Yn Hollalluog Ond yn Ystyriol
“Ydy, mae [Jehofa] yn gwybod am ein defnydd ni; mae’n cofio mai dim ond pridd ydyn ni.”—SALM 103:14.
1, 2. (a) Sut mae’r ffordd y mae Jehofa yn trin pobl yn wahanol i’r ffordd mae bodau dynol pwerus yn eu trin nhw? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
YN AML, mae pobl bwerus arglwyddiaethu dros bobl eraill neu’n eu gorthrymu hyd yn oed. (Mathew 20:25; Pregethwr 8:9) Dydy Jehofa byth yn gwneud hynny! Er mai ef ydy’r Hollalluog, sef y Person mwyaf pwerus yn y bydysawd, mae’n ystyriol iawn tuag at fodau dynol amherffaith. Mae’n garedig ac yn meddwl am ein teimladau ac am ein hanghenion. Mae’n cofio ein bod ni’n amherffaith ac mae’n gwybod am ein diffygion, felly dydy Duw byth yn gofyn inni wneud mwy na’r hyn rydyn ni’n gallu ei wneud.—Salm 103:13, 14.
2 Yn y Beibl, rydyn ni’n dysgu am ba mor ystyriol ydy Jehofa o’i bobl. Gad inni drafod tair esiampl: Yn gyntaf, y ffordd gwnaeth Jehofa helpu’r Samuel ifanc mewn ffordd garedig i gyhoeddi neges o farn i’r Archoffeiriad Eli. Yn ail, y ffordd roedd Jehofa’n amyneddgar wrth Moses pan nad oedd Moses yn teimlo ei fod yn gallu arwain cenedl Israel allan o’r Aifft. Ac yn drydydd, y ffordd roedd
Jehofa yn ystyriol o’r Israeliaid wrth iddyn nhw adael yr Aifft. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am Jehofa o’r esiamplau hyn, a sut gallwn ni ei efelychu?YSTYRIOL O FACHGEN
3. Pa beth anarferol a ddigwyddodd i’r Samuel ifanc un noson, a pha gwestiwn y gallen ni ei ofyn? (Gweler y llun agoriadol.)
3 Dechreuodd Samuel wasanaethu yn y Tabernacl pan oedd yn ifanc iawn. (1 Samuel 3:1) Un noson, ar ôl iddo fynd i gysgu, digwyddodd rhywbeth anarferol iawn. * (Gweler y troednodyn.) (Darllen 1 Samuel 3:2-10.) Clywodd rywun yn galw ei enw. Roedd Samuel yn meddwl mai’r Archoffeiriad oedrannus Eli oedd yn galw. Felly, yn ufudd, cododd a rhedeg at Eli a dweud: “Dyma fi, gwnest ti alw.” Ond dywedodd Eli wrtho: “Naddo, wnes i ddim dy alw di.” Ar ôl i’r un peth ddigwydd ddwywaith eto, sylweddolodd Eli mai Duw oedd yn galw Samuel. Felly, dywedodd Eli wrth Samuel beth i’w ddweud y tro nesaf, ac ufuddhaodd Samuel. Pam na ddywedodd Jehofa wrth Samuel o’r cychwyn cyntaf mai Ef oedd yr un a oedd yn ei alw? Dydy’r Beibl ddim yn dweud. Ond mae hi’n bosib fod Jehofa wedi gwneud pethau fel hynny oherwydd iddo feddwl am deimladau Samuel.
4, 5. (a) Beth wnaeth Samuel pan ofynnodd Jehofa iddo roi neges i Eli? (b) Beth mae’r hanes hwn yn ein dysgu am Jehofa?
4 Darllen 1 Samuel 3:11-18. Roedd Cyfraith Jehofa yn gorchymyn plant i barchu pobl hŷn, yn enwedig rhai ag awdurdod. (Exodus 22:28; Lefiticus 19:32) Felly, anodd ydy dychmygu bachgen ifanc fel Samuel yn mynd at Eli yn y bore, ac yn dweud wrtho’n llawn hyder am neges o farn oddi wrth Dduw. Dywed y Beibl am Samuel: “Roedd arno ofn dweud wrth Eli am y weledigaeth.” Ond, dangosodd Duw i Eli mai Ef oedd yn galw Samuel. O ganlyniad, gofynnodd Eli i Samuel beidio a chuddio unrhyw beth roedd Duw wedi ei ddweud. Ufuddhaodd Samuel a dyma’n “dweud popeth wrtho.”
