Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Hapus Yw’r Rhai Sy’n Gwasanaethu’r Duw Hapus

Hapus Yw’r Rhai Sy’n Gwasanaethu’r Duw Hapus

“Hapus yw’r bobl sydd â Jehofa yn Dduw iddyn nhw!”—SALM 144:15, NW.

CANEUON: 44, 125

1. Pam mae Tystion Jehofa yn bobl hapus? (Gweler y llun agoriadol.)

MAE Tystion Jehofa yn bobl hapus. Bryd bynnag maen nhw gyda’i gilydd, naill ai mewn cyfarfod, cynulliad, neu’n gymdeithasol, maen nhw’n siarad ac yn chwerthin yn braf. Pam maen nhw mor hapus? Yn bennaf, oherwydd eu bod nhw’n adnabod Jehofa, “y Duw Hapus.” Maen nhw’n ei wasanaethu ac yn ceisio ei efelychu. (1 Timotheus 1:11, NW; Salm 16:11) Jehofa ydy ffynhonnell hapusrwydd, felly mae eisiau inni fod yn hapus, ac mae’n rhoi rhesymau inni dros fod yn llawen. * (Gweler y troednodyn.)—Deuteronomium 12:7; Pregethwr 3:12, 13.

2, 3. (a) Beth mae’n ei olygu i fod yn hapus? (b) Pam mae bod yn hapus yn gallu bod yn anodd?

2 Wyt ti’n hapus? Mae bod yn hapus yn golygu teimlo’n dda neu’n llawen, ac yn fodlon ar fywyd. Dangosa’r Beibl fod pobl sydd â bendith Jehofa yn gallu bod yn wirioneddol hapus. Ond, pam gall teimlo’n hapus fod yn anodd heddiw?

3 Mae bod yn hapus yn anodd pan fyddwn ni o dan straen, pan fydd rhywun rydyn ni’n ei garu yn marw, neu’n cael ei ddiarddel, pan fyddwn ni’n ysgaru, neu pan fyddwn ni’n colli ein swydd. Gall hefyd fod yn anodd mewn cartref sy’n llawn ffraeo, neu pan fydd pobl yn yr ysgol neu’r gweithle yn gwneud sbort am ein pennau, neu pan fyddwn ni’n cael ein herlid neu’n carcharu am ein ffydd. Neu gall ein hiechyd ddirywio, a gallwn ddioddef o salwch cronig, neu o iselder. Ond cofia fod Iesu Grist, “y Pennaeth hapus a’r unig Bennaeth,” neu Reolwr, wrth ei fodd yn cysuro pobl ac yn eu gwneud nhw’n hapus. (1 Timotheus 6:15, NW; Mathew 11:28-30) Yn y Bregeth ar y Mynydd, soniodd Iesu am rinweddau sy’n gallu ein helpu i fod yn hapus er gwaethaf problemau sy’n dod o fyw ym myd Satan.

NI ALLWN FOD YN HAPUS HEB JEHOFA

4, 5. Beth allwn ni ei wneud i aros yn hapus?

4 Mae’r peth cyntaf a ddywedodd Iesu yn hynod o bwysig: “Mae’r rhai sy’n teimlo’n dlawd ac annigonol wedi eu bendithio’n fawr [“yn hapus,” NW], oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.” (Mathew 5:3) Os ydyn ni’n “teimlo’n dlawd” yn ysbrydol, rydyn ni’n cydnabod bod angen dod i adnabod Duw a bod angen ei help a’i gyfarwyddyd. Sut dangoswn hynny? Trwy astudio’r Beibl, ufuddhau i Dduw, a sicrhau mai addoli Duw ydy’r peth pwysicaf yn ein bywydau. Bydd y pethau hyn yn ein helpu i fod yn hapus. Bydd ein ffydd yn addewidion Duw yn gryfach. A bydd ein “gobaith hapus” sydd i’w gael yn y Beibl yn ein calonogi.—Titus 2:13, NW.

