Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Dych Chi’n Gwybod y Pethau Yma, Ond eu Gwneud Sy’n Dod â Bendith”

“Dych Chi’n Gwybod y Pethau Yma, Ond eu Gwneud Sy’n Dod â Bendith”

“Gwneud beth mae Duw’n ddweud ydy fy mwyd . . . a gorffen y gwaith mae wedi’i roi i mi.”—IOAN 4:34.

CANEUON: 80, 35

1. Sut gallai hunanoldeb ddylanwadu ar ein gostyngeiddrwydd?

PAM mae hi’n anodd cymhwyso cyngor Gair Duw? Oherwydd bod angen gostyngeiddrwydd i wneud y peth iawn. Yn “y cyfnod olaf hwn,” anodd yw aros yn ostyngedig oherwydd y “bydd pobl yn byw i’w plesio nhw eu hunain, ac yn byw er mwyn gwneud arian. Byddan nhw’n hunanbwysig ac yn dirmygu pobl eraill” ac yn “gwbl afreolus.” (2 Timotheus 3:1-3) Fe ŵyr gweision Duw fod ymddygiad o’r fath yn ddrwg, ond gallai ymddangos fod y rhai sy’n ymddwyn fel hyn yn llwyddo. (Salm 37:1; 73:3) Gallen ni feddwl: ‘Ydy hi’n werth yr ymdrech imi roi anghenion pobl eraill o flaen fy rhai i? A fydd pobl yn dal yn fy mharchu os bydda’ i’n ymddwyn yn ostyngedig?’ (Luc 9:48) Os gwnawn ni adael i agwedd hunanol y byd ddylanwadu arnon ni, gallen ni niweidio ein perthynas dda â’n brodyr a’i gwneud hi’n anodd i bobl eraill weld ein bod ni’n Gristnogion. Ond bydd astudio esiamplau gweision ffyddlon Duw a’u hefelychu yn dod â chanlyniadau da.

2. Beth allwn ni ei ddysgu o hanes gweision ffyddlon Duw gynt?

2 Beth helpodd gweision ffyddlon Duw yn y gorffennol i fod yn ffrindiau iddo? Sut roedden nhw’n ei blesio? O le y cawson nhw’r cryfder i wneud y peth iawn? Pan fyddwn ni’n darllen amdanyn nhw yn y Beibl ac yn myfyrio ar hynny, bydd ein ffydd yn cryfhau.

CADW EIN FFYDD YN GRYF

3, 4. (a) Sut mae Jehofa yn ein dysgu? (b) Pam mae angen mwy na gwybodaeth er mwyn cryfhau ein ffydd?

3 Mae Jehofa yn darparu’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn cadw ein ffydd yn gryf. Rydyn ni’n derbyn cyngor a hyfforddiant da o’r Beibl, ein cyhoeddiadau Cristnogol, ein gwefan, JW Broadcasting, ein cyfarfodydd a’n cynulliadau. Ond esboniodd Iesu fod angen mwy na gwybodaeth yn unig. Dywedodd: “Gwneud beth mae Duw’n ddweud ydy fy mwyd . . . a gorffen y gwaith mae wedi’i roi i mi.”—Ioan 4:34.

4 Roedd gwneud ewyllys Duw yn fwyd i Iesu. Mae bwyta’n iach yn gwneud inni deimlo’n dda ac yn cryfhau’r corff. Mewn ffordd debyg, mae gwneud ewyllys Duw yn gwneud inni deimlo’n dda ac yn cryfhau ein ffydd. Er enghraifft, wyt ti erioed wedi mynd i gyfarfod ar gyfer y weinidogaeth yn teimlo’n flinedig ond yna ar ôl dod adref yn teimlo’n hapus ac wedi dy adfywio?

5. Sut mae bod yn ddoeth o les inni?

5 Pan fyddwn ni’n gwneud beth mae Jehofa yn ei ofyn, rydyn ni’n ddoeth. (Salm 107:43) Ac mae llawer o bethau da yn digwydd i bobl ddoeth. “Does dim trysor tebyg iddi. . . . Mae hi fel coeden sy’n rhoi bywyd i’r rhai sy’n gafael ynddi, ac mae’r rhai sy’n dal gafael ynddi mor hapus!” (Diarhebion 3:13-18) Dywedodd Iesu: “Dych chi’n gwybod y pethau yma, ond eu gwneud sy’n dod â bendith.” (Ioan 13:17) Byddai disgyblion Iesu’n hapus cyn belled ag yr oedden nhw’n parhau i wneud yr hyn roedd Iesu yn ei ofyn. Roedd dilyn ei ddysgeidiaethau a’i esiampl yn ffordd o fyw iddyn nhw.

