Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Symud yn Dy Flaen Fel Person Ysbrydol

Symud yn Dy Flaen Fel Person Ysbrydol

“Dylech adael i’r Ysbryd reoli’ch bywydau chi.”—GALATIAID 5:16.

CANEUON: 22, 75

1, 2. Beth sylweddolodd un brawd amdano’i hun, a beth wnaeth am y peth?

CAFODD Robert ei fedyddio yn ei arddegau, ond nid y gwirionedd oedd y peth pwysicaf yn ei fywyd. Mae’n dweud: “Doeddwn i ddim yn gwneud pethau drwg, ond, roeddwn i’n gwneud pethau ysbrydol heb feddwl ryw lawer amdanyn nhw. Roeddwn i’n edrych yn ysbrydol gryf oherwydd fy mod i yn y cyfarfodydd bob tro ac yn arloesi’n gynorthwyol ambell waith y flwyddyn. Ond roedd rhywbeth ar goll.”

2 Doedd Robert ddim wedi deall beth oedd ar goll tan ar ôl iddo briodi. Roedd ef a’i wraig yn arfer chwarae gêm lle roedden nhw’n gofyn cwestiynau Beiblaidd i’w gilydd. Roedd ei wraig yn adnabod y Beibl yn dda ac yn gallu ateb y cwestiynau’n hawdd. Ond, yn aml, doedd Robert ddim yn gwybod yr ateb ac roedd yn teimlo cywilydd. Mae’n dweud: “Roedd fel petaswn i’n gwybod dim. Meddyliais i fi fy hun, ‘Os ydw i am fod yn ben ysbrydol i fy ngwraig, mae’n rhaid imi wneud rhywbeth am hyn.’” Felly, dyna a wnaeth. Mae’n dweud: “Wnes i astudio’r Beibl, ac wedyn astudio mwy a mwy, a dechreuodd pethau syrthio i’w lle. Wnes i ddechrau deall pethau’n well, ac yn bwysicach, wnes i feithrin perthynas agos â Jehofa.”

3. (a) Beth allwn ni ei ddysgu o hanes Robert? (b) Pa bethau pwysig y byddwn ni’n eu trafod nesaf?

3 Gallwn ddysgu gwersi pwysig o hanes Robert. Efallai fod gennyn ni rywfaint o wybodaeth am y Beibl a’n bod ni’n mynd i’r cyfarfodydd ac ar y weinidogaeth yn rheolaidd, ond, dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni’n bobl ysbrydol. Neu, efallai ein bod ni eisoes wedi gwneud ymdrech i feithrin meddylfryd ysbrydol, ond, wrth edrych eto arnon ni’n hunain, rydyn ni’n gweld bod ’na le i wella. (Philipiaid 3:16) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ateb tri chwestiwn pwysig: (1) Beth fydd yn ein helpu i weld pa mor ysbrydol ydyn ni? (2) Sut gallwn ni ein cryfhau ein hunain yn ysbrydol? (3) Sut gall bod yn ysbrydol gryf ein helpu yn ein bywydau bob dydd?

SUT I WYBOD A YDYN NI’N BOBL YSBRYDOL

4. I bwy mae’r cyngor yn Effesiaid 4:23, 24 yn berthnasol?

4 Pan ddechreuon ni wasanaethu Duw, gwnaethon ni newidiadau a oedd yn effeithio ar bob rhan o’n bywyd. A doedd y broses hon ddim yn gorffen pan gawson ni’n bedyddio. Mae’r Beibl yn dweud wrthyn ni: “Rhaid i chi feithrin ffordd newydd o feddwl.” (Effesiaid 4:23, 24) Oherwydd ein bod ni’n amherffaith, mae’n rhaid inni barhau i wneud newidiadau. Hyd yn oed os ydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd, mae’n bwysig inni gadw ein perthynas ag ef yn gryf.—Philipiaid 3:12, 13

5. Pa gwestiynau all ein helpu i weld a oes gennyn ni feddylfryd ysbrydol?

5 Boed yn hen neu’n ifanc, mae’n rhaid inni edrych ar ein cyflwr ysbrydol a bod yn onest. Gallwn ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n gweld bod fy meddyliau yn dod yn fwy ysbrydol? Ydw i’n dod yn fwy tebyg i Grist? Beth mae fy agwedd a’r ffordd rydw i’n ymddwyn yn y cyfarfodydd yn ei ddangos? Beth mae fy sgyrsiau’n ei ddangos am yr hyn rydw i wir eisiau mewn bywyd? Beth mae fy arferion astudio, y ffordd rydw i’n gwisgo, a’r ffordd rydw i’n ymateb i gyngor yn ei ddangos amdanaf? Sut rydw i’n ymateb i demtasiwn? Ydw i wedi tyfu’n Gristion aeddfed?’ (Effesiaid 4:13) Gall y cwestiynau hyn ein helpu i weld faint rydyn ni wedi tyfu’n ysbrydol.