Roedd Jehofa wedi ei gwneud hi’n haws i Samuel aros yn ufudd ac yn barchus
5 Doedd y neges ddim yn gwbl annisgwyl. Yn gynharach, roedd “dyn oedd yn proffwydo” wedi rhoi neges debyg i Eli. (1 Samuel 2:27-36) Mae’r hanes hwn yn dangos inni ba mor ystyriol a doeth ydy Jehofa.
6. Pa wersi y gallwn ni eu dysgu o’r ffordd y gwnaeth Duw helpu Samuel?
6 Wyt ti’n berson ifanc? Os felly, mae’r hanes am Samuel yn dangos bod Jehofa yn deall dy broblemau a dy deimladau. Efallai dy fod ti’n swil ac yn ei chael hi’n anodd pregethu i oedolion neu fod yn wahanol i dy gyfoedion. Gelli di fod yn sicr fod Jehofa eisiau dy helpu. Felly, gweddïa arno a dweud wrtho’n union sut rwyt ti’n teimlo. (Salm 62:8) Myfyria ar esiampl rhai yn y Beibl fel Samuel. A siarada â brodyr a chwiorydd sydd yr un oed â thi neu rai hŷn sydd wedi trechu problemau tebyg. Efallai y byddan nhw’n dweud wrthyt ti am yr adegau y gwnaeth Jehofa eu helpu, a hynny mewn ffyrdd annisgwyl.
YN YSTYRIOL O MOSES
7, 8. Sut dangosodd Jehofa fod teimladau Moses o bwys iddo?
7 Pan oedd Moses yn 80 oed, rhoddodd Jehofa aseiniad anodd iawn iddo: rhyddhau’r Israeliaid rhag caethwasiaeth yn yr Aifft. (Exodus 3:10) Mae’n debyg fod yr aseiniad hwn yn sioc i Moses, oherwydd roedd wedi bod yn fugail yn Midian am 40 mlynedd. Dywedodd Moses: “Pwy ydw i i fynd at y Pharo, ac arwain pobl Israel allan o’r Aifft?” Rhoddodd Jehofa’r sicrwydd hwn i Moses: “Bydda i gyda ti, dw i’n addo.” (Exodus 3:11, 12) Hefyd, addawodd Jehofa y byddai henuriaid Israel yn credu ynddo. Ond eto, gofynnodd Moses: “Beth os wnân nhw ddim fy nghredu i?” (Exodus 3:18; 4:1) Roedd Moses yn dweud y gallai Jehofa fod yn anghywir! Ond roedd Jehofa yn amyneddgar tuag at Moses. Rhoddodd hyd yn oed y grym iddo wneud gwyrthiau. Yn wir, Moses oedd y person cyntaf y soniwyd amdano yn y Beibl i gael y grym hwnnw.—Exodus 4:2-9, 21.
8 Hyd yn oed ar ôl hynny i gyd, roedd gan Moses esgus arall. Dywedodd nad oedd yn gallu siarad yn dda. Dywedodd Duw wrtho: “Bydda i’n dy helpu di i siarad, ac yn dy ddysgu di beth i’w ddweud.” Oedd Moses wedi cael ei berswadio? Naddo, gofynnodd i Dduw anfon rhywun arall! Yna, gwylltiodd Jehofa. Ond roedd yn meddwl am deimladau Moses o hyd, felly anfonodd Aaron i siarad ar ran Moses.—Exodus 4:10-16.
9. Sut gwnaeth amynedd a charedigrwydd Jehofa helpu Moses i fod yn arweinydd da?
9 Beth mae’r hanes hwn yn ei ddysgu inni am Jehofa? Oherwydd Jehofa Numeri 12:3.
ydy’r Hollalluog, gallai fod wedi defnyddio ei rym i ddychryn Moses a’i orfodi i ufuddhau. Yn hytrach, roedd Jehofa yn amyneddgar ac yn garedig, ac addawodd i’w was gostyngedig a gwylaidd y byddai gydag ef. A weithiodd hynny? Do! Daeth Moses yn arweinydd mawr ar bobl Dduw. Ceisiodd fod yn addfwyn ac ystyriol tuag at eraill, fel yr oedd Jehofa tuag ato ef.—10. Sut rydyn ni’n elwa pan fyddwn ni’n ystyriol tuag at eraill fel y mae Jehofa?