5 Os ydyn ni eisiau bod yn hapus beth bynnag sy’n digwydd yn ein bywydau, mae’n rhaid parhau i gryfhau ein cyfeillgarwch â Jehofa. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i’r Arglwydd. Dw i’n dweud eto: Byddwch yn llawen!” (Philipiaid 4:4) Er mwyn bod yn ffrind agos i Jehofa, mae doethineb dwyfol yn angenrheidiol. Dywed Gair Duw: “Y fath fendith sydd i’r sawl sy’n darganfod doethineb, ac yn llwyddo i ddeall. Mae hi fel coeden sy’n rhoi bywyd i’r rhai sy’n gafael ynddi, ac mae’r rhai sy’n dal gafael ynddi mor hapus!”—Diarhebion 3:13, 18.

Er mwyn inni aros yn hapus, pwysig iawn ydy dal ati i roi ar waith beth rydyn ni’n ei ddysgu

6. Beth arall sy’n rhaid inni ei wneud i aros yn hapus?

6 Er mwyn aros yn hapus, pwysig iawn ydy parhau i roi ar waith ddysgeidiaethau’r Beibl. Pwysleisiodd Iesu bwysigrwydd hyn pan ddywedodd: “Dych chi’n gwybod y pethau yma, ond eu gwneud sy’n dod â bendith [“hapusrwydd,” NW].” (Ioan 13:17; darllen Iago 1:25.) Mae hyn yn hanfodol os ydyn ni eisiau bodloni ein hangen ysbrydol ac aros yn hapus. Ond sut gallwn ni fod yn hapus pan fydd cymaint o bethau yn gallu dwyn ein hapusrwydd? Gad inni weld beth ddywedodd Iesu nesaf yn y Bregeth ar y Mynydd.

RHINWEDDAU SY’N EIN GWNEUD NI’N HAPUS

7. Sut gall y rhai sy’n galaru fod yn hapus?

7 “Mae’r rhai sy’n galaru wedi eu bendithio’n fawr [“yn hapus,” NW], oherwydd byddan nhw’n cael eu cysuro.” (Mathew 5:4) Gallwn feddwl, ‘Sut gall pobl sy’n galaru fod yn hapus?’ Doedd Iesu ddim yn sôn am bawb sy’n galaru. Mae llawer o bobl ddrwg yn galaru, neu yn drist, oherwydd eu bod nhw’n dioddef problemau yn yr “adegau ofnadwy o anodd” hyn. (2 Timotheus 3:1) Ond maen nhw’n meddwl amdanyn nhw eu hunain yn unig ac nid am Jehofa, felly dydyn nhw ddim yn meithrin cyfeillgarwch ag ef, a dydyn nhw ddim yn gallu bod yn hapus. Roedd Iesu yn siarad am bobl sy’n ymwybodol o’u hangen ysbrydol. Maen nhw’n galaru oherwydd bod cymaint o bobl wedi cefnu ar Dduw a’i safonau. Maen nhw hefyd yn cydnabod eu bod nhw’n bechaduriaid, ac yn gweld y pethau ofnadwy sy’n digwydd yn y byd. Mae Jehofa yn sylwi ar y rhai sy’n galaru, mae’n eu cysuro nhw drwy ei Air, ac yn rhoi hapusrwydd a bywyd iddyn nhw.—Darllen Eseciel 5:11; 9:4.

8. Sut gall bod yn addfwyn dy helpu i fod yn hapus?

8 “Mae’r rhai addfwyn sy’n cael eu gorthrymu wedi eu bendithio’n fawr [“yn hapus,” NW], oherwydd byddan nhw’n etifeddu’r ddaear.” (Mathew 5:5) Sut gall bod yn addfwyn dy helpu i fod yn hapus? Mae llawer o bobl yn ddigywilydd, ac yn gas, a gall hyn arwain at lawer o broblemau. Ond pan fyddan nhw’n dysgu’r gwirionedd, maen nhw’n newid ac yn “gwisgo’r bywyd newydd,” neu’r bersonoliaeth newydd. Bellach, maen nhw’n dangos tosturi tuag at eraill, “yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar.” (Colosiaid 3:9-12) O ganlyniad, mae ganddyn nhw heddwch a pherthynas dda ag eraill, ac maen nhw’n hapus. Hefyd, mae Gair Duw yn addo y byddan nhw’n “meddiannu’r tir.”—Salm 37:8-10, 29.