6. Beth arall all ein helpu i wybod a ydyn ni’n ysbrydol?

6 Weithiau, mae angen derbyn help gan eraill i weld a ydyn ni’n ysbrydol. Yn ôl yr apostol Paul, dydy person corfforol, neu gnawdol, ddim yn deall bod ei ffordd o fyw yn siomi Duw. Ond mae person ysbrydol yn deall sut mae Duw yn gweld pethau. Mae’n gwybod bod bywyd cnawdol yn mynd yn erbyn safonau Jehofa. (1 Corinthiaid 2:14-16; 3:1-3) Mae henuriaid sy’n gweld pethau o safbwynt Crist yn gyflym i sylwi pan fydd brawd yn dechrau ymddwyn mewn ffordd gnawdol, ac yn ceisio ei helpu. Os ydy’r henuriaid yn ceisio ein helpu ni, a fyddwn ni’n derbyn eu help ac yn gwneud y newidiadau sydd eu hangen? Os byddwn ni, byddwn ni’n dangos ein bod ni’n wir eisiau cryfhau’n ysbrydol.—Pregethwr 7:5, 9.

CRYFHAU’N YSBRYDOL

7. Sut rydyn ni’n gwybod nad ydy gwybodaeth am y Beibl yn ddigon i’n gwneud ni’n bobl ysbrydol?

7 Dydy gwybodaeth am y Beibl ddim yn ddigon i roi meddylfryd ysbrydol inni. Roedd y Brenin Solomon yn gwybod llawer o bethau am Jehofa, a daeth rhai o eiriau doeth Solomon yn rhan o’r Beibl. Ond, yn hwyrach ymlaen, aeth ei berthynas â Jehofa yn wan, ac ni arhosodd Solomon yn ffyddlon. (1 Brenhinoedd 4:29, 30; 11:4-6) Felly, yn ogystal â gwybodaeth am y Beibl, beth sydd ei angen arnon ni? Mae angen inni barhau i gryfhau ein ffydd. (Colosiaid 2:6, 7) Sut allwn ni wneud hyn?

8, 9. (a) Beth fydd yn ein helpu i gryfhau ein ffydd? (b) Beth yw ein nod wrth astudio a myfyrio? (Gweler y llun agoriadol.)

8 Yn y ganrif gyntaf, anogodd Paul y Cristnogion i “dyfu i fyny!” (Hebreaid 6:1) Sut gallwn ni roi’r cyngor hwn ar waith heddiw? Un ffordd bwysig ydy astudio’r llyfr Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw.” Bydd hynny’n dy helpu i weld sut i ddefnyddio egwyddorion y Beibl yn dy fywyd. Os wyt ti eisoes wedi astudio’r llyfr hwnnw, mae ’na gyhoeddiadau eraill a all dy helpu i wneud dy ffydd yn gadarn. (Colosiaid 1:23) Hefyd, mae’n rhaid inni fyfyrio ar yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu a gofyn i Jehofa ein helpu i weld sut i’w roi ar waith.

9 Wrth inni astudio a myfyrio, ein nod yw datblygu awydd cryf i blesio Jehofa a bod yn ufudd iddo. (Salm 40:8; 119:97) Rydyn ni hefyd yn gorfod gwrthod unrhyw beth a fydd yn ein rhwystro rhag tyfu’n ysbrydol.—Titus 2:11, 12.

10. Beth all pobl ifanc ei wneud er mwyn cryfhau’n ysbrydol?

10 Os wyt ti’n berson ifanc, a oes gen ti nod ysbrydol? Mae brawd sy’n gwasanaethu yn y Bethel yn aml yn siarad â phobl ifanc sydd ar fin cael eu bedyddio mewn cynulliadau ac yn eu holi am eu hamcanion ysbrydol. Mae’n gweld bod llawer ohonyn nhw wedi meddwl yn ofalus am sut maen nhw eisiau gwasanaethu Jehofa yn y dyfodol. Mae rhai yn cynllunio i wasanaethu Jehofa’n llawn amser neu i symud i ardal lle mae angen mwy o gyhoeddwyr. Ond, dydy rhai pobl ifanc ddim yn gwybod sut i ateb y cwestiwn. Ydy hynny’n golygu nad ydyn nhw’n meddwl ei bod hi’n bwysig i osod nod ysbrydol? Os wyt ti’n ifanc, gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n mynd i’r cyfarfodydd ac ar y weinidogaeth oherwydd dyna beth mae fy rhieni eisiau imi ei wneud? Neu, oes gen i fy mherthynas fy hun â Duw?’ Wrth gwrs, dylai pob un ohonon ni osod nod ysbrydol, petaen ni’n hen neu’n ifanc. Bydd y nod hwnnw’n ein helpu i’n cryfhau ein hunain yn ysbrydol.—Pregethwr 12:1, 13.

