Dal Ati i Ddangos Cariad—Mae’n Adeiladu
“Mae cariad . . . yn adeiladu.”—1 CORINTHIAID 8:1.
1. Pa bwnc pwysig y soniodd Iesu amdano yn ystod ei noson olaf gyda’i ddisgyblion?
YN YSTOD ei noson olaf gyda’i ddisgyblion cyn iddo farw, gwnaeth Iesu sôn am gariad tua 30 o weithiau. Dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Carwch eich gilydd.” (Ioan 15:12, 17) Byddai eu cariad mor rhyfeddol fel y byddai eraill yn sylwi arno ac yn gwybod eu bod nhw’n wir ddilynwyr i Grist. (Ioan 13:34, 35) Nid teimlad yn unig oedd y cariad roedd Iesu yn sôn amdano; mae’n rhinwedd rymus sy’n gofyn am hunanaberth. Dywedodd Iesu: “Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau. Dych chi’n amlwg yn ffrindiau i mi os gwnewch chi beth dw i’n ddweud.”—Ioan 15:13, 14.
2. (a) Am beth mae gweision Duw yn adnabyddus heddiw? (b) Pa gwestiynau fydd yn cael eu hateb yn yr erthygl hon?
2 Mae gweision Jehofa heddiw yn adnabyddus am eu cariad diffuant, hunanaberthol, a’u hundod. (1 Ioan 3:10, 11) Dim ots i ba genedl neu lwyth rydyn ni’n perthyn, pa iaith rydyn ni’n ei siarad, o ba le rydyn ni’n dod, neu sut cawson ni’n dwyn i fyny. Ledled y byd, mae gweision Jehofa yn wir yn caru ei gilydd. Pam mae angen cariad heddiw? Sut mae Jehofa ac Iesu yn ein hadeiladu â’u cariad? A sut gallwn ninnau ddangos y cariad hwn i gysuro a chryfhau eraill?—1 Corinthiaid 8:1.
PAM MAE CARIAD YN HANFODOL HEDDIW?
3. Sut mae’r “adegau ofnadwy o anodd” hyn yn effeithio ar bobl?
3 Rydyn ni’n byw mewn “adegau ofnadwy o anodd” sy’n “llawn trafferthion.” (2 Timotheus 3:1-5; Salm 90:10) Mae llawer o bobl yn dioddef ac yn teimlo fel rhoi’r gorau iddi. Mae mwy nag 800,000 o bobl, un person bob 40 eiliad, yn eu lladd eu hunain bob blwyddyn. Yn anffodus, mae hyd yn oed rhai o’n brodyr wedi dioddef teimladau o’r fath ac wedi rhoi terfyn ar eu bywydau.
4. Pa gymeriadau o’r Beibl a oedd ar un adeg yn teimlo fel eu bod nhw eisiau marw?
4 Yn nyddiau’r Beibl, roedd problemau yn achosi i rai o weision ffyddlon Duw deimlo fel eu bod nhw eisiau marw. Er enghraifft, oherwydd bod Job mewn cymaint o boen, dywedodd: “Dw i wedi cael llond bol, does gen i ddim eisiau byw ddim mwy.” (Job 7:16; 14:13) Oherwydd bod Jona’n teimlo mor siomedig, dywedodd: “Plîs ARGLWYDD, lladd fi! Mae’n well gen i farw na byw.” (Jona 4:3) Oherwydd bod Elias yn teimlo mor anobeithiol, dywedodd: “Dw i wedi cael digon! ARGLWYDD, cymer fy mywyd i.” (1 Brenhinoedd 19:4) Ond, roedd Jehofa’n caru’r gweision hynny ac roedd eisiau iddyn nhw fyw. Ni wnaeth gondemnio’r ffordd roedden nhw’n teimlo. Yn hytrach, helpodd nhw i adennill eu hawydd i fyw fel eu bod nhw’n gallu dal ati i’w wasanaethu’n ffyddlon.
5. Pam mae ein brodyr a’n chwiorydd angen ein cariad nawr?
5 Heddiw, mae llawer o Dystion o dan straen oherwydd sefyllfaoedd anodd ac felly maen nhw angen ein cariad. Mae rhai’n destun sbort neu’n cael eu herlid. Mae eraill yn destun siarad neu’n cael eu bwlio yn y gweithle. Neu, maen nhw wedi gorflino oherwydd gorfod gweithio oriau hir neu oherwydd swyddi sy’n llawn stres. Hefyd, mae gan eraill broblemau teuluol difrifol. Efallai eu bod nhw’n briod i rywun sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa ac sy’n eu beirniadu ar hyd yr amser. Oherwydd pwysau o’r fath, mae llawer yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw nerth ar ôl ac maen nhw hyd yn oed yn gallu colli eu hunan-barch. Beth all helpu?