9. (a) Beth oedd Iesu yn ei feddwl pan ddywedodd y bydd rhai addfwyn yn etifeddu’r ddaear? (b) Pam “mae’r rhai sy’n llwgu a sychedu am gyfiawnder” yn hapus?

9 Beth oedd Iesu’n ei feddwl pan ddywedodd y bydd yr addfwyn rai’n etifeddu’r ddaear? Bydd yr eneiniog yn etifeddu’r ddaear pan fyddan nhw’n rheoli drosti fel brenhinoedd ac offeiriaid. (Datguddiad 20:6) Bydd miliynau eraill sydd heb y gobaith nefol yn etifeddu’r ddaear pan fyddan nhw’n cael caniatâd i fyw arni am byth. Byddan nhw’n berffaith ac yn cael heddwch a llawenydd. Soniodd Iesu am y bobl hyn pan ddywedodd: “Mae’r rhai sy’n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi eu bendithio’n fawr [“yn hapus,” NW].” (Mathew 5:6) Bydd y cyfiawnder maen nhw’n dyheu amdano yn digwydd pan fydd Jehofa yn cael gwared ar bob ddrwgweithredu. (2 Pedr 3:13) Yn y byd newydd, bydd pobl gyfiawn yn hapus ac ni fyddan nhw byth eto’n galaru oherwydd pethau drwg.—Salm 37:17.

10. Beth mae bod yn drugarog yn ei olygu?

10 “Mae’r rhai sy’n dangos trugaredd wedi eu bendithio’n fawr [“yn hapus,” NW], oherwydd byddan nhw’n cael profi trugaredd eu hunain.” (Mathew 5:7) Mae bod yn drugarog yn golygu bod yn gynnes, yn dyner, ac yn garedig, hynny yw, teimlo piti dros y rhai sy’n dioddef. Fodd bynnag, nid teimlad tyner yn unig mo trugaredd. Mae’r Beibl yn dysgu bod trugaredd yn golygu gwneud rhywbeth i helpu eraill.

11. Beth mae’r ddameg am y Samariad trugarog yn ei ddysgu inni?

11 Darllen Luc 10:30-37. Mae dameg Iesu am y Samariad trugarog yn peintio llun hardd o’r hyn mae bod yn drugarog yn ei olygu. Roedd y Samariad yn garedig tuag at y dyn a oedd yn dioddef, a gwnaeth hyn ei annog i helpu’r dyn. Ar ôl rhoi’r eglureb, dywedodd: “Dos dithau a gwna’r un fath.” Felly gallwn ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n gwneud yr un peth? Ydw i’n gwneud beth wnaeth y Samariad trugarog? Pan fydd eraill yn dioddef, ydw i’n gallu gwneud rhywbeth i’w helpu? Er enghraifft, alla’ i helpu’r rhai hŷn yn y gynulleidfa, y gweddwon, neu’r plant sydd heb eu rhieni yn y gwirionedd? Alla’ i “annog y rhai sy’n ddihyder” a’u cysuro nhw?’—1 Thesaloniaid 5:14; Iago 1:27.

Cymera’r cam cyntaf i helpu eraill, ac fe weli di pa mor hapus fydd pawb o ganlyniad (Gweler paragraff 12)

12. Pam rydyn ni’n hapus pan fyddwn ni’n drugarog?

12 Pam rydyn ni’n hapus o fod yn drugarog? Pan ddangoswn drugaredd tuag at eraill, rydyn ni’n rhoi, a dywedodd Iesu fod rhoi yn ein gwneud ni’n hapus. Rheswm arall yw ein bod ni’n plesio Jehofa. (Actau 20:35; darllen Hebreaid 13:16.) Ynglŷn â’r un trugarog, dywedodd y Brenin Dafydd: “Bydd yr ARGLWYDD yn ei amddiffyn ac yn achub ei fywyd, a bydd yn profi bendith yn y tir.” (Salm 41:1, 2) Os byddwn ni’n drugarog ac yn garedig wrth eraill, byddwn ni hefyd yn derbyn trugaredd Jehofa a gallwn fod yn hapus am byth.—Iago 2:13.

