ei chwantau ei hun yn hytrach na gwerthfawrogi pethau sanctaidd.

Yn ôl arferion yr oes honno, gallai Esau yn achlysurol fod wedi cael y fraint o offrymu aberthau i Jehofa. (Genesis 8:20, 21; 12:7, 8; Job 1:4, 5) Ond roedd Esau wedi rhoi gormod o sylw i’w chwantau ei hun nes iddo gael gwared ar ei freintiau fel mab cyntaf-anedig a hynny am bowlen o gawl. Efallai fod Esau eisiau osgoi’r dioddefaint a ragfynegodd Jehofa y byddai’n digwydd i ddisgynyddion Abraham. (Genesis 15:13) Dangosodd hefyd nad oedd yn malio dim am bethau ysbrydol pan gymerodd ddwy ddynes baganaidd yn wragedd iddo, rhywbeth a oedd yn destun siom mawr i’w rieni. (Genesis 26:34, 35) Roedd mor wahanol i Jacob, a oedd wedi sicrhau y byddai’n priodi rhywun a oedd yn addoli’r gwir Dduw!—Genesis 28:6, 7; 29:10-12, 18.

Beth mae’r hanesion Beiblaidd hyn yn ein dysgu ni am hynafiaid y Meseia? Roedd rhai ohonyn nhw’n feibion cyntaf-anedig, a doedd rhai ddim. Roedd hyn yn rhywbeth roedd yr Iddewon yn ei ddeall ac yn ei dderbyn. Sut rydyn ni’n gwybod hyn? Oherwydd iddyn nhw gyfaddef y byddai Crist yn ddisgynnydd i Dafydd, mab olaf Jesse.—Mathew 22:42.