MAE CARIAD DUW YN EIN CRYFHAU
6. Sut mae cariad Jehofa yn cryfhau ei weision?
6 Mae Jehofa yn cysuro ei weision drwy ddweud ei fod yn eu caru nhw nawr ac am byth. Dychmyga sut roedd yr Israeliaid yn teimlo pan ddywedodd Jehofa: “Dw i’n dy drysori di, ac yn dy garu di, achos ti’n werthfawr yn fy ngolwg i,” a phan ddywedodd: “Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti”! (Eseia 43:4, 5) Rydyn ni’n gwybod bod pob un ohonon ni’n werthfawr i Jehofa. * (Gweler y troednodyn.) Mae’r Beibl yn addo: “Mae’r ARGLWYDD dy Dduw gyda ti, fel arwr i dy achub di. Bydd e wrth ei fodd gyda ti.”—Seffaneia 3:16, 17.
7. Sut mae cariad Jehofa yn debyg i gariad mam sy’n magu? (Gweler y llun agoriadol.)
7 Mae Jehofa yn addo cryfhau a chysuro ei bobl ni waeth pa broblemau maen nhw’n eu hwynebu. Dywedodd: “Byddwch yn cael sugno’i bronnau a’ch cario fel babi, ac yn chwarae ar ei gliniau fel plentyn bach. Bydda i’n eich cysuro chi fel mam yn cysuro’i phlentyn.” (Eseia 66:12, 13) Meddylia am ba mor ddiogel y mae babi yn ei deimlo pan fydd mam yn ei gario neu’n chwarae gydag ef! Mae Jehofa yn wir yn dy garu di ac eisiau iti deimlo’n saff. Paid byth ag amau pa mor werthfawr wyt ti i Jehofa.—Jeremeia 31:3.
8, 9. Sut gall cariad Iesu ein cryfhau?
8 Dyma reswm arall pam rydyn ni’n gwybod bod Jehofa yn ein caru ni: “Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16) Mae aberth Iesu yn profi ei fod yntau hefyd yn ein caru ni, ac mae’r cariad hwnnw yn ein cryfhau. Mae’r Beibl yn dweud dydy hyd yn oed poen na dioddefaint yn “gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad y Meseia.”—Rhufeiniaid 8:35, 38, 39.
9 Ar adegau, mae gennyn ni broblemau sy’n gallu ein gwanhau ni’n gorfforol neu’n emosiynol neu sy’n gallu dwyn y llawenydd o wasanaethu Jehofa. 2 Corinthiaid 5:14, 15.) Mae cariad Iesu’n rhoi’r awydd inni i ddal ati ac i wasanaethu Jehofa. Gallai ein helpu i beidio â rhoi’r ffidil yn y to, hyd yn oed pe bydden ni’n dioddef trychineb, erledigaeth, siomedigaeth, neu bryder.
Ond, mae cofio faint mae Iesu yn ein caru ni yn gallu rhoi’r cryfder inni i ddyfalbarhau. (DarllenMAE EIN BRODYR ANGEN CARIAD
10, 11. Pwy sydd â’r cyfrifoldeb i adeiladu’r rhai sy’n ddigalon? Esbonia.
10 Mae Jehofa hefyd yn defnyddio’r gynulleidfa i’n hadeiladu â’i gariad. Pan ydyn ni’n caru ein brodyr a’n chwiorydd, rydyn ni’n profi bod gennyn ni gariad tuag at Jehofa. Rydyn ni’n gwneud popeth a allwn ni i helpu ein brodyr i wybod eu bod nhw’n werthfawr a bod Jehofa yn eu caru. (1 Ioan 4:19-21) Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Calonogwch eich gilydd, a daliwch ati i helpu’ch gilydd.” (1 Thesaloniaid 5:11) Nid yr henuriaid yn unig sy’n gallu gwneud hynny. Gall pob un ohonon ni efelychu Jehofa ac Iesu drwy roi cysur i’n brodyr a’n chwiorydd.—Darllen Rhufeiniaid 15:1, 2.