MAE’R “RHAI SYDD Â CHALON BUR” YN HAPUS

13, 14. Pam y mae bod “â chalon bur” yn bwysig iawn?

13 Dywedodd Iesu: “Mae’r rhai sydd â chalon bur wedi eu bendithio’n fawr [“yn hapus,” NW], oherwydd byddan nhw’n cael gweld Duw.” (Mathew 5:8) Er mwyn cael calon bur, mae’n rhaid inni gadw ein meddyliau a’n dyheadau’n bur, neu’n lân. Mae hyn yn bwysig iawn os ydyn ni eisiau i Jehofa dderbyn ein haddoliad.—Darllen 2 Corinthiaid 4:2; 1 Timotheus 1:5.

14 Gall y rhai sydd â chalon bur gael perthynas dda â Jehofa, a ddywedodd: “Mae’r rhai sy’n glanhau eu mentyll wedi eu bendithio’n fawr [“yn hapus,” NW].” (Datguddiad 22:14) Beth mae “glanhau eu mentyll” yn ei olygu? I Gristnogion eneiniog, mae’n golygu bod Jehofa yn eu hystyried yn lân, bydd yn rhoi bywyd anfarwol iddyn nhw yn y nefoedd, a byddan nhw’n hapus am byth. I’r dyrfa fawr, sy’n gobeithio byw ar y ddaear, mae’n golygu bod Jehofa yn caniatáu iddyn nhw fod yn ffrindiau iddo oherwydd ei fod yn eu hystyried yn gyfiawn. Dywed y Beibl: “Maen nhw wedi golchi eu dillad yn lân yng ngwaed yr Oen.”—Datguddiad 7:9, 13, 14.

15, 16. Sut mae’r rhai â chalon bur yn “gweld Duw”?

15 Dywedodd Jehofa: “Does neb yn edrych arna i ac yn byw wedyn.” (Exodus 33:20) Sut, felly, mae’r rhai calon bur yn “gweld Duw”? Mae’r gair Groeg a gyfieithir “gweld” yn gallu golygu dychmygu, deall, neu wybod. Felly, mae “gweld Duw” yn golygu deall y math o berson ydy Duw a charu ei rinweddau. (Effesiaid 1:18) Roedd Iesu yn efelychu rhinweddau Duw yn berffaith, felly y gallai ddweud: “Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad.”—Ioan 14:7-9.

16 Yn ogystal, rydyn ni’n “gweld Duw” pan fyddwn ni’n profi ei help yn ein bywydau. (Job 42:5) Rydyn ni hefyd yn “gweld” neu’n ffocysu ar y pethau rhyfeddol y mae Jehofa yn addo eu gwneud ar gyfer y rhai sy’n aros yn bur ac yn ei wasanaethu’n ffyddlon. A bydd yr eneiniog yn llythrennol yn gweld Jehofa pan fyddan nhw’n cael eu hatgyfodi i’r nefoedd.—1 Ioan 3:2.

BOD YN HAPUS ER GWAETHAF PROBLEMAU

17. Pam mae’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch yn hapus?

17 Nesaf, dywedodd Iesu: “Mae’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch wedi eu bendithio’n fawr [“yn hapus,” NW].” (Mathew 5:9) Pan fyddwn ni’n cymryd y cam cyntaf er mwyn cadw heddwch gydag eraill, gallwn fod yn hapus. Ysgrifennodd y disgybl Iago: “Bydd y rhai sy’n hybu heddwch drwy hau hadau heddwch yn medi cynhaeaf o gyfiawnder.” (Iago 3:18) Felly, os wyt ti’n cael trafferth dod ymlaen yn dda gyda rhywun yn dy gynulleidfa neu yn dy deulu, pwysig ydy ymbil ar Jehofa am iddo dy helpu i hyrwyddo heddwch. Yna, bydd Jehofa yn rhoi iti ei ysbryd glân, a fydd yn dy helpu i ddangos rhinweddau Cristnogol, a byddi di’n hapusach. Pwysleisiodd Iesu pa mor bwysig ydy cymryd y cam cyntaf er mwyn cadw heddwch pan ddywedodd: “Felly, os wyt ti wrth yr allor yn y deml yn addoli Duw, ac yn cofio yno fod gan rhywun gŵyn yn dy erbyn, gad dy offrwm yno. Dos i wneud pethau’n iawn gyda nhw’n gyntaf; cei di gyflwyno dy offrwm i Dduw wedyn.”—Mathew 5:23, 24.