11. (a) Beth sy’n rhaid inni ei wneud i feithrin meddylfryd ysbrydol? (b) Pa esiampl Feiblaidd allwn ni ei hefelychu?

11 Unwaith inni weld sut gallwn ni wella, mae’n rhaid inni ddechrau gwneud newidiadau. Mae hyn mor bwysig oherwydd bod ein bywydau yn y fantol. (Rhufeiniaid 8:6-8) Dydy Jehofa ddim yn disgwyl inni fod yn berffaith, ond, mae’n rhoi ei ysbryd glân inni i’n helpu. Ond, mae’n rhaid i ninnau weithio’n galed hefyd. Un tro, gwnaeth y Brawd Barr, a oedd yn aelod o’r Corff Llywodraethol, ddweud am Luc 13:24: “Mae llawer yn methu oherwydd dydyn nhw ddim yn astudio’n ddigon astud i dyfu’n gryf.” Mae’n rhaid inni fod fel Jacob, a wnaeth ymladd yn erbyn angel a hynny heb ildio nes iddo gael bendith. (Genesis 32:26-28) Er bod astudio’r Beibl yn dod â phleser, ddylen ni ddim disgwyl iddo ein difyrru yn yr un ffordd â nofel. Dylen ni weithio i ddarganfod gwirioneddau gwerthfawr a fydd yn ein helpu.

12, 13. (a) Beth fydd yn ein helpu i roi Philipiaid 2:5 ar waith? (b) Sut gall esiampl a chyngor Pedr ein helpu? (c) Beth elli di ei wneud er mwyn tyfu’n ysbrydol gryf? (Gweler y blwch “ Beth Elli Di ei Wneud i Dyfu’n Ysbrydol?”)

12 Pan ydyn ni’n gwneud ymdrech i dyfu’n ysbrydol, bydd yr ysbryd glân yn ein helpu i newid y ffordd rydyn ni’n meddwl. O dipyn i beth, gallwn ddysgu i feddwl yr un ffordd â Iesu. (Philipiaid 2:5) Gall yr ysbryd glân ein helpu i gael gwared ar chwantau anghywir ac i feithrin rhinweddau sy’n plesio Duw. (Galatiaid 5:16, 22, 23) Os ydyn ni’n sylwi ar y ffaith ein bod ni’n canolbwyntio ar bethau materol neu ar bleserau, ddylwn ni ddim rhoi’r gorau iddi. Mae’n rhaid inni barhau i ofyn am i Jehofa roi’r ysbryd glân inni er mwyn canolbwyntio ar y pethau iawn. (Luc 11:13) Cofia am yr apostol Pedr. Doedd Pedr ddim yn wastad yn meddwl yr un ffordd â Iesu. (Mathew 16:22, 23; Luc 22:34, 54-62; Galatiaid 2:11-14) Ond, ni wnaeth roi’r gorau iddi, ac roedd Jehofa yn ei helpu. Fesul dipyn, dysgodd Pedr i feddwl fel Crist. A gallwn ninnau wneud yr peth.

13 Yn nes ymlaen, soniodd Pedr am rinweddau penodol a fydd yn ein helpu. (Darllen 2 Pedr 1:5-8.) Mae’n rhaid inni weithio’n galed i feithrin hunanreolaeth, dycnwch, gofal go iawn am ein gilydd, a rhinweddau eraill. Bob dydd, gallwn ofyn i ni’n hunain, ‘Pa rinwedd alla’ i weithio arni heddiw a fydd yn fy helpu i gryfhau’n ysbrydol?’

DEFNYDDIO EGWYDDORION BEIBLAIDD BOB DYDD

14. Sut bydd meddylfryd ysbrydol yn effeithio ar ein bywyd?

14 Os ydyn ni’n meddwl fel Crist, bydd hynny’n effeithio ar sut rydyn ni’n ymddwyn yn y gweithle neu yn yr ysgol, ar sut rydyn ni’n siarad, ac ar sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau bob dydd. Bydd ein penderfyniadau yn dangos ein bod ni’n trio efelychu Crist. Oherwydd bod gennyn ni feddylfryd ysbrydol, dydyn ni ddim eisiau i unrhyw beth niweidio ein perthynas â Jehofa. Pan gawn ni ein temtio i wneud rhywbeth anghywir, bydd ein meddwl ysbrydol yn ein helpu i wrthod y temtasiwn. Cyn inni wneud penderfyniad, byddwn ni’n stopio ac yn gofyn: ‘Pa egwyddorion o’r Beibl all fy helpu? Beth fyddai Crist yn ei wneud yn y sefyllfa hon? Beth fydd yn plesio Jehofa?’ Mae’n rhaid inni ddod i arfer meddwl fel hyn. Felly, gad inni drafod rhai sefyllfaoedd posib. Ar gyfer pob un, byddwn ni’n edrych ar egwyddor o’r Beibl sy’n gallu ein helpu i wneud penderfyniad doeth.