11 Efallai bydd rhai yn y gynulleidfa sy’n dioddef o iselder neu orbryder difrifol angen help proffesiynol a meddyginiaeth. (Luc 5:31) Mae henuriaid ac eraill yn y gynulleidfa yn sylweddoli, er nad ydyn nhw’n ddoctoriaid, mae’r help a’r cysur y gallan nhw eu rhoi yn hynod o bwysig. Gall pawb yn y gynulleidfa “annog y rhai sy’n ddihyder, helpu’r rhai gwan, a bod yn amyneddgar gyda phawb.” (1 Thesaloniaid 5:14) Rydyn ni eisiau ceisio deall sut mae ein brodyr yn teimlo. Mae’n rhaid inni fod yn amyneddgar a siarad â nhw mewn ffordd a fydd yn eu cysuro pan fyddan nhw’n ddigalon. A wyt ti’n ceisio cryfhau eraill? Beth elli di ei wneud i ddangos mwy o gysur ac i fod yn fwy calonogol?
12. Rho esiampl chwaer a gafodd ei chalonogi gan y cariad yn ei chynulleidfa.
12 Mae chwaer yn Ewrop yn dweud: “Ar adegau dw i’n meddwl am ladd fy hun, ond dw i’n derbyn llawer o gefnogaeth gan eraill. Mae fy nghynulleidfa wedi achub fy mywyd. Mae’r brodyr a’r chwiorydd bob amser yn hynod o galonogol ac yn garedig iawn. Er mai dim ond ychydig sy’n gwybod fy mod i’n dioddef o iselder, dw i’n gallu dibynnu’n llwyr ar fy nghynulleidfa. Mae un cwpl priod yn rhieni ysbrydol imi. Maen nhw’n edrych ar fy ôl i, ac maen nhw’n gofalu amdana’ i drwy’r dydd bob dydd.” Wrth gwrs, dydy pawb ddim yn gallu helpu i’r fath raddau. Ond, gallwn ni i gyd wneud llawer i gefnogi ein brodyr a’n chwiorydd. * (Gweler y troednodyn.)
SUT I ADEILADU ERAILL Â CHARIAD
13. Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn cysuro eraill?
13 Bod yn wrandawr da. (Iago 1:19) Rydyn ni’n dangos cariad pan ydyn ni’n gwrando’n llawn empathi. Gofynna gwestiynau iddo a fyddai’n dy helpu di i ddeall sut mae dy frawd yn teimlo. Bydd yn gweld dy fod ti’n ei garu o edrych ar dy wyneb yn unig. Tra ei fod yn siarad, bydda’n amyneddgar a gad iddo’i fynegi ei hun heb iti dorri ar ei draws. Trwy fod yn wrandawr da, gelli di ei ddeall yn well a’i helpu i ymddiried ynot ti. Yna, fe fydd yn haws iddo wrando arnat ti wrth iti geisio ei helpu. Pan fyddi di’n wir ofalu am bobl eraill, gelli di fod o gysur mawr iddyn nhw.
14. Pam na ddylen ni fod yn feirniadol?
14 Peidio â bod yn feirniadol. Bydd rhai sy’n dioddef o iselder yn teimlo’n waeth pe bydden nhw’n meddwl ein bod ni’n eu beirniadu. Wedyn, gall fod yn anodd iawn inni eu helpu. “Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu, ond mae geiriau doeth yn iacháu.” (Diarhebion 12:18) Er na fydden ni byth yn defnyddio ein geiriau i frifo person sy’n dioddef o iselder yn fwriadol, rydyn ni’n dal yn gallu achosi llawer o boen wrth inni siarad heb feddwl. Er mwyn cysuro ein brawd, mae’n rhaid inni wneud iddo gredu ein bod ni’n wir yn ceisio deall ei sefyllfa.
15. Pa adnodd gwerthfawr gallwn ni ei ddefnyddio i gysuro eraill?
15 Defnyddio Gair Duw i gysuro eraill. (Darllen Rhufeiniaid 15:4, 5.) Mae’r Beibl yn dod o’r “Duw, sy’n rhoi’r amynedd a’r anogaeth yma” inni, felly nid yw’n syndod ein bod ni’n dod o hyd i gysur yn ei eiriau. Mae gennyn ni hefyd adnoddau fel Mynegai Cyhoeddiadau’r Watch Tower a Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa. Gan ddefnyddio’r adnoddau hyn, gallwn ddod o hyd i ysgrythurau a chyhoeddiadau y gallwn ni eu defnyddio i gysuro a chalonogi ein brodyr a’n chwiorydd.