10 Beth ydy’r gwersi inni heddiw? Os wyt ti’n ŵr, yn rhiant, neu’n henuriad, mae gen ti rywfaint o awdurdod dros eraill. Er enghraifft, mae’n bwysig iawn dy fod ti’n efelychu Jehofa drwy fod yn ystyriol, yn garedig, ac yn amyneddgar tuag at dy wraig, dy blant, a’r rhai sydd yn y gynulleidfa. (Colosiaid 3:19-21; 1 Pedr 5:1-3) Os wyt ti’n efelychu Jehofa Dduw ac Iesu Grist, y Moses Fwyaf, byddi di’n ei gwneud hi’n haws i eraill ddod i siarad â thi, a byddi di’n eu hannog nhw. (Mathew 11:28, 29) Byddi di hefyd yn esiampl dda iddyn nhw.—Hebreaid 13:7.
YN IACHAWDWR GRYMUS OND YSTYRIOL
11, 12. Sut gwnaeth Jehofa wneud i’r Israeliaid deimlo’n ddiogel pan wnaeth eu harwain allan o’r Aifft?
11 Mae’n debyg fod mwy na thair miliwn o Israeliaid wedi gadael yr Aifft yn y flwyddyn 1513 cyn Crist. Ymysg y grŵp hwnnw oedd plant, rhai hŷn, a rhai efallai oedd yn sâl neu’n anabl. Roedd angen Arweinydd cariadus ac ystyriol ar grŵp enfawr o’r fath. A dyna’n union oedd Jehofa, drwy Moses. O ganlyniad, roedd yr Israeliaid yn teimlo’n ddiogel wrth iddyn nhw adael yr unig gartref roedden nhw wedi ei gael.—Salm 78:52, 53.
12 Sut gwnaeth Jehofa wneud i’w bobl deimlo’n ddiogel? Cafodd cenedl Israel ei threfnu ganddo “fel byddin yn ei rhengoedd” pan adawon nhw’r Aifft. (Exodus 13:18) Oherwydd eu bod nhw wedi eu trefnu yn y ffordd hon, roedden nhw’n gallu gweld yn glir mai Jehofa oedd yn rheoli’r sefyllfa. Roedd Jehofa yn defnyddio “tân disglair drwy’r nos” a “chwmwl yn ystod y dydd” i’w hatgoffa ei fod gyda nhw, yn eu harwain ac yn eu hamddiffyn. (Salm 78:14) Ac roedd angen sicrwydd ar yr Israeliaid oherwydd yr hyn a ddigwyddodd nesaf.
13, 14. (a) Sut gwnaeth Jehofa warchod yr Israeliaid wrth y Môr Coch? (b) Sut dangosodd Jehofa ei fod yn llawer mwy grymus na’r Eifftiaid?
Exodus 14:19-22. Dychmyga dy fod ti yna gyda’r Israeliaid. Does dim ffordd iti ddianc. Mae byddin yr Aifft y tu ôl iti, a’r Môr Coch y tu blaen iti. Yna mae Duw’n gweithredu. Mae’r golofn o gwmwl a oedd yn arfer bod y tu blaen iti yn symud i du cefn y gwersyll, rhyngot ti a’r Eifftiaid. Nawr, maen nhw yn y tywyllwch, ond mae dy wersyll di yn llawn goleuni gwyrthiol! Yna rwyt ti’n gweld Moses yn estyn ei law dros y môr, a dyma wynt cryf yn dod o’r dwyrain, ac yn agor llwybr llydan i’r ochr draw. Felly, rwyt ti, dy deulu, a dy anifeiliaid i gyd yn cerdded ar wely’r môr mewn ffordd drefnus ynghyd â gweddill y bobl. Rwyt ti’n syfrdan nad ydy’r llawr yn fwdlyd nac yn llithrig. Mae’n sych ac yn eithaf cadarn, ac yn hawdd cerdded arno. O ganlyniad, mae hyd yn oed y rhai mwyaf araf yn gallu cyrraedd yr ochr arall yn ddiogel.