6. Pam rydyn ni’n gorfod rhoi ar waith beth rydyn ni’n ei ddysgu?

6 Heddiw, mae’n rhaid inni barhau i gymhwyso cyngor y Beibl. Meddylia am y mecanydd: Mae ganddo ddeunydd, tŵls, a gwybodaeth. Bydd y pethau hynny yn ei helpu dim ond os bydd yn eu defnyddio. Efallai fod ganddo flynyddoedd o brofiad, ond mae’n rhaid iddo barhau i ddefnyddio’r hyn mae wedi ei ddysgu er mwyn parhau i fod yn fecanydd da. Mewn modd tebyg, pan ddysgon ni’r gwirionedd am y tro cyntaf, roedden ni’n hapus oherwydd ein bod ni wedi cymhwyso’r hyn a ddarllenwn ni yn y Beibl. Ond mae hapusrwydd sy’n para yn dod o ddal ati i roi ar waith bob diwrnod yr hyn mae Jehofa yn ei ddysgu inni.

7. Beth sy’n rhaid inni ei wneud i ddysgu o esiamplau yn y Beibl?

7 Yn yr erthygl hon, trafodwn rhai sefyllfaoedd a all ei gwneud hi’n anodd inni aros yn ostyngedig. Dysgwn sut arhosodd gweision ffyddlon gynt yn ostyngedig. Ond, mae’n rhaid inni wneud mwy na darllen y wybodaeth yn unig. Mae’n rhaid inni feddwl am y wybodaeth honno a’i rhoi ar waith.

YSTYRIED ERAILL YN GYDRADD

8, 9. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r hanes am ostyngeiddrwydd Paul yn Actau 14:8-15? (Gweler y llun agoriadol.)

8 Mae Duw eisiau i “bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir.” (1 Timotheus 2:4) Sut rwyt ti’n ystyried yr holl bobl sydd ddim yn gwybod am y gwirionedd? Roedd yr apostol Paul yn pregethu i Iddewon a oedd eisoes yn gwybod rhywbeth am Jehofa. Ond, roedd hefyd yn pregethu i rai a oedd yn addoli gau dduwiau. Roedd hyn yn rhoi gostyngeiddrwydd Paul o dan brawf. Sut felly?

9 Ar ei daith genhadol gyntaf, aeth Paul a Barnabas i Lystra. Roedd y bobl yno yn trin Paul a Barnabas fel arwyr ac yn eu galw’n Zews a Hermes, sef eu gau dduwiau nhw. A oedd hyn yn plesio Paul a Barnabas oherwydd iddyn nhw gael eu herlid yn y ddwy ddinas olaf roedden nhw wedi ymweld â nhw? A oedden nhw’n meddwl y byddai’r holl sylw hwn yn helpu mwy o bobl i glywed am y newyddion da? Nac oedden nhw. Doedden nhw ddim yn hapus a dyma nhw’n gweiddi: “Pam dych chi’n gwneud hyn? Pobl gyffredin fel chi ydyn ni!”—Actau 14:8-15.

10. Pam nad oedd Paul a Barnabas yn teimlo eu bod nhw’n well na phobl Lycaonia?

10 Pan ddywedodd Paul a Barnabas mai bodau dynol oedden nhwthau hefyd, dweud roedden nhw eu bod nhw’n amherffaith. Doedden nhw ddim yn golygu eu bod nhw’n addoli yn yr un modd â phobl Lycaonia. Cenhadon oedd Paul a Barnabas, wedi eu hanfon gan Dduw. (Actau 13:2) Roedden nhw wedi eu heneinio â’r ysbryd glân ac roedd ganddyn nhw obaith rhyfeddol. Ond doedd hynny ddim yn rheswm iddyn nhw deimlo eu bod nhw’n well na phobl eraill. Sylweddolon nhw fod y bobl hynny hefyd yn gallu derbyn y gobaith nefol petaen nhw’n derbyn y newyddion da.