15, 16. Sut gall meddwl yn yr un ffordd â Christ ein helpu i wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â (a) dewis pwy i’w briodi? (b) dewis ffrindiau?

15 Dewis pwy i’w briodi. Mae’r egwyddor Feiblaidd i’w chael yn 2 Corinthiaid 6:14, 15. (Darllen.) Dywedodd Paul nad yw pobl ysbrydol yn edrych ar bethau yn yr un ffordd â phobl gorfforol, neu gnawdol. Sut gall yr egwyddor hon dy helpu i ddewis pwy i’w briodi?

16 Dewis ffrindiau. Mae’r egwyddor Feiblaidd i’w chael yn 1 Corinthiaid 15:33. (Darllen.) Ni fydd person ysbrydol yn ffrindiau gyda phobl a all wanhau ei ffydd. Meddylia am sut gelli di roi’r egwyddor hon ar waith mewn gwahanol sefyllfaoedd. Er enghraifft, sut gall yr egwyddor hon dy helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â rhwydweithio cymdeithasol? Sut gall yr egwyddor hon dy helpu i benderfynu a ddylet ti chwarae gemau ar-lein gyda phobl ddiarth neu beidio?

A fydd fy mhenderfyniadau yn fy helpu i fod yn fwy ysbrydol? (Gweler paragraff 17)

17-19. Sut gall bod yn berson ysbrydol dy helpu i (a) osgoi gweithredoedd diwerth? (b) gosod amcanion da? (c) ymateb i anghytundebau?

17 Gweithgareddau sy’n ein niweidio yn ysbrydol. Mae ’na rybudd pwysig yn Hebreaid 6:1. (Darllen.) Beth ydy’r “math o fywyd” y dylwn ni ei osgoi? Mae’n golygu gweithredoedd diwerth sydd ddim yn ein helpu i gryfhau yn ysbrydol. Gall y rhybudd hwn ein helpu i ateb cwestiynau fel: ‘Ydy’r gweithgaredd hwn yn fuddiol neu’n ddiwerth? A ddylwn i ymwneud â’r cynllun busnes hwn? Pam na ddylwn ni ymuno â grŵp sy’n ceisio newid cyflwr y byd?’

A fydd fy mhenderfyniadau yn fy helpu i osod amcanion ysbrydol? (Gweler paragraff 18)

18 Amcanion ysbrydol. Yn y Bregeth ar y Mynydd, rhoddodd Iesu gyngor da inni am osod amcanion. (Mathew 6:33) Mae person ysbrydol yn rhoi’r Deyrnas yn gyntaf yn ei fywyd. Bydd yr egwyddor hon yn ein helpu i ateb cwestiynau fel: ‘A ddylwn i fynd i’r brifysgol ar ôl imi orffen fy addysg sylfaenol? A ddylwn i dderbyn swydd benodol?’

A fydd fy mhenderfyniadau yn fy helpu i gadw heddwch â phobl eraill? (Gweler paragraff 19)

19 Anghytundebau. Gall cyngor Paul i’r Cristnogion yn Rhufain ein helpu pan fydd anghytundebau’n codi rhyngon ni ac eraill. (Rhufeiniaid 12:18) Rydyn ni’n efelychu Crist, felly rydyn ni’n ceisio byw “mewn heddwch gyda phawb.” Sut rydyn ni’n ymateb pan fydd anghytundeb yn codi rhyngon ni a rhywun arall? Ydy hi’n anodd inni dderbyn barn rhywun arall? Neu a oes gennyn ni enw da am geisio cadw heddwch?—Iago 3:18.

20. Pam rwyt ti eisiau symud yn dy flaen yn ysbrydol?

20 Mae’r esiamplau hyn yn dangos sut mae egwyddorion y Beibl yn ein helpu i wneud penderfyniadau sy’n profi bod ysbryd glân Duw yn ein harwain. Os ydyn ni’n ysbrydol, byddwn ni’n hapus ac yn fodlon. Mae Robert, y soniwyd amdano uchod, yn dweud: “Ar ôl imi feithrin perthynas dda gyda Jehofa, roeddwn i’n ŵr gwell ac yn dad gwell. Roeddwn i’n fodlon ac yn hapus.” Os ydyn ni’n gwneud popeth a allwn ni i symud ymlaen fel person ysbrydol, byddwn ninnau hefyd yn derbyn llawer o fendithion. Byddwn ni’n hapusach nawr, ac yn y dyfodol, byddwn ni’n cael “gafael yn y bywyd sydd yn fywyd go iawn.”—1 Timotheus 6:19.