Wyt Ti’n Gwybod Faint o’r Gloch Yw Hi?
PAN wyt ti eisiau gwybod faint o’r gloch yw hi, beth wyt ti’n ei wneud? Mae’n debyg y byddi di’n edrych ar dy watsh neu’r cloc. Efallai, fe weli di ei bod hi’n un awr a thri deg munud wedi hanner dydd. Beth fyddi di’n ei ddweud wrth ffrind sy’n gofyn iti: “Faint o’r gloch ydy hi?”
Mae hynny’n dibynnu ar le rwyt ti’n byw. Er enghraifft, mewn rhai llefydd gellir dweud “mae hi’n 1:30” neu “mae hi’n 13:30.” Mewn llefydd eraill, gellir dweud, “mae hi’n hanner dau o’r gloch,” sy’n golygu 30 munud cyn dau o’r gloch.
Sut roedd pobl yn dweud faint o’r gloch oedd hi adeg y Beibl? Roedd ganddyn nhwthau hefyd fwy nag un ffordd. Mae’r Ysgrythurau Groeg yn defnyddio ymadroddion fel “bore,” “ganol dydd,” a “dechrau nosi.” (Genesis 8:11; 19:27; 43:16; Deuteronomium 28:29; 1 Brenhinoedd 18:26) Ond weithiau mae’r Beibl yn defnyddio termau sy’n fwy manwl.
Yn Israel gynt, yr arfer oedd cael “gwylwyr,” yn enwedig yn ystod y nos. Roedd yr Israeliaid yn rhannu’r nos yn dair rhan, sef gwyliadwriaethau. (Salm 63:6, BCND) Yn Barnwyr 7:19, rydyn ni’n darllen am y “wyliadwriaeth ganol.” (BCND) Erbyn dyddiau Iesu, roedd yr Iddewon yn rhannu’r nos yn bedair gwyliadwriaeth, fel roedd y Groegiaid a’r Rhufeiniaid yn gwneud.
Mae’r Efengylau yn sôn am y gwyliadwriaethau neu’r gwylfâu hyn lawer gwaith. Er enghraifft, “yn y bedwaredd wylfa o’r nos,” y cerddodd Iesu ar y dŵr tuag at y cwch lle’r oedd ei ddisgyblion. (Mathew 14:25, BCND) A dywedodd Iesu mewn eglureb: “Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd yn ystod y nos [pa wyliadwriaeth, Beibl Cysegr-lân] roedd y lleidr yn dod, byddai wedi aros i wylio a’i rwystro rhag torri i mewn i’w dŷ.”—Mathew 24:43.
Soniodd Iesu am y pedair gwyliadwriaeth hyn pan ofynnodd i’w ddisgyblion fod yn effro oherwydd doedden nhw ddim yn gwybod “pa bryd y daw meistr y tŷ, ai gyda’r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore.” (Marc 13:35, BCND) Roedd y gyntaf o’r gwyliadwriaethau hynny “gyda’r hwyr,” o fachlud yr haul tan oddeutu naw o’r gloch gyda’r nos. Roedd yr ail wyliadwriaeth, “hanner nos,” o naw o’r gloch gyda’r hwyr tan hanner nos. Roedd y drydedd wyliadwriaeth “ar ganiad y ceiliog,” hynny yw, o hanner nos tan oddeutu tri o’r gloch yn y bore. Yn ystod y wyliadwriaeth hon, yn ôl pob tebyg, y gwnaeth y ceiliog ganu y noson y cafodd Iesu ei arestio. (Marc 14:72) Roedd y bedwaredd wyliadwriaeth “yn fore,” hynny yw, o gwmpas tri o’r gloch yn y bore tan y wawr.
Felly hyd yn oed yn y cyfnod pan nad oedd gan bobl watshis a chlociau fel y rhai sydd gennyn ni heddiw, roedd ganddyn nhw ffordd o ddweud faint o’r gloch oedd hi.