13 Darllen14 Darllen Exodus 14:23, 26-30. Wrth i hyn i gyd ddigwydd, mae Pharo, sy’n falch ac yn ffôl, yn dechrau dod ar dy ôl di ac ar ôl dy gyd-Israeliaid. Yna mae Moses yn estyn ei law dros y môr unwaith eto, ac mae’r ddwy wal o ddŵr yn dymchwel. Mae’r dŵr yn syrthio ar ben Pharo a’i fyddin. Does yr un ohonyn nhw’n goroesi!—Exodus 15:8-10.
15. Beth mae’r hanes hwn yn ei ddysgu inni am Jehofa?
1 Corinthiaid 14:33) Fel bugail sy’n caru ac yn gofalu am ei ddefaid, mae Jehofa yn gofalu am ei bobl mewn ffyrdd ymarferol. Mae’n eu cadw nhw’n ddiogel ac yn eu hamddiffyn rhag eu gelynion. Mae hyn yn rhoi sicrwydd a chysur mawr inni wrth inni agosáu at ddiwedd y system hon.—Diarhebion 1:33.
15 Mae’r hanes hwn hefyd yn dysgu rhywbeth arall inni am Jehofa. Ef ydy Duw trefn, ac mae’r rhinwedd hon yn ein helpu i deimlo’n ddiogel. (16. Sut gallwn ni elwa ar adolygu’r ffordd y gwnaeth Jehofa achub yr Israeliaid?
16 Heddiw, mae Jehofa yn dal i ofalu am ei bobl fel grŵp. Mae’n eu helpu i gadw eu perthynas dda ag ef ac yn eu hamddiffyn nhw rhag eu gelynion. A bydd yn parhau i wneud hyn yn ystod y gorthrymder mawr sy’n dod yn fuan iawn. (Datguddiad 7:9, 10) Felly, p’un a ydyn nhw’n ifanc neu’n hen, yn iach neu’n anabl, fydd pobl Dduw ddim yn mynd i banics nac yn dychryn yn ystod y gorthrymder mawr. * (Gweler y troednodyn.) Yn wir, byddan nhw’n gwneud y gwrthwyneb! Byddan nhw’n cofio geiriau Iesu: “Safwch ar eich traed a daliwch eich pennau’n uchel. Mae rhyddid ar ei ffordd!” (Luc 21:28) Hyd yn oed pan fydd Gog, grŵp o genhedloedd sy’n llawer grymusach na Pharo, yn ymosod ar bobl Dduw, byddan nhw’n hyderus y bydd Jehofa yn eu hamddiffyn. (Eseciel 38:2, 14-16) Pam? Oherwydd eu bod nhw’n gwybod nad ydy Jehofa byth yn newid. Bydd unwaith eto’n profi ei fod yn Iachawdwr cariadus a charedig i’w bobl.—Eseia 26:3, 20.
17. (a) Sut gallwn ni elwa pan fyddwn ni’n astudio hanesion y Beibl sy’n sôn am y ffordd mae Jehofa yn gofalu am ei bobl? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?
17 Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi gweld sut mae Jehofa wedi bod yn ystyriol ac yn garedig pan fydd yn gofalu am ei bobl, yn eu cyfarwyddo, ac yn eu hachub. Wrth iti fyfyrio ar hanesion fel hyn, ceisia ddysgu rhywbeth newydd am Jehofa drwy edrych am fanylion nad oeddet ti wedi eu sylwi o’r blaen. Wrth iti ddysgu mwy am rinweddau hardd Jehofa, bydd dy gariad tuag ato a dy ffydd yn cryfhau. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n dysgu am sut gallwn ni efelychu Jehofa drwy fod yn ystyriol o’r rheini sydd yn ein teulu, ein cynulleidfa, ac yn y weinidogaeth.
^ Par. 3 Mae’r hanesydd Iddewig Josephus yn dweud bod Samuel yn 12 oed ar y pryd.
^ Par. 16 Rhesymol yw credu y bydd rhai pobl sy’n goroesi Armagedon yn anabl. Pan oedd Iesu ar y ddaear, roedd “yn iacháu pob afiechyd a salwch,” neu bob math o anabledd. Yr hyn a wnaeth bryd hynny oedd dangos inni’r hyn a fydd yn ei wneud ar gyfer y rhai sy’n goroesi Armagedon. (Mathew 9:35) Bydd gan y rhai sydd wedi eu hatgyfodi gyrff perffaith.