16. Pa rinweddau a fydd yn ein helpu i galonogi rhywun sy’n dioddef o iselder?
2 Corinthiaid 1:3-6; Luc 1:78; Rhufeiniaid 15:13) Gosododd Paul esiampl dda yn hyn o beth oherwydd iddo efelychu Jehofa. Ysgrifennodd: “Buon ni’n addfwyn gyda chi, fel mam yn magu ei phlant ar y fron. Gan ein bod ni’n eich caru chi gymaint, roedden ni’n barod i roi’n bywydau drosoch chi yn ogystal â rhannu newyddion da Duw gyda chi. Roeddech chi mor annwyl â hynny yn ein golwg ni.” (1 Thesaloniaid 2:7, 8) Pan fyddwn ni’n dyner fel Jehofa, rydyn ni’n gallu rhoi’r cysur y mae ein brawd wedi bod yn gweddïo amdano!
16 Bod yn dyner ac yn annwyl. Jehofa “ydy’r Tad sy’n tosturio a’r Duw sy’n cysuro” ac y mae’n “dirion ac yn drugarog” tuag at ei weision. (Darllen17. Pa farn realistig o’n brodyr a fydd yn gallu ein helpu i’w calonogi?
17 Paid â disgwyl i dy frodyr fod yn berffaith. Bydda’n realistig. Os wyt ti’n disgwyl i dy frodyr fod yn berffaith, byddi di’n cael dy siomi. (Pregethwr 7:21, 22) Cofia fod Jehofa yn realistig yn yr hyn y mae’n ei ddisgwyl gennyn ni. Felly, mae’n rhaid inni ddangos amynedd tuag at ein gilydd. (Effesiaid 4:2, 32) Ni fyddwn ni byth eisiau i’n brodyr deimlo fel nad ydyn nhw’n gwneud digon na’u cymharu nhw ag eraill. Yn hytrach, rydyn ni’n eu calonogi ac yn tynnu sylw at yr holl bethau da y maen nhw’n eu gwneud. Gall hyn eu helpu i fod yn hapus wrth iddyn nhw wasanaethu Jehofa.—Galatiaid 6:4.
18. Pam yr ydyn ni eisiau adeiladu eraill â chariad?
18 Mae pob un o weision Jehofa yn werthfawr iddo ac i Iesu hefyd. (Galatiaid 2:20) Rydyn ni’n caru ein brodyr a’n chwiorydd yn fawr iawn, felly mae’n rhaid inni eu trin yn dyner. Dywed y Beibl: “Gadewch i ni wneud beth sy’n arwain i heddwch ac sy’n cryfhau pobl eraill.” (Rhufeiniaid 14:19) Rydyn ni’n wir yn edrych ymlaen at fyw yn y Baradwys pan na fydd gan neb unrhyw reswm i fod yn ddigalon! Ni fydd salwch na rhyfeloedd mwyach. Ni fydd pobl yn marw o ganlyniad i bechod etifeddol, ac ni fydd erledigaeth, problemau teuluol, ac ni fydd pobl yn cael eu siomi mewn bywyd. Ar ddiwedd y mil blynyddoedd, bydd y ddynoliaeth yn berffaith. Bydd y rhai a fydd yn aros yn ffyddlon yn ystod y prawf olaf yn cael eu mabwysiadu gan Jehofa yn feibion iddo ar y ddaear a byddan nhw’n cael y “rhyddid bendigedig fydd Duw’n ei roi i’w blant.” (Rhufeiniaid 8:21) Felly, gad inni ddangos cariad sy’n adeiladu a helpu ein gilydd i oroesi a mynd i mewn i fyd newydd hyfryd Duw.
^ Par. 6 Gweler pennod 24 o’r llyfr Draw Close to Jehovah.
^ Par. 12 Er mwyn helpu’r rhai sy’n meddwl am ladd eu hunain, gweler yr erthyglau canlynol o’r Deffrwch! Saesneg: “Why Go On?; 1 Because Things Change; 2 Because There Is Help; 3 Because There Is Hope” (Ebrill 2014); “When You Feel Like Giving Up on Life” (Ionawr 2012); a “A Worldwide Problem; Why People Give Up on Life; You Can Find Help” (22 Hydref, 2001).