Bydd ysbryd Jehofa yn dy helpu i ddangos rhinweddau Cristnogol, a byddi di’n hapusach

18, 19. Pam gall Cristnogion lawenhau er gwaethaf erledigaeth?

18 “Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a’ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wedi’ch bendithio’n fawr! [“yn hapus,” NW]” Beth oedd Iesu yn ei olygu? Ychwanegodd: “Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha’r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi.” (Mathew 5:11, 12) Pan gafodd yr apostolion eu curo a’u gorchymyn i beidio â phregethu, “roedd yr apostolion yn llawen wrth adael y Sanhedrin.” Wrth gwrs, doedden nhw ddim yn mwynhau cael eu curo. Ond, roedden nhw’n hapus oherwydd eu bod “nhw’n ei chyfri hi’n fraint eu bod wedi cael eu cam-drin am ddilyn Iesu.”—Actau 5:41.

19 Heddiw, mae pobl Jehofa yn dyfalbarhau â llawenydd pan fyddan nhw’n cael eu herlid oherwydd enw Iesu. (Darllen Iago 1:2-4.) Ond yn debyg i’r apostolion, dydyn ni ddim yn mwynhau dioddefaint nac erledigaeth. Ond, os ydyn ni’n aros yn ffyddlon i Jehofa, bydd yn rhoi’r dewrder sydd ei angen arnon ni er mwyn dyfalbarhau. Ystyria hanes Henryk Dornik a’i frawd. Ym mis Awst 1944, cawson nhw eu hanfon i wersyll crynhoi. Dywedodd eu herlidwyr: “Mae’n amhosib eu perswadio nhw i wneud unrhyw beth. Mae eu merthyrdod yn dod â llawenydd iddyn nhw.” Esboniodd Henryk: “Er nad oeddwn i’n dymuno bod yn ferthyr, roedd dioddef gyda dewrder ac urddas oherwydd fy mod i’n ffyddlon i Jehofa, yn dod â llawenydd imi.” Ychwanegodd: “Roedd gweddïo’n daer yn dod â mi’n agosach at Jehofa, a gwelais fy mod i’n gallu dibynnu ar ei help.”

20. Pam rydyn ni’n hapus i wasanaethu’r “Duw hapus”?

20 Pan fyddwn ni’n plesio Jehofa, “y Duw hapus,” rydyn ni’n gallu bod yn hapus er gwaethaf erledigaeth, gwrthwynebiad teuluol, salwch, neu henaint. (1 Timotheus 1:11, NW) Gallwn hefyd fod yn hapus oherwydd bod ein Duw, sydd “ddim yn gallu dweud celwydd,” wedi addo llawer o bethau hyfryd inni. (Titus 1:2) Pan fydd Jehofa yn gwireddu ei addewidion, fyddwn ni ddim yn gallu hyd yn oed cofio’r problemau sydd gennyn ni nawr. Yn wir, ni allwn ni hyd yn oed ddychmygu pa mor hyfryd y bydd bywyd yn y Baradwys a pha mor hapus y byddwn ni! Heb os, byddwn “yn cael mwynhau heddwch a llwyddiant.”—Salm 37:11.

^ Par. 1 Yn y rhan fwyaf o Feiblau Cymraeg, cyfieithir y gair Groeg ‘hapus’ â’r ymadrodd ‘bendigedig,’ neu ‘gwynfydedig.’ Y cyfieithiad gorau, fodd bynnag, ydy ‘hapus,’ oherwydd bod gan yr iaith Roeg (a’r Hebraeg) air penodol ar gyfer ‘bendithio.’ Ar ben hynny, mae ‘bendigedig’ yn cyfleu’r weithred o fendithio, ond mae ‘hapus’ yn cyfleu cyflwr y sawl sy’n derbyn bendith oddi wrth Dduw.