11. Sut gallwn ni fod yn ostyngedig fel Paul wrth inni bregethu?

11 Dyma un ffordd o ddangos gostyngeiddrwydd fel Paul. Dydyn ni byth yn teimlo bod ein haseiniad i bregethu neu fod y pethau rydyn ni wedi eu cyflawni â help Jehofa yn ein gwneud ni’n arbennig. Gallwn ofyn: ‘Sut rydw i’n teimlo am y rhai sy’n byw yn fy ardal? Oes gen i ragfarn tuag at rai grwpiau o bobl?’ Ledled y byd, mae Tystion Jehofa yn ceisio dod o hyd i rai a fydd yn gwrando ar y newyddion da. Mae rhai hyd yn oed yn dysgu iaith ac arferion pobl y mae eraill yn eu hystyried yn israddol. Ond dydyn nhw byth yn teimlo eu bod nhw’n well na’r bobl y maen nhw’n pregethu iddyn nhw. Yn hytrach, maen nhw’n ceisio deall pob unigolyn er mwyn helpu cymaint o bobl a phosib i dderbyn neges y Deyrnas.

GWEDDÏO DROS ERAILL

12. Sut dangosodd Epaffras ei fod yn caru eraill?

12 Ffordd arall o ddangos gostyngeiddrwydd ydy gweddïo dros ein brodyr a’n chwiorydd “sydd â ffydd yr un mor werthfawr â ni.” (2 Pedr 1:1) Dyna wnaeth Epaffras. Mae’r Beibl yn sôn amdano dair gwaith yn unig. Pan arestiwyd Paul a’i gyfyngu i’w dŷ yn Rhufain, ysgrifennodd at Gristnogion Colosae, gan ddweud am Epaffras: “Mae bob amser yn gweddïo’n daer drosoch chi.” (Colosiaid 4:12) Roedd Epaffras yn adnabod y brodyr yn dda, ac yn eu caru’n fawr. Dywedodd Paul fod Epaffras gydag ef yn y carchar, felly, roedd gan Epaffras ei broblemau ei hun. (Philemon 23) Ond roedd yn dal yn gofalu am anghenion pobl eraill, ac yn gwneud rhywbeth i’w helpu. Gweddïodd Epaffras dros ei frodyr a’i chwiorydd, a gallwn ninnau hefyd wneud yr un peth gan ddefnyddio eu henwau. Mae gweddïau o’r fath yn rymus iawn.—2 Corinthiaid 1:11; Iago 5:16.

13. Sut gelli di efelychu Epaffras wrth weddïo?

13 Meddylia am rywun y gelli di weddïo drosto gan ddefnyddio ei enw. Efallai dy fod ti’n gwybod am ffrindiau yn y gynulleidfa neu deuluoedd sy’n mynd trwy’r felin ar hyn o bryd. Efallai fod ganddyn nhw benderfyniadau anodd eu gwneud neu demtasiynau i’w gwrthsefyll. Gelli di hefyd weddïo dros frodyr a chwiorydd sydd â’u henwau wedi eu rhestru ar jw.org Saesneg yn yr erthygl “Jehovah’s Witnesses Imprisoned for Their Faith.” (Edrycha o dan NEWSROOM > LEGAL DEVELOPMENTS.) Gelli di weddïo hefyd dros rai sydd wedi cael profedigaeth, rhai sydd wedi goroesi trychinebau neu ryfeloedd yn ddiweddar, a rhai sydd â phroblemau ariannol. Mae ’na gymaint o frodyr a chwiorydd sydd angen ein gweddïau. Pan fyddwn ni’n gweddïo drostyn nhw, rydyn ni’n profi ein bod ni’n meddwl, nid yn unig am ein hanghenion ein hunain, ond hefyd am anghenion pobl eraill. (Philipiaid 2:4) Mae Jehofa yn clywed gweddïau o’r fath.

BOD “YN AWYDDUS I WRANDO”

14. Pam y gellir dweud mai Jehofa ydy’r gwrandawr gorau?

14 Ffordd arall o ddangos ein bod ni’n ostyngedig ydy bod yn wrandawr da. Mae Iago 1:19 yn dweud: “Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando.” Jehofa ydy’r gwrandawr gorau sydd. (Genesis 18:32; Josua 10:14) Er enghraifft, darllena’r sgwrs sydd i’w weld yn Exodus 32:11-14. (Darllen.) Er nad oedd angen barn Moses arno, gwnaeth Jehofa ganiatáu Moses i fynegi ei deimladau. A fyddet ti’n gwrando’n amyneddgar ar rywun sydd wedi bod yn anghywir yn y gorffennol ac yna’n dilyn ei awgrymiadau? Ond eto mae Jehofa yn gwrando’n amyneddgar ar bob un person sy’n gweddïo arno mewn ffydd.

15. Sut gallwn ni efelychu Jehofa drwy anrhydeddu eraill?

15 Gofynna i ti dy hun: ‘Os ydy Jehofa mor ostyngedig fel y mae’n gallu gwrando ar bobl yn y ffordd y gwrandawodd ar Abraham, Rachel, Moses, Josua, Manoa, Elias, a Heseceia, oni ddylwn i geisio gwneud yr un peth? A ydw i’n gallu rhoi mwy o anrhydedd i fy holl frodyr drwy wrando arnyn nhw a dilyn eu hawgrymiadau pan fo’n bosib? Oes ’na rywun yn fy nheulu neu yn fy nghynulleidfa sy’n haeddu mwy o sylw gen i? Beth dw i am wneud ynglŷn â hynny?’—Genesis 30:6; Barnwyr 13:9; 1 Brenhinoedd 17:22; 2 Cronicl 30:20.

“FALLE Y BYDD YR ARGLWYDD YN GWELD MOD I’N CAEL CAM”

Dywedodd Dafydd: “Gadewch lonydd iddo.” Beth fyddet tithau wedi ei wneud? (Gweler paragraffau 16, 17)

16. Sut gwnaeth y Brenin Dafydd ymateb pan gafodd ei drin yn gas gan Shimei?

16 Hefyd, mae gostyngeiddrwydd yn ein helpu i ddangos hunanreolaeth pan fydd eraill yn ein trin ni’n gas. (Effesiaid 4:2) Gwelwn esiampl dda o hyn yn 2 Samuel 16:5-13. (Darllen.) Gwnaeth Shimei, perthynas i’r Brenin Saul, sarhau Dafydd a’i weision ac ymosod arnyn nhw. Byddai Dafydd fod wedi gallu stopio Shimei, ond trwy fod yn amyneddgar, gwnaeth oddef ei ymddygiad cas. Sut dangosodd Dafydd gymaint o hunanreolaeth? Bydd edrych ar y drydedd Salm yn rhoi’r ateb inni.

17. Beth helpodd Dafydd i ddangos hunanreolaeth, a sut gallwn ni ei efelychu?

17 Cyfansoddodd Dafydd y drydedd Salm pan oedd ei fab Absalom yn ceisio ei ladd. Ac yn ystod yr amser hwnnw y gwnaeth Shimei ymosod ar Dafydd, ond daeth Dafydd o hyd i’r nerth i aros yn dawel ei feddwl. Sut? Yn Salm 3:4, darllenwn: “Dim ond i mi weiddi’n uchel ar yr ARGLWYDD, bydd e’n fy ateb i o’i fynydd cysegredig.” Pan fyddwn ni’n cael ein trin yn gas, dylen ninnau weddïo fel y gwnaeth Dafydd. Yna, bydd Jehofa yn rhoi ei ysbryd glân inni er mwyn inni allu dyfalbarhau. Elli di ddangos mwy o hunanreolaeth a bod yn fwy maddeugar pan fydd rhywun yn dy drin di’n gas? Wyt ti’n ffyddiog y bydd Jehofa yn ymwybodol o dy ddioddefaint ac y bydd yn dy helpu ac yn dy fendithio?

PWYSIGRWYDD DOETHINEB

18. Sut byddwn ni’n elwa o roi cyfarwyddiadau Jehofa ar waith?

18 Pan fyddwn ni’n gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wybod sy’n iawn, byddwn yn ymddwyn yn ddoeth a bydd Jehofa yn ein bendithio. Yn Diarhebion 4:7, mae’r Beibl yn dweud: “Doethineb yw’r pennaf peth.” (Beibl Cymraeg Diwygiedig) Er bod doethineb wedi ei seilio ar wybodaeth, mae’n cynnwys mwy na deall ffeithiau yn unig. Mae doethineb yn ymwneud â’r penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud. Mae hyd yn oed morgrug yn dangos doethineb drwy casglu bwyd ar gyfer y gaeaf. (Diarhebion 30:24, 25) Mae’r “Meseia sy’n dangos mor bwerus ac mor ddoeth ydy Duw” bob amser yn plesio ei Dad. (1 Corinthiaid 1:24; Ioan 8:29) Bydd Duw yn ein gwobrwyo ni pan fyddwn ninnau’n dangos doethineb drwy ddewis gwneud yr hyn sy’n iawn ac yn aros yn ostyngedig. (Darllen Mathew 7:21-23.) Felly, dal ati i wneud y gynulleidfa yn rhywle y gall pawb wasanaethu Jehofa gyda gostyngeiddrwydd. Mae’n gofyn am amser ac amynedd i roi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei wybod sy’n iawn. Ond bydd gwneud hynny’n dangos gostyngeiddrwydd, a bydd gostyngeiddrwydd yn ein gwneud ni’n hapus nawr ac am byth.